llyfrau i wneud i blant chwerthin

All posts tagged llyfrau i wneud i blant chwerthin

Ysgol Bro Cinmeirch

Published Rhagfyr 17, 2014 by gwanas

Dim ond isio dymuno Nadolig Llawen i holl blant a staff Ysgol Bro Cinmeirch gan eu Cyfaill Darllen. Ia, fi ydi honno, rhag ofn eich bod wedi anghofio!

image

Gobeithio y bydd ‘na lond gwlad o lyfrau difyr yn eich sannau Dolig wythnos nesa, a chofiwch ddeud wrtha i amdanyn nhw fis Mawrth. Mi fydda i isio gwybod am lyfrau sy’n gwneud i chi chwerthin y tro yma!

Fel hwn o bosib?

Unknown

Neu hwn tybed?

getimg.php

A be am hwn?

getimg-1.php

Ydach chi wedi eu darllen nhw sgwn i? Be oeddech chi’n ei feddwl? Wnaethoch chi chwerthin?

Os oes ‘na rywun yn gallu argymell llyfr doniol, digri, da ar gyfer plant cynradd, rhowch wybod ar y blog yma os gwelwch yn dda. Diolch!

Advertisements