Llyfr Mawr y Plant

All posts tagged Llyfr Mawr y Plant

Holi Mair Wynn Hughes

Published Gorffennaf 25, 2017 by gwanas

Mair_Wynn_Hughes

Edrych mlaen at y Steddfod? A fi – ac un o’r pethau cynta fydda i’n eu gwneud ( ar ôl gosod fy stondin efo’r campafan – os gai help rhywun i godi’r adlen hurt sy gen i) fydd holi’r awdures Mair Wynn Hughes. Mi fydd hynny’n digwydd  am 5.00 ar y pnawn Sul cynta, Awst 6ed yn y Llannerch ( llwyfan bach cysurus a chlên rhywle’n agos at y babell Lên meddan nhw) a chyn hynny, am 4.00 yn y Babell Lên, mi fydd hyn yn digwydd:

‘Hwyl Sgrifennu gyda Mair Wynn Hughes’ – Mwyniant o dros hanner can mlynedd o sgrifennu ar gyfer plant a’r arddegau, gyda darlleniad byr.

Dros hanner can mlynedd?! Ia, mae hi wedi cyhoeddi rhyw 103 o lyfrau dros y blynyddoedd. Dyma rai ohonyn nhw:

A dyma chydig mwy:

Sori, does gen i ddim lle i 103 clawr llyfr.

A dyma i chi un o’r rhai sgwennodd hi ar gyfer plant hŷn:

51FU3PZIOIL._UY250_

A dyma daflen Adnabod Awdur amdani wnaethpwyd sbel yn ôl:

Mair w hughes

Ia, landrofyr, felly mae’n amlwg ei bod hi’n byw ar ffarm tydi? Neu jest yn hoff o landrofyrs? Na, roedd hi’n wraig ffarm ac athrawes yn ogystal â bod yn awdures – dynes brysur – a hynod ddawnus.

Mi enillodd Wobr Tir na-Nog 4 gwaith, a dyma adolygiad o un ohonyn nhw – ‘Ein Rhyfel Ni’:

51ShU07gpdL._SY344_BO1,204,203,200_

Hanes ifaciwîs o Lerpwl sy’n dod i ardal wledig ar Ynys Môn a geir yma. Brawd a chwaer yw canolbwynt y nofel, Norman a Milly; y mae eu tad yn filwr a’u mam yn gweithio mewn ffatri arfau. Dônt i aros ar fferm Tomos, ac wedi cyfnod o ansicrwydd ar ôl cyrraedd, o ran yr ifaciwîs a’r teulu o Gymru sy’n eu lletya, cawn hanes y ddau o Lerpwl yn ymgartrefu ac yn magu hyder ar y fferm ac yn yr ysgol.

Mae’r stori’n datblygu’n ddiddorol gyda nifer o hanesion dwys a digrif ar hyd y daith, megis awyrennau’n ymladd, gwisgo masgiau nwy, a’r Hôm Giard. Wrth i’r plant o Lerpwl ymgartrefu yng Nghymru, mae eu Saesneg hefyd yn graddol droi’n Gymraeg hyfryd, a’u defnydd o’r iaith weithiau’n codi gwên. Er bod yma hanesion doniol, mae’r awdur hefyd yn crybwyll sawl digwyddiad sy’n tanlinellu pa mor erchyll yw rhyfel, yn arbennig tua diwedd y stori.

Ceir yma felly ddarlun dilys a chredadwy o fywyd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a nofel gwerth ei darllen yn sicr, gyda lluniau cynnil Jac Jones yn rhoi cipolwg ar y cyfnod ac yn dod â’r cymeriadau’n fyw.

Elin Meek

Mae ‘na linc fan hyn i chi gael gwybod bron bob dim am Mair:

AA-MairWH

Ond, er mwyn i chi ddysgu chydig mwy na hynna amdani cyn y Steddfod, dwi wedi bod yn ei holi am ei hoff lyfrau yn blentyn, a dyma’r atebion:

 

  1. Llyfrau Ysgol Gynradd

Anodd cofio erbyn hyn, mae o mor bell yn ôl! Cymraeg – Llyfr Mawr y Plant, wrth gwrs!

c0bba1591a9a2f87b152e391cfe57294bed19fd1

A Dail Difyr, os ydw i’n cofio’r teitl yn iawn. ( ydach – Bethan)

s-l225

Nansi’r Dditectif.

md20882494773

Helynt Coed y Gell

41jK+mip+OL._SX331_BO1,204,203,200_

 

Saesneg – Sunny Stories

52221

The Railway Children

railway_children

The Children of the New Forest.

1553

2) Uwchradd.

Cymraeg –Nofelau Daniel Owen

51t9nWSSsiL._AC_UL320_SR220,320_

Saesneg – Jane Austen, Trollope,- rhywbeth fedrwn i gael gafael arno.

Jane Austen 620

 

 

2) Fyddwch chi’n dal i ddarllen llyfrau plant?

Pori’n ysbeidiol yn myd llyfrau plant o dro i dro.

Cymraeg – rhai i’r arddegau gan amlaf, fy hoff awdur: Gareth F Williams.

Saesneg – Gangsta Granny a.y.b gan David Walliams

 

(sori – methu peidio â gweld tebygrwydd rhwng Mair a’r nain…Bethan)

The Chronicles of Ancient Darkness  gan Michelle Paver – mwynhau rhain yn arw.

a05c24c91d1cd9ef62bb4de36e6cf628

 

3) Hoff arlunydd?

Jac Jones. Y fantais wrth weithio efo Jac oedd ein bod yn medru ymgynghori wyneb yn wyneb.

_59676302_jacjones9781907424014-uk

Elwyn Ioan wedi dylunio llyfrau Wali Wmff a Morus Mihangel. Rwy’n gwerthfawrogi gwaith y ddau.

(Elwyn yn ddiweddar a sbel yn ôl, wastad efo barf)

Wali_Wmff_ar_Lan_y_Môr_(llyfr)

Ioan, Elwyn, b.1947; Tristwch yn Erwau Gleision

4) Be wnaeth i chi ddechrau sgwennu?

Angen storïau Cymraeg i blant fy nosbarth yn y chwedegau cynnar.

5) Be dach chi’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Anodd dweud. Mae cymaint o bleser i’w gael wrth ddatblygu syniad yn thema, creu cymeriadau, a gadael iddyn nhw wau y stori wedyn.

6) Dwedwch chydig am eich nofel ddiweddara i blant.

I’r arddegau oedd fy nofel ddiweddaraf, a hynny ers peth amser bellach.‘I Feysydd Pell’ dilyniant i ‘F’annwyl Leusa.’

9781904845515220px-I_Feysydd_Pell_(llyfr)

Y ddwy nofel wedi’u lleoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Sut mae Leusa’n ymdopi wedi colli William, mor anodd wynebu’r siarad a phwyntio bys wedi i William gael ei ddyfarnu’n llwfr yng ngwyneb y gelyn, a’i saethu ar doriad gwawr. Yn ‘I Feysydd Pell,’ mae Leusa’n gadael cartref i nyrsio yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Yna cawn ei phrofiadau wrth ofalu am y milwyr tu ôl i’r llinell flaen yn Ffrainc, cyn iddi hithau golli ei bywyd yno. Dwy nofel i danlinellu erchylldra rhyfel, a’r effaith ar deulu a chydnabod.

(Adolygiad o F’Annwyl Leusa fan hyn:

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781904845515&tsid=5#top

Ond oes dim sôn am I Feysydd Pell ar gwales.com!)

7) Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa?

Dim un! Wedi rhoi y ffidil yn y to!

O, naaa! Dowch i wrando arni yn y Steddfod ar y 6ed – i weld os allwn ni ei pherswadio i newid ei meddwl…

Hoff lyfrau Eurgain Haf

Published Mawrth 5, 2017 by gwanas

p1000633_-_resize

Hogan o Benisarwaun yng Ngwynedd yw’r awdures Eurgain Haf, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd ac yn fam i ddau o blant bach.

_74975562_1684cfee-a8ad-4940-b375-cfc18310aa90-1

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 1994 a Choron Eisteddfod Môn yn 2002. Enillodd hefyd Fedal Ddrama yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1994. Roedd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth ysgrifennu stori fer y BBC yn 2003 a chyhoeddwyd ei stori yn y gyfrol Nes at Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005). Roedd hi hefyd yn un o griw o awduresau a ddaeth at ei gilydd i gyhoeddi’r nofel gywaith Nerth Bôn Braich (Gwasg y Bwthyn, 2008).

220px-nerth_bo%cc%82n_braich_llyfr

Ond dileit pennaf Eurgain yw ysgrifennu storiau i blant a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf Fferm Ffion (Gwasg y Dref Wen) yn 2005

9781855966741

ac yna Stablau Seren yn 2006.

getimg-php1

Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfres o bedair nofel fer yn dilyn anturiaethau crwydryn o’r enw Siencyn:

a dyma i chi gloriau rhai o’i llyfrau eraill:

 

Disgrifiad gwefan gwales o Yr Allwedd Aur:

“Y flwyddyn yw 2050. Mae Cymru mewn trafferthion. Mae’r bae yn boddi; y Senedd yn suddo a’r chwareli’n cael eu defnyddio fel ffatrïoedd i chwalu cof y Cymry. Mae Ynys Môn wedi hen ddiflannu oddi ar y map. De Orllewin Prydain yw’r enw ar Gymru bellach. Mae ffyrdd uwchddaearol yn cael eu hadeiladu ym mhobman fel bod pobl yn gallu osgoi Cymru yn llwyr.”

A dyma ran o adolygiad ar Gwales o Gedonia:

“Yn nodweddiadol o’r gyfres hon, y mae’r byd sydd ohoni, y goruwchnaturiol, y dyfodol a’r gorffennol, i gyd yn plethu yn un i greu’r campwaith. O’r dechrau un, hawdd fyddai meddwl mai nofel yw hon o oes y Mabinogi gyda chymeriadau megis Ganthrig Bwt ac Wdull a’r enwog Frenhines Eryri sydd yn dipyn o gymêr, ond 2051 yw’r flwyddyn. Trwy atgyfodi cymeriadau o hen chwedlau Cymru, fel Myrddin Ddewin a Brenin Arthur, a’u cymysgu’n graff iawn gyda rhai fel y gŵr cas o fyd teledu, Jeri Oswyn Cwellyn, mae yma chwrligwgan o stori sydd yn croesi pob math o ffiniau ffantasïol. Yn hudolus iawn, y goruwchnaturiol sydd yn gorchfygu.

Mae’r nofel epig hon yn cynnwys nodweddion sy’n adleisio clasuron chwedlonol ein cenedl, ac mae’r ffordd y mae’n eu cyflwyno mewn modd darllenadwy i blant yn eu harddegau yn glyfar tu hwnt.”

Llinos Griffin

Ac Adolygiad Gwales o Siencyn a’r sipsiwn:

“Dyma stori fach hyfryd, a’r drydedd yn y gyfres Siencyn a Dan Draed. Lleoliad y stori yw gwersyll sipsiwn ar gyrion pentref yng Nghymru a chawn ddarlun o fywyd a diwylliant y sipsiwn. Mae’r clawr yn lliwgar ac yn drawiadol ac mae’r darluniau y tu mewn yn ychwanegu at y deunydd ysgrifenedig. Stori antur yw hi, yn addas i blant oedran 7–9. Prif gymeriad y stori yw Siencyn, ac mae ef ei hun yn grwydryn. Nid oes ganddo unrhyw gof am bwy yw e, o ble mae’n dod, nac unrhyw beth am ei gefndir.

Fel crwydryn mae’n cwrdd â rhai pobl sy’n fodlon ei helpu, fel Glenwen yn y caffi, ond hefyd mae’n wrthrych gwawd a chasineb gan eraill. Tebyg at ei debyg, maen nhw’n ei ddweud, ac yn y llyfr, Twm Twm a Lili’r Sipsiwn sy’n ei helpu i wella o’i salwch ac yn estyn croeso iddo i’w carafán. Cawn ddarlun o fywyd sipsi y garafán a’r ceffyl a’r ffordd y mae’r bywyd hwnnw mor wahanol i fywyd y sipsi modern. Bydd y ffaith fod Siencyn yn datrys dirgelwch y lladrata yn y pentref, ac yn dal y dynion drwg gyda chymorth ei gi a’i ffrindiau, yn apelio at blant. Mae hi hefyd yn stori sy’n addas i’w darllen i ddosbarth am fod yna ddigon o gyfleoedd trafod a gweithgareddau posib ynddi.”

Rosemary Thomas

A dyma i chi ei hatebion i’r cwestiynau am ei hoff lyfrau:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Yn ôl Mam, roeddwn i byth a beunydd yn swnian am stori pan ro’n i’n ddim o beth ac wrth fy modd hefo Cyfres Sali Mali, Llyfr Mawr y Plant a Chwedlau Aesop.

salimali

61dcy0ytb4l-_sx331_bo1204203200_

Dwi’n cofio mynd ar y bys Crosville i Gaernarfon (Dre) hefo Mam i wario ein pres ‘Dolig neu bres poced, a fy mrodyr yn anelu yn syth am Siop Dan Cloc i brynu tegan a finna’ yn ysu am gael fy machau ar lyfr newydd yn Siop y Pentan neu WH Smith – g’neud i mi swnio rêl swot, dydi! Roedd llyfrau ym mhob man yn y tŷ ac yn rhan o’m magwraeth ac fe gefais fy nhrwytho ynddynt o oed cynnar iawn a hynny mewn ffordd naturiol braf, a dwi’n ddiolchgar i fy rhieni am hynny.

 

  1. a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg

Fel pob plentyn arall fynychodd yr ysgol gynradd yn yr 70au a’r 80au, fy atgofion cynharaf ydi darllen a mwynhau Cyfres Sali Mali Mary Vaughan Jones, ac yna symud ymlaen at Llyfr Mawr y Plant 1 a 2 ac mae gen i gof cynnar o fwynhau darllen cyfrol Gymraeg Chwedlau Aesop hefyd. Dw i hefyd yn cofio crio am y tro cyntaf wrth ddarllen llyfr, a hynny wrth gael fy nghyffwrdd gan Hanes Babar yr Eliffant, cyfieithiad Gwasg y Dref Wen o glasur Jean de Brunhoff am eliffant bach sy’n gweld ei fam yn cael ei lladd gan helwyr.

babar

Yna, wrth fynd yn hŷn cefais fy sugno i mewn i fyd y ‘Brenin’ ei hun T.Llew Jones

220px-ysbryd_plas_nant_esgob_llyfr

a chofio cael mwy o wefr o ddarllen y llyfrau dirgelwch ac ysbrydion fel Ysbryd Plas Nantesgob yn hytrach na’r rhai am y smyglwyr a’r lladron pen ffordd. Un arall o fy hoff awduron oedd Dafydd Parri ac fe ddarllenais holl lyfrau cyfres Y Llewod

9780904864205

a chyfres Cailo y ci defaid coll hefyd.

220px-cailo_5_-_yr_ymdrech_fawr_olaf_i_ddod_o_hyd_ir_ci_defaid_llyfr

Ro’n i’n un o’r genod hynny oedd wrth ei bodd hefo ceffylau hefyd ac yn darllen yn eang amdanyn nhw;  yn lyfrau ffuglen a ffeithiol. A diolch i Emily Huws am y chwip o gyfres – Cyfres Marian – a’r wefr a roddodd darllen nofelau fel Merlyn y Mynydd Mawr, Sidan, Ceffyl a Charafán, Ffrwyn a Chyfrwy a Chwip a Pedoli Pedinc i mi pan yn blentyn. (*dim lluniau ar gael ar y we, sori!)

O ran llyfrau Saesneg, Enid Blyton oedd fy arwres.

Roeddwn i wir wedi fy nghyfareddu gan gyfres The Enchanted Wood a The Faraway Tree ac yn ysu am amser gwely i gael mynd i ddarllen am anturiaethau Silky a Moonface a Saucepan Man a’r bydoedd hud a lledrith oedd yn bodoli ar dop y goeden. Fe ddarllenais hefyd holl gyfresi Amelia Jane, Malory Towers, Famous Five a Secret Seven hefyd. Roeddwn wrth fy modd hefo The Lion, The Witch and The Wardrobe a The Chronicles of Narnia yn ogystal.

SONY DSC

 

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Dwi’n meddwl i’r math o lyfrau ro’n i’n eu darllen yn yr ysgol Uwchradd gael eu dylanwadu gan y llyfrau gosod roedd yn rhaid i ni eu darllen.

hd_100522355_01Roeddwn wrth fy modd gydag Y Stafell Ddirgel a dwi’n dal i ddychmygu golygfeydd o’r nofel yna hyd heddiw bob tro dwi’n dreifio ar yr A470 heibio Dolgellau a Brithdir. Roedd Un Nos Ola Leuad hefyd yn ffefryn yn enwedig â minnau wedi fy magu yn ardal y chwareli yn ogystal â nofelau T.Rowland Hughes Chwalfa, O Law i Law a William Jones.

41ktywmh1fl-_sy344_bo1204203200_

O ran nofelau Saesneg dwi’n cofio darllen nofelau’r chwiorydd Brontes a nofelau Jane Austen i gyd ac roeddwn hefyd wrth fy modd gyda nofelau’r byd ffantasi yn enwedig gwaith Tolkien.

33dbdb5b-9686-4573-b9bf-c0cbb91bc275

Mae’r ardal lle cefais fy magu yn Eryri ac o gwmpas pentref Penisarwaun sy’n swatio yng nghesail Yr Wyddfa, yn frith o chwedlau a straeon o bob math am dylwyth teg a chewri a ffynhonnau a thwneli tanddaearol heb sôn am chwedloniaeth y Brenin Arthur. Ac roeddwn i wrth fy modd yn gwrando arnyn nhw yn yr ysgol a gwrando ar Mam yn eu hadrodd. Pan oeddwn i’n blentyn fe dreuliais i oriau yn chwilota am dwneli tanddaearol a oedd yn rhedeg o’r Graig Fawr i’r gaer Geltaidd Pen Dinas y pen arall i’r pentref a hefyd yn ffureta am  ffynhonnau hud. Yn rhyfedd iawn, ddois i fyth o hyd iddyn nhw! Ond yr hyn y gwnes i ei ganfod oedd fy nychymyg byw ac roedd gwrando ar y straeon yma yn gwneud i mi fod eisiau sgwennu straeon fy hunan ac maen nhw yn sicr wedi cael dylanwad ar y nofelau dw i wedi eu hysgrifennu wedi hynny fel Yr Allwedd Aur a Gedonia.

 

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dw i’n gwneud dim byd ond darllen llyfrau plant ‘dyddiau yma! Dwn i ddim pa bryd ddarllenais i lyfr i oedolion ddiwethaf a bod yn onest gan fod bywyd yn brysur gyda dau fach o dan bump oed ar yr aelwyd. Ac mae’r ddau wrth eu boddau hefo llyfrau a chael stori gan Mam neu Dad. Mae yna lyfrau ym mhob ystafell yn y tŷ bron ac er bod rhywun yn baglu drostyn nhw weithiau does dim teimlad gwell pan fo un ohonyn nhw yn dod atoch hefo llyfr yn eu llaw ac eisiau eistedd ar eich glin i gael stori.

Mae Cian Harri, sy’n 5 wrth ei fodd ar y funud gyda llyfrau Julia Donaldson fel Y Gryffalo, Plentyn Y Gryffalo, Stick Man,  a The Snail And the Whale ohonynt wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg felly rydym yn eu darllen yn y ddwy iaith. Ac un o’i hoff lyfrau erioed yw’r Ych-a-feiliaid, cyfiiethiad doniol iawn Tudur Dylan Jones o lyfr Sam Lloyd.

512yocugdpl-_sx258_bo1204203200_

Dw i hefyd yn mwynhau darllen straeon i blant ar odl – mae’r rhythm yn helpu i symud y stori yn ei blaen ac yn helpu plant i ddysgu geiriau newydd yn fy marn i ac i odli! Mae Lois Rhodd, sy’n flwydd a hanner, hefo crysh mawr ar Jac y Jwc dwi’n amau ac wrth ei bodd hefo straeon newydd Sali Mali a “Wc yr Wc”!

9781845120030_z

 

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

 Mae gwaith Alex Scheffler yn apelio yn sicr.

axel-scheffler

Mae yna hiwmor annwyl yn perthyn i’w waith yn y ffordd mae’n gallu gwneud i fwystfilod sydd i fod i ymddangos yn frawychus, fel Y Gryffalo, edrych yn hoffus.

 

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Cystadlu mewn Eisteddfodau! Dwi’n cofio ennill tlws y Prif Lenor yn Eisteddfod Bentref Penisarwaun am y tro cyntaf a finnau’n rhyw 9 oed a’r beirniad yn fy ngalw i’r llwyfan ac yn gafael yn fy llaw a sbïo i fyw fy llygaid a holi, “wnei di addo un peth i mi, wnei di barhau i ysgrifennu.” Mae’n sicr yn rhoi hwb i chi – fe wnaeth hynny i rywun swil fel fi yn bendant – un a fyddai’n cochi ar ddim – ac yn rhoi’r hyder yna i chi gario ymlaen. Ac mi rydach chi wastad yn gallu cuddio tu ôl i ffugenw drwy gystadlu mewn Eisteddfod, oedd yn apelio! Fe fues yn ffodus i ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddarach a gwobrau llenyddol mewn Eisteddfodau eraill wedi hynny, a dw i’n grediniol na fydden ni wedi cael yr hyder i gyhoeddi llyfr oni bai i mi gael yr hwb hynny o gystadlu mewn Eisteddfodau, yn ogystal â’r anogaeth ar yr aelwyd.

urdd-02

 

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Rhoi’r atalnod llawn olaf ar ddiwedd y drafft cyntaf! Dydi sgwennu ddim yn dod yn hawdd i mi o gwbl. Mae golchi llestri, ll’nau, smwddio …. unrhyw beth yn haws na thrio gwagio eich pen i’r dudalen wag yna ar y sgrin wrth geisio sgwennu rhywbeth o’r newydd. Mae’n broses hir a phoenus yn fy mhrofiad i! Ond be dw i wir yn ei fwynhau ydi cael mynd yn ôl at y drafft cyntaf hwnnw a’i olygu a rhoi sglein arno. A hyd yn oed wedyn bydd yna rhai paragraffau neu frawddegau yn jario. Ond does dim i guro’r profiad pan fyddwch yn dreifio’r car neu’n gwneud rhywbeth hollol amherthnasol ac fe ddaw’r hyn ‘dach chi’n drio ei ddweud fel bollt o rywle ac mae’n rhaid i chi ruthro i’w sgwennu i lawr (fel arfer am  3 o’r gloch y bore!) Ond yn rhyfedd iawn mae hynny yn rhoi gwefr i mi!

 Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Y nofel ddiwetha’ i mi ei chyhoeddi oedd Y Bws Hud ac O.M.B sy’n rhan o Gyfres Clec gan Wasg Carreg Gwalch.

9781845275723

Dwy stori fer i blant 6+ sydd yma ac mae un yn adrodd hanes merch fusneslyd o’r enw Mabli Haf sy’n mynd ar daith gofiadwy ar y Bws Hud a’r llall yn adrodd hanes y cawr clên O.M.B (neu Orig Mwyn Benfawr) sy’n trio annog pobl i fod yn fwy caredig wrth yr amgylchedd. ( * mae adolygiad o’r llyfr ar y blog hwn – rhowch y teitl yn y bocs chwilio)

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

 Does gen i ddim byd penodol ar y gweill ond mae gen i ddigon o ysbrydoliaeth hefo’r ddau fach yn porthi’r dychymyg yn ddyddiol a llond pen o syniadau yn stiwio. Dod o hyd i’r amser sy’n anodd i’w gwagio nhw ar dudalen!

Diolch Eurgain – gobeithio y cei di gyfle i sgwennu mwy cyn bo hir!

 

 

 

Holi Dewi Pws – a Rhiannon

Published Ionawr 26, 2017 by gwanas
Dewi Pws a’i wraig Rhiannon yw’r awduron diweddaraf i mi eu holi am eu hoff lyfrau yn blant. Dyma Dewi:
Popular singer and actor Dewi 'Pws' Morris
A dyma Rhiannon:
d9a30628e2a2faf78b1796d219de7e58
Dydi hi ddim yn gwisgo fel’na drwy’r amser.
A dyma rai o’u llyfrau nhw:
 6
Dwi wedi cyfeirio at rai o’r llyfrau ar y blog yma o’r blaen. Mi wnes i ddangos un o dudalennau Dewi, Dwpsi a’r Dreigiau i chi, a dyma fo eto:
image21
A dyma i chi adolygiad Gwales gan hogyn 8 oed o Dewi, Dwpsi a’r Aur:

Mae’r stori hwn am fachgen o’r enw Dewi, sydd yn mynd ar daith ysgol i fwyngloddiau aur Clogau, ger Dolgellau. Ond yn rhyfedd iawn, pan agorodd Ron Auron, y gofalwr, ddrws y mwynglawdd, doedd dim byd yn sgleinio yno. Roedd rhywun wedi dwyn yr aur!

Tybed a all Dewi ddatrys y dirgelwch? A fydd angen cymorth ei ffrindiau arbennig arno? Bydd angen i chi ddarllen y stori gyffrous hon er mwyn darganfod yr atebion. Rwyf yn wyth oed, ac fe ddarllenais y llyfr yn gymharol hwylus ar fy mhen fy hun. Roedd y clawr yn atyniadol, a’r lluniau lliwgar ar bob tudalen yn ei wneud yn fwy diddorol. Fe fwynheais y stori’n fawr iawn a byddwn wrth fy modd yn cael darllen mwy o lyfrau Dewi a Dwpsi, cyn fy mod yn rhy hen!

Gwern Prysor Davies

Ond mae Dewi wedi sgwennu bob math o lyfrau eraill – rhai digri, gwirion, boncyrs yn aml…!

 

A llyfr o gerddi doniol i blant:

getimg-2

A dyma i chi ddarn o un adolygiad gafodd Wps!:

Nid cerddi parchus y byddai rhiant am glywed ei blentyn yn eu hadrodd sydd yma, ond eto mae yma fyd anturus, dyrys a lliwgar. Mae’r cerddi yn mynd â phlentyn i fyd chwareus a direidus, byd lle mae Superman yn methu mynd i’r lle chwech a byd lle mae Tylwyth Teg y To yn gyfrifol am bopeth drwg y mae rhieni’n tueddu i ddwrdio’u plant amdano.
Sarah Down

Ac os dach chi dros tua… ym… 14? ( Dibynnu pa mor aeddfed/anaeddfed ydach chi) Dyma ei hunangofiant o, Theleri Thwp:

getimg-3

Y llyfr cynta erioed i mi ei olygu a deud y gwir. Lyn Ebeneser, ffrind Dewi ( mae gynno fo lot o ffrindiau) oedd yn gwneud y sgwennu, a Dewi jest yn ateb ei gwestiynau o – ond y broblem efo Dewi ydi nad oes gynno fo gof gwych iawn a doedd o ddim yn gallu cofio llawer! Bosib mai dyna pam fod ei atebion o i fy nghwestiynau am lyfrau ei blentyndod fymryn yn fyr…! Neu mae’r ddau jest mor hurt o brysur yn eu cartref newydd yn Nefyn – neu Forfa Nefyn, dwi byth yn siwr pa un. Dwi ddim wedi bod yno eto. Mi fydd raid i mi fynd rwan, yn bydd?!

Iawn, barod am atebion Dewi a Rhiannon? Mae’r ddau wedi ateb fel un. Dyma chi:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?                                                                          Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

 

Straeon Awr Hamdden (Dal i ddarllen nhw!)
9780715403952-us-300
 Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg  
Oxford Book of Welsh Verse (Cymraeg)
41fjbcmsdbl-_sy344_bo1204203200_
a Lord of the Rings J.R.R Tolkien
lotr
a  Catch 22 gan yr Americanwr Joseph Heller yn Saesneg.

61k33tu1cal

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?  

Ail edrych ar Lyfr Mawr y Plant a storïau T. LLew

225px-llyfr_mawr_y_plantimages

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

eric-heyman-wesite-pic

Eric Heyman – Ffrind personol ac artist talentog o Gaerdydd. Lluniau yn llawn hwyl a lliw. Fo ddaru arlunio Dewi a Dwpsi x 2 a hefyd Wps!

 

  • Nodyn gan Bethan: Roedd o’n ddyn tân am flynyddoedd cyn mentro i fyd dylunio llyfrau plant. A dyma fwy o’i luniau o, yn cynnwys llyfrau Catherine Aran – fi olygodd rheina hefyd, ac ro’n i wedi GWIRIONI efo lluniau Eric!

ericheymanpirates

c2mnz2tviaawh9q

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Sgwrsio yn y camper van wrth drafeilio ar y cyfandir ar ein gwyliau.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Codi gwên – a bod yn annisgwyl a gwahanol.

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dau gyfieithiad o storïau plant – Rwdolff a Môr Leidr mewn Pyjamas.

12106276_202054063464147_1479137498_n

Gwell gen i fod yn wreiddiol ond mae plant i weld wrth ei bodd gyda’r ddau lyfr – yn enwedig Rudolff yn torri gwynt!

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Cyfieithiad arall o lyfr i blant am fywyd ar y fferm

_80005019_dewipws

Diolch yn fawr Dewi a Rhiannon! xx

Hoff Lyfrau Gareth William Jones

Published Rhagfyr 30, 2016 by gwanas

Nabod rhai o’r llyfrau yma? Llyfrau yng nghyfres Mewnwr a Maswr ar gyfer plant 9-13 oed. Straeon bywiog am bâr o efeilliaid sydd wrth eu bodd yn chwarae rygbi ydyn nhw. Gareth William Jones o  Bow Street ger Aberystwyth sgwennodd bob un.

 

majorca_2008_033_-_copy

Fo sgwennodd rhain hefyd:

A Gareth ydi’r awdur diweddara i rannu ei hoff lyfrau efo ni. Hen bryd cael dyn yndoedd? Ond nefi, mae ‘na brinder dynion sy’n sgwennu ar gyfer plant a’r arddegau ar hyn o bryd. Mi wnai flogio am hynna eto…

Yn ôl at Gareth: cafodd ei eni  a’i fagu  yn Nyffryn Ogwen. Yn Ysgol Penybryn ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ym Methesda y cafodd ei addysgu ac yno y magwyd ei ddiddordeb mewn storiau, drama a pherfformio. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ble astudiodd Cymraeg a Drama a fo oedd y cyntaf yng Nghymru  i ennill gradd B.Ed. mewn drama drwy gyfrwng y Gymraeg.04a3209bb51606d6a7259de72e2b66d9425f59d3

Ar ôl dysgu Drama yn Ysgol Gyfun Sandfields ac ysgol Uwchradd Tregaron, bu’n drefnydd gweithgareddau diwylliannol i Llyfrgell Dyfed ac yn Swyddog Celfyddydau mewn addysg  i Gyngor Sir Dyfed cyn symud i ddarlithio yng Ngholeg y Drindod.

Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn mwynhau ysgrifennu nofelau i blant a chwarae golff.

Mae na fwy o luniau a gwybodaeth amdano fan hyn ( cliciwch ar y linc): http://www.llyfrauplant.org/AA_GarethWilliamJones.pdf

A dyma ei atebion i fy nghwestiynau i:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Roedd fy Mam yn credu’n gryf bod rhaid i ni’r plant allu darllen cyn ein bod yn cychwyn yn yr ysgol yn bump oed. Felly, y cof cyntaf sydd gen i o lyfrau yw’r llyfr Awn am Dro i’r Fferm. Llyfr arall oedd Y Llyfr Coch sef addasiad o waith E.R. Boyce.

c0bba1591a9a2f87b152e391cfe57294bed19fd1

Roedd Llyfr Mawr y Plant yn bwysig hefyd wrth gwrs yn enwedig gan fod yr awduron yn byw ym Methesda. Fy hoff lyfr pan oeddwn i’n oed cynradd oedd llyfr o’r enw Dyddiau Ysgol gan J.M.Edwards

9781274943569-uk-300

sef detholiad o waith Daniel Owen. Mi ddarllenais i hwnnw drosodd a throsodd yn enwedig y bennod am Wil Bryan yn trwsio’r cloc.

Fy hoff lyfr Saesneg oedd The Boy on the Boat Train gan Dorothy Rice.

74941

Ac mi roeddwn i’n hoff iawn o Robinson Crusoe gan Daniel Defoe hefyd.

d6f2ef8bcfecfb1a8947b62ba42912b7

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Nid oedd fawr o lyfrau plant ar gael pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd ac felly roedd rhaid troi at lyfrau fel William Jones, Chwalfa ac O law i Law. Sy’n swnio’n ofnadwy o henaidd ond dyna oedd y sefyllfa. Roeddech chi’n darllen beth oedd ar gael!

 

Pan oeddwn i yn Blwyddyn tri (Blwyddyn 9 heddiw!) rydw i’n cofio gofyn i’r athro Cymraeg W.J.Davies os alllwn i fenthyg Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard o’r cwpwrdd yn yr Ystafell Gymraeg. Ai ateb oedd : “Dydw i ddim yn credu y dylai plentyn eich oedran chi ddarllen Un Nos Ola Leuad”. Dyna’r cymelliad gorau ges i erioed i ddarllen llyfr!

41ktywmh1fl-_sy344_bo1204203200_

Y llyfr Saesneg wnes i fwynhau pan yn yr ysgol uwchradd oedd The Lost World gan Conan Doyle.

lostworld_a_std

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Mae gen i bump o wyrion, yr ieuengaf yn ddwy a’r hynaf yn un ar ddeg. Felly, rydwi i’n ddarllenwr brwd o lyfrau plant! Yn enwedig llyfrau plant bach. Y dydd o’r blaen a hithau’n wyntog awgrymodd un o’r wyrion mai Strempan oedd yn gyfrifol!

0862431271

Mae Cyfres Rwdlan yn un o drysorau Cymru. Mae’r sefyllfa o ran yr oedran cynradd yn fy nhristau. Mae lle pwysig i addasiadau o ieithoedd eraill ond yn fy marn i mae’r strategaeth o ganolbwyntio ar addasu llyfrau o un iaith yn unig yn enwedig gan fod y darllenwyr ieuainc yn gallu darllen yr iaith honno yn un beryglus iawn.

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Mae Jenny Williams yn bwysig iawn i mi gan mai hi ddyluniodd fy nofel Caru Nodyn.

220px-caru_nodyn_llyfr

( a llyfr wnes i ei addasu- Blaiddi! Bethan)

6

Mae Elgan Griffiths yn berson hyfryd iawn i weithio hefo fo hefyd.

I mi, y cawr yn y maes hwn ydi Jac Jones

jac-jones

oherwydd ei arddull cwbl unigryw a’i gyfraniad aruthrol i lyfrau plant ar hyd y  blynyddoedd.  0189289af01767c62eecd0e55f5828d508e227e1

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Cael beirniadaeth galonogol gan un mae gen i barch mawr iddi sef Siân Lewis yn Eisteddfod Meifod 2005. Roedd hi wedi hoffi fy nofel Caru Nodyn a rhoddodd wobr iddi.

220px-caru_nodyn_llyfr

(Nofel i blant 9-11. Disgrifiad Gwales: Mae rhywbeth rhyfedd iawn ac annisgwyl yn digwydd i Shauna Owen – rhywbeth mor anhygoel nes bod pawb yn yr ysgol yn synnu a rhyfeddu. Mae ei rhieni a Mrs Jenkins, y brifathrawes, yn syfrdan ac mae hyd yn oed y doctoriaid yn crafu eu pennau. Y cyfan oherwydd gwers biano nad oedd Shauna eisiau mynd iddi, a chath fach ddu a gwyn o’r enw Nodyn.)

Adolygiad Gwales

Dydy Shauna Owen ddim yn hoffi gwersi piano, ond mae ei mam yn mynnu bod yn rhaid iddi fynd. Un dydd Mawrth arbennig, mae Shauna’n cofio’n sydyn am ei gwers. Ond pan mae’n cyrraedd tŷ’r athrawes, Madam Maria Daniel Davies, mae’n cael sioc ofnadwy! Mae ei hathrawes biano wedi marw! Pwy fydd yn gofalu yn awr am Nodyn, y gath fach ddu a gwyn? Mae Nodyn yn edrych fel cath fach gyffredin, ond mae’n llwyddo i newid bywyd Shauna, gan synnu a rhyfeddu pawb o’i hamgylch!

Dyma stori gyffrous sy’n llawn dychymyg am gath fach annwyl iawn. Bydd yn siŵr o apelio at bawb, p’un ai a ydynt yn mwynhau gwersi piano neu beidio!

Erin Gruffydd

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Mae sgwennu yn gallu bod yn broses anodd a rhwystredig iawn i mi ac mae cwblhau’r gwaith yn ryddhad.

garethw-cyflwyno_breuddwyd_monti

Mae’n debyg bod y mwynhad yn dwad pan yw rhywun yn cael ei werthfarwogi! Yn enwedig pan daw llythyr oddi wrth blentyn.

boywritingletter

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant. 

Mae arna’i ofn mai Breuddwyd Monti oedd y nofel ddiwethaf i mi ei chyhoeddi. A hynny yn 2010!

220px-breuddwyd_monti_llyfr

Nofel i blant 9-11+

Adolygiad Gwales
Dyma lyfr arbennig o dda a gafaelgar gan Gareth William Jones yn sôn am fachgen ifanc o’r enw Marc Montgomery. Mae ef a’i deulu wedi gorfod symud i fyw i ardal newydd, ac i dŷ diolwg sy’n llawer llai moethus na’u hen gartref. Ond er nad oedd y tŷ na’r ardd anniben yn ddymunol, ochr arall i’r wal roedd yna gwrs golff anferth. Edrychai’r golffwyr i gyd fel petaent yn mwynhau eu hunain yn fawr iawn, felly penderfynodd Marc y byddai yntau’n hoffi troi ei law at y gêm. Yn yr ysgol newydd gwnaeth lawer o ffrindiau, gan gynnwys Tomos a Steffan, a dyna lle cafodd Marc y llysenw Monti, ar ôl y golffiwr enwog Colin Montgomery. Ond mae pethau’n mynd o chwith iddo yn yr ysgol, a chwarae golff yw ei unig wir ddyhead.

A all wireddu ei freuddwyd? Neu a yw ei fam yn mynd i’w rwystro rhag creu mwy o helynt? Mae’r atebion oll yn y nofel gyffrous hon!

Ifan Llywelyn

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Mae gen i ddau brosiect personol ar y gweill ond mae’n dra anhebygol y gwel y naill neu’r llall olau dydd. Yr unig bleser fydd rhannu fy ngwaith â’r wyrion a derbyn eu beirniadaeth!

 

Diolch, Gareth. Efallai y bydd y blog yma’n dy ysbrydoli i sgwennu mwy ar gyfer plant eto rwan!

.

 

 

Hoff Lyfrau Haf Llewelyn

Published Rhagfyr 9, 2016 by gwanas

Mae Haf Llewelyn o Lanuwchllyn yn awdures ac yn fardd sydd â blynyddoedd o brofiad fel athrawes gynradd – a mam, felly mae hi’n gwybod yn iawn sut i fachu dychymyg plant.

Dyma rai o’i llyfrau hi:

Gyda llaw, mae hi’n cyfadde bod Stwffia Dy Ffon Hoci yn cynnwys cryn dipyn o’i theimladau hi pan oedd hi’n ferch ysgol yn Ysgol Ardudwy, Harlech!

A dyma hi’n ennill Gwobr Tir na n-Og 2014 am Diffodd y Sêr i ddisgyblion uwchradd:

5032-18370-file-eng-haf-llewelyn-300-247

9781847716972

Hi ydi’r diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am y llyfrau sydd wedi ei hysbrydoli hi dros y blynyddoedd.

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Pan yn fach iawn dwi’n cofio eistedd ar fraich y gadair yn cael stori Sion Blewyn Coch gan fy nhad, a mwynhau yn ofnadwy.

c0bba1591a9a2f87b152e391cfe57294bed19fd1

Roedd yna greigiau tu ôl i’n tŷ ni, ac yno roedd Sion Blewyn Coch yn byw yn fy nychymyg i. Felly roedd Llyfr Mawr y Plant yn ffefryn.

225px-llyfr_mawr_y_plant

Roeddwn i hefyd yn hoffi unrhyw beth oedd yn ymwneud efo tylwyth teg a chorrachod, a dwi’n cofio darllen llyfr o’r enw Pwt a Moi, gan Elizabeth Watkin Jones, storiau am ddau gorrach bach direidus.

elizabeth_watkin-jones

Wedyn pan oeddwn i’n saith oed mi ges i lyfr o straeon tylwyth teg gan Sion Corn, mi wnes i ddarllen hwn am flwyddyn gron! Mae o’n dal gen i – un o fy nhrysorau. Dyma fo – The Giant All Colour Book of Fairy Tales – OMB am fwynhad.

61ycvan-hql-_sy344_bo1204203200_

Wedi i mi gael llond bol ar dylwyth teg, mi wnes i ddod o hyd i awduron rhamantaidd dechrau’r ugeinfed ganrif. Clasuron mae’n debyg, ond redden nhw’n llyfrau rhyfedd i rhywun o gefn gwlad Cymru i’w darllen rhywsut, a does gen i ddim syniad sut y ces i fy nghyflwyno iddyn nhw. Awduron o America a Chanada oedd nifer ohonyn nhw– pethau fel – Anne of Green Gables gan L. Montgomery,

annegreengables24

Little Women gan L. M. Alcott, The Adventures of Tom Sawyer gan Mark Twain a Heidi gan yr awdures o’r Swistir, Johanna Spyri. Roedd Black Beauty, gan Anna Sewell hefyd yn ffefryn.

005889

Hefyd wrth gwrs llyfrau Enid Blyton, ac er fod y cymeriadau o fydysawd hollol ddieithr i mi, roeddwn i wrth fy modd yn dianc i’w anturiaethau nhw.

Yna dwi’n cofio hefyd gwirioni ar nofelau fel Luned Bengoch a Lois gan Elizabeth Watkin Jones,

c09999636887293596f79706741434f414f4141

ond doedd yna ddim digon ohonyn nhw i ddiwallu rhywun oedd yn bwyta llyfrau, fel Ceridwen y wrach!

Erbyn cyrraedd yr ysgol uwchradd roedd cylchgronau fel Jackie

latest

yn haws eu darllen rhywsut, ond yna dechrau mwynhau nofelau epic fel Far From The Madding Crowd, Hardy, a dwi yn cofio dechrau Lord of The Rings, ond wnes i ddim ei orffen nes i mi gyrraedd y Coleg!

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Ydw, dydw i ddim yn teimlo mod i wedi stopio darllen llyfrau plant rhywsut, oherwydd mi wnes i gael y plant yn ifanc. Roeddwn i’n darllen llyfrau iddyn nhw – dwi’n dal i gofio Rhigymau Jac y Jwc (Mary Vaughan Jones) air am air.

51vg-02nsul-_sx370_bo1204203200_

Mae Rwdlan yr un oed â fy merch hynaf ac mae’r plant wedi eu magu ar lyfrau Angharad Tomos – gan gynnwys y clasur, Sothach a Sglyfath.

0862432960

Dwi’n gwneud llawer o waith efo athrawon ac yn argymell nifer o lyfrau dwi’n teimlo sy’n rhai gwych am sawl rheswm – rhai o’r goreuon yn bendant ydi Cerwyn y Corrach, Gerallt Lloyd Owen,

getimg

Y Dywysoges Sach Datws (addasiad Iwan Llwyd) a Y Goeden Gofio, Britta Teckentrup (addasiad Ceri Wyn Jones).

Ar gyfer yr arddegau dwi wrth fy modd efo’r nofel/cerdd hir The Weight of Water, gan Sarah Crossan

9781408823002 – nofel sy’n adrodd hanes merch ifanc o wlad Pwyl yn gorfod symud i Loegr efo’i mam i chwilio am ei thad. Mae’n trafod y syniad o wreiddiau, perthyn a hiraeth.

Hefyd nofel ddifyr ac annisgwyl arall i’r arddegau ydi The Lie Tree gan Francis Hardinge.

9781447264101the-lie-tree

Yn Gymraeg, does dim curo ar y nofel ddychrynllyd Anji, gan Gareth F. Williams, mi ddylai hon fod ar silff pob oedolyn ifanc, neu’n hytrach o dan ei drwyn/thrwyn.

41s52hsimil-_ac_us160_

 

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wrth fy modd efo dyluniadau bach syml Jac Jones yn llyfrau Mary Lloyd Jones,

51idwplzsrl-_sx371_bo1204203200_

sali-mali

mae Jac y Jwc a Jini yn glasuron. Hefyd darluniau Angharad Tomos, sydd hefyd yn syml ond annwyl iawn.

0862431158

Dwi hefyd yn hoff o ddarluniau Valeriane Leblond, a hi sydd wedi darlunio cyfres Ned y Morwr, mae’r cymeriadau yn gesys go iawn ganddi.

9781784612214

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dim syniad! Dwi ddim yn cofio dechrau, na chyfnod nad oeddwn i’n sgwennu rhywbeth, mi rydw i wedi bod yn sgwennu o hyd, boed hynny yn gerddi, straeon bychan ar gyfer fy ngwaith pan oeddwn yn athrawes, dramau, sgetshys, neu dim ond rhestrau o bethau i’w cofio.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n ffendio’r broses yn un od ond difyr iawn – un munud mae yna gymeriad yn fy mhen i, ac yna unwaith dwi’n dechrau sgwennu mae’r cymeriad yn dod yn fyw, ac mae o’n gwneud pethau, yn dweud pethau, yn mwynhau weithiau, yn brifo dro arall, ond mae o yno go iawn, fel rhywun o gig a gwaed. Wel, mae o i mi beth bynnag. Y gamp ydi perswadio’r darllenydd ei fod o’n gymeriad go iawn fel rwyt ti’n ei weld o.

Y peth gorau un ydi pan mae pobl yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau dy waith di, ac yn trafod y cymeriadau efo ti, ac yn holi beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ar ol i’r stori ddod i ben. Mae hynny yn rhoi ‘wmff’ go iawn i rhywun!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Breuddwyd Sion ap Rhys ydi’r nofel ddiwethaf i mi ei sgwennu ar gyfer plant.

51btwfpfmxl-_sy344_bo1204203200_

Mae hi wedi ei gosod yn Oes y Tuduriaid, pan roedd pobl yn credu fod gwrachod yn gallu rheibio, a phan oedd môr ladron yn cael rhwydd hynt i ddwyn oddi ar longau Sbaen. Mae Sion ac Wmffra yn ddau frawd ac yn gorfod byw efo eu ewyrth wedi i’w mam cael ei charcharu ar gyhuddiad o fod yn wrach. Mi wnes i sgwennu hon ar gyfer plant Ysgol Ffridd y Llyn, pan oeddwn i’n dysgu yno am gyfnod. Roedd yn rhaid i mi gael pennod newydd pob wythnos – roedd yn ffordd wych o sgwennu, oherwydd roedd yn rhaid gorffen pob pennod ar chydig o ‘cliff hanger’, ac mi fyddai’r plant yn gofyn bob bore Iau pan oeddwn i yno – ‘Wel, oes ganddoch chi bennod arall?’

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dwi wrthi’n addasu Diffodd Y Sêr i’r Saesneg ar hyn o bryd, sef hanes Hedd Wyn. Hefyd mae gen i stori fechan am ddreigiau yn dod allan cyn bo hir fel rhan o gyfres Roli Poli, Gomer. Wedyn mae gen i gyfres o lyfrau ffeithiol angen eu paratoi – rhai ar gyfer plant 3-5 oed – dipyn o waith crafu pen, oherwydd dwi angen cyflwyno ffeithiau difyr ond mewn ffordd syml iawn. Hwyl a sbri!

Diolch, Haf – a dyma lu ohoni efo Mai, un o’i chwiorydd.

mai

Ac efo fi!

12308832_1045041728889732_7283874342608752868_n_2