hybu darllen

All posts tagged hybu darllen

Syniad ar gyfer ysgolion?

Published Chwefror 10, 2020 by gwanas

Dyma be mae Ysgol Mundelein High School District 120, Chicago, Illinois wedi ei wneud i’r cyntedd tu allan i’r adran Saesneg.

49666932_2217606238457759_6571040035754213376_n
49584197_2217605988457784_6259866111810994176_n

Ffordd wych o wneud waliau diflas yn ddiddorol ynde? Be amdani, ysgolion Cymru? Dim ond mater o gopîo gwaith celf y llyfrau ydi o. A chydig o baent. Prosiect i’r adran gelf? Y disgyblion i ddewis pa lyfrau hoffen nhw eu gweld ar eu waliau?

Mi fyddai hwn yn un da i gychwyn… mae’n dal ar y rhestr TGAU hyd y gwn i. 😉

086243520X

Mwynhau darllen

Published Ionawr 22, 2018 by gwanas

image

Sbiwch syniad da! Llongau llyfrau yn Gymraeg?
Braf fyddai cael rhai ar lan y môr ynde? Ar gyfer oedolion hefyd, achos mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i ffordd gyfforddus o ddarllen ar draeth. Ac os dach chi wedi llosgi eich traed neu eich coesau, mae’r rhain yn ddelfrydol!

Ac i rieni sy jest methu dallt pam nad yw eu plant yn hoffi darllen, dyma i chi syniad da arall. Iawn, dwi’n gwybod nad ydi hyn yn wir bob tro, ond mae’n wir yn syndod o aml:

image

A syniad twp:

image

Cuddio cloriau llyfrau?!

Gyda llaw, os dach chi’n hoffi tynnu lluniau neu’n nabod rhywun sy’n dda am neud cartwnau, mae Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc. Cliciwch ar y ddolen yma:
http://www.ylolfa.com/erthyglau/comic-mellten-yn-chwilio-am-gartwnwyr-ifanc-y-dyfodol

Hybu Darllen

Published Mawrth 23, 2017 by gwanas

C6-lMttWgAAzL57

Dyna fy mhregeth i ers blynyddoedd. Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl sy’n deud eu bod wedi trio hoffi nofelau, ond wedi methu – dynion gan amlaf, ond nid bob tro. Iawn, dan ni gyd yn wahanol ac yn mwynhau pethau gwahanol; mae rhai jest yn methu derbyn straeon dychmygol, neu o leia yn methu mwynhau straeon “sydd ddim yn wir.” Mae nifer o bobl mwy technegol eu natur yn mwynhau darllen am bethau ffeithiol – iawn – mi fydda i’n mwynhau llyfrau felly hefyd. Ond dwi wir yn meddwl bod ‘na “frân i frân yn rhywle” lle mae nofelau yn y cwestiwn. Dyna lle mae gwybodaeth llyfrgellwyr, athrawon, rhieni a darllenwyr eraill yn hollbwysig – yn enwedig yn y dyddiau cynnar, pan mae modd bachu dychymyg plant a chreu darllenwyr am oes. Dyna fy marn i o leia. Ydach chi’n cytuno? Neu oes ‘na rai pobl nad oes modd eu bachu o gwbl, byth?

A dyma daflen efo chydig o syniadau am sut i helpu eich plentyn i garu darllen:

16003034_1356127977741535_8589367748127187113_n