O nefi wen. Dwi’m wedi blogio am lyfrau plant ers mis Gorffennaf!

Mae’n wir ddrwg gen i, ond ro’n i wir yn brysur, rhwng y maes carafanau sy gynnon ni, a thrio gorffen drafft gyntaf nofel ar gyfer oedolion ifanc, a chantamil o bethau eraill! Wedyn es i i Batagonia am fis… diolch yn fawr i’r ysgolion am y croeso cynnes ges i a gobeithio eich bod chi’n mwynhau’r llyfrau a phosteri ddois i efo fi.

Yn anffodus, daeth Cadi a’r Môr-ladron allan yn ystod yr wythnos wedi i mi adael am Batagonia, felly chawson nhw mo hwnnw, ond dyma’r clawr, ac mae o ar gael yn siopau a llyfrgelloedd Cymru!

Ond pa lyfrau plant dwi wedi eu darllen a’u mwynhau ers Gorffennaf ta? Rhestr fydd hi yn hytrach nag adolygiadau llawn, achos wnes i’m cadw nodiadau, sori. Ond dwi’n cofio i mi wir fwynhau Siani Pob Man:

Stori wir am berson go iawn ydi hwn, a rhywun y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael ei chyfarfod! Roedd Siani’n arfer byw mewn tŷ bach ar y traeth yng Nghei Bach, rhwng Ceinewydd ac Aberaeron. Roedd hi’n andros o gymeriad, yn pwffian ar ei chetyn ynghanol ei ieir neu’n canu rhigymau neu’n dweud ffortiwn ymwelwyr. Ond dwi’n meddwl mai clocsiau oedd ar ei thraed, nid clociau, fel sy’n cael ei ddeud yn y disgrifiad Saesneg ar wefan y Lolfa…
“In a little cottage, an old lady sits smoking her pipe with clocks on her feet.”
Camgymeriad hawdd ei neud! Dyma luniau go iawn o Siani – un yn gerdyn post:

Dyma un o fy hoff dudalennau. Tdi Valériane yn gneud chwip o fôr? A ieir… :

A dyma un o luniau eraill Valériane o ganol y llyfr (diolch i wefan sonamlyfra!)

A syniad i chi o lefel darllen y geiriau (gan Morfudd Bevan). Tua 6+ dwi’n meddwl ynde. Felly os dach chi’n nabod plentyn sydd isio straeon ‘go iawn’ a ffeithiau, mae hwn yn gyfrol ddeniadol, ddifyr, clawr caled am ddynes a hanner!
Ffefryn arall oedd Dwi eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned a Huw Aaron.


Dwi’n caru deinosoriaid beth bynnag (tydi pawb call?) felly roedd hwn yn apelio’n syth bin. Mae lluniau Huw yn ddoniol ac mae geiriau Luned (sy’n odli) yn taro 12 bob tro. Mae Anna Gwen (3 a hanner) wrth ei bodd efo hwn er ei bod hi fymryn yn rhy ifanc i ddarllen y geiriau ar ei phen ei hun – ond sbiwch mawr a chlir ydi’r sgrifen. Fydd hi fawr o dro! Oed darllen 5+ ddwedwn ni? Yr anrheg perffaith i unrhyw blentyn sy’n caru deinosoriaid. Ac mae ‘na wers ynddo fo hefyd – un addas iawn ar gyfer plant (ac oedolion) heddiw: bydd yn hapus efo pwy wyt ti!

Llyfr ffeithiol arall i blant fymryn hŷn (7-11?) ydi Cymry o Fri gan y ‘dream team’ arall, Jon Gower a’r arlunydd Efa Lois:

Mae na bobl o wahanol gyfnodau mewn hanes – o Hywel Dda i Jade Jones – rhai o fyd chwaraeon a llenyddiaeth, eraill o fydoedd diwydiant, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, celf ac addysg – fel Betty Campbell.

A Geraint Thomas a Barti Ddu:
Ac allwch chi byth anwybyddu Nigel Owens!

Mae’n gyfrol ddifyr a phwysig, ac ro’n i’n hoff iawn o’r gweithgareddau ychwanegol fel y cwestiynau am eich prifathro chi, a rhestr Nigel o’i 15 chwaraewr rygbi gorau erioed. Lle i fwy o chwaraewyr Ffrainc yn fy marn i, ond dyna fo, dwi’n hŷn na Nigel.
Ac un dwi newydd ei orffen ydi Sblash! gan Branwen Davies, sef nofel i’r arddegau ifanc, tua 10-13 oed.

Branwen sgwennodd Seren y Dyffryn rhyw bum mlynedd yn ôl, nofel i blant tua 7-9 oed sy’n caru ceffylau. Fel mae’r teitl (a’r clawr) yn ei awgrymu, nofio ydi thema Sblash! ond mae hefyd yn ymdrin â bwlio, a’r syniad o gorff perffaith. Mae Beca’n wych am nofio ond yn ymwybodol iawn nad ydi hi mor denau â nifer o’i chyfoedion. Ynghanol criw y Clwb Nofio, mae hi’n hapus; yn y dŵr mae hi’n gyflym, yn gryf ac yn osgeiddig. Ond mae ’na hen jaden yn yr ysgol sy’n cyhoeddi’n uchel o flaen pawb yn y wers chwaraeon:
“Yyyyy, ma ’da Beca stretch marks!”
Fel’na mae’r llyfr yn dechrau. Doedd Beca rioed wedi clywed y term ‘stretch marks’ o’r blaen a does ganddi ddim syniad be ydyn nhw ond mae’n gwybod nad ydi hi eu heisiau nhw.
Mae gwersi chwaraeon yr ysgol uwchradd yn gallu creithio pobl am flynyddoedd, fel y gŵyr nifer ohonon ni, ac mae’r nofel fer hon yn delio efo diffyg hyder yn arbennig o dda. Dwi’m isio deud gormod am y plot am mod i am i chi ddarganfod pethau drososch chi eich hun, fel roedd Branwen yn ei ddymuno (mae’n gas gen i adolygiadau sy’n rhoi’r plot i gyd i rywun ymlaen llaw! Grrrr…). Mae’n stori dda iawn beth bynnag, ac ro’n i’n gwingo a dal fy ngwynt ac yn ebychu ‘Wel, yr hen jaden!’ yn aml.
Dwi’n addo peidio â bod mor hir yn blogio tro nesa!