Gwylliaid

All posts tagged Gwylliaid

Gwobrau Tir na n-Og 2019

Published Mai 30, 2019 by gwanas

61828734_2180286615426017_4690271425884323840_o

Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo?

Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.

Penderfyniad gwych gan y beirniaid, a dwi’n gwybod bod Manon yn falch iawn bod yr hen Joe wedi curo Llyfr Glas Nebo. Difyr fydd gweld pa lyfr fydd yn ennill LLyfr y Flwyddyn rŵan ynde… pob lwc, feirniaid!

Llongyfarchiadau hefyd i’r 18 criw (ia, 18!) lwyddodd i gyrraedd Eisteddfod Caerdydd efo’u hymgomau BL 7,8,9, sef detholiad o fy llyfr i, Gwylliaid:

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Ond llongyfarchiadau mwy i’r 3 gyrhaeddodd llwyfan y Brifwyl, o Ynys Môn, Plas Mawr (Caerdydd) a Chaernarfon.

Criw dawnus a hollol boncyrs o Gaernarfon enillodd y wobr gyntaf:

D70XPiGXsAEA_pw

Ac ro’n i’n cytuno’n llwyr efo’r beirniaid – roedden nhw i gyd yn ardderchog, ond roedd y Cofis wedi creu detholiad clyfar iawn, ac wedi actio’n gwbl wych. Ro’n i’n eitha nerfus cyn gwylio’r gystadleuaeth – be os na fyddai fy llyfr i’n ‘gweithio’ fel ymgom ar lwyfan? Ond diolch i’r nefoedd, ro’n i’n hynod falch o’r canlyniad.

O, a dwi wedi deall mai meibion y gwleidydd Guto Bebb ydi’r ddau hogyn oedd yn actio’r ‘gwylliaid’. Nefi!

Advertisements

Llyfr ffeithiol da tua 8/10 oed +

Published Mawrth 31, 2019 by gwanas

Un Saesneg, sori, ond nefi, mae o’n un da:

91-q+feNiwL

Mi wnes i archebu copi drwy’r llyfrgell yn sgil ei weld ar y silff ‘ffefrynnau’ yn y blogiad dwytha. Synnu dim ei fod wedi ennill ‘Best Book With Facts Blue Peter Book Award 2017.’ Mi ddylai apelio at unrhyw un o unrhyw oed sy’n mwynhau darllen, ond yn sicr y plant hynny sy’n well ganddyn nhw ffeithiau na ffuglen. Ond mae’r straeon go iawn yma’n ddeunydd nofel, bob un! Mae ambell un wedi ei droi’n ffilm eisoes.

Hanesion pobl sydd wedi goroesi rhyw berygl ofnadwy ydyn nhw, o straeon weddol gyfarwydd fel hanes Shackleton yn yr Antartig yn 1914 a’r dringwr dorrodd ei fraich ei hun i ffwrdd efo cyllell boced wedi i graig syrthio arni yng Ngholorado yn 2003 (cefndir y ffilm 127 hours), i ugeiniau o straeon nad oeddwn i erioed wedi eu clywed o’r blaen:

Fel y ferch 17 oed lwyddodd i oroesi am 10 diwrnod mewn jyngl yn Peru – a dianc hefyd – wedi i bawb ond hi gael eu lladd mewn damwain awyren.

20190330_153123

A be am hwn:

20190330_153205

Meddyliwch orfod gwneud llawdriniaeth arnoch chi’ch hun – heb anaesthetig, achos roedd angen bod â meddwl chlir wrth gwrs. Mae ‘na bobl anhygoel yn y byd yma.

Mae lluniau Kerry Hyndman yn hyfryd fel y gwelwch chi, a dawn geiriau David Long yn dod â phob stori’n fyw. Chwip o lyfr.

Ac os ydach chi’n poeni mod i’n dynn yn benthyca o’r llyfrgell yn hytrach na phrynu copi: ylwch, mae fy nhŷ i’n gwegian fel mae hi, ac mae pob awdur yn derbyn 8.52 ceiniog bob tro y bydd un o’u llyfrau yn cael ei fenthyca, ac mae angen cefnogi llyfrgelloedd yn ogystal â siopau llyfrau. Felly Nyyyy.

Dwi newydd gael manylion benthyciadau fy llyfrau i llynedd: diddorol! Pa lyfrau oedd fwya poblogaidd?

51AhUxNtalL._SX330_BO1,204,203,200_

I Botany Bay – wedi ei fenthyca 848 o weithiau eleni (1339 y flwyddyn cynt!), wedyn Cadi Dan y Dŵr – 644; Blodwen Jones a’r Aderyn prin – 603, Coeden Cadi – 481, Gwylliaid – 375.

Ac i bawb sydd wedi mynd drwadd i Gaerdydd efo’r ymgom Bl 7,8,9 (detholiad o Gwylliaid) yn yr Urdd – pob lwc!

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Ysgol Maesincla

Published Mai 22, 2017 by gwanas

Dyma i chi lun o griw Bl 5 Ysgol Maesincla, Caernarfon – a dwi yn eu canol nhw!

Bethan Gwanas

Mi ges i awr o siarad am lyfrau a darllen a sgwennu efo nhw, a nefi, roedd ‘na chwerthin! Roedden nhw’n griw gwych, arbennig o hwyliog, a wnaethon nhw ddim dal dig am fy mod i’n hwyr… ro’n i wedi mynd i Ysgol yr Hendre ( dyyyh) ac wedyn wedi mynd ar goll yn trio dod o hyd i’r ysgol gywir ynghanol strydoedd Maesincla. Na, dydi Caernarfon ddim yn fawr – ond mae’n fwy nag o’n i wedi sylweddoli!

IMG_0195

Dim syniad be dwi’n ei ddeud fan hyn. Rhywbeth am Gwylliaid yn ôl clawr y llyfr yn fy llaw.

51l62jze4CL

Ond dwi’n meddwl mai Pen Dafad oedd yn apelio at yr hogia…

Dwi’n mynd yn ôl yno fis Medi – a dwi’n addo bod yno’n GYNNAR!

Ysgol Pennant

Published Rhagfyr 7, 2016 by gwanas

image

Y pethau mae awdur yn ei wneud i hyrwyddo llyfrau…

Mae’r llyfr dan sylw yn y gornel ar y dde.

Ac os dach chi methu gweld yn iawn:

image

Roedd plant Ysgol Pennant, Penybont Fawr ym Mhowys yn mwynhau’r llyfr am ei fod wedi ei osod yn eu rhan nhw o’r byd – neu’n weddol agos o leia.

datarfcsdfnz0lfprhsm0ublxdzhdrdfhtmhhn1u-gmo072mc7bftkhclaglrfuwqrkk9xjyk0yr-fe2tufslmcpbf7bq1lldhfzw0wdcfzwi_uexebj5th8sjfqoszoc4hpdmyv59svta

Doedd neb wedi ei orffen eto felly maen nhw wedi addo fy ebostio i ddeud be roedden nhw’n ei feddwl o fy niweddglo i. Rhan hollbwysig o unrhyw lyfr!

Mi fuon nhw’n fy holi’n dwll am fy sgwennu a fy nheithiau

– cymaint o gwestiynau roedd hi bron yn amhosib dod â’r sgwrs i ben! Ew, mi wnes i fwynhau fy hun efo nhw. Mae ymweliadau ysgol yn bwysig i awduron yn ogystal â’r plant!

 

A’r ateb i’r cwestiwn – pwy yw fy hoff awduron llyfrau plant? Dyma i chi gliwiau:

 

Ac yn y blog nesa, mi gewch wybod be oedd hoff lyfrau’r awdures Haf Llewelyn, rwan a phan oedd  hi’n blentyn. Jest blog bach sydyn ydi hwn – mae gen i waith sgwennu MAWR i’w wneud heddiw cyn teithio i Sir Benfro i siarad efo llwyth o ddynion yn eu hoed a’u hamser – ia, am lyfrau!

 

Gwyl llên plant Caerdydd

Published Mawrth 24, 2016 by gwanas

Ymddiheuriadau am fod mor dawel ers deufis. Mae hi wedi bod fel ffair yma. Trio talu biliau ar ôl yr anaf i’r goes a methu gyrru am 6 mis…!

Ond dwi’n ôl wrth y llyw rwan ac yn gallu mynd i ysgolion eto. Mi wnes i fwynhau Diwrnod y Llyfr yn arw, pan es i ar ras i dair ysgol yn Sir Feirionnydd, a dyma i chi rai lluniau o Ysgol Bro Tryweryn:

image2image1

Ia, dwi’n gwybod – am olwg! Un o’r Gwylliaid ro’n i i fod…

image1 Nel

Nel Angharad ydi hon, merch fach ym mlwyddyn 4 wedi cael ei hysbrydoli  gymaint yn ôl ei hathrawes, mi ddarllenodd Cer i Grafu a Pen Dafad yn syth wedi i mi fod yno! Da’r hogan…

Dwi’n falch o ddeud bod gwerthiant 2 o fy llyfrau diweddaraf i wedi bod yn dda iawn:

photo GG

Chyffd a deud y lleia! A bosib y bydd cyfrol arall o anturiaethau Cadi yn ymddangos gyda hyn… mi wnai adael i chi wybod.

Mi fydda i’n siarad am Coeden Cadi yng Ngwyl Llên Plant Caerdydd ar Ebrill 23, ynghanol llu o awduron eraill o bedwar ban. Dyma’r poster:

photogwyl

 

A dyma’r wefan efo’r holl wybodaeth:

http://www.cardiff-events.com/gwyl-llen-plant-caerdydd

Ac i ffans Jacqueline Wilson, mi fydd hi yno yr un diwrnod â fi!

Unknown-1

Ella gai baned efo hi…

Mi wnes i holi dau o’r awduron Cymraeg eraill ar gyfer Golwg ac mi fydd yr erthygl yn ymddangos ymhen wythnos neu ddwy.

Unknown-3Unknown-2

Dwi ddim wedi cael unrhyw lyfrau plant newydd drwy’r post yn ddiweddar – cael eu cadw at Steddod yr Urdd siwr o fod! Ydach chi wedi darllen rhai da yn ddiweddar? Rhowch wybod.

Ond llyfr Saesneg ar gyfer oedolion ( a’r arddegau h^yn ddeudwn i) wnes i ei fwynhau yn ddiweddar ydi hwn:

photoML

Nofel hyfryd, gwahanol a ‘quirky’ ar gyfer unrhyw un sy’n caru llyfrau.

A dyma un o’r hunangofiannau Cymraeg mwya difyr i mi ei ddarllen eto, un yr actor John Pierce Jones:

getimg.php

Gwerth ei ddarllen, yn bendant.

Ond os am rywbeth byrrach, mi wnes i fwynhau hwn hefyd:

getimg-1.php Iawn, mi wnes i ddigwydd sgwennu un o’r darnau, ond mi ges i flas mawr ar y gweddill, yn enwedig rhai Manon Steffan Ros a Tony Bianchi. Difyr!

 

 

Llyfrau i wneud i chi chwerthin

Published Mawrth 12, 2015 by gwanas

Dyna’r dasg ro’n i wedi ei gosod i ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 Ysgol Bro Cinmeirch, lle dwi’n Gyfaill Darllen: dod o hyd i, darllen a rhannu llyfrau oedd yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Roedd ‘na lawer o rai Saesneg wrth gwrs, a nifer fawr o Henri Helynts, Tudur Budurs ac ati, ond addasiadau ydi’r rheiny, drapia!
Doedd neb wedi dod o hyd i lyfr Cymraeg, wedi ei sgwennu gan awdur Cymraeg, oedd wedi gwneud iddyn nhw chwerthin?
Oedd, diolch byth!
photo1

Hwre am Yr Wmp o Blwmp! A Llongyfarchiadau i’r awdures, Dwynwen Lloyd Llywelyn! Dyma i chi’r adolygiad ar wefan gwales.com :

Adolygiad Gwales
Ond dyw hi’n braf cael llyfrau gwreiddiol Cymraeg? Mae yna groeso mawr, felly, i gyfres Lolipop gan Gomer. Dyma stori gan awdures newydd – Dwynwen Lloyd Llywelyn – ond un sydd â phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr ac y mae dawn Dwynwen i ysgrfennu deialog yn amlwg yn y gyfrol hon.

Hanes efeilliaid a geir yn y stori hon, efeilliaid tawel iawn ar ddechrau’r gyfrol ond os oes rhywun yn achosi iddynt siarad – wel, yr Wmp o Blwmp yw hwnnw. Dyma greadur glas, blewog a chrwn a ddarganfuwyd yn ystafell wely Defi a Dewi. Ers iddo gyrraedd, mae popeth rywsut yn llwyddo. Mae’r efeilliaid yn siarad, ac yn fwy na hynny mae’r ddau yn llwyddo i roi taw ar fwli mawr Blwyddyn 6 a’i antics. Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, a phob canmoliaeth hefyd i Helen Flook am y lluniau.

Dyma lyfr addas i’w ddarllen i unrhyw blentyn ond fe fydden ni’n tybio ei fod yn bennaf addas ar gyfer oed darllen Blynyddoedd 2 a 3. Edrychwn ymlaen at straeon eraill yn y gyfres Lolipop.

Sarah Down-Roberts

Iawn, felly prynwch o (£4.99) neu ei fenthyg o’r llyfrgell. Wedyn bydd yr awdures yn cael rhywfaint o £ fydd yn ei galluogi a’i hysbrydoli i sgwennu mwy o lyfrau gwreiddiol, Cymraeg i wneud i chi chwerthin. Dydi David Walliams ddim yn brin o bres, felly mi allwch chi fenthyca llyfrau hwnnw i’ch gilydd heb deimlo’n euog. A fydd Gruffudd Antur, sydd wedi addasu un o’i lyfrau i’r Gymraeg ddim yn cael ceiniog yn sgîl gwerthiant y llyfr. Yr awdur gwreiddiol sy’n cael y breindal dach chi’n gweld.

Chwarae teg, roedd un disgybl wedi dewis hwn hefyd, llyfr am neiniau oedd wedi ei sgwennu ymhell cyn y llyfr Saesneg am nain, ac sy’n llawer gwell hefyd, yn fy marn i! Nain! Nain! Nain! gan Sian Eirian Rees Davies – darllenwch o i weld os ydach chi’n cytuno.

image

Roedd un o Bl 6 wedi dewis Pen Dafad hefyd, diolch byth!

Unknown-1

Be amdanoch chi? Oes ‘na lyfrau Cymraeg wedi gwneud i chi/eich brodyr/chwiorydd/rhieni/ffrindiau chwerthin?
Mi wnes i ofyn y cwestiwn ar Facebook, a dyna sut ges i wybod am hwn, Straeon Bobli Blaidd gan Catherine Jones:
getimg

A hei, ydi, mae o’n ddigri! 4 stori am deulu o fleiddiaid sy’n llawn cymeriad a dawn deud. Mae o allan ers 2010, ond chafodd o fawr o sylw felly does neb yn gwybod amdano. Grrrr… wel, dach chi’n gwybod rwan!
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 yn ôl Gwales. A dwi wedi ychwanegu adolygiad cwsmer a 5 seren:
“Gwych! Straeon wirioneddol ddoniol. Iaith eitha gogleddol ond ddylai hynny ddim cadw’r deheuwyr draw. Dawn dweud a straeon wnaeth i mi chwerthin. Lluniau gwych hefyd.”

Be am i chi wneud yr un peth? Neu rhowch wybod i mi ar hwn, ac mi wnai roi sylw i’r llyfrau hynny.
A dyma i chi fwy o lyfrau digri:
Unknowngetimg.phpimage

A hwn:
getimg.php
Llyfr llawn hwyl sy’n cynnwys posau, jôcs, gêmau a storïau am gymeriadau fel Capten Clonc a’r Prif Cop. Oriau o chwerthin i blant o bob oed.

Roedd yr awdur, Huw Aaron yn un o’r criw oedd yn cymryd rhan yn Sioe Lyfrau Fwya’r Byd yng Nghaernarfon wythnos yma. Sbiwch ciw oedd ar ei gyfer o wedyn:
ciw

A dim ond un neu ddau oedd i fi a Gruffudd:
photo2 Hoffi’r ffoto-bomiwr?!
A dydi hwn ddim yn lun gwych, ond mae’n dangos y gwahaniaeth mewn maint ciwiau…
photo ciw
Does dim pwynt trio cystadlu efo cartwnydd…

Gyda llaw, yn Ysgol Cinmeirch, rydan ni’n rhoi bathodynnau arbennig i’r sêr darllen, a dyma i chi lun neu ddau:
gwobrauphoto3
Da iawn pawb! Daliwch ati.

O, a dyma fy hoff lun o Ddiwrnod y Llyfr: Awen o Ysgol Treganna efo’i hoff lyfr! Ieee! Gwylliaid!
Awen
Diolch Awen… ti’n grêt. xx

Darllen mewn mannau annisgwyl

Published Hydref 31, 2014 by gwanas

Dyma i chi lun o Lleucu, 13 oed o Nefyn, mewn cystadleuaeth Carnifal yng Nghastell Caernarfon eleni. Falch o weld nad oedd hi’n gallu rhoi ei llyfr i lawr!

image

Ei mam, Gwenda roddodd o i mi, pan roedden ni’n ffilmio diwrnod o hwyl yng ngardd Canolfan Felinfach ym Motwnnog efo cyfres Tyfu Pobl.

Unknown-1

Erbyn meddwl, dwi’m yn meddwl gawson ni siot o unrhyw un yn darllen llyfr yn eu gardd neu randir drwy gydol y gyfres. Ond mi fydda i’n gwneud hynny pan fydd hi’n braf, fyddwch chi?
Tydi gardd ddim yn le annisgwyl i ddarllen llyfr nacdi? Ond mae o ar ben lori mewn carnifal a chithe’n Frenhines!

Dyma i chi engreifftiau eraill:
images-5Unknown-3Unknown-2Unknown-1images-4

Allwch chi guro hynna?

O, a gyda llaw, os ydach chi’n meddwl bod rhaglen radio Tudur Owen wedi anghofio am y Clwb Darllen, tydi o ddim. Maen nhw jest wedi cael estyniad bach i orffen Awst yn Anogia
image

ac mi fyddwn ni’n cael gwybod eu barn ( heb Manon Rogers, bechod, dio’m run peth hebddi) ar ddydd Gwener Tachwedd y 7fed.

Edrych mlaen!