Llyfrgelloedd

All posts tagged Llyfrgelloedd

Llyfr ffeithiol da tua 8/10 oed +

Published Mawrth 31, 2019 by gwanas

Un Saesneg, sori, ond nefi, mae o’n un da:

91-q+feNiwL

Mi wnes i archebu copi drwy’r llyfrgell yn sgil ei weld ar y silff ‘ffefrynnau’ yn y blogiad dwytha. Synnu dim ei fod wedi ennill ‘Best Book With Facts Blue Peter Book Award 2017.’ Mi ddylai apelio at unrhyw un o unrhyw oed sy’n mwynhau darllen, ond yn sicr y plant hynny sy’n well ganddyn nhw ffeithiau na ffuglen. Ond mae’r straeon go iawn yma’n ddeunydd nofel, bob un! Mae ambell un wedi ei droi’n ffilm eisoes.

Hanesion pobl sydd wedi goroesi rhyw berygl ofnadwy ydyn nhw, o straeon weddol gyfarwydd fel hanes Shackleton yn yr Antartig yn 1914 a’r dringwr dorrodd ei fraich ei hun i ffwrdd efo cyllell boced wedi i graig syrthio arni yng Ngholorado yn 2003 (cefndir y ffilm 127 hours), i ugeiniau o straeon nad oeddwn i erioed wedi eu clywed o’r blaen:

Fel y ferch 17 oed lwyddodd i oroesi am 10 diwrnod mewn jyngl yn Peru – a dianc hefyd – wedi i bawb ond hi gael eu lladd mewn damwain awyren.

20190330_153123

A be am hwn:

20190330_153205

Meddyliwch orfod gwneud llawdriniaeth arnoch chi’ch hun – heb anaesthetig, achos roedd angen bod â meddwl chlir wrth gwrs. Mae ‘na bobl anhygoel yn y byd yma.

Mae lluniau Kerry Hyndman yn hyfryd fel y gwelwch chi, a dawn geiriau David Long yn dod â phob stori’n fyw. Chwip o lyfr.

Ac os ydach chi’n poeni mod i’n dynn yn benthyca o’r llyfrgell yn hytrach na phrynu copi: ylwch, mae fy nhŷ i’n gwegian fel mae hi, ac mae pob awdur yn derbyn 8.52 ceiniog bob tro y bydd un o’u llyfrau yn cael ei fenthyca, ac mae angen cefnogi llyfrgelloedd yn ogystal â siopau llyfrau. Felly Nyyyy.

Dwi newydd gael manylion benthyciadau fy llyfrau i llynedd: diddorol! Pa lyfrau oedd fwya poblogaidd?

51AhUxNtalL._SX330_BO1,204,203,200_

I Botany Bay – wedi ei fenthyca 848 o weithiau eleni (1339 y flwyddyn cynt!), wedyn Cadi Dan y Dŵr – 644; Blodwen Jones a’r Aderyn prin – 603, Coeden Cadi – 481, Gwylliaid – 375.

Ac i bawb sydd wedi mynd drwadd i Gaerdydd efo’r ymgom Bl 7,8,9 (detholiad o Gwylliaid) yn yr Urdd – pob lwc!

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Advertisements

Syniadau ar gyfer athrawon a llyfrgelloedd

Published Medi 9, 2016 by gwanas

_83370466_img_3389

Mi fues i’n trafod llyfrau plant ar y radio eto heddiw – recordio rhaglen Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth a Siwan Rosser (darlledu am 18.00 ar nos Lun dwi’n meddwl).

cr7gij-wgaakjkl

(Stiwdio fach Penrhyndeudraeth ydi fanna)

Roald Dahl oedd dan sylw a finnau’n diolch yn fawr am y pres dwi’n ei gael drwy’r Roald Dahl Foundation am greu gweithdai sgwennu ac ati ond yn cwyno (fel arfer – yr un hen stori…) am y diffyg sylw i awduron eraill Cymraeg yng Nghymru. Roedd hi’n sgwrs ddigon difyr. Ond ro’n i wedi bwriadu sôn am yr angen i ofalu bod pob athro Cymraeg sy’n gwneud cwrs ymarfer dysgu o hyn ymlaen yn sylweddoli pa mor bwysig ydi hi iddyn NHW ddarllen llyfrau plant hefyd. AC NID DIM OND ADDASIADAU!

gift-books

Sut fedran nhw argymell llyfrau i’w disgyblion os nad ydyn nhw’n darllen llyfrau plant eu hunain? Ond ar y llaw arall, dwi’m isio iddo fod yn orfodol – dwi isio iddyn nhw eu darllen am ei fod yn bleser – fel i’r plant. Sefyllfa anodd tydi? Ond naci, ga drapia, mae athrawon cynradd yn gorfod cadw ar dop eu gêm efo mathemateg a gwyddoniaeth, felly mi ddylen nhw neud yr un ymchwil ar gyfer darllen! Mae’r un peth yn wir am athrawon Cymraeg uwchradd. Mae pob athro isio bod yr athro gorau y medran nhw fod tydyn? Wel, mae darllen llyfrau plant yn mynd i neud byd o les felly tydi? Ac nid dim ond y llyfrau  sydd ar y cwriwclwm.

imagesimages-1

Dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn o athrawon a llyfrgellwyr sydd yn darllen y llyfrau ‘ma, diolch yn fawr, ond dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn sydd ddim.

images

A dach chi’n gwybod be fyddai o help i bawb? Rhestrau o lyfrau mewn categoriau ar gael yn hawdd ar rywle fel gwefan Gwales.com, fel sydd ar wefan lovereading – dyma linc i restr o lyfrau ar gyfer plant 9+

http://www.lovereading4kids.co.uk/genre/9/9-plus-readers.html

Grêt tydi? Plis fedar rhywun gyflogi rhywun i wneud pethau tebyg yn Gymraeg?

f4bc1d735d0237b36697342c50ba0d44.jpg7ff5d4aa32bf2413f5ae92b0723104c4.jpg

Ac mewn llyfrgelloedd, be am focsus/silffoedd lliwgar  yn arddangos teitlau ar thema?

Horse+Books.jpgimages.jpgfa0eabd1c69afe08bbe1fdae01dffe67.jpg

Pethau fel:

Llyfrau am bêl-droed/rygbi 6+. 8+, 12+

Unknowngetimg.phpimages-1getimg-4getimg-2

Nofelau am geffylau 6+, 8+, 12+

getimg-3getimg-2.jpg

Nofelau/straeon gyda chefndir amaethyddol/dinesig ( prinder rhai dinesig gyda llaw)(prinder rhai amaethyddol ar ôl 5 oed…)

getimggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg-1getimg.jpggetimg.jpggetimg-2.jpg

Nofelau am hoci, sombis, ysbrydion, y gofod, anifeiliaid, hud a lledrith ayyb ayyb

getimg.jpggetimg-3.jpggetimg-4.jpg

getimg-5.jpggetimg-3.jpggetimg-1.jpggetimg-3.jpggetimg-2.jpg

getimggetimg-4.jpggetimg-1.jpg

getimg-1.jpg

 

Mae ysgolion yn aml yn gwneud prosiectau ar rhyw bwnc neu gyfnod mewn hanes – meddyliwch defnyddiol fyddai rhestr/bocs/silff yn llawn llyfrau addas – yn y ddwy iaith os liciwch chi – ond yn sicr yn Gymraeg!

Oes y Tuduriaid, yr ymfudo i Batagonia, y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd – mae ‘na stwff addas ar gael! Bron i gyd gan Haf Llewelyn gyda llaw…

getimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg-1.jpggetimg.jpggetimg.jpg

Ia, dwi’n gwybod mai addasiad ydi Asterix, ond addasiad o’r Ffrangeg gwreiddiol, felly dwi’n maddau. A dwi’n addoli Asterix.

Be am gasgliad o gasgliadau o straeon byrion?

getimg.jpggetimg-3.jpg  getimg-1.jpggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpg

Be am lincs: “Os wnaethoch chi fwynhau hwnna, be am hwn?”

A sbiwch syniad da ydi hwn:

Image.jpg

Roedd hwnna drwy Twitter ‘Patron of reading’ – llwyth o syniadau yno bob amser. A dyna fi’n ôl at bwysigrwydd athrawon…ond gellid gwneud hyn mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau – bob man. Hoff lyfrau rhywun adnabyddus yn blentyn?

Y Prifathro?

images.jpg

Tudur Owen?

tudur-owen-2013-april.jpg

Ond doedd Tudur ddim yn darllen llawer yn blentyn…neu oedd o? Difyr fyddai gwybod be oedd yn apelio ynde?

Be amdani athrawon/llyfrgelloedd/siopau?