llyfrau gwreiddiol Cymraeg i blant

All posts tagged llyfrau gwreiddiol Cymraeg i blant

Alun yr Arth rhif 25!

Published Gorffennaf 10, 2017 by gwanas

alun yr arth

Hwrê! Mae un o’r cyfresi Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed i blant bach dan 7 oed yn dathlu carreg filltir yr wythnos hon: cyhoeddi’r 25ain llyfr yng nghyfres Alun yr Arth! Sef  Alun yr Arth a’r Ddraig Fach Goch gan Morgan Tomos.

Yn yr antur newydd, mae Alun yn mynd ar gefn y ddraig fach goch ar daith o gwmpas Cymru ac mae’n gweld rhyfeddodau di-ri! Ond pam mae’r ddraig fach mor drist?

‘Daeth y syniad ar gyfer y stori am Alun yn cwrdd â draig goch ar ôl i mi ymweld â Ysgol Bro Dyfrdwy yn gynharach eleni,’ meddai Morgan, ‘Mae’r diolch yn bennaf i ddisgybl o’r enw Meirion am ddychmygu’r syniad!’

Dwi’n siŵr bod Meirion wrth ei fodd bod ei syniad o wedi creu llyfr!

Mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi eu gwerthu erbyn hyn. Dyma i chi rai ohonyn nhw:

A dyma’r awdur – a’r arlunydd, Morgan, yn sgwrsio efo criw o blant bach:

Alun-yr-Arth-ar-Wy-Pasg-006

Mae ‘na hefyd apiau a chyfrif Twitter a gwefan newydd sbon – linc fan hyn: http://www.alunyrarth.cymru/
Cefnogwch lyfrau gwreiddiol Cymraeg!