Gwely Haul/Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna

All posts tagged Gwely Haul/Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna

Cystadleuaeth Llyfrau Ysgolion Cymru

Published Ebrill 29, 2017 by gwanas

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol hon wedi bod, neu ar fin mynd drwy’r rowndiau sirol bellach. Mae’n gystadleuaeth wych a hynod bwysig ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.

2744.14801.file.eng.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-3-a-4-2011.542.400

Ysgol Dyffryn Banw (Powys) – Enillwyr Blynyddoedd 3 a 4. 2011

Nid yn unig mae’n annog plant i drafod a pherfformio darnau o’r llyfrau ond mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael llyfr am ddim!

2743.14799.file.cym.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-5-a-6-2011.600.400

Ysgol Gymraeg Treganna a Than yr Eos (Caerdydd) – Enillwyr Blynyddoedd 5 a 6. 2011

A gwobrau ariannol i’r ysgolion. Gwych.

Ond mae gen i gwyn: mae’r ysgolion yn gorfod dewis o restr llyfrau sy’n cael eu dewis gan bwyllgor y Cyngor Llyfrau. Dyma i chi’r rhai sirol ar gyfer 2017:

darllen dros gymru 56

Llwyth o lyfrau da. Ond mae David Walliams a Roald Dahl yn eu canol nhw. Rwan ta, gan fod athrawon yn bobl brysur tu hwnt, efo hen ddigon ar eu platiau fel mae hi, faint ohonyn nhw sy’n mynd i drafferthu darllen pob un er mwyn dewis pa rai i’w perfformio a’u trafod? Onid yw’r demtasiwn i fynd am y rhai enwog, y rhai y bydd y plant yn gwybod amdanyn nhw yn barod, yn ormod? Felly oni fydd y rhai gwreiddiol Cymraeg, sef y rhai SYDD ANGEN y sylw a’r gwerthiant, yn cael eu hanwybyddu? Pam na fedr y rhestr gael ei chyfyngu i rai gwreiddiol yn unig?

Os oes ‘na brinder rhai gwreiddiol Cymraeg, wel mae angen buddsoddi, ‘does? Ar y linc isod mae rhestr o’r 10 llyfr i blant werthodd orau yn ystod Mawrth 2017. Pob un wan jac yn addasiad:

http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1133&interest=0&available=0&tsid=2

Sori i swnio fel tiwn gron, ond mae hynna, i mi, yn sefyllfa hynod drist.

Yn ôl at y gystadleuaeth. Dyma ddewis rownd sirol y criw Bl 3 a 4:

3 a4

Mwy o rai Cymraeg fan hyn, diolch byth (a Coeden Cadi – ieee!). Difyr fyddai cael gwybod faint o ysgolion ddewisodd drafod a pherfformio addasiadau yn y ddau gategori. Efallai bod fy ofnau’n gwbl anghywir, wrth gwrs. Ond dwi’n amau…

Wedyn dyma’r dewis ar gyfer y rowndiau cenedlaethol:

cen 56

Tri addasiad – a dau yn hynod adnabyddus eto… hm.

A’r dewis i Bl 3 a 4:

cen 34

Dau addasiad eto. Sgwn i pa rai gaiff eu dewis? Pa rai fyddech chi’n eu dewis i’w trafod a’u perfformio?

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu beth bynnag. Mae’r trafod a’r perfformio wastad mor dda yn y rowndiau cenedlaethol, mae’n bechod nad oes modd i mwy o bobl eu gweld a’u clywed wrthi. Mae ‘na ambell berfformiad ar gael ar youtube, ond dydi safon y ffilmio ddim yn wych, gyda phob parch! Bechod na fyddai’r cyfryngau yn ymddiddori mwy yn y gystadleuaeth ynde?

Ond dyna fo, nid pawb sy’n credu bod llyfrau yn bwysig. Ond sbiwch ar y llun yma o Irac:C-Y4Dv_XUAUeN9L

Ydyn, mae gwerthwyr llyfrau yn eu cadw allan ar y stryd. Does dim angen poeni am law yn eu difetha, ond yn bwysicach, does dim angen poeni am bobl yn eu dwyn chwaith! Pam? Oherwydd, yn ôl y llyfrwerthwyr:

“The reader does not steal and the thief does not read.”

Da ‘de!

 

 

 

 

 

Cyfres Clec i blant 6+

Published Tachwedd 4, 2016 by gwanas

Hwre! Mae ‘na ddau lyfr arall ar gael ar gyfer plant 6+ yn y gyfres Cyfres Clec gan Wasg Carreg Gwalch: Y Bws Hud/OMB a Gwely Haul/Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna:fullsizerender

image

Mae’r gyfres gan wahanol awduron, felly bydd gwahanol lyfrau yn apelio at blant gwahanol. Dwy stori sydd ym mhob un hefyd, felly os na fyddwch chi’n hoffi un stori ryw lawer, efallai y byddwch chi’n hoffi’r llall! Neu, os ydach chi’n hoffi’r ddwy – pleser dwbwl amdani.

Dwi’m wedi cael cyfle i weld be ydi barn criw fy nheulu i am rhain eto, ond braf fyddai cael eich barn chi ( neu eich plant/disgyblion chi, os mai oedolion ydach chi) am y gyfres hon.

Ond yn bendant, os dach chi isio tynnu eu sylw at yr amgylchedd, llanast a sbwriel ac ati, mae stori cawr OMB – Orig Mwyn Benfawr, gan Eurgain Haf jest y peth.

imageOnd mae’n stori fach hyfryd am gawr sy’n wahanol i gewri eraill, hefyd. Hon oedd fy ffefryn i o’r pedair stori, yn bendant.

Mae’r Bws Hud yn llawn dychymyg hefyd, a lluniau Hannah Doyle yn siwr o godi gwên (sori, mae rhoi to bach ar ‘w’ yn boen ar y peiriant yma).

Haf Roberts ydi awdur y gyfrol arall, a bydd hanes Gwil Gwylan (gwylan glên sydd byth yn “plymio’n ddirybudd o’r awyr a dwyn sglodion a sos coch plentyn bach llwglyd”) yn handi iawn ar gyfer dysgu plant am ddaearyddiaeth Cymru, yn ogystal â rhoi gwers wyddoniaeth am yr haul.

image

Stori am efeilliaid cwbl wahanol i’w gilydd ydi’r ail stori ganddi. Mi fydd plant sydd unai’n hoffi neu’n casau pethau pinc yn chwerthin wrth ddarllen hon, dybiwn i.

£4.99 yr un – bargen am lyfrau gwreiddiol, Cymraeg!

O, a dyma restr gwerthwyr gorau llyfrau plant ar gyfer mis Hydref:

http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1104&tsid=3

6 llyfr gwreiddiol yn y 10 uchaf – da iawn!  Ac mae Pluen, nofel newydd Manon Steffan Ros ar gyfer plant 9-11 oed yn eu mysg.

getimg

Dwi’m wedi cael fy nwylo ar hon eto ond dwi’n ysu am wneud!