Mi fyddan nhw’n cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2019 cyn bo hir, yn Eisteddfod yr Urdd, a dyma i chi deitlau’r rhestr fer Gymraeg, yn ôl y drefn gyhoeddwyd gan y Cyngor Llyfrau:
(mae’n ddrwg gen i bod na ddim mwy o luniau ond mae wordpress yn chwarae triciau yn ddiweddar – isio mwy o bres gen i, beryg!)
1. Hadau – Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Nofel anturus i’r arddegau wedi’i gosod mewn byd ôl-apocalyptaidd. Yr ail lyfr yng nghyfres YMA.
2. Cymru ar y Map – Elin Meek, Valériane Leblond (Rily)
Llyfr atlas arbennig iawn gyda darluniau godidog sy’n dangos Cymru ar ei gorau.
3. Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018.
4. Ble Mae Boc? – Huw Aaron (Y Lolfa)
Llyfr llawn hiwmor sy’n dangos golygfeydd Cymreig eiconig, a chyfle i ddod o hyd i Boc, y ddraig fach. (Llyfr oedd yn boblogaidd iawn efo’r plant yn y Steddfod Sir yn ôl be welais i – jest y peth ar gyfer aros oriau am eich tro chi i fynd ar y llwyfan)
5. Fi a Joe Allen – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Stori hyfryd am gyffro’r Ewros yn 2016 sydd gymaint mwy na stori bêl-droed.
6. Gwenwyn a Gwasgod Felen – Haf Llewelyn (Gwasg Carreg Gwalch)
Nofel lawn cyffro am bobl gyffredin Sir Feirionnydd yn codi llais yn erbyn gorthrwm a thrais.
7. Lliwiau Byd Natur – Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr llun-a-gair sy’n tywys y darllenydd ifanc drwy fyd o liwiau hardd.
Os am wybod mwy am rhain, dwi eisoes wedi adolygu’r rhan fwya ar y blog ‘ma!
Yr hyn sy’n od eleni ydi nad ydyn nhw wedi eu rhannu yn 3 cyfrol cynradd a 3 uwchradd. Mae na 7 eleni! A hyd y gwela i, mae na 4 yn y categori uwchradd, sef 2 nofel Manon Steffan, un Lleucu ac un Haf.
Hefyd, mae Llyfr Glas Nebo eisoes wedi ennill y brif wobr yn y Genedlaethol (a gwerthu miloedd o gopiau gan fod cymaint o oedolion sydd ddim fel arfer yn darllen llyfrau Cymraeg wedi gwirioni efo hi – croeso i fyd llyfrau OI – oedolion ifanc, gyfeillion!) felly onid ydi hi’n mynd i fod yn anodd i unrhyw lyfr arall ei guro? Hm. Ond mae ‘na rai da iawn yn ei herbyn hi, ac mi wnes i wirioni efo Fi a Joe Allen. Diddorol… be fydd penderfyniad y beirniaid sgwn i?
Dwi’n meddwl ei bod hi’n haws efo’r adran iau. Er cystal y ddau arall, mae gen i deimlad yn fy nŵr mai un Elin Meek aiff â hi. Ond gawn ni weld.
Pob lwc i bawb!
Gyda llaw, cliciwch ar y linc isod i weld pa mor wych ydyn nhw mewn gwledydd eraill am hyrwyddo darllen a Diwrnod y Llyfr. Da iawn, yr Iseldiroedd: