Herald Gymraeg

All posts tagged Herald Gymraeg

Gethin Nyth Brân

Published Tachwedd 15, 2017 by gwanas

Addasiad o fy ngholofn yn yr Herald Gymraeg (y darn Cymraeg sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ydi hwn:

colofn

Ond ro’n i am i bawb arall ei weld hefyd, felly dyma fo:

clawr

Dwi newydd orffen darllen nofel ar gyfer yr arddegau a dwi wedi gwirioni. A chan fod llyfrau plant yn cael cyn lleied o sylw ar y cyfryngau (rhai gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg o leia) dwi’n mynd i neud yn blwmin siŵr bod hon yn cael sylw!

Gareth Evans ydi enw’r awdur – a dyma ei nofel gyntaf erioed. Un o Benparcau, Aberystwyth ydi Gareth, ac os cofia i’n iawn, mi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd pan roedd o tua 16 oed. Dwi’n digwydd cofio am ei fod o’r un oed â mi, ac mi fues i ar gwrs drama efo fo yn Harlech ryw dro yn y 1970au. Digwydd cofio hefyd ei fod o, fel fi, wedi gwirioni efo ieithoedd ond mai Almaeneg oedd ei hoff iaith dramor o. Aeth o i Fanceinion i astudio’r iaith honno (a drama) yn y Brifysgol, ac ar ôl cyfnod efo Radio Cymru ac yn sgwennu cyfres ‘Dinas’ aeth i fyw dramor am ddegawd, i Sbaen a’r Almaen.

Dyma fwy o’i hanes mewn taflen Adnabod Awdur:

DMgj83EXUAEvzI8

Doedd gen i ddim syniad mai fo oedd awdur y nofel hon nes i mi weld ei lun yn Golwg. Mae o’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac wedi bod yn sgwennu’n dawel bach i Bobol y Cwm ers ugain mlynedd. Ond tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd ei blant yn eu harddegau, dechreuodd feddwl am sgwennu nofel ar gyfer eu hoedran nhw. Roedd o wedi sylwi nad oedd llawer o lyfrau Cymraeg ar eu cyfer nhw – a bechgyn yn enwedig, a dyna sut y dechreuodd chwarae efo’r syniad o sgwennu am Guto Byth Brân.

A dyma’r canlyniad. Chwip o nofel antur/hanes/ffantasi/chwaraeon! Yr hyn sydd wedi fy mhlesio i fwya ydi bod cymaint o waith wedi mynd i mewn iddi. Mae ’na lawer gormod o nofelau Cymraeg i blant (ac i bawb o ran hynny) yn brin o ôl chwys. Mae hon yn llawn dop o ymchwil i hanes ardal Pontypridd a Chwm Rhondda, Cwm Taf ac ati. Roedd ganddo ddau fap o gyfnod Guto Nyth Brân (y 1700au cynnar) ar y wal wrth ei gyfrifiadur tra’n sgwennu hon – un o blwy Llanwynno a’r llall o ddwyrain Morgannwg, felly mae enwau’r ffermydd a’r bryniau a hyd yn oed y caeau yn berffaith gywir ynddi.

32678792521_094d1ba774_b

Mae’r traddodiadau fel hel calennig, diwrnod aredig ac ati yn neidio’n fyw oddi ar y dudalen; mae o’n amlwg wedi gwneud ymchwil i mewn i’r hyn fyddai pobl yn ei fwyta a’i wisgo, heb sôn am y ffordd fydden nhw’n siarad.

Dewr iawn oedd dod â’r Wenhwyseg i mewn i nofel ar gyfer pobl ifanc heddiw, ond iechyd, mae o wedi llwyddo! Dach chi’n gweld, stori am Gethin, hogyn 13 oed o’n hoes ni heddiw ydi hi, bachgen cyffredin sy’n ceisio delio efo ysgol, bwlis, y ferch mae’n ei ffansïo, ei fam a’i ‘Gransha’ sef ei daid/dad-cu sydd ddim yn siarad Cymraeg. Ond un noson Calan Gaeaf, ac yntau wedi ei wisgo fel Hobbit, mae’n rhedeg am ei fywyd rhag y bwlis pan mae’n syrthio yn anymwybodol – ac yn deffro yn 1713. Mae pawb o’i gwmpas yn uniaith Gymraeg rŵan, ac yn siarad yn od. Yn lle ‘tad’ maen nhw’n deud ‘têd’, ‘tên’ ydi tân, ‘acor’ ydi agor ac maen nhw’n deud pethau fel ‘hi gerddws’ ac ‘fe ddringws’ yn lle ‘cerddodd’ neu ‘ddringodd’. Mae’n gweithio’n berffaith, ac ro’n i fel darllenydd yn syrthio mewn cariad efo’r iaith, yn union fel Gethin – ac fel Gareth yr awdur, yn amlwg.
Doedd Gareth ddim yn siŵr am ddefnyddio’r Wenhwyseg fel hyn, ac yn ôl yr erthygl yn Golwg ‘dwi’n dal ddim yn siŵr.’ Oedd o’n ormod i ddisgwyl i ddarllenwyr 13-15 oed ymdopi efo darllen y Wenhwyseg? Wel, yn fy marn i, nag oedd. Mae’r ddarllenwraig 55 oed yma (sydd, dwi’n cyfadde, yn dipyn o nerd ieithyddol fel Gareth) wedi mopio, o leia! Ond dwi’n 100% siŵr y bydd pobl ifanc Morgannwg yn mopio hefyd, ac mae o wedi ei wneud o mor glyfar, fydd o’n amharu dim ar fwynhad pobl ifanc (a phobl hŷn o ran hynny) o ardaloedd eraill chwaith. A phun bynnag, mae’n rhoi lliw ychwanegol i’r darnau hanesyddol.

Mae ’na elfen gref o falchder bro yn treiddio drwy’r tudalennau, a synnwn i daten na fydd yn ysgogi rhai o blant Morgannwg i ailafael yn y Wenhwyseg. Iawn, falle mod i’n ormod o ramantydd yn fanna, ond wyddoch chi byth.

Ond mae ’na fwy, llawer iawn mwy yn y nofel hon: cymeriadau cofiadwy, byw; digonedd o ddigwyddiadau cyffrous ac anturus yn y ddau gyfnod a digon o redeg a rasys (neu redegfeydd fel roedden nhw ers talwm). Difyr oedd deall bod yr awdur wedi rhedeg sawl hanner marathon ei hun, ac yn dioddef o asthma – fel Paula Radcliffe. Mae’r cyfan yn y nofel, a’r cyfan yn taro deuddeg.

1200px-Gutonythbran

Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel fel hon am ardal Pontypridd a Morgannwg. Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel am Guto Nyth Brân a’i gyfnod hefyd. Ac roedd hi’n amlwg yn hen bryd i Gareth Evans droi at ryddiaith!
Dim ond gobeithio na fydd hi’n cymryd deng mlynedd arall i Gareth sgwennu nofel arall ar gyfer pobl ifanc. Un efo rhywfaint o Almaeng neu Sbaeneg ynddi efallai – pam lai? Mae angen hybu diddordeb mewn ieithoedd tramor ymysg Cymry ifanc hefyd.

Gobeithio y caiff ‘Gethin Nyth Brân’ y derbyniad a’r clod mae hi’n ei haeddu ac y bydd pob ysgol ym Morgannwg yn prynu stoc da ohoni. A phob ysgol arall yng Nghymru o ran hynny.

Ond mi fyddai’n well gen i tasech chi’n prynu’ch copi eich hun. Dach chi’n mwynhau rhedeg? Neu nofelau ffantasi? Neu jest nofelau da yn gyffredinol – efo ôl chwys arnyn nhw? Dyma’r anrheg Nadolig perffaith felly: £5.99 Gwasg Carreg Gwalch.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

tud 1

Hoff lyfrau Angharad Tomos

Published Chwefror 8, 2017 by gwanas
ab6e18713197704aa3469e4495e13ee755bd44c2
Os nad ydach chi wedi clywed am Angharad Tomos, wel…mae’n amlwg nad ydach chi wedi clywed am Wlad y Rwla a llyfrau Rwdlan, welodd olau byd yn 1983.

Mae hi wedi sgwennu llond gwlad o lyfrau i oedolion a phlant:

ond hanesion criw Gwlad y Rwla, yn sicr ,yw’r ‘gwerthwyr gorau’. Mae brand Rwdlan fel y Star Wars Cymraeg: CDs, cardiau, teganau, llyfrau ‘sbin-off’ fel llyfrau llythrennau, llyfrau lliwio, jigsos, mygiau a chrysau T.
A tydi hi’n braf gweld nwyddau sy’n defnyddio cymeriadau Cymraeg (gafodd eu creu gan Gymraes yng Nghymru)?  Yn hytrach na’r bali mochyn pinc ‘na eto. Ffydd mewn cymeriadau a doniau Cymraeg sydd ei angen, drapia! O, ac Angharad sy’n gyfrifol am y lluniau hefyd, gyda llaw. Dim ffraeo am hawlfraint felly – call iawn, Angharad!
Ond mae ‘na lyfrau eraill i blant hŷn ganddi hefyd, fel Sothach a Sglyfath, stori ysbrydion hwyliog, llawn dychymyg ac enillydd gwobr Tir na n-Og 1994:
0862432960
Ar wefan gwales.com:
Rhoddodd George o Caerdydd i’r teitl yma ac ysgrifennodd:
“Rydw i’n meddwl bod y stori yma yn wych, wych iawn, iawn. Mae’n stori hynod wreiddiol. Mae’n stori sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, ond ddim yn rhy ofnus. Mae’n addas i blant 8-11 oed.”

a rwan mae ganddi gyfres o lyfrau ffeithiol newydd sbon i blant bach, fel y ddau yma:

 

Chydig mwy o wybodaeth amdani:

Mae ganddi bump chwaer, aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle ac mi fu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flynyddoedd.  Mae hi wedi ennill swp o wobrau am ei sgwennu, fel Coron Yr Urdd yn 1982 am Hen Fyd Hurt; ac mae hi wedi cael Y Fedal a Gwobr Tir na n-ôg ddwywaith, heb sôn am Wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad tuag at  lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae’n sgwennu colofn yn yr Herald Gymraeg (sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ers BLYNYDDOEDD. Dwi wrthi ers rhyw 15 mlynedd ond roedd Angharad yno ym mhell cyn fi. Ac mae hi’n hen law am brotestio – dyma lun ohoni’n protestio yn erbyn cau Llyfrgell Penygroes ( mae ei mab yna hefyd – sy’n hoffi gneud ffilmiau)

images

a dyma glawr ei hunangofiant:

220px-cyfres_y_cewri_23_cnonyn_aflonydd_llyfr

 

A dyma ei hatebion hi am ei hoff lyfrau plant:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg      b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Yn Gymraeg, byddai Dad yn rhoi straeon y Mabinogi i Blant inni, (Pwyll oedd enw fy nhedi i, a Pryderi oedd tedi fy chwaer!)

pwyll

Hoffwn straeon Tylwyth Teg, a straeon Elizabeth Watkin Jones yn fwy na rhai T.Llew Jones.

519mvbpqbl-_ac_us200_

Yn Saesneg – unrhyw beth gan Enid Blyton!

images

Stopiais ddarllen am gyfnod yn fy arddegau, (ar wahân i’r llyfrau roedd yn rhaid i mi eu darllen yn yr ysgol) a wedyn yn syth i ddeunydd Islwyn Ffowc Elis a gwirioni.

islwynffowcellis

Yn Saesneg, Wuthering Heights i Lefel O, ac roedd hynny yn agoriad llygad. Bronte  i mi bob tro, yn hytrach nac Austen.

 

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Darllen mwy o rai i’r plant fenga, ond wrth i’r mab fynd yn hŷn, cefais agoriad llygad fod llawer o ddeunydd i bobl ifanc, a Manon Steffan yw fy ffefryn.

3540-16182-file-eng-manon-steffan-ros-281-400

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Quentin Blake – am ei steil unigryw sy’n dal hanfod cymeriad.

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Wrth fy modd efo’r weithred o sgwennu – mae llun ohonof tua saith efo pensil a phapur.

image

Heb deledu, roedd yn rhaid i ni’n pump ddiddanu ein hunain, a thynnu llun (yn fwy na sgwennu stori) oedd fy hoff bleser. Roedd y dasg ‘llun a stori’ bob bore yn yr ysgol gynradd yn fy mhlesio yn iawn!

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Trio a thrio am wythnosau i roi ffurf ar syniad, a mwya sydyn – o rywle – mae’n dod. Unwaith dach chi wedi cael ‘y llais’, rydych chi wedi torri trwodd, ac mi ddaw yn llawer haws. Ond 90% o’r amser, gwaith caled a chadw trwyn ar y maen ydi o!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Wel, ddaru’r olaf nesh i  (un am wrthwynebydd cydwybodol) i bobl ifanc ddim gweithio, felly rydw i wedi rhoi honno o’r neilltu. ‘Paent’ oedd yr un ddwytha i’w chyhoeddi ac roedd honno yn dod o brofiad personol. Dewisais ymgyrch arwyddion Cymdeithas yr Iaith fel testun, ond gan fod cychwyn honno run pryd â’r Arwisgo (1969), fe’i gosodais yn y cyfnod hwnnw. Ro’n i’n blentyn fy hun yn y cyfnod hwnnw, felly doedd dim cymaint o waith ymchwilio. Ond roedd cymaint o faterion yn codi – brenhiniaeth, gweithredu di-drais, pwysau ffrindiau, ond yn fwy na dim, pwysau ysgol uwchradd i gyd-ymffurfio.Layout 1

 Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Nofel i bobl ifanc am hawliau merched.

  • Neges gan Bethan- Edrych mlaen, Angharad!

angharadtomos

 

 

 

Lluniau o ddarllenwyr da

Published Gorffennaf 16, 2014 by gwanas

Dyma i chi ddau lun dwi’n eu hoffi yn arw. Ciw o bobl sydd isio darllen/prynu fy llyfrau i!
Nid yn aml fydda i’n cael ciw.

imageimage

Ond y criw oedd yn rownd derfynol, genedlaethol Darllen Dros Gymru oedd rhain. Dwi wedi sgwennu colofn am y diwrnod ar gyfer yr Herald Gymraeg, fydd ar werth ddydd Mercher nesa – yn y Daily Post os nad oeddech chi’n gwybod am yr Herald.

A dyma i chi lun arall o ddarllenwyr da:

image

Criw Blwyddyn 7 Ysgol y Creuddyn oedd yn cael sesiwn efo fi fel gwobr am ddarllen 5 llyfr ers mis Medi. Mi wnes i fwynhau eu cwmni nhw yn arw. A dwi’n edrych ymlaen i gael eu barn GONEST am Llwyth!

Unknown-9