Morgan Tomos

All posts tagged Morgan Tomos

Deg Chwedl o Gymru

Published Ebrill 13, 2017 by gwanas

chwedlauMeinir Wyn Edwards ydi’r flonden yn y llun efo rhai o’r plant lwcus gafodd fynd efo hi ar daith ar hyd Lein y Cambrian wythnos dwetha.

Yn ogystal â bod yn olygydd i wasg y Lolfa, mae hi hefyd yn awdures:

a dyma’r llyfr diweddaraf:

getimg

– sydd ar restr fer Gwobr Tir na-Nog, fel mae’n digwydd!

Dwi’n meddwl mod i’n iawn yn deud bod y straeon wedi eu cyhoeddi o’r blaen, fel chwedlau unigol, a bod rhai o’r rheiny bellach mewn cyfrol drwchus ( annisgwyl o drwchus a deud y gwir, mae safon y papur yn dda ac mae’n lyfr eitha trwm o ran ei bwysau – swmpus go iawn).  Bargen am £6.99!

Roedd trefnu taith fel hyn yn syniad hyfryd o ran ei farchnata, a go dda Trenau Arriva Cymru am gydweithio efo’r Cyngor Llyfrau mewn ffordd mor greadigol. Mwy, os gwelwch yn dda! A mwy o fusnesau Cymru i gefnogi llyfrau plant.

Dwi’n siwr bod disgyblion Ysgol Tanycastell, Harlech ac Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth wedi cael diwrnod i’w gofio ar y trên ar hyd arfordir Bae Ceredigion, yn dysgu am dreftadaeth lenyddol a diwylliannol Cymru a chael blas ar chwedlau  sy’n perthyn i’w hardaloedd nhw.

Mi gafodd plant Ysgol Tanycastell  deithio o Harlech i Fachynlleth a chlywed am stori Cantre’r Gwaelod gan wneud gweithgareddau ar y trên yn ogystal ag ymweld â MOMA, yr amgueddfa gelfyddyd fodern, yn y Tabernacl ym Machynlleth.

Teithio i’r cyfeiriad arall wnaeth plant Blwyddyn 6 Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth – i fyny i Harlech a chael clywed stori Branwen a Bendigeidfran yn y castell.

Fel y dywedodd Meinir (a fu’n athrawes gynradd am 18 mlynedd): ‘Mae hi’n Flwyddyn y Chwedlau eleni, a pha le gwell i adrodd rhai o’n straeon mwyaf cyfarwydd ni nag yn y llefydd maen nhw wedi eu lleoli.

Roedd y plant yn deud fod y diwrnod wedi bod yn ‘llawn cyffro a hwyl’, a hoff weithgaredd Gwenllian oedd  ‘y mannequin challenge yn y castell!’

A be am y llyfr ei hun? Wel, mae’n swmpus, fel y soniais i eisoes, ac mae lluniau Gini Wade a Morgan Tomos yn gweithio’n dda iawn.

FullSizeRender

FullSizeRender-2

Ac mae’r chwedlau yn ddifyr – do’n i rioed wedi clywed na darllen chwedl ‘Breuddwyd Macsen’ yn iawn, er fy mod i ( fel pawb arall am wn i) yn gyfarwydd iawn â’r cyfeiriad ato yng nghân Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’. A wnes i rioed ddeall yn iawn pwy oedd Twm Sion Cati – ac mae’n swnio fel hen lolyn bach gwirion i mi!

Chwedl Llyn y Fan Fach ydi un o chwedlau gorau Cymru yn fy marn i a dwi’n falch iawn ei bod wedi ei chynnwys. Ac ydw, wrth gwrs mod i’n falch o weld Gwylliaid Cochion Mawddwy’ yno!

FullSizeRender-1

Ac mi fyddai’n ddifyr i chi ddarllen y chwedl yn llyfr Meinir cyn – neu ar ôl darllen fy nofel i am y Gwylliaid…;)

image1

Mae’r iaith yn y chwedlau yn glir a hawdd ei ddeall ac o’r herwydd yn addas ar gyfer dysgwyr yn ogystal â phlant. A deud y gwir, mae gen i awydd gwneud rhai o’r chwedlau yma yn fy ngwersi oedolion – mi fyddan nhw’n mwynhau, yn bendant.

Yn ôl Tegwen Morris  ar gwales.com:

“Llyfr arbennig yw hwn sy’n eang ei apêl ac yn werth ei ddarllen.”

Llongyfarchiadau Meinir, am lyfr difyr a phwysig, ac i bawb oedd y tu ôl i’r teithio ar y trenau. Chwip o gimic!

Hm. Tybed allwn ni drefnu lansiad o dan y môr i Cadi dan y Dŵr…unrhyw un yn nabod cwmni scuba ym mae Ceredigion? Na? O wel.  Dim ond syniad… gwirion.

Llyfr am bêl-droed i blant bach dan 7

Published Mai 14, 2016 by gwanas

Unknown

Dyma’r adeg perffaith i gyhoeddi’r 24ain llyfr yng nghyfres Alun yr Arth. Bydd Cymru gyfan ( wel, y rhan fwya) unai yn gwylio bob cic gan dîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros ar y teledu, neu wedi teithio i Ffrainc i fod yno yn y cnawd.

Dwi ddim yn siwr faint o blant dan 7 o Gymru fydd wedi mynd i Ffrainc – dwi’n cymryd y bydd Mam/Nain/Modryb wedi gorfod aros adre i warchod… ond os oes gynnoch chi blentyn sydd wedi gwirioni efo Gareth Bale a’r criw, bydd rhoi’r llyfr hwn yn anrheg iddyn nhw yn syniad da.

Dyma’r dudalen gynta:

 

photo 1

Alun druan… mae’r ‘ond…’ yn ‘ond’ mawr!

photo 2

Nacydi, dydi o ddim yn debyg i Gareth Bale o bell ffordd, bechod. Mae’n debyg bod yr awdur, Morgan Tomos yr un peth: “Fedra i ddim cicio pêl i achub fy mywyd!” meddai Morgan.

Ond mae Alun yn dod o hyd i ffordd i fod yn ran o’r chwarae wedi’r cwbl. Sut? Bydd raid i chi ddarllen y llyfr! Ond mae’n stori hyfryd, ddigri, sy’n siwr o blesio plant Cymru. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyfresi mwya poblogaidd erioed i blant dan 7 oed – mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi eu gwerthu erbyn hyn – waw! Dwi ddim yn gwybod faint o gefnogwyr Cymru fydd yn Bordeaux ar gyfer gêm gyntaf Cymru ar y 11eg o Fehefin, ond synnwn i daten na fydd 50,000 yn bell ohoni!

 

Unknown-1

A dim ond £2.99 ydi copi o’r llyfr, tipyn rhatach na thocyn i’r gêm…

Dwi newydd gael parsel drwy’r post gan rai o blant Cymru – o Ysgol Carreg Emlyn, ysgol Gymraeg wledig i blant ardal Cyffylliog, Bontuchel, Clocaenog, Clawddnewydd a Derwen, sydd yn ymyl Rhuthun.

Mi fues i yno’n ddiweddar yn darllen rhai o fy straeon i, yn cynnwys un sgwennais i ar gyfer Straeon Tic Toc Radio CymruUnknown

A wyddoch chi be? Mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi casgliad o rai o’r straeon gafodd eu darlledu:

Unknown-2

Straeon Tic Toc, ‘casgliad lliwgar o straeon pum munud i’w darllen gyda’r plant lleiaf’ – sef plant dan 7 oed eto. Bargen am £8.99.

Ac mae’r stori roedd plant Carreg Emlyn wedi ei mwynhau ynddi – Stori’r Botel Sôs Coch.

Sbiwch be fuon nhw’n ei wneud wedyn!

photo 4

photo 3

Gwych! Diolch yn fawr i blant hyfryd Ysgol Carreg Emlyn. Rydan ni awduron wrth ein bodd yn cael ymateb fel hyn – a dwi’n siwr y byddai Morgan Tomos wrth ei fodd yn derbyn eich lluniau chi o Alun yr Arth.

A phob lwc Tîm Cymru!

Unknown