llyfr i blant 3-7 oed

All posts tagged llyfr i blant 3-7 oed

Ynyr yr Ysbryd a’r Dylwythen Deg

Published Ebrill 11, 2022 by gwanas

Mae’n anodd adolygu llyfr gan rywun sy’n ffrind i chi, a dwi’n nabod Rhian Cadwaladr ers y coleg, ac wedi gweld ei merch Leri, yr arlunydd, yn datblygu ei sgiliau dros y blynyddoedd, felly os dach chi isio credu mai dim ond bod yn glên efo ffrind ydw i, iawn. Gewch chi feddwl hynny. Ond mi wnes i wir fwynhau darllen hon a dwi’n meddwl y bydd plant 3-7 oed yn ei mwynhau hefyd.

Efallai na fydd plant bach wedi sylwi eto bod sanau yn mynnu mynd ar goll, ond mi fydd yr oedolion sy’n darllen efo/iddyn nhw yn bendant wedi gwneud! Felly mi fydd y stori’n plesio ar draws y cenedlaethau.

Stori arall am Ynyr yr ysbryd bach hynod annwyl ydi hi:

Ia, mam arall sy’n rhy brysur i chwarae efo’i phlentyn DRWY’R amser, ac mae’n anodd i ysbryd bach wneud ffrindiau:

Difyr ydi’r dewis o froga yn hytrach na llyffant a’r gair ‘bolaheulo’ – gair deheuol ydi bola, ond mae bolaheulo yn air mor dda, dipyn gwell na ‘torheulo’ yn fy marn i, mi ddylai gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio dros Gymru gyfan, ac efo plant bach mae dechrau ynde.

Beth bynnag, mae Ynyr yn trio gwneud ffrindiau efo nifer o greaduriaid eraill, ond unai dydyn nhw ddim yn gallu ei weld o neu ei ofn o. Mae o’n dechrau teimlo’n drist, nes iddo fo gyfarfod Pip y dylwythen deg sy’n gallu ei weld o!

Ond dydi hi ddim angen ffrindiau, diolch yn fawr… mae hi’n trio ei anwybyddu, achos mae hi’n dylwythen deg fach hynod o brysur – sy’n casglu sanau:

Bydd raid i chi brynu eich copi eich hun (Gwasg Carreg Gwalch £6.50) neu fenthyg o’r llyfrgell (yr awdur yn cael 9.5c) er mwyn cael gwybod be sy’n digwydd, ond mi wnai ddeud ei bod hi’n stori fach hyfryd am ddal ati, dyfalbarhau, a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chydweithio. A sanau.

Mae’r fam a’r ferch wedi cydweithio’n dda iawn unwaith eto, ac mae’r holl sanau gwahanol yn siwtio arddull Leri Tecwyn i’r dim!

Mwynhewch.

Y Cwilt

Published Tachwedd 13, 2019 by gwanas

9781784617974_300x400

Mi fyddwch chi wedi gweld darluniau Valériane Leblond o’r blaen, mewn llyfrau (rhai Caryl Lewis, Elin Meek a Haf Llewelyn er enghraifft), ar gardiau a chalendrau ac ati. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Ond y tro yma, a hynny am y tro cyntaf erioed, hi sy’n gyfrifol am y geiriau hefyd.

Stori hyfryd, dawel a chynnil am ymfudo a hiraeth ydi hi. Mae teulu bychan yn gadael Cymru a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America. Mae’r fam yn creu cwilt cyn gadael, ac mae’r cwilt hwnnw’n dod â chysur mawr pan mae hiraeth yn codi ar y daith ac wedi cyrraedd byd a bywyd newydd, diarth. Dyma i chi flas o’r dechrau:

20191113_165121.jpg

A dyma’r fam yn gweithio ar y cwilt. Mae’r defnydd o liwiau a phatrymau yn glyfar iawn drwy’r llyfr:

20191113_165204

Sbiwch ar y ffordd mae patrymau’r cwilt yn troi’n wenoliaid. Ac mi welwn ni wenoliaid fwy nag unwaith. A’r lliwiau hyn hefyd. Mae ‘na elfen o farddoniaeth yn y darluniau, yn bendant!

20191113_165231

Be am y geiriau? Dyma fwy i chi:

20191113_165416

20191113_165308

20191113_165358

Ia, cynnil, syml a phwyllog. Bydd rhieni a modrybedd/teidiau/neiniau ac ati wrth eu bodd yn darllen hon yn uchel i blant ifanc 3+ a bydd plant sy’n gallu darllen drostyn nhw eu hunain yn ei mwynhau hefyd. Dwi’n eitha siŵr y byddan nhw’n mwynhau sylwi ar yr ail-adrodd o liwiau a delweddau hefyd.

“Mae gen i ddiddordeb mewn cwiltiau a gwaith clytwaith ers fy arddegau, pan wnaeth fy mam gwilt i mi,” meddai Valériane, ac ers symud o Ffrainc i Gymru, mae hi wedi peintio a darllen llawer am y grefft gwiltio Gymreig, “sy’n hollol unigryw.” Mae’n mynnu ei fod yn llawer mwy na chrefft, “mae’n gelf haniaethol gain!” Mae’r gyfrol hyfryd hon yn hynod gain hefyd – llongyfarchiadau, Valériane! Mi wnaiff anrheg Nadolig gwych. Mae’n glawr caled ac yn fargen am £5.99 (Y Lolfa).