#Helynt

All posts tagged #Helynt

2 lyfr newydd sbon i blant bach a Llyfr y Flwyddyn

Published Gorffennaf 9, 2021 by gwanas

Pan dynnais i’r llun, ro’n i wedi meddwl sôn am y 4 llyfr yr un pryd ond mae na dipyn o waith darllen ar y 2 yn y cefn, felly llyfrau’r plant iau – Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi a Nos Da, Tanwen a Twm amdani y tro yma:

Mae Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi gen i ers tro ond dwi wedi bod fymryn yn brysur yn ddiweddar rhwng bob dim (yn cynnwys symud tŷ) felly doedd gen i jest mo’r amser i sgwennu dim, er i mi ei ddarllen o’n syth – a mwynhau’n arw.

Mae Huw Davies yr awdur yn amlwg yn hen law ar sgwennu i blant (fo sgwennodd y nofel Saesneg ‘Scrambled’ i blant uwchradd), ac mae o’n bendant yn nabod plant – a phlant sydd fymryn bach yn ddrwg. Wel, yn ddrygionus ta.

Clywodd ei wraig yn dwrdio un o’u plant un diwrnod, a daeth cymeriad direidus Ben Llestri i fodolaeth yn fuan wedyn. Mae lluniau’r arlunydd Lowri Roberts yn grêt – a sbiwch be sy ar siwmper/crys chwys Ben… pa mor hir fydd hi’n cymryd i’r darllenydd ifanc ddeall pam fod ‘na blatiau a chyllyll a ffyrc ar ei siwmper o sgwn i?

Be am y stori? Wel… un diwrnod mae Ben (Llestri) yn teimlo’n ddiflas felly mae’n penderfynu chwarae tric.

*Dyna pryd mae triciau’n cael eu chwarae gan amlaf ynde? Pan does ‘na ddim byd arall i’w neud, neu pan dydy rhywun ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth gwell i’w neud. Neu pan nad oes rhywun callach o gwmpas i ddeud wrthach chi: “Ym, be am beidio?”

Ta waeth, dyma be mae Ben yn ei neud:

A llawer mwy o bethau afiach tebyg! Wedyn, mae’n gosod y bwced ar ben y drws ac yn disgwyl…

Ac yn disgwyl…nes i fwy o bobl fynd drwy’r drws. Be sy’n mynd i ddigwydd? Bydd raid i chi brynu a darllen y llyfr i gael gwybod! (£4.99 Y Lolfa). Mi fydd yn apelio at blant bach tebyg i Ben, yn BENdant, ond bydd rhieni a modrybedd a neiniau a theidiau a phwy bynnag sy’n darllen efo’r plant yn cael hwyl efo’r llyfr yma hefyd.

Mae ‘na rywbeth yn deud wrtha i y cawn ni fwy o helyntion Ben Llestri. Edrych mlaen!

A dyma lyfr arall fydd yn plesio’r plant a’r oedolion fel ei gilydd: Nos Da, Tanwen a Twm.

Mae’n amser gwely ar Tanwen a Twm, a dan ni’n cael mynd drwy bob cam cyfarwydd (a’r seiniau) efo nhw:

A fy ffefryn i – achos dyma ro’n i’n mwynhau ei neud yn blentyn (a wastad yn gadael i’r plant ro’n i’n eu gwarchod wneud hefyd – ond peidiwch â deud wrth eu rhieni):

Ond rydan ni gyd yn gyfarwydd efo’r problemau sy’n codi jest cyn iddyn nhw setlo tydan? Teganau angenrheidiol wedi cael traed… rhywbeth brawychus o dan y gwely… y stafell yn rhy dywyll… UNRHYW BETH HEBLAW CYSGU!

Cwtsh a sws a diffodd y golau… ond ai dyna ddiwedd y diwrnod i Twm a Tanwen – a’u rhieni/nain/taid/gwarchodwyr? Go brin…

Mae unrhyw un sy’n blentyn bychan ac unrhyw un sydd wedi gorfod cael plentyn bach i fynd i’w wely yn mynd i fwynhau hon. Mae pob un yn canu cloch! A’r darllen storis cyn cysgu… ac un arall… ia ia, wedi bod ene!

Y pâr priod/rhieni Luned a Huw Aaron sydd wedi sgwennu hwn, a dwi’n eitha siŵr y bydd yn boblogaidd tu hwnt. £6.95 Gwasg Carreg Gwalch.

A sôn am Huw Aaron… mae o ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021! Llongyfarchiadau, Huw – a phawb arall sydd arni. Mae’n mynd i fod yn chwip o gystadleuaeth.

O’m rhan i, Mynd amdani ar gyfer y categori barddoniaeth, Tu ôl i’r Awyr ar gyfer y ffuglen, O.M. ar gyfer y ffeithiol a #Helynt ar gyfer y categori plant (sori, Huw!). A’r brif wobr? Hm… mae’n anodd penderfynu – ond un o’r pedwar yna… mi faswn i’n hapus tase unrhyw un o’r 4 yna’n mynd â hi. Faswn i ddim yn anhapus tase unrhyw un o’r lleill yn fuddugol chwaith, cofiwch.

Pob lwc i bawb!

Gwobrau Tir na n-Og 2021

Published Mai 24, 2021 by gwanas

Llongyfarchiadau anferthol i’r ddwy ddaeth i’r brig eleni, sef Casia Wiliam a Rebecca Roberts!

Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill y wobr, a dwi’n gwybod eu bod nhw wedi gwirioni.

Ro’n i eisoes wedi deud pa mor wych oedd y ddwy nofel yn y blog yma – rhowch y teitlau yn y bocs chwilio os am weld be’n union ddywedais i. Ond os ydach chi’n rhy ddiog, wel, ro’n i’n canmol i’r cymylau.

Ro’n i hefyd wedi deud ei bod hi’n gystadleuaeth arbennig o glos eleni, ac mae hynny’n arwydd o’r ffordd mae’r byd cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant wedi ffynnu ac aeddfedu dros y blynyddoedd dwytha ‘ma. Felly llongyfarchiadau i bawb oedd ar y rhestr fer.

Ond diolch hefyd i’r gweisg a’r golygyddion am feithrin a chomisiynu llyfrau mor dda. Mae pobl o’r diwedd yn dechrau deall pa mor wych ydi llyfrau plant, ac oedolion yn mwynhau ein nofelau Cymraeg gymaint â’r plant/ bobl ifanc.

Diolch arbennig hefyd i’r beirniaid:

O’r top chwith fel bysedd y cloc, Alun Horan, Hywel James, Morgan Dafydd a Nia Morais. Cynhyrchydd teledu ydi Alun, awdur a chynorthwyydd dysgu ydi Nia, athro cynradd (ar gyfnod sabothol yn gweithio ar ei Ph.D) a sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ydi Morgan, a Chadeirydd y panel oedd T Hywel James, sef cyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd, ac un o’r llyfr-garwyr mwya dwi’n eu nabod! Mi fues i’n gweithio efo fo am rai blynyddoedd yng Nghaernarfon pan ro’n i’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Ngwynedd – un o’r swyddi mwya difyr i mi eu cael erioed, ac iddo fo oedd llawer o’r diolch am hynny.

Os oes ‘na rywun yn gwbod ei stwff o ran llyfrau, Hywel ydi hwnnw. Dwi’n 100% siŵr ei fod o wedi bod yn Gadeirydd gwych (mae o’n dawel ond yn hynod graff a theg) a bod y lleill i gyd wedi dysgu lot ganddo fo, fel y gwnes i.

Da iawn bawb. Edrych ymlaen at wobrau 2022 yn barod!

#Helynt – nofel ar gyfer yr arddegau

Published Rhagfyr 16, 2020 by gwanas

Dwi wrth fy modd bod cymaint o nofelau da allan ar gyfer pobl ifainc rŵan. A dyma i chi un sy’n agos iawn at fy nghalon i: ‘#Helynt’, gan Rebecca Roberts o Brestatyn. Dwi’n gwybod am hon ers tro oherwydd mi ges i’r cyfle i helpu Rebecca i’w datblygu hi, diolch i wobr Ysgoloriaeth Emyr Feddyg drwy’r Steddfod. Diolch yn fawr i Dyfed Edwards am ddyfarnu’r wobr honno iddi, a diolch i Rebecca am weithio mor galed arni. Doedd hi ddim angen llawer o help mewn gwirionedd, roedd yr arddull, y stori a’r cymeriadau yn cydio o’r cychwyn. Mae’r nofel yn chwa o awyr iach oedd gwir ei angen ar y byd llyfrau, am ferch sy’n wahanol iawn i’r criw dosbarth canol arferol sydd mewn llyfrau Cymraeg. Goth o’r Rhyl!

Bu Rebecca a minnau’n cyfarfod mewn caffi yn Frongoch ger y Bala (bron hanner ffordd rhwng Rhydymain a Phrestatyn) yn rheolaidd i weithio ar y nofel (a sgwrsio a bwyta) ac roedd hi’n bleser gweld y gwaith yn datblygu. Mi wnaeth hi fy helpu i gymaint ag o’n i’n ei helpu hi, achos ro’n i wedi bod ar faglau am chwe mis ar ôl anaf i’r nerfau yn fy nghoes, ac mae gan Rebecca hogan fach sydd â dwy goes brosthetig… dyna sut i roi pethau mewn perspectif. Ro’n i wedi defnyddio fy rhwystredigaeth i sgwennu am gymeriad yn colli ei goes yn nhrioleg y Melanai, ac roedd hanes hogan fach Rebecca wedi fy ysbrydoli i wneud hynny. Dwi’n meddwl mai dyna roddodd yr hyder i Rebecca wneud Rachel, y prif gymeriad, yn amputee. A dwi mor falch.

Felly roedd pori drwy’r llyfr wedi iddo gael ei gyhoeddi yn brofiad arbennig o ddifyr i mi. Mae o fymryn yn fyrrach (syniad da bob amser) ac mae’r iaith weithiau’n teimlo’n ‘gywir’ iawn i mi, ond dwi’n cofio trafod hyn efo Rebecca. Dyna sut mae hi’n siarad Cymraeg. Pan dach chi ‘n dod o deulu di-Gymraeg a’r iaith yn un ysgol, fwy na heb, dach chi YN defnyddio geirfa gywirach na rhywun o Blaenau neu Gaernarfon, yn deud ‘creision’ yn lle ‘crips’. Mae hynny ynddo’i hun yn chwa o awyr iach. A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae Rachel yn gwirioni efo ambell air Cymraeg:

Jolihoitan – am air ffantastig. Mewn ‘ymgais i ehangu ein geirfa’, mae ein hathrawes Gymraeg yn rhoi gair newydd uwchben y bwrdd gwyn bob wythnos. Rwyt ti’n cael pwynt llys am ddefnyddio Gair yr Wythnos mewn darn o waith dosbarth neu waith cartref. Jolihoitan oedd gair yr wythnos ddiwethaf, ond roedd o’n eitha anodd ei ddefnyddio mewn traethawd am Hedd Wyn.

Oherwydd hynny, dylai pobl ifainc a hŷn sydd wedi, neu yn dysgu Cymraeg fwynhau hon yn arw. Ond oherwydd y stori a’r cymeriadau, mae Cymry Cymraeg o bob oed wedi ei mwynhau hi hefyd, ac wrth gwrs, pobl sy’n nabod y Rhyl yn fwy na neb! Bron nad ydi’r dref yn gymeriad arall ynddi, a dwi isio mynd yn ôl yno rŵan, i weld y llefydd a’r bobl sydd yn y nofel. Arwydd o lyfr sydd wedi cydio, ynde?

Bydd cymeriad y fam a Jason, y tad, yn gwneud i chi feddwl, a dwi’n rhagweld trafodaethau difyr yn y dosbarth amdanyn nhw os gaiff hon ei darllen mewn ysgolion – ac mi ddylai! Mae ‘na hen ddigon i’w drafod am y cymeriadau i gyd, deud gwir. A dwi’n caru Rachel. Mae hi’n andros o gymeriad er mod i isio ei hysgwyd hi weithiau, ond roedd gwir angen fy ysgwyd innau pan ro’n i ei hoed hi.

Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi creu taflen adnabod awdur am Rebecca:

A dyma linc i’r wefan:https://llyfrgelloedd.cymru/aotm/rebecca-roberts/

Dyma i chi dudalen gynta #Helynt i chi gael blas:

A dyma syniad i chi o sut gymeriad ydi Rachel, a’i chwaer fach, Sara:

A dwi isio dangos y ddwy dudalen hon i chi am weithdy drama, sy’n ffraeth a llawn hiwmor ( a’r hen ast, Eira) ond hefyd yn rhoi syniad i chi o agweddau dwys y nofel:

Na, dydi fy lluniau i ddim yn glir iawn – bydd raid i chi brynu eich copi eich hun yn bydd? £8.50, Gwasg Carreg Gwalch. Mae hi’n nofel onest, gyfoes a phwerus. Ond mae ‘na ddarnau fydd yn gneud i chi wenu hefyd.

Ac mae’r clawr yn berffaith.

A dyma wybodaeth yng ngeiriau Rebecca ei hun:

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Er bod y stori yn delio â themâu difrifol fel camdriniaeth ddomestig, bwlio, anabledd ac iselder, rydw i’n gobeithio bydd pobl yn teimlo fod y stori yn un gadarnhaol sydd â neges am hunanhyder, hunan-barch a charu pwy wyt ti.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Rydw i’n fam i blentyn sydd ag anabledd corfforol, felly doedd dim angen i mi wneud gwaith ymchwil gan fod gen i eisoes ddealltwriaeth eithaf unigryw o’r heriau ymarferol, yr apwyntiadau meddygol, ynghyd â’r cryfder a’r agwedd gadarnhaol sydd ei hangen i fyw bywyd llawn fel mae Rachel yn llwyddo i wneud.

Hefyd, roedd angen i mi ddeall sut brofiad oedd mynd i’r carchar. Yn ffodus, mae fy mam yn ynad yr heddwch felly roedd hi’n medru rhoi disgrifiad manwl o sut brofiad ydi ymweld â charchar, canllawiau dedfrydu ac ati.

Felly os dach chi’n chwilio am anrheg i rywun yn eu harddegau, prynwch hon. Neu os ydi pethau’n fain arnoch chi, benthycwch hi o’r llyfrgell. Mi gaiff Rebecca ryw 8.5c am bob benthyciad – os ydi hi wedi cofio cofrestru efo PLR (Public Lending Rights) – tip i bob awdur yn fan’na!

Gwefan sonamlyfra a #Helynt

Published Rhagfyr 8, 2020 by gwanas

Mi fydda i’n sgwennu am #Helynt cyn bo hir, ond yn y cyfamser, dyma adolygiad gwych o #Helynt gan Rebecca Roberts: https://www.sonamlyfra.cymru/post/helynt-rebecca-roberts

Mae ‘na lwythi o adolygiadau ar y wefan hon, AND THEY’RE BILINGUAL! Defnyddiol tu hwnt, ac wedi ei chreu gan rywun llawer mwy dawnus o ran technoleg na fi. Mae o dipyn iau na fi…

A chofiwch logio mewn er mwyn gallu gadael sylw. Mae eich sylwadau chi’n bwysig. Mae’r un peth yn wir am fy mlog innau; dwi’n gwirioni bob tro y bydd rhywun yn gadael sylw. Er gwybodaeth…

A rhag ofn eich bod yn chwilio am lyfr lliwio i’w roi fel anrheg Nadolig, cofiwch am hwn. Tydi o’n lun hyfryd?

Dwi wedi gofyn am lun o’r canlyniad…