Mererid Hopwood

All posts tagged Mererid Hopwood

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat

Advertisements

Nofelau am golli/galaru a Gwobr Tir na n-Og 2018

Published Mehefin 28, 2018 by gwanas

20180609_125510

Dyma’r llyfr enillodd wobr Saesneg Tir na-nOg eleni: The Nearest Faraway Place gan Hayley Long.

Hayley-Long-web

A nefi, roedd o’n haeddu cael ei wobrwyo. Hanes 2 frawd, Griff a Dylan yn gorfod ymdopi efo trasiedi deuluol. Mae hanner y nofel yn digwydd yn yr Unol Daleithiau a’r hanner arall yn Aberystwyth ( lle bu’r awdur yn fyfyrwraig). Mae’n drist, ydi, a do, mi wnes i grio, ond mae’n ddigri a llawn gobaith hefyd. Mae’n delio gyda galar, teuluoedd, cyfeillgarwch a chariad a chydymdeimlad, a hynny mewn ffordd wahanol, eitha ‘quirky.’ Wel, mae rhai o’r cymeriadau reit wahanol a ‘quirky’, ond mi wnewch chi gymryd atyn nhw i gyd. O, ac mi fyddwch chi eisiau clywed y gerddoriaeth sy’n ran pwysig o’r stori.

Mi fedra i argymell hwn ar gyfer pobl ifanc (a hŷn) o tua 12/13 oed i fyny. Ardderchog.
(This book is wonderful, for YA, and deals with grief, loss, love, sympathy, hope etc in a compelling, multi-layered, heart-wrenching way. Excellent.)

Fel mae’n digwydd, dwi newydd ddarllen nofel arall sy’n delio efo galar: The List of Real Things gan Sarah Moore Fitzgerald o Iwerddon:

9781444014815

Mae’n hyfryd, ac yn addas ar gyfer plant (aeddfed) tua 11 oed +, ond bydd y criw ‘oedolion Ifanc’ yn ei mwynhau hefyd. Mae Gracie yn 14 oed (ac mi fyddwch chi isio ei blingo hi weithiau!) a’i chwaer fach ryfeddol yn 6 oed, ond yn gwybod a gweld cymaint mwy na’i chwaer fawr. Nofel am bwysigrwydd y dychymyg, am alar, gobaith a chyfeillgarwch. Gwych.
(A magical novel for children around 11+ and adults like me. About the imagination, grief, loss, hope and friendship. I loved it.)

Ar yr ochr Gymraeg, Mererid Hopwood ddaeth yn fuddugol yn y categori Cynradd gyda stori ‘Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud’ gan Wasg Gomer.

7231.21477.file.cym.Carped-Hud.150.230

“Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a’i hanturiaethau.” Ac mi fedra i ddeud bod y gyfres yn siŵr o brofi’n boblogaidd efo plant tua 7-9+ oed. Mae’r plot syml, hawdd ei ddeall yn ei wneud yn addas iawn i ddarllenwyr ifanc sy’n magu hyder wrth ddarllen yn annibynnol. Mae ‘na nodiadau i egluro geiriau ac idiomau anghyfarwydd ar ochr y dudalen, wedi eu hesbonio mewn ffordd fodern, hwyliog. Mi fydd y lluniau gwreiddiol, cartwnaidd o help hefyd. Y darn gorau i mi oedd yr ‘iaith’ newydd – ond bydd raid i chi ddarllen y llyfr drosoch chi’ch hun i weld be dwi’n ei feddwl!

_101821771_49e7fc69-4fa9-4e21-acb4-dc887f0f6387

Ac aeth y wobr yn y categori Uwchradd i Myrddin ap Dafydd am ‘Mae’r Lleuad yn Goch’, gan Wasg Carreg Gwalch.

7229.21475.file.cym.Lleuad-yn-Goch.150.213

“Nofel sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o’i llofft wrth i’r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?”

Ia, nofel hanesyddol ydi hon, un swmpus i blant a phobl ifanc – ac oedolion o ran hynny. Mae’n rhoi i ni hanes llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhen Llyn, ond mae hefyd yn dod â hanes erchyll trychineb Guernica yn fyw, ac yn rhoi darlun arbennig o bobl ryfeddol Gwlad y Basg i ni – rhywbeth sydd wedi bod yn llawer rhy brin mewn llyfrau Cymraeg – tan rwan.

Dyma lun enwog Picasso o’r hyn ddigwyddodd yno:

350px-PicassoGuernica

Allwch chi ddim peidio â gweld tebygrwydd rhwng hanes plant y Basgiaid a ffoaduriaid heddiw, felly mae’n rhoi digon i ni bendroni drosto – a dysgu ohono, gobeithio.

Ro’n i’n teimlo bod trydydd rhan y nofel yn llifo’n well na’r dechrau, a hanes y Basgiaid gydiodd yn fy niddordeb go iawn. Felly os fydd ambell blentyn yn nogio ar y dechrau – daliwch ati – mi fydd o werth o!

Ar ddiwedd y llyfr mae ‘na nodiadau difyr a dadlennol iawn hefyd.

Llongyfarchiadau Myrddin a Mererid!

A dyma un i’ch rhieni: dwi wedi bod yn yr ysbyty eto yn diweddar (clun newydd – yr ochr arall tro ma) ac mi ges fodd i fyw yn darllen Sgythia gan y diweddar Gwynn Ap Gwilym:

IMG-20180610-WA0000

Epig o nofel hanesyddol yn dilyn stori John Dafis, a fu’n rheithor ym Mallwyd, ger Dinas Mawddwy o 1604 hyd ddiwedd ei oes. Hynod ddifyr a darllenadwy – campwaith yn bendant.

Ac i’r plant iau – sbiwch be sydd ar y ffordd yn fuan!

cadi page35

Cadi a’r Deinosoriaid. Dwi wedi gwirioni efo lluniau a lliwiau Janet Samuel eto fyth. Dwi’m wedi cael y proflenni eto a dim dyddiad cyhoeddi ond dwi bron yn siŵr y bydd yn barod erbyn y Steddfod. Wwww-y! Fi sy’n teimlo fel’na – yn cynhyrfu efo pob llyfr newydd…

Cerddi’r Sêr

Published Tachwedd 23, 2017 by gwanas

image

Mi ges i daith ddiddorol iawn i Rhuthun neithiwr, yn y gwynt a’r glaw mawr ‘na a’r holl byllau dŵr dyfnion – ond lwcus nad yn Llangefni oedden ni! Ges i lifft o’r Bala gan Dilwyn Morgan, ac os dach chi isio cwmni difyr mewn car ryw dro, mae Dilwyn yn grêt. Methu dallt pam fod John Pierce Jones mor wnynllyd yn ei gwmni o ar y cwch hwylio ‘na…

JS84102476

Ta waeth, roedden ni wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn lansiad Cerddi’r Sêr gan Gyhoeddiadau Barddas. Roedd Nic Parry yno hefyd a Robat Arwyn (ac Elin Fflur tra roedd Heno’n ein ffilmio ni – mi ddiflanodd wedyn i wynebu taith erchyll yn ôl i Fôn!), ac wrth gwrs, y golygydd, Rhys Meirion. Neu’r boi fu’n gofyn i’w ffrindiau gyfrannu… dwi’n meddwl mai Elena Gruffudd fu’n gneud y golygu go iawn ynde, Rhys!

Doedden ni ddim wedi gweld y gyfrol tan neithiwr, ac ew, mi ges i fy mhlesio. Mae’n faint braf yn un peth, yn glawr caled (bargen am £9.95) ac mae’r cynnwys yn rhyfeddol o ddifyr. Casgliad o hoff gerddi llwyth o Gymry adnabyddus ydi hi, a darnau gan y cyfranwyr yn sôn am y gerdd sydd wedi eu hysbrydoli, a pham ei bod yn golygu cymaint iddyn nhw. Mae ‘na rai’n enwau y byddech chi’n hanner disgwyl eu gweld, pobl sy’n delio gyda geiriau ysgrifenedig, neu yn eu dehongli yn greadigol fel Jon Gower, Gwion Hallam, Osian Rhys Jones, Gwyneth Glyn, Robat Arwyn, Annette Bryn Parri, Dylan Cernyw, Sian James, Bryn Fon, Ywain Gwynedd, Hywel Gwynfryn a Gareth Glyn. Ond mae Tudur Owen, Robin McBride a hyd yn oed Dyl Mei ynddo hefyd! Mae ‘na lawer iawn mwy o bobl ynddi, a rhai wedi cael lluniau ynddyn nhw:

image

A rhai ddim:

FullSizeRender-2

Mae ‘na linc fan hyn i’r eitem fu ar Heno:

Mae canlyniad casglu’r holl gerddi yn un hyfryd, fel y profwyd neithiwr. Roedd hi wir yn fraint cael bod yno, yn gwrando ar bawb yn rhannu eu rhesymau dros ddewis eu cerddi. Aeth Nic Parry i hwyl go iawn; cyfrolau o gerddi fydd o’n eu prynu o hyd, mae o wrth ei fodd efo nhw, ac roedd clywed ei resymau dros ddewis un o gerddi Mererid Hopwood yn iasol.

Hyd yn oed os nad ydech chi fel arfer yn darllen cyfrolau o gerddi, dwi’n meddwl y byddwch chi’n mwynhau hon. Mae Rhys Meirion yn teimlo y bydd hi’n denu darllenwyr newydd i farddoniaeth Gymraeg, a dwi’n cytuno. Mae ‘na rywbeth i bawb ynddi, waeth faint eich hoed.

Rhyw 100-200 o eiriau roedden ni’r cyfranwyr i fod i’w sgwennu ond ro’n i wedi drysu am ryw reswm ac roedd fy nrafft cynta i am yr Hen Benillion yn 1,000! Dyyh. Ond mae’n gas gen i wastraffu dim ac mi gaiff darllenwyr yr Herald ddarllen y drafft cyntaf hwnnw cyn Dolig.

FullSizeRender-1

Gyda llaw, mae Efa, y gyntaf yn fy nhrioleg ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed yn y siopau! Nofel ffantasi i ydi hi, wedi ei hysbrydoli gan fy ngwenyn mêl. Bydd raid i chi ei darllen i ddeall pam.

EFA6

Mi werthais i fy nghopi cyntaf i Bethan Hughes, fu’n lyfrgellydd plant am flynyddoedd yn Sir Ddinbych. Dwi’n gweddio y bydd hi’n ei fwynhau o.

Iaw, digon o flogio, gwell i mi fynd nôl i sgwennu Llyfr 2 rŵan…