Mellten

All posts tagged Mellten

Gwil Garw a’r Carchar Grisial

Published Awst 31, 2021 by gwanas

Ddoe, yn yr haul, ar ôl bod yn brwydro efo biniau ein maes carafanau (pam fod cyn lleied o bobl yn dallt y gair AILGYLCHU?!), mi ges i fwynhad mawr yn darllen hwn:

Ro’n i wedi cyfarfod Gwil Garw o’r blaen, yn y cylchgrawn Mellten, ond do’n i methu cofio os o’n i wedi darllen rhannau o’r stori hon o’r blaen. Dwi’n mynd yn hen ac anghofus, ocê?

Beth bynnag, roedd y cyfan yn teimlo’n newydd sbon danlli i mi, ac mi wnes i wir fwynhau’r stori a’r hiwmor a’r lluniau.

Dyma flas o lyfr diweddara yr anhygoel Huw Aaron i chi:

A tydi ‘Grooiiinc/Groooiinnnc’ yn cyfleu sŵn baedd yn berffaith?

Roedd sylwadau ffwrdd-â-hi Gwil yn codi gwên yn aml:

Na, tydi Gwil ddim yn foi neis iawn, nac yn arbennig o glyfar; mae o’n taflu ei hun i bethau heb feddwl am y canlyniadau o gwbl, a heb wrando ar gyngor y bobl a’r creaduriaid o’i gwmpas, oherwydd yn ei farn o, mae Gwil yn arwr ac yn andros o ryfelwr. Ac ydi, mae o, ac fel mae’n deud ar y clawr cefn, fo ydi arwr y stori – yn anffodus!

Oherwydd ei natur “Awê ac amdani!” mae’n creu sefyllfaoedd difyr, digri. Mi ges i fel oedolyn fy mhlesio a dwi’n 100% y bydd y llyfr hwn yn apelio at ddarllenwyr ifanc sy’n mwynhau straeon llawn hiwmor – a hwnnw’n hiwmor sych yn aml.

Pa oed? Anodd deud. Dibynnu ar y plentyn. 8/9 +? Mi wnes i ofyn i Caio, fy nai 10 oed roi ei farn ar ddau lyfr arall tebyg gan Llyfrau Broga: Yr Allwedd Amser a Rali’r Gofod 4002, ond dydi o byth wedi sbio arnyn nhw. Hm. Ond dwi’n meddwl efallai y bydd o’n fwy tebygol o sbio ar hwn – a mwynhau. Gawn ni weld – ond dwi’n canmol, iawn! Ac am ryw reswm, dwi’n mynd i weld colli rhai o’r creaduriaid bwystfilaidd rhyfedd… mi wnes i gymryd atyn nhw’n arw. Yn enwedig Y Ceidwad. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr eich hun i weld pam…

Mae safon a diwyg y tudalennau yn dda iawn, ac mae’n llyfr braf i afael ynddo. Llyfrau Broga sy’n cyhoeddi. £6.99.

Mwynhewch!

Bedwen Lyfrau 2018

Published Ebrill 20, 2018 by gwanas

eng_1_post

Bydd Bedwen Lyfrau 2018 yng NGHAERFYRDDIN!

MERCHER 9 – SADWRN 12 MAI

Digwyddiadau Ddydd a Nos mewn lleoliadau amrywiol ac i gyd yn rhad ac am ddim – nifer cyfyngedig ar gyfer rhai sesiynau plant. Popeth i blant yn y bore, a sesiynau oedolion ar ôl cinio.

Bydd llyfrau ar werth ymhob digwyddiad gan Siop y Pentan.

getimg

Bydd Na Nel, Sali Mali ayyb yno. Mae’r manylion i gyd fan hyn:

http://bedwen.com/

Animal-Wall_Literature-Wales_A1-700x400

A chofiwch bod Gwyl Llên Plant Caerdydd yn dechrau y penwythnos yma:

https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/

ac yn para tan Ebrill 29ain. Gweithgareddau Cymraeg a Saesneg efo awduron o bob man, yn trafod llyfrau a chomics o bob math, fel rhain:

51h4LO6grPL

A llawer, llawer mwy!

Mwynhau darllen

Published Ionawr 22, 2018 by gwanas

image

Sbiwch syniad da! Llongau llyfrau yn Gymraeg?
Braf fyddai cael rhai ar lan y môr ynde? Ar gyfer oedolion hefyd, achos mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i ffordd gyfforddus o ddarllen ar draeth. Ac os dach chi wedi llosgi eich traed neu eich coesau, mae’r rhain yn ddelfrydol!

Ac i rieni sy jest methu dallt pam nad yw eu plant yn hoffi darllen, dyma i chi syniad da arall. Iawn, dwi’n gwybod nad ydi hyn yn wir bob tro, ond mae’n wir yn syndod o aml:

image

A syniad twp:

image

Cuddio cloriau llyfrau?!

Gyda llaw, os dach chi’n hoffi tynnu lluniau neu’n nabod rhywun sy’n dda am neud cartwnau, mae Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc. Cliciwch ar y ddolen yma:
http://www.ylolfa.com/erthyglau/comic-mellten-yn-chwilio-am-gartwnwyr-ifanc-y-dyfodol

Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2018

Published Hydref 17, 2017 by gwanas

Mae’r llyfrau wedi eu henwi ar gyfer: Cystadleuaeth Llyfrau i Ysgolion Cymru 2017–2018!

Dyma i chi’r rhai ar gyfer Rownd Sirol Blynyddoedd 3 a 4 – cliciwch ar y ddolen:

 

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._3_a_4_2017-2018

Falch o weld rhain yno! 9 allan o 10 llyfr yn rai gwreiddiol Cymraeg – da. A dau gan fam a merch, digwydd bod – Haf Llewelyn a’i merch Leusa. Y tro cynta i hynna ddigwydd, mae’n siŵr?

imageLayout 1imagegetimg20141024Straeon-Gorau-Byd9781845276164getimggetimggetimg

 

A dyma rai Blynyddoedd 5 a 6. 3 allan o 10 yn addasiadau. Ond mae ‘na lai o lyfrau gwreiddiol ar gael ar gyfer yr oedran yma, dwi’n gwybod.

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._5_a_6_2017-2018

Dyma luniau rhai o’r cloriau:

Cysgod_y_Darian

9781845276232_1024x1024

220px-Dirgelwch_y_Bont  Hoffi’r clawr hwn yn arw, gyda llaw.

 

image1

trysorfa_chwedlau_cymru

Ac mae maint y lluniau yn dibynnu ar faint y lluniau oedd ar gael ar y we – dim byd i neud efo fy marn i, iawn!

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion eisoes wedi cael y wybodaeth uchod, ond rhag ofn bod gan ryw ysgol awydd rhoi cynnig arni am y tro cynta erioed, cysylltwch â darllendrosgymru@llyfrau.cymru | 01970 624 151 os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Ac mae’n siwr bod awduron y llyfrau hyn yn falch o gael gwybod eu bod ar y rhestr hefyd! Sgwn i pa rai gaiff eu dewis i’w trafod, a pha rai i wneud cyflwyniad? Hmm…

Mwy o newyddion da: mae ‘na rifyn newydd o Mellten yn y siopau:

DMV8gRGXUAAfylm

Pob hwyl ar y darllen – a phob lwc i’r ysgolion!

Sweet Pizza a Mellten

Published Mehefin 8, 2017 by gwanas

Sweet Pizza-70785-3

Llyfr Saesneg? Ia, ond un gan Gymro, wedi ei gosod yn ne Cymru, a hon ydi’r nofel enillodd Wobr Tir na n-Og 2017 am y llyfr Saesneg gorau. Roedd yr awdur, Giancarlo Gemin o Gaerdydd

CE_Ny4jWMAAD7AI

wedi ennill y wobr unwaith o’r blaen, am Cowgirl yn 2015

CE_NgXzW0AAGXrk

– a dwi newydd archebu copi o’r llyfrgell – 10 munud ar ôl gorffen Sweet Pizza, sy’n rhoi syniad i chi faint wnes i fwynhau hon. Mae’n stori hyfryd, ddifyr, sy’n cynhesu’r galon. Mi lwyddodd i wneud i mi chwerthin ac i deimlo dagrau yn cronni yn fy llygaid. Mae hi wedi ei hanelu at blant 8-12 oed, ond yn fy marn i, mi fyddai’n apelio at blant hŷn hefyd. Does ‘na ddim byd plentynaidd amdani, ac mae’n delio efo bwyd a choginio, hiliaeth, ymwneud â phobl o dras gwahanol i chi, yr Ail Ryfel Byd, opera, hanes go iawn yr Eidalwyr yng Nghymru – pob math o bethau. Ond dydi hi ddim yn lobsgows o ormod o themau o gwbl – mae’r cyfan wedi ei saernio mor gelfydd, ac efo hiwmor hyfryd.

Pob pennod yn fyr, dim gwastraff geiriau, a phob cymal yn haeddu ei le. Dyma i chi enghraifft o’r arddull:

FullSizeRender

Mae’r cymeriadau i gyd yn taro deuddeg hefyd – dwi’n meddwl mod i wedi syrthio mewn cariad efo bron pob un. Bellissimo. Ac mi fyddai’n gneud chwip o ffilm/cyfres deledu/cyfres radio/sioe lwyfan.

A llongyfarchiadau i Mellten!

IMG_2404

Mae’r comic yn flwydd oedd yr wythnos yma, ac yn dathlu drwy gyhoeddi rhifyn rhif 5 – a dyna’r clawr.

‘Un o’r ffefrynau gyda’r plant dwi wedi cwrdd â nhw ydy Bloben, y bwystfil barus borffor, felly, pa ffordd well i ddathlu na tywallt biliwn o Blobens dros y comic?’ meddai’r golygydd, Huw Aaron.

Be arall sydd yn y rhifyn yma? Mwy o anturiaethau gyda Gwil Garw a’r crisial hud, ras criw Rali’r Gofod, a mwy o ddirgelwch Yr Allwedd Amser. Ceir hefyd stori ryfedd am ddraig penhesgyn gan Jac Jones ac mae gan Gari Pêl ffrind newydd o’r enw Llionel Methi. ha!

Mae hefyd cyfle arbennig i ennill llyfr newydd ‘Stori Brenin Arthur’ gan wasg Rily.

Diddordeb? Mi allwch chi brynu copïau unigol o Mellten yn eich siopau llyfrau lleol (dim ond £2! Llai na llawer iawn o gardiau pen-blwydd!) neu  gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn ( cost 1 llyfr…) drwy’r wefan ( http://www.mellten.com ), ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg y Lolfa.

Pen-blwydd hapus Mellten!

 

Holi Siân Lewis

Published Tachwedd 26, 2016 by gwanas

Mae’r awdures Siân Lewis newydd fod ar daith @LlyfrDaFabBooks o gwmpas ysgolion Sir Benfro. Un o gynlluniau  Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ydi’r daith, cyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol. A dyma hi efo rhai o blant y sir:15135895_1094758903978799_2467915828179596585_n

Siân oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi.

9781849672276_1024x1024

Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant.  Mae’r tlws  yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi sgwennu nifer fawr o lyfrau plant Cymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae Sian Lewis wedi sgwennu cannoedd – yn llythrennol! Dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc hyd yma.

Dyma i chi rai ohonyn nhw:

Un o ardal Aberystwyth ydy hi yn wreiddiol. Astudiodd Ffrangeg ( fel fi!) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’w bro enedigol, ac ar  ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun.

5586-19278-file-eng-sia%cc%82n-lewis-300-285

Ond tybed pa lyfrau oedd yn apelio ati hi ers talwm? Be ysbrydolodd hi i sgwennu cymaint? Dyma ei hatebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Ces gopi o Trysorau Hafod Aur gan Idwal Jones ar fy mhen-blwydd yn 6. Dwi’n dal i gofio’r ias a’r cyffro, ac yn ffan o lyfrau ditectif byth oddi ar hynny.

Roedd nofelau Meuryn yn ffefrynnau.

230px-meuryn_barcud_olaf

Llyfr arall sy’n aros yn y cof yw Bandit yr Andes gan R. Bryn Williams.

31dn1tg9bul-_sl500_sx331_bo1204203200_

Yn Saesneg roedd raid darllen llyfrau Enid Blyton, yn enwedig y gyfres ‘Adventure’. Yr unig un wnaeth fy siomi oedd The Mountain of Adventure a leolir yng Nghymru. Cymru Blytonaidd iawn!

620wide5673640

Ro’n i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau’r Americanesau Louisa M. Alcott a Susan Coolidge,

images

ac am amrywiol resymau, mae gen i atgof hapus iawn o The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

460559-bef4e5d312780a29f1b0ead896b92394

Bob wythnos, rhwng fy mrawd a minnau, roedd hanner dwsin o gomics yn cyrraedd tŷ ni. Gwych!

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

islwynffowcellis

Dyma pryd y dechreuais ddarllen a mwynhau llyfrau Islwyn Ffowc Elis ( dyna fo uchod),

a threulio oriau difyr yn helpu ditectifs John Ellis Williams i ddatrys dirgelion.

41v8acoy5l-_uy250_

Ro’n i’n breuddwydio am fod yn prima ballerina, felly ro’n i’n llowcio llyfrau Lorna Hill, A Dream of Sadler’s Wells ac ati.

adreamofsadlerswellsblog

Ffefryn arall oedd Mabel Esther Allan.

allan%2cmabelesther-swissholiday%28vine-cladhill%29%281956%29frontcover

Hefyd fe etifeddais set o glasuron y 19eg ganrif – Dickens, Hardy, Brontë – a chael blas go iawn ar eu darllen.

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n darllen llyfrau plant/pobl ifanc mor aml ag y galla i. Dwi newydd orffen Gwalia gan Llŷr Titus a The Lie Tree gan Frances Hardinge, llyfrau arbennig o dda.

Hefyd dwi wedi darllen Wcw, Mellten a Cip y mis hwn. Dwi’n dal i hoffi comics.

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wedi cydweithio â llawer o arlunwyr, felly alla i ddim dewis rhyngddyn nhw. Mae gan bob un arddull unigryw, a dwi wastad yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb arlunydd i’m llyfrau.

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod yn arwres llawer iawn o storïau, achos roedd fy mam a ’nhad yn eu creu ar fy nghyfer bob nos wrth fynd i’r gwely. Dechreuais innau sgrifennu storïau cyfres – dechrau ond nid gorffen bob tro – a’u gyrru at Mam-gu a Tad-cu.

Mi ddechreuais sgrifennu go iawn ar ôl cael swydd yn Adran Gylchgronau’r Urdd.

qok8z7q3

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n mwynhau gweld syniadau’n sboncio o nunlle, eu dal, a rhoi trefn arnyn nhw – wel, gobeithio!

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Pedair Cainc y Mabinogi oedd fy llyfr diwethaf.

9781849672276_1024x1024

Roedd yn hwyl ailgwrdd â’r hen gymeriadau, didoli’r deunydd a phenderfynu sut i’w gyflwyno. Mae lluniau Valériane Leblond

isa_760xn-6888435215_1d9dyn rhoi naws gwreiddiol, gwahanol i’r llyfr.

7.Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Stori’r Brenin Arthur fydd y llyfr nesaf. Unwaith eto mae’r hanesion yn bodoli’n barod, llawer gormod i un llyfr. Felly’r dasg yw dewis pa storïau i’w cynnwys a sut i’w clymu wrth ei gilydd. Mae Prydain gyfan a rhannau o’r cyfandir wedi hawlio Arthur, ond Arthur y Cymry fydd hwn.

Diolch yn fawr, Siân! Edrych mlaen yn arw at weld Stori’r Brenin Arthur.

Mellten 2

Published Medi 21, 2016 by gwanas

Ydach chi wedi cael yr ail rifyn o gomic Mellten eto? Naddo?

unknown

Wel mae o ar gael. Os nad oes ‘na siop lyfrau Gymraeg wrth eich hymyl chi, ewch i mellten.com neu ffoniwch 01970 832 304 am gopi – a phoster a sticeri am ddim!

Dyma flas i chi o rai o’r straeon/stribedi – cliciwch ar y lun i’w wneud yn fwy:

A llun gododd wên ar fy wyneb i:

image

Dwi’n dal i aros am eich sylwadau chi am Mellten! Oes gynnoch chi hoff gymeriad neu stori? Oes ‘na ryw fath o stori y byddech chi’n hoffi ei gweld yn Mellten? Rhowch wybod. Neu, os mai oedolyn ydach chi, be ydi barn eich plant chi?

Mi ges i sypreis bach hyfryd wythnos dwytha – dod ar draws fy enw ar wefan thechildrensbookreview, am fod yr awdures Helen Docherty,

unknown-1

awdures llyfrau hyfryd fel hwn:

unknown

wedi enwi un o fy llyfrau oedolion i! Mae hi wedi dysgu Cymraeg yn dda iawn.

Dyma’r cwestiwn gafodd hi:

What’s on your nightstand? Any books?

At the moment, I’m reading a book in Welsh by Bethan Gwanas, Hi Oedd Fy Ffrind (She Was My Friend), set in a university town in the 1980s. I’ve been learning Welsh for three years now, and this is the first full length adult novel I’ve tried to tackle in Welsh. It’s a challenge, but I’m enjoying it.

image

O diar. Yr un yn y llun – Hi yw fy ffrind ddylai hi fod wedi ei ddarllen gynta! Rhan 2 ydi Hi oedd fy ffrind. O wel.

Ydach chi wedi darllen rhai o lyfrau Helen Docherty? Be oedd y farn? Dwi isio copiau ohonyn nhw rwan beth bynnag!

Ac os ydach chi isio gweld gweddill ei hatebion hi, dyma’r linc:

Helen Docherty, Author of The Storybook Knight | Speed Interview

A gan ein bod ni’n sôn am stwff ar y we, mae ‘na  fidio gwych o Tracey Ullman fel llyfrgellydd fan hyn:

Tracey Ullman ‘Kindle Killed the Library Book’ Parody is Hilarious

O, a dach chi’n gwbod y syniad ‘na am lyfrgell mewn blwch/ciosc ffôn? Es i a phentwr bach i ffôn fydda i’n ei basio ar y beic bob dydd

14344854_10153947278088511_4968754481996217967_nDach chi’n gallu gweld fy adlewyrchiad i efo fy helmed beic!

Ond sbiwch neges oedd tu mewn…

ciosc

O, naaa! Dwi wedi cysylltu efo rhywun yn yr adran gynllunio, wel, gyrru ebost. ond dim ateb eto. Ond does ‘na neb wedi dod i sbio ar fy llyfrau i chwaith, nac i roi eu llyfrau eu hunain yno, hyd y gwela i! Ddim eto…

Hwn dwi’n ei ddarllen ar hyn o bryd, am hogyn 9 oed o’r enw – ia, Leon, sydd â brawd bach perffaith o’r enw Jake, ond yn anffodus, dydi eu mam nhw ddim yn fam dda iawn. Mae’n stori reit drist hyd yma ( heblaw am y Curly Wurlys a’r beicio) ac mae’n wych:

unknown

Mi fyddai Gareth F Williams wedi ei hoffi hefyd. Ond mi wnai sôn mwy amdano fo tro nesa.

Nofel am gi defaid a Mellten 2

Published Medi 1, 2016 by gwanas

getimg

Ieee! Fel merch fferm oedd wrth ei bodd efo Shadow The Sheepdog, Enid Blyton

Unknown-1

dwi’n falch iawn bod nofel WREIDDIOL Gymraeg a Chymreig wedi cyrraedd y siopau. A gan fod yr awdur, Ifan Jones Evans

Unknown

yn ffarmwr yn ogystal â chyflwynydd teledu a radio, mae o’n ‘gwbod ei stwff.’ Ac fel mae’n digwydd, Nan, y ci yn y stori yw ci go iawn Ifan. O, ac mae’r llyfr yn rif 1 Gwerthwyr Gorau yn barod! Dyna ddangos pa mor ddefnyddiol ydi cael awdur sy’n berson adnabyddus a hoffus cyn dechrau (gweler llwyddiant David Walliams ac ati). Dyw’r cyhoeddwyr ddim yn dwp…

Nofel ar gyfer plant 7-9 oed ydi hi yn ôl Gwasg Gomer, a dwi’n cytuno. Byddai darllenwyr da 6 oed yn gallu ymdopi’n iawn efo hi hefyd.

Mae’r stori’n un syml iawn, iawn. Efallai yn rhy syml? Neu ai fi sy’n rhy hoff o ddrama a storis fel bar o Toblerone? Ond mae’r cymeriadu yn gweithio’n dda – mae Nan yn gi hyfryd, hoffus, clyfar ( wrth gwrs, ci defaid ydi hi!) ac mi fydd plant y wlad yn hapus iawn efo’r ‘Cym Bei’ ac ‘Aweeee’ a’r land rofyrs a’r cyffyrddiadau bychain sy’n gwneud iddi deimlo’n ‘real.’ Dwi’n gwybod yn iawn bod llawer gormod o blant ffarm (bechgyn yn enwedig) yn gyndyn iawn i ddarllen nofelau, felly fe ddylai ‘Nan a’r Sioe Fawr’ eu denu nhw at lyfrau. Dyna’r gobaith o leia, ac mae yma sgôp am gyfres o anturiaethau Nan a ddylai brofi’n boblogaidd. Ond…chydig bach mwy o blot tro nesa efallai, Ifan? Cofiwch chi, siarad fel oedolyn ydw i ynde, ac os oes ‘na blant 7-9 oed allan fanna yn teimlo bod y plot yn eu siwtio i’r dim a ‘mod i’n siarad drwy fy het, wel dyna fo – rhowch wybod!

O, ac mae lluniau Petra Brown ( sy’n byw rhywle yng Ngogledd Cymru) yn gwbl hyfryd.

FullSizeRender

Mae hi’n amlwg yn dallt ei hanifeiliaid.

FullSizeRender-1

Dyma luniau eraill ganddi:images-1images

 

A rhywbeth arall llawn lluniau sydd ar werth rwan ydi Mellten 2!

Dyma i chi rai o’r cymeriadau fydd yn yr ail rifyn o’r comic Cymraeg yma:

CrRFVPMWAAA57n5CrRGmAfWcAAT-SiCrRJMc6WcAE0_8L

Prynwch, darllenwch a rhowch wybod be dach chi’n ei feddwl o’r cynnwys.

O, a dyma lun o fy nghi defaid coch i, Del yn cael bath bore ma ar ôl rhedeg efo fi a fy meic:

Del

 

 

 

Mellten

Published Mehefin 10, 2016 by gwanas

Ydach chi wedi cael eich copi o Mellten, y comic newydd Cymraeg i blant (tua) 7-13 oed eto?

Dwi wedi.

Photo on 10-06-2016 at 19.45

Mae Mellten yn gyfuniad o storiau stribed doniol, arswydus a chyffrous gyda rhai stribedi yn fyr iawn a stribedi eraill yn dal i fynd o rifyn i rifyn, ond hefyd mae ‘na bosau, jôcs, cystadleuthau, a chyngor ar sut i greu eich comics a’ch chartwnau eich hun.

Dyma rai o’r cymeriadau:nefyniolagwilnoogiesllio2A dim gwobrau am ddeud pa bêl-droediwr mae hwn yn debyg iddo fo!

ICON_GARI_BEL

Mae ei stori o yn un o fy ffefrynnau i fel mae’n digwydd.

Ond dwi ddim yn (tua) 7-13 oed. Be ydi eich barn chi? Ro’n i wedi meddwl cael barn Robin a’i ffrindiau sy’n 10, ond dwi byth yn ei weld o y dyddiau yma!

Pa straeon ydach chi’n eu hoffi fwya? Be fysach chi’n hoffi gweld mwy/llai ohono?

Mi fues i’n ddigon lwcus i gael holi Huw Aaron, ‘tad’ Mellten ar gyfer Golwg,

59_ftY1Z57z9zAsBVkg9DrfpLkyScD24Pkh33Be0L_2aQynvpebBGVHgyX4XEATVTC8bTg=s85  ac mae o wir isio gwybod be dach chi’n ei feddwl. Mae o’n gobeithio y bydd yn apelio at bob oed, ond “un o’r rhesymau dros wneud hyn o gwbl yw mod i wedi gweld bod bwlch mewn pethau gwreiddiol, cyffrous, Cymreig ar gyfer yr oedran 8-12 – a hŷn – ac oedolion sy’n hoffi comics. Dw i’n gobeithio ei fod e’r math o gomic y bydd mam a dad yn ei ddwyn oddi ar y plentyn am eu bod nhw isie gwd laff hefyd!” images

“Dw i’n bendant ddim isie bod Mellten yn siarad lawr at blant, ac mae comics yn dda fel’na – yn help i blant sydd falle ddim yn darllen lot. Ti’n gallu rhoi stori gafaelgar, gymhleth ac aeddfed iddyn nhw heb fod angen yr eirfa anodd a chymhleth allai fod mewn nofel. Jyst diddanwch dwl ydy hwn i fod.”

Mi wnes i ofyn iddo fo o ble daeth ei gariad o at gomics:

MqmREHwFEwW74A2P7rBUBOIKghK1zHi4jZePqR8Z9Eoy1eJ54q5B3PydHIF7MxknqBA=w300

“Ro’n i wrth fy modd gyda Asterix a Tintin – a dwi’n dal i’w hoffi nhw, ac ro’n i’n cael y Beano bob wythnos.”

Bydd Mellten yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn – dim ond £2 y copi ac mi allwch chi danysgrifio ar y wefan: http://www.mellten.com/

Neu mi allwch chi ei ddarllen yn eich Llyfrgelloedd lleol wrth gwrs. Mae ‘na gopi mewn 9 o lyfrgelloedd Gwynedd beth bynnag.

Hefyd, os dach chi awydd gwneud eich comic eich hun, mae croeso i’r ysgol drefnu i un o arlunwyr Mellten ddod i’ch gweld chi, efo adnoddau fel hyn:

clonc_estron_striparcharwrwr_paneliarcharwr_llun_dyn

Swnio’n grêt tydi?

Mi fues i’n addoli comics am flynyddoedd, a rhai fel hyn oedd fy ffefrynnau i:

1583415-screenshot2010_12_26at43924amimages-1

“Gripping fiction”…dyna dwi’n ei fwynhau o hyd!