Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!
Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)
Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!
A dyma rai o’i llyfrau hi:
A dyma atebion Anni:
Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
Ysgol Gynradd:
Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.
Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.
Ysgol Uwchradd:
Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!! ( Diolch Anni – Bethan)
Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.
Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!
- Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)
a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn
ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.
Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,
edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!
- Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.
Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.
- Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.
- Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!
- Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –
nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’
sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!
- Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!
Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!