nofel am Oes y Rhufeiniaid

All posts tagged nofel am Oes y Rhufeiniaid

Nofel newydd gan Siân Lewis

Published Mai 9, 2018 by gwanas

image

Os ydach chi’n blentyn tua 8-12 oed sy’n mwynhau darllen llyfrau hanesyddol neu straeon sy’n llawn cyffro ac antur, neu straeon am oes y Rhufeiniaid, dyma’r llyfr i chi! Dilyn Caradog, £5.99 gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae’r awdur, Siân Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu nofel hynod ddifyr, ac mae plant o Aberystwyth i Gaernarfon yn cytuno. Ro’n i wrth fy modd efo’r erthygl Tri ar y Tro yn Golwg wythnos diwetha, gan mai barn 3 phlentyn oedd yno:

image

Ac er fod Hopcyn (8 oed) yn deud bod yr iaith yn anodd ar adegau, roedd o wedi mwynhau’n arw. Ac roedd Fflur (9 oed) a Martha (10 oed) wedi gwirioni!

image

Doedd Hopcyn na Fflur eriod wedi darllen un o lyfrau Siân o’r blaen felly mae ‘na wledd o lyfrau o’u blaenau nhw! A golygyddion cylchgrawn Golwg – gawn ni fwy o adolygiadau fel hyn gan blant os gwelwch yn dda? Maen nhw’n bwysig, yn effeithiol (mi wnes i ddarllen y llyfr yn syth ar ôl darllen barn y plant) ac yn fwy na dim, yn ddifyr i’w darllen. Mae plant yn aml yn fwy gonest nag oedolion…

Dyma i chi flas o ddechrau’r nofel:

image

Cymeriad dychmygol ydi Morcant, hogyn bach dewr y byddwch chi’n ei hoffi yn arw, ond roedd Caradog yn berson go iawn, Brython dewr iawn fu’n brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid am wyth mlynedd o tua OC43 ymlaen. Dyma hen lun ohono (wedi ei baentio ym mhell ar ôl Oes y Rhufeiniaid wrth gwrs!):

caradog

Roedd y frenhines Cartimandwa yn berson go iawn hefyd, ond dwi ddim am ddeud mwy rhag ofn i mi ddifetha’r stori i chi. Dyma’r broliant ar y cefn:

image

Da iawn, Siân Lewis!

Ac os ydach chi isio mwy o lyfrau am yr un cyfnod, mae Diwrnod Ofnadwy gan Haf Llewelyn yn addas i blant 7-9 oed,

getimg
(adolygiad ar y blog hwn – rhowch yr enw yn y blwch chwilio)

ac Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards yn addas i blant 8-12 oed. Dwi’m wedi darllen hwnnw – ydach chi? Rhowch wybod be oeddech chi’n ei feddwl.

220px-Cyfres_'Slawer_Dydd_Llo_Gwyn,_Y_(llyfr)