llyfrau i’r arddegau

All posts tagged llyfrau i’r arddegau

Fi a Joe Allen

Published Mai 19, 2018 by gwanas

20180519_151555_resized

Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.

Os oeddech chi wedi cael eich swyno gan berfformiadau tîm Cymru yn yr Ewros 2016,

JS79290843

mi gewch eich swyno gan hon. Os ydach chi’n addoli Joe Allen,

joe-allen-wale

mi fyddwch chi wedi gwirioni. A hyd yn oed os fyddai’n well gynnoch chi fwyta malwen na gwylio pêl-droed, mi fyddwch chi’n mwynhau hon. Ydi, mae hi am bêl-droed, ond mae hi hefyd am berthynas bachgen a’i fam, bachgen a’i dad, bachgen a’i waith cartref, am siarad Ffrangeg (ieee!), am deithio, am fod yn ran o lwyth neu ‘tribe’ a llawer iawn mwy.

Mae gwir angen nofel wreiddiol fel hon ar y byd llyfrau, ac os oes gynnoch chi blentyn sy’n gwrthod neu’n casau darllen oherwydd fod yn well ganddo/ganddi chwarae neu wylio pêl-droed, dwi wir yn meddwl y gallai hon wneud gwahaniaeth.

Marc Huws ydi enw’r bachgen yn y stori (oedd, roedd ei dad yn ffan mawr o Mark Hughes):

pa-photos_t_premier-league-managers-young-gallery-pies-1412m-758x506

ac er fod y tad hwnnw yn absennol y rhan fwya o’r amser, mae’n cynnig mynd â Marc i weld Cymru’n chwarae yn Ffrainc. Mae’n gyfle iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd yn well, a chan fod tad Marc yr un ffunud â Joe Allen, maen nhw’n cael llawer o hwyl. Ond fel y byddech chi’n disgwyl o unrhyw stori dda, dydi pethau ddim yn fêl i gyd…

Mae Manon yn cyfadde nad oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn pêl-droed tan yr Ewros, ond ers hynny, mae hi wedi mopio ei phen efo’r gêm – a thîm Lerpwl! A Mo Salah…

Mo-Salah-692519

Dwi’n meddwl bod y ffaith bod o leia un o’i meibion wedi gwirioni efo pêl-droed yn rhannol gyfrifol am y droedigaeth i fyd y bêl gron!

Mae’n amlwg ei bod wedi mwynhau sgwennu’r nofel yn arw, a chwarae teg, mi wnaeth hi drydar y canlynol:

“Dwi byth yn deud digon am rôl golygydd yn y broses o greu’r llyfrau dwi’n sgwennu. Y gwir ydi, dwi’n lwcus iawn iawn iawn i gael gweithio efo pobl brwd a thalentog ‘sgin y gallu i awgrymu newidiadau heb frifo ego delicet awdur.”

Dwi’n eitha siŵr mai cyfeirio at Meinir Wyn Edwards mae hi yn fanna

dd1304traintour1

– a dwi’n amenio. Hi sy’n golygu fy llyfrau plant i hefyd,

Layout 1EFA6

a dyma i chi un o luniau (heb ei liwio eto) o’r nesaf yng nghyfres Cadi:

cadi dino p24

Na, does ‘na’m digon o bêl-droed mewn llyfrau Cymraeg i’r arddegau a does ‘na’m digon o ddeinosoriaid a chnecu/pwmpian i blant iau!

Gyda llaw, dwi newydd dreulio wythnos hyfryd, ysbrydoledig (a blinedig!) yn Nant Gwrtheyrn yn rhoi blas o wahanol lyfrau i griw gwych o ddysgwyr. Mi fuon nhw a chriw mawr o bobl leol yn trafod un arall o lyfrau Manon, Inc:

9781847716330_300x400

(llyfr oedolion a pherffaith ar gyfer yr arddegau hŷn hefyd). 28 mewn un grŵp darllen!

20180516_151543_resized

Gawson ni bnawn hyfryd – a phawb yn canmol y nofel (a’r cwrs…), o, a sgwrs Ifor ap Glyn y noson flaenorol. Roedd o’n wych, ac mi werthodd lwyth o’i lyfrau iddyn nhw. Mi fu siop lyfrau’r Nant yn hynod brysur hefyd, yn gwerthu llyfrau Rhys Iorwerth, Sonia Edwards, Mihangel Morgan, Lleucu Roberts a Gareth Evans yn ogystal â rhai Ifor – o, a fi, wrth gwrs! O na fyddai Cymry iaith gyntaf mor barod i brynu a darllen llyfrau Cymraeg… diolch o galon i chi ddysgwyr hael, clen, darllengar!

Advertisements

Yr Ynys – nofel ar gyfer yr arddegau hŷn

Published Rhagfyr 22, 2017 by gwanas

image

Ro’n i ar dân isio darllen hon, y gyntaf yn nhrioleg YMA ar gyfer yr arddegau hŷn gan Lleucu Roberts. Yn un peth, mae’r clawr yn denu, yn ail, dwi’n ffan o waith Lleucu, ac yn drydydd, dwi wedi derbyn comisiwn tebyg gan Lywodraeth Cymru i greu trioleg ar gyfer yr arddegau (Cyfres Melanai), ac roedden ni’n dwy yn sgwennu ar yr un pryd ac yn gorfod cyflwyno ein drafftiau yr un pryd. Sôn am roi pwysau ar rywun!

Felly ro’n i’n edrych ymlaen i’w darllen ond hefyd rhyw fymryn yn nerfus. Mae Lleucu wedi ennill llwyth o wobrau am sgwennu! Gwobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff,

ac yn 2014, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.

_76785715_eist_06_seremoni_priflenor_rhyddiaith

Ac ydi, mae Lleucu wedi llwyddo i daro deuddeg eto. Mi wnes i fwynhau Yr Ynys yn arw! Nofel ‘ddyfodolaidd’ ydi hi, wedi ei gosod yn y flwyddyn 2140. Dyma’r sefyllfa yn fras: cyn i fomiau niwclear ddod yn agos at ddinistrio bywyd ar y ddaear yn 2030, aeth 49 o bobl (yn cynnwys Cymry) i guddio mewn ogof ar ynys oer, anghysbell.

image

Ynys fwyaf ynysoedd Svalbard yn yr Arctig, yn perthyn i Norwy ydi Spitsbergen – a dwi wedi bod yno – pan ro’n i’n ffilmio efo cyfres Ar y Lein! Lle anhygoel.

polar-bears-svalbard-norway

Yn ôl at y stori: ganrif yn ddiweddarach, ar ôl ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr, mae cymdeithas wedi datblygu ar yr ynys, sy’n siarad Cymraeg a Norwyeg, ac sy’n cynnwys ein prif gymeriadau: Gwawr, sy’n 15, a Cai ei ffrind sy’r un oed. O, ac maen nhw’n bwyta cŵn gyda llaw…yn amlwg, does gan Lleucu ddim ci!

Mae Gwawr wrth ei bodd yn darllen dyddiaduron Mam Un, sef y ferch oedd yn un o’r 49 person lwydddodd i oroesi yn 2030. Roedd honno wedi mynd ati i nodi pob dim allai hi ei gofio am fywyd a chymdeithas – a Chymru – cyn i bopeth fynd ar chwâl.
Yn raddol, mae’r ynyswyr yn trefnu teithiau i weld be a phwy sydd ar y tir mawr, a rŵan, maen nhw’n trefnu taith yn ôl i Gymru, ac mae Cai a Gwawr yn benderfynol o fod yn rhan o’r criw.
Dwi ddim am ddeud mwy am y plot, ond mae’r llyfr yn gorffen mewn man lle byddwch chi i gyd yn ysu i weld be fydd yn digwydd yn yr ail gyfrol. O, ac mae ‘na ddarn brawychus roddodd goblyn o sioc i mi!

Dyma’r dechrau i chi gael blas:

image

A dyma adolygiad yn Barn ( ac un o fy nofel innau) a diolch, olygyddion Barn am roi cystal sylw i lyfrau plant a phobl ifanc:

image

A dyma i chi rai o eiriau doeth yr awdur ei hun:

‘Does dim i gymharu â’r dychymyg arddegol, ysfa pobl ifanc i ddianc i fyd arall, i fywydau eraill mewn oes wahanol. Dim ond cynnig egin stori mae’r awdur yn ei wneud – agor llifddorau’r dychymyg,’ meddai Lleucu Roberts. ‘Y darllenydd sy’n rhoi lliw a sain, anadl a bywyd i’r byd newydd.’

Bydd yr ail yn y ddwy drioleg yn dilyn yn Hydref 2018 ac mi fyddwn ni’n dwy yn mynd ar daith o amgylch ysgolion yn y flwyddyn newydd er mwyn trafod y nofelau.

Yn y cyfamser, mae’r ddwy ar werth am £5.99 yr un (Y Lolfa).

Clec Amdani, Esyllt Maelor

Published Ebrill 22, 2014 by gwanas

Dwi wedi derbyn pecyn o nofelau y gyfres Copa gan Y Lolfa, cyfres wedi ei hanelu at yr arddegau, a nofelau sy’n bendant yn mynd i fod o gymorth mawr yn y dosbarth. Maen nhw i gyd yn hawdd iawn eu darllen, ac yn delio efo pynciau ddylai fod o ddiddordeb i’r oedran yna. Dwi eisoes wedi rhoi sylw i Llanast gan Gwen Lasarus
Unknown-6

A rwan, dyma hwn:

image

Dwi’m yn siwr am y clawr. Ydi o’n gweithio i chi? Yn denu eich sylw? Yn gwneud i chi fod isio darllen y llyfr? Mae na glyfrwch yma, person ar waelod potel sydd yma, person sy’n gaeth i’r botel. Ond fel clawr i ddenu darllenwyr…?

Ta waeth, mae’r teitl yn un da ( mi wnewch chi weld at y diwedd cystal teitl ydi o), ac mae’r llyfr yn un da. Dyma i chi flas o’r dechrau:
image

Mae’r cymeriadu’n dda, a’r stori yn gafael. Alcoholiaeth sydd dan sylw, a’r trais a’r boen sy’n dod yn ei sgil – i’r teulu, yn fwy na neb. Y mab yn yr achos yma.

Dwi’m yn 100% siwr o’r diweddglo, ond dwi’n dallt yn iawn pam roedd angen gorffen fel yna. A dwi’n gwybod y bydd na drafod go frwd ymysg y disgyblion pan ddown nhw ato fo, a dyna ydi prif ddiben y llyfrau hyn, am wn i.

Diben arall ydi dangos i ambell un na chafodd ei berswadio eisoes, bod llyfrau yn gallu bod yn ddifyr, yn gallu hoelio sylw. A gan mai dim ond 64 tudalen ydi hon, prin all neb gwyno ei bod hi’n rhy hir! Does na’m gwastraff geiriau yma chwaith. Mi wnes i ei mwynhau hi, yn bendant, ac mi fydd y disgyblion yn ei mwynhau hi hefyd, rhai 13 oed i fyny. Un dda ar gyfer Blwyddyn 9, 10 ac 11, dybiwn i.

Ond un peth bach, Ms Maelor…! Dwi’m yn dallt y disgrifiad o’r droriau ar y dudalen gyntaf yma. Dwi wir yn hoffi’r syniad eu bod fel gwefusau ar agor, ond ‘hen wefusau moethus’? Ai iaith Pen Llyn ydi hyn? I mi, ‘moethus’ ydi ‘luxurious.’ Plis ehangwch fy ngorwelion os ydw i wedi colli rhywbeth fan hyn!

A galwch fi’n hen ffasiwn, ond alla i wir ddim diodde gweld y llythyren ‘t’ yn ‘d’ ar bapur. Ia, dwi’n gwybod mai ‘jesd’ ydi’r sŵn mewn rhai mannau yng Nghymru, ond fel dach chi’n mynd fwy am y de, mae’r ‘t’ yn gryfach. ‘Jest’ ydi o i mi, ac i’r rhan fwya i’r de o Feirionnydd. Ac mae o’n drysu pobl sy’n ceisio dysgu a gwneud synnwyr o’r iaith Gymraeg.

I mi, mae’r ‘d’ yna’n hyll! Oherwydd hynny, mae’n mynd ar fy nerfau i

image
ac yn gneud i mi wingo pan ddylwn i fod yn cael fy sgubo gan y stori (nid sdori). Ia, wn i, hollti ( nid holldi) blew ydi hyn, ac mae Esyllt wedi llwyddo i wneud i’r iaith lafar swnio’n gwbl naturiol a chyfredol yr un pryd – sydd ddim yn hawdd. Ond ro’n i jest isio deud, iawn? A phun bynnag, ‘llofft’ sydd yma, nid ‘lloffd’ – ych, diolch byth! – felly dydi o ddim yn gyson.

Ar wahân i hynna, da iawn, Ms Maelor!