Gwobrau Tir na n-Og 2021

All posts tagged Gwobrau Tir na n-Og 2021

Gwobrau Tir na n-Og 2021

Published Mawrth 13, 2021 by gwanas

Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig ar gyfer llyfrau plant yn fy marn i, ac mae rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 yn profi hynny. Dyma’r rhai cynradd, pob un o’r tri yn hyfryd ac yn haeddu ei le (ac eisoes wedi eu canmol yn y blog yma):

A dyma’r rhai uwchradd. Dwi wedi canmol pob un fan hyn eisoes, ar wahân i Y Castell Siwgr – achos dwi ddim wedi gweld copi o hwnnw eto! Ar ras i’w ddarllen rŵan, achos mae’n swnio’n wirioneddol ddifyr.

Dwi’n falch nad fi sy’n gorfod penderfynu rhwng y chwech yna. Dwi’n siŵr na fydd Mr a Mrs Aaron yn ffraeo yn y cyfamser (ydyn, maen nhw’n briod), ac efallai y bydd y ddau yn dawel bach yn gobeithio mai Casia eith â hi, er mwyn osgoi unrhyw deimlad annifyr o “Ges i gam…” Ond pwy a wyr? Allwch chi byth ddeud efo’r gwobrau ‘ma!

Yn y categori uwchradd, mae Manon ac Angharad yn hen lawiau ar ennill gwobrau am eu llyfrau, a fyddwn i’n synnu dim gweld un o’r ddwy yn ennill. Ond mae ‘na un arall, beryg yna yn does! Y ‘new kid on the block’. Dwi mor falch bod Rebecca yna, achos mae Helynt yn chwa o awyr iach – ac ocê, dwi’n ‘biased’ – mi wnes i ei mentora, ond fel dwi wedi’i ddeud eisoes – roedd y stori yno, ym mhen Rebecca ac roedd fy rôl i’n fychan iawn, iawn. Dwi’n meddwl mai jest canmol wnes i yn fwy na dim.

Mae cyrraedd y rhestr fer yn andros o ganmoliaeth, ac mi fydd hyn yn codi hyder yr awduron a’u hannog i sgwennu mwy ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Hir oes i Wobrau Tir na n-Og!

Podlediad am lyfrau a sgwennu ac ati

I’r oedolion yn eich mysg – a phobl ifanc hefyd o ran hynny, mae ‘na bodlediad newydd am lyfrau ac ati newydd ddechrau, sef Colli’r Plot.

Manon Steffan Ros, Sian Northey, Dafydd Llewelyn a fi sy’n malu a mwydro (a giglan gormod mae’n debyg – sori) ond yn deud gwirioneddau a phethau digon difyr hefyd, gobeithio.

Os dach chi isio gwrando am ryw 40-50 m tra’n mynd am dro yn y gwynt a’r glaw, neu’n peintio neu rywbeth, dilynwch gyfrifon Colli’r Plot ar Twitter / Facebook / Instagram.

Tanysgrifiwch i wrando fan hyn: https://linktr.ee/collirplot

Ac mae’r llun yma’n profi pwynt wnes i tua’r diwedd: