Gwyn ap Nudd

All posts tagged Gwyn ap Nudd

Seren a Sbarc a Hunllef o Anrheg

Published Tachwedd 4, 2019 by gwanas

Dwi’n berson lwcus iawn – dwi’n un o 10,000 sydd wedi derbyn hwn drwy’r post!

EFzBYXdUcAMMGtD

Dyma fwy o’r 10,000:

EFzEVJ8UEAAICFXEGSJV5BWwAAXB06

Babi Huw Aaron ac Elidir Jones ydi Seren a Sbarc, llyfr gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru. Pam? Am ei fod yn hybu dysgu a defnyddio’r Gymraeg drwy rygbi! Ieee! Syniad gwych.

Mae ‘na wefan, ond dydi o ddim yn gweithio i mi (gremlins?) ond mae’n ddigon hawdd dilyn y cyfrif twitter:@LlyfrauBroga

Dyma i chi flas o’r llyfr:
EFzA-3pWkAAG3ja

Cyfuniad o hiwmor boncyrs Huw ac Elidir yn gweithio i’r dim. Mae’n deud ar y cefn ei fod yn “Llyfr comic addas i blant 7+ ac oedolion cŵl.” Yhy. Felly dwi’n oedolyn cŵl achos dwi wedi ei fwynhau o’n arw.

Mae’r stori am yr arwyr Seren a Sbarc yn dilyn tîm rygbi Cymru i Siapan a cheisio dod o hyd i Cwpan y Bydysawd (mae rhyw grinc wedi ei ddwyn) gan orfod brwydro yn erbyn Ninjas, Robots a Robo-ninjas! Heb sôn am y Robo-anghenfil sy’n ymosod ar ddinas Tokyo.

Dyma i chi ran o ddechrau’r llyfr, ac mi wnes i biffian chwerthin efo’r llinell am y tocyn llyfr… ha!

20191104_171747

Gwnaeth hwn i mi biffian hefyd:
20191104_172039

Hiwmor oedolyn mae’n siŵr… ond mae ‘na bethau yma i apelio at hiwmor plant ac oedolion. Dwi ddim am ddifetha’r hwyl i gyd i chi, gwell i chi ei ddarllen drosoch chi’ch hun, ac os na chewch chi afael ar gopi caled, mae’r e-lyfr ar gael i’w lawrlwytho AM DDIM yma:
👉
http://bit.ly/2mp01mw

Llongyfarchiadau Huw ac Elidir – gwych!
A llongyfarchiadau hefyd i dîm Cymru am wneud mor dda yn Siapan.

A llongyfarchiadau i dîm De Affrica am ennill y cwpan! Haeddiannol iawn.

191102_ps_rugby_world_cup_final_0732_8c705a3f1cb3f012537368355532a5f4.fit-760w

Llyfr arall, cwbl wahanol sydd newydd ei gyhoeddi ydi hwn:

9781785623165

Mae lluniau Graham Howells yn wych, sbiwch:

20191029_10104920191029_102945

Ac mae o’n arbennig o dda am wneud angenfilod!

20191029_103026

Dilyniant i Y Bwbach Bach Unig

Graham-Howells-Y_Bwbach_Bach

ydi hwn, ond does dim angen bod wedi darllen hwnnw er mwyn mwynhau hwn. Ac ia, fi sydd wedi addasu hwn, ac ydi, mae cymeriad Aled yn ddeheuol (gan mai yn ne-orllewin Cymru mae’r cyfan yn digwydd) ond gog ydi’r Bwbach. Felly dwi’n gobeithio y bydd yn apelio at blant dros Gymru.

20191029_103157

Mi wnes i weithio’n galed i symleiddio’r arddull, ond gawn ni weld be fydd eich barn chi!

Pam mod i wedi cytuno i’w addasu, a finna’n tantro cymaint yn erbyn gormod o addasiadau? Oherwydd mai llyfr o Gymru, gan Gymro ydi hwn! Ac mae llyfrau gwreiddiol o Gymru angen sylw. Felly nyyyy!

Os dach chi isio gwybod mwy am gymeriadau o fyd y tylwyth teg yng Nghymru, mae ‘na wrach o’r enw Ceridwen yma, a’r Ladi Wen, Gwyn ap Nudd – Y Brenin Gwyrdd, Mallt y Nos, Yr Hwch Ddu, Cŵn Annwn – maen nhw i gyd yma! A gwers am fwlis a bwlio… llyfr bach hyfryd yn fy marn i. Llongyfarchiadau, Graham Howells!

graham-howells-22afd642-4c2c-4111-bcc0-7895b3bac39-resize-750