llyfrau am ddeinosoriaid

All posts tagged llyfrau am ddeinosoriaid

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019

Published Ebrill 13, 2019 by gwanas

Dzh5S6dWkAE2knk

Wel? Fuoch chi yno? Wnaethoch chi fwynhau? Mi ges i fodd i fyw, unwaith i mi lwyddo i ddod allan o faes parcio’r castell (rhy dwp i weld y botwm gwyrdd…dyyyh).

Ro’n i yn y groglofft, fy man arferol, ar y pnawn Sadwrn, a dyma fi efo’r criw:

IMG_20190406_164041

Yn sgwrsio am a darllen darnau o Cadi a’r Deinosoriaid

9781784616403

Gawson ni andros o hwyl, ac roedd gwybodaeth ambell un am ddeinosoriaid yn syfrdanol! Ro’n i’n gegrwth pan wnaeth un hogan fach 3 oed nabod Triseratops. Waw. Roedd ei thad mewn sioc hefyd. Roedd y lluniau wnaethon nhw ar y diwedd yn arbennig:

20190406_161851

Ac ro’n i wrth fy modd pan roddodd Cerys ei llun hi yn anrheg i mi:

Diolch o galon i bawb am ddod, ac i griw yr ŵyl am y croeso a’r baned a’r bisgedi hyfryd.

Y bore wedyn, es i draw i’r Amgueddfa Genedlaethol

th-1

i weld y blodau hyfryd tu allan

20190413_164903

a’r rhyfeddodau tu mewn:

th-2

Ond mi ges i siom yn y siop! Llond gwlad o lyfrau plant am ddeinosoriaid, yn cynnwys rhai Cymraeg, ond addasiadau o lyfrau Saesneg oedd pob un! Dim un gan awduron Cymraeg o Gymru! Yn Amgueddfa CYMRU!

th-1

Felly mi fues i’n ddigon hy heddiw i yrru ebost atyn nhw yn deud pa mor siomedig o’n i, a thynnu eu sylw at hwn:

9781784616403

Teimlad chwithig, dwi’n cyfadde, ond os na wna i ddeud wrthyn nhw, pwy wnaiff? Felly os welwch chi gopi o Cadi yn y siop yno ryw ben, rhowch wybod. Gwell fyth, ewch yno i holi am y llyfr!

Bechgyn/Merched – oes angen gwahaniaethu?

Published Chwefror 16, 2019 by gwanas

Roedd y neges isod ar Twitter yn ddiweddar:

Me: do you sell kids’ water bottles?
Sales assistant: Is it for a boy or a girl?
Me: erm, does it matter?
Her: yes because some have dinosaurs on them.
Me: right, so what difference does that make?
Her: 🤔
Me: 🙄 some dinosaurs were female
Her: (unconvinced) maybe…

Cafwyd nifer fawr o atebion wedyn yn adrodd hanesion tebyg: pobl yn amharod i adael i bobl brynu pethau ‘bechgyn’ i’w merched a phethau ‘merched’ i’w bechgyn;

1508204689768

rhieni yn gwrthod hyd yn oed ystyried gadael i’w meibion brynu unrhyw beth pinc neu biws, neu i’w merched gael dilledyn/mwg/llyfr/unrhyw beth gyda deinosor/car/tractor arno.

kinder02-20130806090043962

Mae hyn yn fy ngyrru i’n benwan erioed. Be goblyn sydd o’i le efo gadael i fechgyn ddewis unrhyw liw dan haul? A pam nad yw merched bach i fod i hoffi deinosoriaid? Gofynwyd i mi a fyddai Cadi a’r Deinosoriaid yn apelio at ferched. Oni fyddai bachgen yn fwy addas i’r stori?

9781784616403

Y? Doedd y peth rioed wedi croesi fy meddwl i! Pam mai bechgyn a dim ond bechgyn sydd i fod i hoffi deinosoriaid – a magu diddordeb mewn hanes ac esblygiad a sut mae’r byd yn gweithio ac ati? Ond mae’n debyg bod rhai rhieni/gwerthwyr deunyddiau ar gyfer plant yn meddwl y byddai gan ferched bach ofn creaduriaid mawr fel’na. Hm. Os dach chi’n gadael iddyn nhw wylio Jurassic Park yn rhy ifanc efallai, ond a ydi’r rhieni hyn wedi gweld ffilm ‘The Good Dinosaur’?

products_thegooddinosaur_digitalhd_e5ac6e20

Dwi’n eitha siŵr y bydd unrhyw hogan fach tua 7 oed + wedi gwirioni efo’r deinosor bach yma, yn union fel unrhyw hogyn. Roedd yr oedolyn yma wedi gwirioni ac yn crio bwcedi – am ei fod o mor hyfryd – ac mae’r diwedd (sboilar) yn hapus, wir yr. Dyma’r trêlar:

Iawn, mae ‘na ryw ymchwil wedi ei wneud sy’n ‘profi’ bod plant bach yn tueddu i ddewis teganau ‘addas’ i’w rhyw: ceir a thractors yn tueddu i ddenu bechgyn, tedis a doliau a phethau gyda wynebau yn tueddu i dynnu sylw merched. Ocê, mi wnai dderbyn hynna, ond ‘tueddu’ ydi hynna – doedd pob un plentyn ddim yn dilyn y drefn, achos weithiau, mae plentyn isio gwneud sŵn injan a mynd ‘Brrrm, brrm’ a dro arall mae’r un plentyn isio chwarae efo rhywbeth meddal, sgwiji efo llygaid a choesau a breichiau, dim bwys pa ryw ydyn nhw!

A sbiwch mewn difri ar y teganau hyn: ai dim ond bechgyn sydd i fod i ystyried bod yn ddoctor, hyd yn oed heddiw?

980x

Ac os ydi’r busnes pinc’glas ma’n cael ei lynu ato, mae rhai teganau a llyfrau hyd yn oed yn hwrjio ‘gwna dy hun yn ddel’ i ferched ‘a gwna dy hun yn glyfar’ i fechgyn:

Annwyl brynwyr llyfrau i’ch plant/wyrion/nithod/neiaint – plis ystyriwch be dach chi’n neud pan yn prynu llyfrau fel hyn iddyn nhw.

66844fdcddfdfb5436660367600c3e62

Prynwch bethau fel hyn yn lle!

original_girls-like-dinosaurs-too-personalised-kids-t-shirtimagesdinosaurs-girls-2_1024x1024

Dwi’n teimlo nofel newydd yn cyniwair…

339437-blackangel_3840x2400