Gwyl lenyddiaeth Plant Caerdydd

All posts tagged Gwyl lenyddiaeth Plant Caerdydd

Parti Maes y Mes

Published Mai 22, 2018 by gwanas

Sbiwch syniad da!

33037685_1993892883976366_70318995571474432_n

Hyd yn oed os nad ydech chi wedi darllen un o 4 llyfr Maes y Mes eto, mi fyddwch yn siŵr o gael hwyl yn y parti yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn Mai 26 – dydd Sadwrn yma.

Cyfle i glywed Nia, yr awdures, yn darllen y ddau lyfr newydd – a gwneud pethau difyr fel gwneud tylwyth teg allan o begiau, ac adeiladu nythod! Ac ar ben hynny, mi gewch chi fag parti fydd yn cynnwys llyfr. Bargen am £5.

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at blant 7-9 oed, ond dwi’n meddwl y bydd plant 6 oed yn eu mwynhau hefyd os ydyn nhw’n mwynhau darllen, a phlant 5 oed os ydyn nhw’n mwynhau gwrando ar straeon.

Ewch i siop lyfrau Palas Print ddydd Sadwrn.

A dwi newydd dderbyn 2 lun o’r sesiwn wnes i yng Nghastell Caerdydd yn ddiweddar fel rhan o ŵyl Llên Plant. Dyma fi’n darllen i’r criw:

dav

A dyma rai o’r lluniau wnaethon nhw o ddeinosoriaid a môr-forynion. Ond pam na fyddai rhywun wedi deud wrtha i mod i’n dal y poster ar ben i lawr?!

sdr

Gwyl Lenyddiaeth Plant Caerdydd

Published Ebrill 8, 2014 by gwanas

Newydd gael yr ebost yma yn tynnu sylw at bethau difyr sy’n digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos yma:
image

Dyma’r linc am fwy o wybodaeth: http://gwylllenplantcaerdydd.com/

Pob math o ddigwyddiadau, Cymraeg a Saesneg, yn cynnwys Dewi Pws a Daniel Glyn a sesiynau gyda arlunwyr hefyd. O, a sesiwn gyda awduron The Garden Pirates.
image

Fi nath y fersiwn Gymraeg fel mae’n digwydd.
image

Mi fyswn i wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd i fwynhau’r cwbl, ond mae gen i ormod o waith a dim digon o bres! Taliadau sgwennu llyfrau plant ddim yn help…