Heno

All posts tagged Heno

Gwobrau Tir Na N-og 2016

Published Mehefin 2, 2016 by gwanas

Ddeudis i yndo! ‘Gwalia’ gan Llyr Titus enillodd y categori uwchradd yng Ngwobrau Tir Na N-og eleni. Llongyfarchiadau!

getimg

Dwi’n dal ddim wedi darllen y ddau arall oedd ar y rhestr fer uwchradd, ond roedd ‘na raglen ddifyr am bob llyfr ar y rhestr  ar ‘Heno’ nos Lun.

Dyma’r linc os na welsoch chi hi:

http://www.bbc.co.uk/programmes/p03vjj9y

Roedd hi’n gystadleuaeth dda, yn sicr. A llongyfarchiadau i Sian Lewis a Valériane Leblond, enillwyr y categori cynradd, am eu cyfrol ‘Pedair Cainc y Mabinogi’.

_89866838_tirnanog

Mi wnaethon nhw guro fy llyfr i a Janet Samuel: ‘Coeden Cadi’, ond roedden ni, y rhai na enillodd, â syniad golew nad oedden ni wedi ennill ers tro…os nad ydech chi wedi clywed dim erbyn rhyw wythnos cyn Steddfod yr Urdd, dyna ni, dach chi’n gwybod eich bod chi wedi colli – eto! Na, dwi’m yn ddig o gwbl – ro’n i’n amau’n gryf mai’r gyfrol hon fyddai’n mynd â hi. Mae’n un dda, yn dangos ôl gwaith mawr.

Unknown

Roedd safon y lluniau eleni yn ardderchog, ac os fyddwch chi’n prynu Golwg heddiw, mae ‘na erthygl am y 4 darlunydd oedd ar y rhestr fer:

FullSizeRender

Ac wythnos nesa, mi fydd ‘na erthygl am Gordon. Dwi’n deud dim mwy, ond mae Gordon yn dipyn o foi.

Cofiwch roi gwybod am unrhyw lyfrau Cymraeg ( gwreiddiol!) sy’n eich plesio – neu beidio.

Rhywbeth da allan ar gyfer Steddfod yr Urdd? Dwi’m wedi gallu mynd. Bw hw. Poen/arthritis/nerf femoral/dim mynedd egluro’r stori dragwyddol… mi wnai sgwennu nofel am arthritis a methu cerdded rhyw dro!

 

 

 

 

Heno heno

Published Mehefin 11, 2014 by gwanas

imageGyda llaw, mi fydda i’n gyrru lawr i Lanelli toc, am fod Heno wedi gofyn i mi fynd yno i sôn am Gwylliaid. A ddoe, mi wnaethon nhw ofyn am hunlun. A hwnna oedd o.

Ym… Wnes i ddim cyrraedd Llanelli wedi’r cwbl. Cyfuniad o amseru gwael, methu gwneud syms, traffig erchyll a theiar fflat. Ie, i gyd efo’i gilydd. Bu raid i mi droi yn ôl jest ar ôl Aberystwyth. A diolch i’r dyn clen helpodd fi efo’r peiriant gwynt teiars ym Morrisons, neu mi fyswn i’n dal yno! O leia roedd gen i lyfr ar CD i wrando arno. Brighton Rock. Da…