llyfrau

All posts tagged llyfrau

Cynllun Darllen newydd, gwych!

Published Rhagfyr 18, 2013 by gwanas

Mae ‘na gynllun gwych o’r enw ‘Patron of Reading’ yn bod yn Saesneg (er mai yng Ngogledd Cymru y ganwyd o) ers tro rwan. Dyma’r wefan os am wybod mwy:http://www.patronofreading.co.uk/

Yn syml, mae ysgol yn dewis awdur i fod yn ‘patron’ neu gyfaill darllen iddyn nhw. Mae’r awdur hwnnw/honno yn ymweld â’r ysgol unwaith bob tymor, yn trafod llyfrau a darllen a phob dim sy’n ymwneud â darllen, er mwyn dathlu pa mor ffantastic mae llyfrau’n gallu bod.

Os oes rhai o’r plant yn gwneud cynnydd da yn eu sgiliau darllen neu’n ennill gwobr o ryw fath, mae’r awdur yn sgwennu atyn nhw i’w llongyfarch – neu – fel y gallwn i ei wneud – yn eu gwneud nhw’n enwog ar eu blog!

Swnio’n hwyl tydi? A dwi wedi cael y fraint a’r anrhydedd o fod yr awdur Cymraeg cyntaf i fod yn ran o’r cynllun – drwy’r Gymraeg wrth gwrs.

A dyma fy nghriw i!

Cynllun Darllen newydd, gwych!
Criw hyfryd Blwyddyn 3,4,5 a 6 Ysgol Bro Cynmeirch, Llanrhaeadr yng Nghynmeirch (rhwng Rhuthin a Dinbych) ydi’r rhain, ac efo nhw fues i heddiw, drwy’r pnawn, yn cael modd i fyw yn trafod eu hoff lyfrau. A motocross a chwn, a siarcod mawr gwyn ac acne. Ia, gwahanol…!

Ond y peth pwysica i’w wneud ar y cychwyn oedd penderfynu be i alw ‘patron of reading’ yn Gymraeg… noddwr darllen yn swnio fel taswn i’n talu; anogwr neu hyrwyddwr yn swnio’n rhy ffurfiol; gwthiwr yn swnio’n gas; ac yna mi gafodd Siwan y syniad o fynd ar ôl ‘dotio at ddarllen’. Aha! Roedden ni’n hoffi Dotiwr Darllen nes i’r Brifathrawes gall, Mrs Gwennol Ellis, awgrymu efallai y byddai pobl yn fy ngalw’n ‘dotty’! Hm. Mae ‘na elfen o wirionedd yn hynny, ond ta waeth.
‘Be am Gyfaill Darllen?’ meddai hi.

Ddeudais i ei bod hi’n gall yndo? Felly dyna ni, Cyfaill Darllen ydw i rwan, Cyfaill Darllen Bro Cynmeirch.

Do’n i methu dangos y blog yn iawn iddyn nhw am fod gwefan y Cyngor yn ei flocio fo am ryw reswm! Roedden ni’n gallu gweld y dudalen am Baba Hyll, ond dim byd arall. Ond mae un o’r criw, Efa, wedi rhoi sylw ar y blog yn syth (am ‘Ceffylau’r Cymylau’) a dwi’n gobeithio cyhoeddi rhai o’u sylwadau/adolygiadau nhw yn y dyfodol.

Mi wnes i ddarllen chydig o Pen Dafad iddyn nhw image– y dechrau, pan mae o’n gweld ei hun yn y drych – a ges i ymateb gwych. Rhowlio chwerthin! Ond dydi hwnnw ddim yn llyfr ar gyfer Blwyddyn 3 a 4 a bod yn onest. Mwy at Blwyddyn 7 a 9!

Gyda llaw, oeddech chi’n gwybod mod i wedi cyfieithu hwnnw i’r Saesneg? Dyma fo:9780862439934
Ond does ‘na fawr o neb wedi clywed amdano fo, felly os oes gynnoch chi ffrind sy’n hoffi darllen ( llyfrau chydig bach yn od) ond ddim yn gallu darllen Cymraeg – dyma’r anrheg Nadolig perffaith iddyn nhw, ylwch!

Advertisements

Y blog cyntaf!

Published Rhagfyr 10, 2013 by gwanas

ImageFi ydi honna, ond nid llyfr ar gyfer plant ydi hwnna. Ond dwi’n hoffi’r llun. Felly nyyy.

Blog newydd ydi hwn, dim byd i wneud efo garddio, ond efo llyfrau, a llyfrau plant yn fwy na dim. Ond mae’n bosib y bydd ambell lyfr ar gyfer oedolion yn stwffio i mewn weithiau – ar gyfer Mam a Dad ac unrhyw fodrybedd neu ewythrod neu neiniau neu deidiau – unrhyw un a deud y gwir, sy’n hoffi llyfrau.

Ond yn fy marn i, mae llyfrau plant yn aml cystal os nad gwell na llyfrau oedolion, ac mae’n gwneud byd o les i bobl dros 18 ddarllen ambell lyfr plant.

M i fydda i’n son am lyfrau da ar y blog yma, a chofiwch gysylltu os fydd gynnoch chi lyfr rydach chi’n meddwl y byswn i’n ei hoffi.

Mi fydda i’n hoffi llyfrau am bob dim, am wrachod a hud a lledrith, am anifeiliaid,  am ryfeloedd, llyfrau sy’n gwneud i mi chwerthin a llyfrau sy’n gwneud i mi grio.

Pa fath o lyfrau fyddwch chi’n eu hoffi a methu eu rhoi i lawr? A pha awduron? Michael Morpurgo ydi un o fy ffefrynnau i ar hyn o bryd. Private Peaceful…War horse…The Butterfly Lion, Born to run… Gwych!