hellboy

All posts tagged hellboy

Hellboy – nofel graffig

Published Awst 6, 2015 by gwanas

image

Dyl Mei nath argymell llyfrau ‘Hellboy’ i mi, a dyma un dwi wnes i ei fenthyg drwy’r llyfrgell ( ar gyfer mynd i’r ysbyty). Da ydi’r llyfrgell, ac un da ydi’r llyfr hefyd.
Nofel graffig ydi hi, gan Mike Mignola. Erbyn dallt, mae ‘na gyfres o ffilmiau wedi eu gneud am Hellboy hefyd.
Unknown-2
Dow, wyddwn i rioed. Ond dwi’n dallt pam y byddai’r stori a’r cymeriad yn gweithio ar sgrin. Mae ‘na glincars o linellau yma, yn ogystal â chymeriad y gallwn ni gydymdeimlo efo fo, a chydig o Nazis i wneud y stori’n gwbl wahanol.

images-6

Dwi wedi bod wrth fy modd efo nofelau graffig ers blynyddoedd, yn enwedig pan dreuliais i flwyddyn yn Ffrainc lle mae llyfrau o’r fath (bandes dessinées- neu “B.D.” yn fyr) yn cael y parch maen nhw’n ei haeddu.
Mi wirionais efo’r llyfrau yma am ddiadell wallgo o ddefaid (ar gyfer oedolion, wir yr):
images-1images-2images-3images-4images

Mae’r hiwmor yn hyfryd, ac ambell lun ddim angen cyfieithiad:
images-5

Mi fyswn i wrth fy modd yn sgwennu am ddiadell o ddefaid gwallgo ar lethrau Cader Idris… ond mae’r busnes lluniau yn un ddigon drud yn anffodus. Dyna pam fod y rhai sydd ar gael yn Gymraeg yn tueddu i fod yn gyfieithiadau.

Unknown-1images-7

A dydi’r farchnad ddim yna ar gyfer llyfrau lluniau ar gyfer oedolion. Nid yng Nghymru. Nid yn Gymraeg. Bechod. Mae llyfrau Footrot Flats am gi defaid a’i berchennog wedi bod yn ‘cult’ yn Seland Newydd:

images

Byddai hwn y cyfieithu/addasu mor hawdd i’r Gymraeg…
Unknown-4Unknown-3

Ac os oes rhywun yn mynd i’w wneud o, fi ydi honno, reit! Fel perchennog ci defaid sy’n werth y byd yn grwn images-1 (ac yn meddwl yr un peth amdana i), dwi’n mynnu mai fi ddylai ei neud o. Er mod i wedi cwyno am gyfieithu llyfrau Saesneg. Ond oes’na hawlfraint ar y syniad o gi defaid a’i b/pherchennog? Go brin. Mae Lassie’n ffitio i’r un patrwm, a Marley & Me, a Shadow The Sheepdog a llawer iawn mwy. Felly fyswn i ddim yn cyfieithu, dim ond cyfadde mai Footrot Flats nath fy ysbrydoli, a sgwennu rhywbeth cwbl wahanol.

Ar ôl gorffen y nofel Botany Bay wrth gwrs – sydd bron yna, wir yr!