Medi Jones-Jackson

All posts tagged Medi Jones-Jackson

Mwy o Sara Mai

Published Chwefror 1, 2022 by gwanas

Ymddiheuriadau! Dwi methu credu/coelio mod i ddim wedi cael cyfle i sgwennu fan hyn ers cyn Dolig. Dwi wedi bod yn darllen LLWYTHI o lyfrau ond dim digon o nofelau Cymraeg gwreiddiol i blant, sori.

Ond dwi newydd orffen yr ail lyfr am Sara Mai a Sw Halibalŵ, sef Sara Mai a Lleidr y Neidr. Dyma’r clawr:

Ydi o cystal â’r cynta? Yndi/ydy! Cystal bob tamed yn fy marn i, ac mae na ddarnau ynddo fo wnaeth ddysgu gwers i mi (mwy am hynny nes mlaen)

Dyma’r dudalen gynta:

Do’n i ddim wedi clywed y gair ‘bolgodog’ tan rŵan chwaith.

A dyma dudalen wnaeth i mi wenu:

Mae hynny wedi codi blas gobeithio.

Felly pa ran ddysgodd wers i mi? Y wers mae Sara Mai yn ei dysgu am Jasmine, cariad ei brawd mawr, Seb. Mae gan Jasmine ewinedd hir, miniog a llais siwgr-candi-mêl; mae’n golur i gyd ac mae ganddi ofn nadroedd – neu’n esgus bod ganddi er mwyn cuddio tu ôl i’w chariad a gwneud iddo fo deimlo’n gry a dewr a gwarchodol. Wel, fel’na ro’n i’n darllen rhwng y llinellau o leia – ond mae Sara Mai yn bendant yn teimlo yr un fath â fi. Ond ydan ni’n iawn i bŵ-pŵian pobl fel Jasmine? Nacdan! Roedden ni’n dwy ar fai. A wnai mo’no fo eto – addo. Mae gen i ffrindiau a theulu sy’n addoli colur ac ewinedd hirion, miniog ac maen nhw’n bobol iawn. Neis hyd yn oed.

Ond mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld sut mae Sara Mai yn dysgu ei gwers. Mwy nag un wers â deud y gwir. Mi fyddwch chi’n gwingo – fwy nag unwaith – ac yn meddwl ‘Naaa Sara Mai! Be ti’n feddwl ti’n neud?’

Oes, mae ‘na neidr (peithon arbennig iawn) yn mynd ar goll ond mae ‘na lawer iawn mwy na hynny yn y nofel fach hyfryd hon.

O, a sbiwch: braf cael ymateb i’r llyfr cynta ar dudalen Clwb Darllen Cymraeg ar Facebook:

Mae Rebecca ac Ellie am fynd i brynu’r dilyniant ddydd Sadwrn – a dwi’n gwybod y bydd Ellie wrth ei bodd unwaith eto. Ac yn y sylwadau ar FB, yn ogystal â chanmol Sara Mai – a’r awdur Casia Wiliam wrth gwrs – mae cwpwl o famau wedi deud pa mor dda ydi cael deunydd gwreiddiol yn Gymraeg. Yn tydi! Dyna holl ddiben y blog yma – i drio tynnu sylw at y rhai gwreiddiol sy’n DAL i gael eu boddi gan y cyfieithiadau.

Ho hym.

Un am nofelau ydw i fwya wrth gwrs ond dyma ddau lyfr ffeithiol/gwahanol i chi:

Dau lyfr hardd a hyfryd a difyr iawn mewn gwahanol ffyrdd. Genod Gwych 2 wrth gwrs yn debyg iawn i’r cynta ond efo merched medrus gwahanol, yn cynnwys yr anhygoel Vulcana!

A llwyth o weithgareddau difyr y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn eu gneud yn hogan ifanc. Fel dylunio dwy ffrog i Mary Quant – wir yr. Anodd credu, mi wn.

Straeon a feithiau arbennig o dda eto gan Medi Jones-Jackson a lluniau hyfryd gan Telor Gwyn.

IOGA

Ail lyfr Leisa Mererid a Cara Davies am ioga ydi ‘Y Wariar Bach’ – a dwi wrth fy modd efo’r teitl yna! Dyma rai o’r tudalennau cyntaf:

Mae’r geiriau a’r odlau wir yn “galw arnaf i” a dach chi byth yn rhy hen i drio bod yn seren wib.

Nac yn orila. Mae isio treiglo gorila yn does? Ond mae’n edrych yn od…

Dau lyfr hyfryd, sy’n cael y sylw maen nhw’n eu haeddu, gobeithio.

Go brin bod y 3 llyfr uchod yn y sêl llyfrau plant a phobl ifanc sy mlaen ar hyn o bryd. Dim clem pryd mae’n dod i ben, ond mae ‘na fargeinion i’w cael! Dan ni awduron wastad yn siomedig pan dan ni’n gweld ein llyfrau yn y bwced bargeinion, ac eleni – dwi yna! Wel, nid un o fy llyfrau gwreiddiol i dwi’n falch o ddeud, ond cyfieithiad. OND MAE’N CHWIP O GYFIEITHIAD! O lyfr Almaeneg, nid un Saesneg, os nad oeddech chi’n gwybod, ac mae o’n hilêriys. Er mai fi sy’n deud. Bachwch gopi am £3.50!

Genod Gwych a Merched Medrus

Published Mai 26, 2019 by gwanas

20190526_100316

Dach chi’n cofio ddechrau’r flwyddyn am awdur yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd?

Medi Jones-Jackson o Bow Street ger Aberystwyth oedd honno, rhywun sydd wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen yn y gorffennol – ac mae hynny’n amlwg!

Yn union fel cyfres ‘Rebel o Ferch’, mae ‘Genod Gwych a Merched Medrus’ yn strocen o jiniys! Wedi’i hanelu at blant 5 i 10 oed yn wreiddiol (6-11 ar wefan y Lolfa, felly penderfynwch chi) mae’n gyfrol ddifyr, liwgar, addysgiadol a hwyliog am 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru, o Jade Jones i Laura Ashley.

Mae pawb yn cael dwy dudalen, fel hyn, gyda hanes Amy Dillwyn y ddynes fusnes o Sgeti:

20190526_100444

Ac ydi, mae’r gwaith darlunio gan Telor Gwyn yn hyfryd:

20190526_100429

A’r dylunio gan Dyfan Williams. Ydyn, maen nhw’n ddau beth gwahanol! Y dylunydd sy’n penderfynu be i neud efo’r darluniau: maint, lleoliad ac ati, y ffont, bob dim.

20190526_100351

A dwi’n siŵr bod Angharad Tomos wrth ei bodd yn cael bod yng nghwmni’r rhain i gyd – clod ac anrhydedd i awdur – ieee! Ond mae ‘na ferched o bob maes yma, mynydda, nyrsio, celf, ffasiwn, meddygaeth, astroffiseg – a fy ffefryn i, cracio codau yn ystod y rhyfel. Dwi wedi bod yn Bletchley, felly roedd gen i ddiddordeb mawr yn hanes Mair Russell-Jones o Bontycymmer oedd yn wych am wneud croeseiriau a phosau – ac yn gallu siarad Amlaeneg…

A sbiwch, mae ‘na weithgareddau yn y cefn i gyd-fynd â meysydd y merched medrus:

20190526_100335

Nacydi siŵr, dydi’r pôs ddim i gyd yna, dwi isio i chi brynu’r llyfr tydw! Neu o leia ei fenthyg o’r llyfrgell, achos mi gaiff yr awdur, Medi Jones-Jackson, 8.5c am bob benthyciad wedyn. Ydi, mae o’n help mawr i awduron, wir yr – ac i’r llyfrgelloedd!

Ond dwi am gynnnwys cerdd Manon Awst i gyd:

20190526_105528

Da ‘de!

A be am gais Medi am enwau merched ifanc gwych o Gymru heddiw? Wel, mae eu henwau nhw yn y llyfr hefyd, tu mewn y clawr blaen a chefn – ddeudis i bod Medi’n jiniys, do?

Dim llun sori, bydd raid i chi brynu copi i weld os ydi eich henwau chi yna. A nefi, mae ‘na enwau da allan fanna – enwau sy’n sgrechian i gyrraedd pinacl pa bynnag faes fyddwch chi’n ei ddewis.

Llyfr sy’n werth £5.99 yn bendant. Mi wnes i ei fwynhau o’n arw, ac mi fyddwn i wedi bod wrth fy modd efo fo pan ro’n i yn yr ysgol gynradd. Mae o’n siŵr o ysbrydoli genod ifanc heddiw.

Ond mae ‘na un peth bach… sut mae sillafu enw’r iaith Sanskrit yn Gymraeg? Dwi’n meddwl mai Sanscrit ddylai o fod. Yn ôl Geiriadur yr Acadaemi – Sansgrit (yr hen fusnes c/g ma eto…) Ond am ryw reswm, mae ‘na ‘d’ wedi dod o rhywle ac mae o’n Sandscrit yn y llyfr yma. Felly pwy sy’n iawn?!