Llyfr lliwio

All posts tagged Llyfr lliwio

Published Gorffennaf 18, 2020 by gwanas

Enillwyr

Llongyfarchiadau mawr i enillwyr cystadleuaeth lliwio Cadi a drefnwyd nôl ym mis Ebrill/Mai. Dyma nhw efo’u gwobrau:

110151944_3305852402808642_1424924346968874154_o

Ec9wOGLWoAIKxRO

109685057_3121251261328161_8756929704494300106_n

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r lliwio a’r posau!

GWRANDO AR STORI

Sian James_400

Chwilio am stori i blant 5 i 10 oed? Mae Siân James yn darllen un o straeon Na, Nel! gan Meleri Wyn James, diolch i Menter Maldwyn – linc isod!

youtu.be/lsZzXjPKb7k

Sialens Ddarllen yr Haf

giraffe-ebdfffc5be749823067c2f18c923fdef51d63310dd799016bb50cce0e658ae29

Os dach chi wedi ei neud o o’r blaen, mi fyddwch chi’n gwybod be i’w ddisgwyl, ond os ydi’r Sialens Ddarllen yn newydd i chi – rhowch gynnig arni!

Y bwriad ydi cael plant 4 – 11 oed i ddarllen 6 llyfr dros wyliau’r haf – llyfrau Cymraeg a Saesneg.

Thema’r Sialens eleni ydi ‘Sgwad Gwirion’ a bydd yn dathlu llyfrau llawn hwyl a chwerthin, a’r peth ‘gwirion’ cynta fyddwch chi’n neud ydi dewis pa fath o greadur od/hurt fyddwch chi isio bod – a pha enw. Swnio fel hwyl!

bear-b24fb3beef0db7f7b6ddfef6cb32de06200cfec25a39fcb20382ffeea5d95b6e

Mae’r wefan am ddim ac yn cynnwys fideos, gemau, cwisiau a gweithgareddau digidol. Mwy o wybodaeth a chyfle i gofrestru fan hyn:

https://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/home-zone-src

Ewch i wefan eich llyfrgell leol er mwyn gweld a defnyddio deunyddiau ac adnoddau darllen plant, sy’n cynnwys e-lyfrau, llyfrau llafar a chomics, y cwbl am ddim!

MAE LLYFRGELLOEDD YN WYCH!

Llyfr Lliwio Cadi

Published Gorffennaf 13, 2020 by gwanas

Dyyyh… wnes i anghofio sôn bod Llyfr Lliwio Cadi yn y siopau rŵan. Jest y peth ar gyfer diwrnod gwlyb, glawog fel heddiw.

Dyma’r clawr:

IMG_1672

A dyma’r cefn:

IMG_1707

A dyma syniad i chi o be sy tu mewn, pob un yn A4 gyda llaw:

Dwi wedi sgwennu chydig o frawddegau i fynd efo’r lluniau, ond yr arlunydd Janet Samuel sydd wedi gwneud y gwaith mwya, sef paratoi 23 o luniau i’w lliwio, a gwneud ambell bos hefyd, fel chwilio am wahaniaethau rhwng dau lun ac ati. Mi fues i wrthi am oes yn chwilio!

Mae Llyfr Lliwio Cadi ar gael nawr/rŵan (£4.99, Y Lolfa), ac yn werth bob ceiniog!

Lliwio a gwrando

Published Ebrill 2, 2020 by gwanas

Cystadleuaeth lliwio Cadi:

Mae Janet Samuel, Meinir Y Lolfa a finnau wrthi’n gweithio ar lyfr lliwio Cadi, sy’n cynnwys lluniau o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres hyd yma. Dyma’r llun fydd ar y clawr:

CADI POSTER A4 FRONT COVER BLEED copy

A deud y gwir, mae’r lluniau a’r posau i gyd yn barod (diolch, Janet!) a dwi wedi sgwennu brawddegau ar gyfer pob llun. Meinir sy’n goruwchwylio a golygu’r cwbl o’i chartref. Ond does ‘na neb yn y Lolfa i argraffu ac ati am sbel, nag oes! Felly yn y cyfamser, mi gafodd Gwenllian, y ferch greadigol sy’n gwneud gwaith marchnata Y Lolfa, y syniad gwych o gynnal cystadleuaeth lliwio.

EUbvKQvXsAAUmtq

Mi allwch chi weld a lawrlwytho’r daflen i’w lliwio fan hyn: https://rebrand.ly/Cadi

Mae gynnoch chi fis i liwio! Dyddiad cau: 30 Ebrill 2020

Ond cofiwch, os nad oes gynnoch chi argraffwr, mi allwch chi gopïo’r llun neu greu eich dehongliad eich hun, dim problem. Pob lwc! Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael gweld eich lliwiau llachar chi.

PROLOG MERCH Y GWYLLT

Dwi’n sgwennu ar gyfer oedolion hefyd wrth gwrs, ac ar gyfer oedolion YN UNIG mae Merch y Gwyllt sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn yr haf… ryw dro… rhyw sut.

Merch y Gwyllt f2

Gwasg Gomer sydd yng ngofal y nofel honno, ac mae eu Mr Marchnata nhw, Sam, yn llawn syniadau creadigol hefyd. Roedd o am i mi ddarllen fersiwn sain o’r Prolog, sydd ddim yn hir o gwbl, ond diolch byth, mi wnaeth actores go iawn sy’n ffan o Gwrach y Gwyllt gynnig ei chymorth: Fflur Medi Owen:

66760796_10157043061605239_2245877805403340800_o60687759_10161525970390618_4548100264560689152_o

Ia, hi! Un o’n hactoresau gorau ni. Ers dechrau’n ifanc iawn efo Rownd a Rownd (dyna sut ddois i i’w nabod hi gynta) mae hi wedi gwneud llwyth o bethau: Pili Pala yn ddiweddar, Blodau, Y Tad, a wna i byth anghofio ei pherfformiad fel Iesu Grist yn Iesu! drama Aled Jones Williams.

Wel, mae ganddi’r llais perffaith ar gyfer llyfrau hefyd. Dwi wedi gwirioni efo’i pherfformiad. Ro’n i’n bownsio rownd y tŷ ar ôl gwrando arno!

A dyma sut mae Nici Beech wedi ei ddisgrifio:

Trît amser te!
Dyma prolog Merch y Gwyllt – dilyniant i Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas sydd i fod i ddod allan mis Mehefin.
Perffaith efo panad…6 munud a hanner o hyd ac yn cael ei ddarllen gan yr hyfryd Fflur Medi Ferch Rhiannon

Felly, os oes gynnoch chi 6.5 munud i’w sbario/llenwi, ac yn enwedig os oes gynnoch chi nam ar eich golwg, cliciwch ar hwn:

https://amam.cymru/GwasgGomerPress

Mwynhewch!

free-audio-books-e1472412645291

A sôn am lyfrau sain, mae @BorrowBox ar gael o’ch llyfrgell am ddim, er eu bod wedi cau. Mae ‘na e-lyfrau llafar ac e-lyfrau Cymraeg arno, ar gyfer plant ac oedolion. Yn ôl Bethan M Hughes (sy’n gweithio yn y maes):

Y cwbl sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho’r ap, creu cyfrif hefo’ch cerdyn llyfrgell, ac awê! Mae modd ymaelodi arlein trwy wefan eich llyfrgell/cyngor. Yn yr ap chwiliwch dan ‘categori’ am y rhai Cymraeg.

Pob hwyl ar y gwrando – a’r lliwio!