Hywel James

All posts tagged Hywel James

Hywel James – Prif Lyfrgellydd Gwynedd

Published Mehefin 16, 2017 by gwanas

Dwi wedi cael sawl ‘bos’ yn fy nydd; rhai yn dda, rhai ddim cystal, ond y gorau o bell ffordd oedd Hywel James, Prif Lyfrgellydd Gwynedd. Fo ydi’r boi efo’r sbectol:

IMG_7736

Doedd o ddim yn fos go iawn arna i, mwy o… wel, reolwr llinell am wn i. Gweithio yn Llyfrgell Caernarfon

2903599_ad9be80d

fel Hyrwyddwr Llenyddiaeth yng Ngwynedd o’n i, ac roedd Hywel yn un o ddau neu dri oedd yn cadw golwg ar fy ngwaith i, yn cynnig gair o gyngor, yn rhannu syniadau ac ati. Roedd o’n aelod o’r panel roddodd y swydd i mi yn y lle cynta.

Roedd o wastad isio sôn am ryw lyfr newydd neu syniad am sut i ddenu mwy o ddarllenwyr i’r llyfrgelloedd, neu drefnu rhyw daith lenyddol neu’i gilydd. Roedd ei gariad at lyfrau yn amlwg ac yn heintus, ac roedd o ar dân i godi proffil llyfrau Cymraeg.

Ambell fore, byddai nofel ar fy nesg gyda nodyn gael Hywel yn dweud rhywbeth fel “Dwi’n meddwl y gwnei di fwynhau hon.” Ac roedd o’n iawn bob tro! Dyna i chi arwydd o lyfrgellydd da, llyfrgellydd sy’n gallu dewis llyfr i siwtio’r person.

Dyma i chi un llyfr dwi’n ei gofio ar fy nesg:

Blackberry_Wine_by_Joanne_Harris

Ond mae Hywel yn ymddeol. Ar ôl 36 mlynedd o wasanaethu cenedlaethau o ddarllenwyr, mae o’n rhoi’r gorau iddi ganol mis nesa’. Argol, mi fydd na golled ar ei ôl.

Dach chi’n gweld, mewn pwyllgorau, mae gan Hywel ffordd hyfryd o fynegi ei safbwynt a dadlau o blaid yr hyn mae o’n gredu:

74mae o’n ei wneud o mor dawel a diymhongar ond eto mor gryf a chadarn, ei eiriau o ydi’r rhai sy’n aros yn y cof. Mi fyddai rhywun fel Trump yn gallu dysgu cryn dipyn ganddo fo. Ond o ddifri, heb Hywel, fyddai’n llyfrgelloedd ni ddim hanner cystal a fyddai eu hanner nhw ddim wedi parhau ar agor cyhyd.

TeMB-tHL_400x400

Oes, mae ’na rai wedi cau yn ddiweddar, ond does neb yn gallu gneud gwyrthiau heb gyllid! Wel, nid y dyddiau yma.

Un o Gaergybi ydi Hywel yn wreiddiol, ac roedd o’n gwybod ers dyddiau’r ysgol gynradd mai llyfrgellydd oedd o am fod.

imagesRoedd o’n caru darllen ac roedd o eisiau gallu helpu eraill i flasu hud llyfrau ac ehangu eu gorwelion hefyd. Pan gafodd swydd bob dydd Sadwrn yn Llyfrgell Caergybi yn 1973, dyna fo, roedd y penderfyniad mewn concrit. Gweithio ym myd llyfrau amdani.

Man with glasses reading a book

Mi ddechreuodd fel Llyfrgellydd Plant i Arfon, Dwyfor ac Aberconwy i’r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1981, a chael ei benodi i’w swydd bresennol fel Prif Lyfrgellydd  Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd nôl yn 1996. Mae o wedi bod ar gantamil o bwyllgorau gwahanol yn ymwneud â llyfrau neu lenyddiaeth o ryw fath ers hynny, nifer yn ymwneud â chydweithio gydag asiantaethau eraill (rhywbeth sy’n bwysig iawn iddo fo) a fis Mai eleni, mi enillodd Wobr Cyflawniad Oes gan y gymdeithas llyfrgellwyr proffesiynol. Nid ar chwarae bach mae ennill gwobr o’r fath! A dyna ydi’r stori y tu ôl i’r llun yma:

IMG_7736

Mae geiriau Bethan M. Hughes o Gyngor Dinbych yn rhoi syniad i chi am ei ddylanwad o:

rA_0ZkvE

“Dwi’n cofio trafodaeth mewn cyfarfod o brif lyfrgellwyr y gogledd sawl blwyddyn yn ôl am doriadau i wasanaethau a sut byddai hyn yn effeithio ar bobl mwy bregus mewn cymunedau gwledig. Roedd Hywel yn teimlo’r pethau i’r byw ac roedd gwrando arno yn dadlau yn ei ffordd dawel a chadarn, wedi creu argraff fythgofiadwy arnai. Nid dim ond swydd ydi llyfrgellyddiaeth i Hywel ond galwedigaeth. – a bydd hi’n chwith hebddo yn arwain ac annog.

Mae o’n angerddol am werth llyfrgelloedd a llyfrau i bobl, ac yn arbennig am hawl y rhai sydd ag anghenion ychwanegol i dderbyn gwasanaeth cydradd ac o safon uchel. Oherwydd hyn, er enghraifft, roedd yn allweddol wrth sicrhau fod llyfrau llafar a phrint bras Cymraeg ar gael trwy pob llyfrgell yng Nghymru. Mae o hefyd yn credu’n gryf mewn cydweithio a’r cryfder a dycnwch ddaw yn ei sgil.”

8572962829_b167a2a1d5

Os nad oeddech chi’n gwybod, mae ’na fersiynau llafar ar CD ar gael o nifer fawr o nofelau cyfoes Cymraeg drwy eich llyfrgell leol. Jest y peth os ydi’ch golwg chi’n dechrau dirywio neu os liciech chi wrando ar lyfr wrth deithio yn y car neu’r lori. Maen nhw wedi bod ar gael i’r deillion ers tro, ond roedd Hywel ar dân i sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Mae gan lyfrgellwyr Gwynedd feddwl y byd ohono fo hefyd. Mae Nia Gruffydd wedi bod yn gweithio efo fo ers blynyddoedd ac yn siarad ar ran y staff yng Nghaernarfon:

“Allai neb ohonom fod wedi cael gwell rheolwr llinell na Hywel. Nid yn unig oherwydd ei waith trylwyr, gofalus ac arloesol yn rheoli’r Gwasanaethau Llyfrgell yng Ngwynedd dros y blynyddoedd, ond oherwydd ei gyfeillgarwch a’i gefnogaeth i bawb ohonom, ar adegau da ac adegau anodd. Dyma’r pethau creiddiol sy’n nodweddu Hywel, ei gefnogaeth ddiysgog i bob un ohonom sy’n cydweithio gydag o, a’i gred waelodol mewn gwerth llyfrgelloedd, llyfrau a darllen. Rydym yn falch iawn o gael dweud mai Hywel fu’n ein harwain dros y blynyddoedd.”

A dyma lun o Nia efo Jamie Richardson sy’n gyrru llyfrgell symudol ‘Lori Ni’ o gwmpas ysgolion Gwynedd.

Jamie-Richardon-a-Nia-Gruffydd-300x243

Dwi’m yn gwybod be mae Hywel am ei wneud ar ôl ymddeol. Darllen, mae hynny’n sicr, a garddio mwy hefyd, mae’n siŵr.

20246134-farmer-with-pruner-in-garden-vector-illustration

Ond be bynnag fydd yn llenwi ei ddyddiau o hyn ymlaen, dwi’n dymuno’r gorau iddo fo. Mi fydd colled mawr ar ei ôl.

Mi wnes i ofyn chydig o gwestiynau iddo fo am lyfrau:

Hoff lyfr yn blentyn?

Straeon T. Llew Jones gydiodd fy nychymyg ifanc – Y Ffordd Beryglus yn arbennig.

yfforddberyglus_mawrCefais y profiad arbennig pan oeddwn yn Llyfrgellydd Plant o dywys T. Llew o gwmpas ysgolion Gwynedd sawl tro, cofiaf fwynhau ei gwmni difyr a’r cyfle i weld ‘brenin y cyfarwydd’ yn dal sylw dosbarth o blant fel gwyfyn i gannwyll. Roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno awduron i blant – cefais y fraint a’r pleser o gael dod i nabod enillwyr gwobr Tir naNog fel Angharad Tomos, Emily Huws, Mair Wynn Hughes a Gareth F.

ab6e18713197704aa3469e4495e13ee755bd44c2garethfwilliams  Mae ein dyled fel llyfrgellwyr i awduron yn enfawr – awduron plant yn arbennig – hebddynt hwy fyddai llyfrgelloedd yn bodoli!

 

2. Oes ‘na lyfr penodol wnaeth i ti fod isio bod yn llyfrgellydd?

Dyna gwestiwn da! Yn y cyfnod pan oeddwn yn dewis gyrfa roeddwn yn hoff iawn o waith George Orwell a’i nofel 1984 yn sefyll allan:

500_1984comparison

Yn y byd erchyll mae’n darlunio yn y nofel mae ‘gwirionedd’ yn cael ei reoli a’i wyrdroi gan y rhai sy’n llywodraethu. Mae’n siwr bod hynny wedi gwneud argraff ddofn arnaf a’n cred fod angen canolfan cymunedol fel llyfrgell sydd yn cynnig mynediad diduedd at wybodaeth a hynny yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb. Wrth gwrs mae mwynhau darllen llyfr da yn cyflyrru rhywun i’w rannu gydag eraill ac mae llyfrgell yn gyfrwng gwych i rannu llenyddiaeth o bob math.

 

3. Y llyfr y byddet ti’n ei achub pe tae’r ty yn mynd ar dân.

Byddwn yn achub y gyfrol ysgrifennodd fy nhad am hanes ein teulu, roddodd gymaint o foddhad iddo ei gyhoeddi ar liwt ei hun yn dilyn blynyddoedd o ymchwil gyda chymorth fy mam. Cynorthwyais gydag ambell gwestiwn gododd yn ystod yr ymchwilio a nododd fy nhad ei ddiolch wrth gyflwyno copi i mi wedi ei arwyddo ganddo. Mae ambell i drywydd sydd angen ei ddilyn ymhellach – dyna un o’r tasgau y byddaf yn ceisio eu cyflawni yn ystod fy ymddeoliad.

 

4. Oes sgen ti hoff ‘genre’?

Na – stori dda sydd yn bwysig pob tro, rwyf wedi ceisio darllen yn eang pob genre ffuglen – er wrth fynd hŷn rwy’n ffafrio mwy ar ddarllen llyfrau ffeithiol. Rwy’n hoff iawn o farddoniaeth ac mae cyfrol wrth erchwyn fy ngwely bob amser, ac wrth geisio ymdopi â phrofedigaeth yn ddiweddar, roedd cerddi Cymraeg a Saesneg yn gysur mawr – rwy’n rhyfeddu yn aml at ddawn bardd i grynhoi teimladau mor gelfydd mewn ychydig o frawddegau – prawf pendant o’r grym sydd mewn geiriau.

 

5. Hoff awduron erbyn hyn a tithe’n ymddeol…?

Byddai ceisio enwi hoff awduron fel ceisio enwi hoff gyfeillion – amhosib! Y stori neu amgylchiadau’r darllen sydd yn bwysig ac mae’n siŵr fel sawl un arall sydd ar fin ymddeol a dechrau pennod arall yn eu bywydau, mae’n fwriad gennyf ddarllen cymaint â phosib o’r clasuron ond byddaf yn parhau i ddarllen yn eang awduron hen a newydd gan ddefnyddio fy llyfrgell gyhoeddus leol yn rheolaidd wrth gwrs!

reading-stack-books-598

Mwynha’r darllen, Hywel!

Creu Rhestr o’r Clasuron Cymreig

Published Mawrth 29, 2015 by gwanas

Mae hwn yn syniad difyr arall gan bobl glyfar y byd llyfrau – a dwi’n eitha siwr mai syniad llyfrgellydd oedd o!

Creu Rhestr o’r Clasuron Cymreig – ia, gwych, a hen bryd. Mae gynnon ni tan y 30ain o Fai i enwebu ein hoff glasuron.
Unknown-8

Sut mae gwneud hynny?
Trwy gasglu ffurflen o’ch llyfrgell neu siop lyfrau lleol. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’r ffurflen enwebu o safleoedd gwe Llyfrgelloedd Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru neu Llenyddiaeth Cymru. Ac os ydw i wedi llwyddo’n dechnegol, mi ddylech chi fedru gweld ffurflen drwy glicio fan hyn:
Ffurflen_C
Neu mi allwch chi enwebu llyfrau ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #ClasurCymreig, neu drwy ebostio eich enwebiadau a’r rheswm dros eu henwebu at tynewydd@llenyddiaethcymru.org.

Hawdd.

A be gewch chi am fynd i’r drafferth? Wel, i’r enwebiadau sy’n cynnwys yr esboniadau gorau am eu dewis, pob math o wobrau, yn cynnwys pryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru a £50.

Neis iawn.

Ond be ydi clasur? Bydd barn pawb yn wahanol mae’n siwr, a nifer yn dewis hen ffefrynnau o’u dyddiau ysgol. Un o’r rhain efallai? ( **AAA! NEWYDD WELD MAI LLYFRAU OEDOLION SYDD I FOD I GAEL EU HENWEBU, FELLY ANGHOFIWCH AM Y RHAI PLANT!)
Unknown-1Unknown-2Unknown-3Unknown-4Unknown-5Unknown-6Unknown-7images-2Unknown-10

Os ydach chi’n gweld bylchau amlwg yn fan’na, wel rhowch wybod be ddylai fod yno drwy gymryd rhan fel uchod!
Peidiwch a gadael i bobl eraill wneud y gwaith pleidleisio a chwyno wedyn, fel y digwyddodd efo The Voice neithiwr. Ble roedd Karis?! Unknown-9

Ond yn ôl at y llyfrau:
Wedi cael rhestr sy’n plesio’r rhan fwya (mi fydd yn amhosib plesio pawb…) bydd y rhestr honno’n cael ei dosbarthu i lyfrgelloedd, siopau llyfrau a cholegau i annog pobl eraill i roi cynnig ar eu darllen nhw a’u mwynhau. Mae llawer gormod o lyfrau wedi cael eu anghofio ac yn haeddu bywyd newydd, dach chi’n gweld, a dyma’ch cyfle chi i roi’r bywyd newydd hwnnw iddyn nhw.
images-1

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Hywel James, Prif Lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd ar 01286 679463 / HywelJames@gwynedd.gov.uk