Gwalia

All posts tagged Gwalia

Cystadleuaeth Llyfrau Ysgolion Cymru

Published Ebrill 29, 2017 by gwanas

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol hon wedi bod, neu ar fin mynd drwy’r rowndiau sirol bellach. Mae’n gystadleuaeth wych a hynod bwysig ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.

2744.14801.file.eng.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-3-a-4-2011.542.400

Ysgol Dyffryn Banw (Powys) – Enillwyr Blynyddoedd 3 a 4. 2011

Nid yn unig mae’n annog plant i drafod a pherfformio darnau o’r llyfrau ond mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael llyfr am ddim!

2743.14799.file.cym.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-5-a-6-2011.600.400

Ysgol Gymraeg Treganna a Than yr Eos (Caerdydd) – Enillwyr Blynyddoedd 5 a 6. 2011

A gwobrau ariannol i’r ysgolion. Gwych.

Ond mae gen i gwyn: mae’r ysgolion yn gorfod dewis o restr llyfrau sy’n cael eu dewis gan bwyllgor y Cyngor Llyfrau. Dyma i chi’r rhai sirol ar gyfer 2017:

darllen dros gymru 56

Llwyth o lyfrau da. Ond mae David Walliams a Roald Dahl yn eu canol nhw. Rwan ta, gan fod athrawon yn bobl brysur tu hwnt, efo hen ddigon ar eu platiau fel mae hi, faint ohonyn nhw sy’n mynd i drafferthu darllen pob un er mwyn dewis pa rai i’w perfformio a’u trafod? Onid yw’r demtasiwn i fynd am y rhai enwog, y rhai y bydd y plant yn gwybod amdanyn nhw yn barod, yn ormod? Felly oni fydd y rhai gwreiddiol Cymraeg, sef y rhai SYDD ANGEN y sylw a’r gwerthiant, yn cael eu hanwybyddu? Pam na fedr y rhestr gael ei chyfyngu i rai gwreiddiol yn unig?

Os oes ‘na brinder rhai gwreiddiol Cymraeg, wel mae angen buddsoddi, ‘does? Ar y linc isod mae rhestr o’r 10 llyfr i blant werthodd orau yn ystod Mawrth 2017. Pob un wan jac yn addasiad:

http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1133&interest=0&available=0&tsid=2

Sori i swnio fel tiwn gron, ond mae hynna, i mi, yn sefyllfa hynod drist.

Yn ôl at y gystadleuaeth. Dyma ddewis rownd sirol y criw Bl 3 a 4:

3 a4

Mwy o rai Cymraeg fan hyn, diolch byth (a Coeden Cadi – ieee!). Difyr fyddai cael gwybod faint o ysgolion ddewisodd drafod a pherfformio addasiadau yn y ddau gategori. Efallai bod fy ofnau’n gwbl anghywir, wrth gwrs. Ond dwi’n amau…

Wedyn dyma’r dewis ar gyfer y rowndiau cenedlaethol:

cen 56

Tri addasiad – a dau yn hynod adnabyddus eto… hm.

A’r dewis i Bl 3 a 4:

cen 34

Dau addasiad eto. Sgwn i pa rai gaiff eu dewis? Pa rai fyddech chi’n eu dewis i’w trafod a’u perfformio?

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu beth bynnag. Mae’r trafod a’r perfformio wastad mor dda yn y rowndiau cenedlaethol, mae’n bechod nad oes modd i mwy o bobl eu gweld a’u clywed wrthi. Mae ‘na ambell berfformiad ar gael ar youtube, ond dydi safon y ffilmio ddim yn wych, gyda phob parch! Bechod na fyddai’r cyfryngau yn ymddiddori mwy yn y gystadleuaeth ynde?

Ond dyna fo, nid pawb sy’n credu bod llyfrau yn bwysig. Ond sbiwch ar y llun yma o Irac:C-Y4Dv_XUAUeN9L

Ydyn, mae gwerthwyr llyfrau yn eu cadw allan ar y stryd. Does dim angen poeni am law yn eu difetha, ond yn bwysicach, does dim angen poeni am bobl yn eu dwyn chwaith! Pam? Oherwydd, yn ôl y llyfrwerthwyr:

“The reader does not steal and the thief does not read.”

Da ‘de!

 

 

 

 

 

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!

Holi Siân Lewis

Published Tachwedd 26, 2016 by gwanas

Mae’r awdures Siân Lewis newydd fod ar daith @LlyfrDaFabBooks o gwmpas ysgolion Sir Benfro. Un o gynlluniau  Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ydi’r daith, cyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol. A dyma hi efo rhai o blant y sir:15135895_1094758903978799_2467915828179596585_n

Siân oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi.

9781849672276_1024x1024

Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant.  Mae’r tlws  yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi sgwennu nifer fawr o lyfrau plant Cymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae Sian Lewis wedi sgwennu cannoedd – yn llythrennol! Dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc hyd yma.

Dyma i chi rai ohonyn nhw:

Un o ardal Aberystwyth ydy hi yn wreiddiol. Astudiodd Ffrangeg ( fel fi!) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’w bro enedigol, ac ar  ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun.

5586-19278-file-eng-sia%cc%82n-lewis-300-285

Ond tybed pa lyfrau oedd yn apelio ati hi ers talwm? Be ysbrydolodd hi i sgwennu cymaint? Dyma ei hatebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Ces gopi o Trysorau Hafod Aur gan Idwal Jones ar fy mhen-blwydd yn 6. Dwi’n dal i gofio’r ias a’r cyffro, ac yn ffan o lyfrau ditectif byth oddi ar hynny.

Roedd nofelau Meuryn yn ffefrynnau.

230px-meuryn_barcud_olaf

Llyfr arall sy’n aros yn y cof yw Bandit yr Andes gan R. Bryn Williams.

31dn1tg9bul-_sl500_sx331_bo1204203200_

Yn Saesneg roedd raid darllen llyfrau Enid Blyton, yn enwedig y gyfres ‘Adventure’. Yr unig un wnaeth fy siomi oedd The Mountain of Adventure a leolir yng Nghymru. Cymru Blytonaidd iawn!

620wide5673640

Ro’n i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau’r Americanesau Louisa M. Alcott a Susan Coolidge,

images

ac am amrywiol resymau, mae gen i atgof hapus iawn o The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

460559-bef4e5d312780a29f1b0ead896b92394

Bob wythnos, rhwng fy mrawd a minnau, roedd hanner dwsin o gomics yn cyrraedd tŷ ni. Gwych!

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

islwynffowcellis

Dyma pryd y dechreuais ddarllen a mwynhau llyfrau Islwyn Ffowc Elis ( dyna fo uchod),

a threulio oriau difyr yn helpu ditectifs John Ellis Williams i ddatrys dirgelion.

41v8acoy5l-_uy250_

Ro’n i’n breuddwydio am fod yn prima ballerina, felly ro’n i’n llowcio llyfrau Lorna Hill, A Dream of Sadler’s Wells ac ati.

adreamofsadlerswellsblog

Ffefryn arall oedd Mabel Esther Allan.

allan%2cmabelesther-swissholiday%28vine-cladhill%29%281956%29frontcover

Hefyd fe etifeddais set o glasuron y 19eg ganrif – Dickens, Hardy, Brontë – a chael blas go iawn ar eu darllen.

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n darllen llyfrau plant/pobl ifanc mor aml ag y galla i. Dwi newydd orffen Gwalia gan Llŷr Titus a The Lie Tree gan Frances Hardinge, llyfrau arbennig o dda.

Hefyd dwi wedi darllen Wcw, Mellten a Cip y mis hwn. Dwi’n dal i hoffi comics.

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wedi cydweithio â llawer o arlunwyr, felly alla i ddim dewis rhyngddyn nhw. Mae gan bob un arddull unigryw, a dwi wastad yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb arlunydd i’m llyfrau.

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod yn arwres llawer iawn o storïau, achos roedd fy mam a ’nhad yn eu creu ar fy nghyfer bob nos wrth fynd i’r gwely. Dechreuais innau sgrifennu storïau cyfres – dechrau ond nid gorffen bob tro – a’u gyrru at Mam-gu a Tad-cu.

Mi ddechreuais sgrifennu go iawn ar ôl cael swydd yn Adran Gylchgronau’r Urdd.

qok8z7q3

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n mwynhau gweld syniadau’n sboncio o nunlle, eu dal, a rhoi trefn arnyn nhw – wel, gobeithio!

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Pedair Cainc y Mabinogi oedd fy llyfr diwethaf.

9781849672276_1024x1024

Roedd yn hwyl ailgwrdd â’r hen gymeriadau, didoli’r deunydd a phenderfynu sut i’w gyflwyno. Mae lluniau Valériane Leblond

isa_760xn-6888435215_1d9dyn rhoi naws gwreiddiol, gwahanol i’r llyfr.

7.Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Stori’r Brenin Arthur fydd y llyfr nesaf. Unwaith eto mae’r hanesion yn bodoli’n barod, llawer gormod i un llyfr. Felly’r dasg yw dewis pa storïau i’w cynnwys a sut i’w clymu wrth ei gilydd. Mae Prydain gyfan a rhannau o’r cyfandir wedi hawlio Arthur, ond Arthur y Cymry fydd hwn.

Diolch yn fawr, Siân! Edrych mlaen yn arw at weld Stori’r Brenin Arthur.

Hoff Lyfrau Sian Northey

Published Tachwedd 15, 2016 by gwanas

Mi ges i ymateb da iawn i hoff lyfrau Manon Steffan, felly dyma i chi wledd arall, gan awdures arall, Sian Northey.

Mae hi’n sgwennu a barddoni ar gyfer oedolion a phlant – yn llwyddiannus iawn, a dyma rai o’i llyfrau ei hun ar gyfer plant:

images-2chwaer_fawr_blodeuwedd_llyfr

A dyma rai o’i hoff lyfrau gan awduron eraill:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Mi oeddwn I wrth fy modd efo comic yr Hebog (roedd Gerallt Lloyd Owen yn athro arna i)

_89798757_hebog_collage

ac mae gen i hefyd atgofion da o athro arall, Goronwy Williams, yn darllen straeon i ni ddiwedd y pnawn a hynny pan oeddan ni y dosbarth uchaf ond un, felly tua 10 oed, a hen ddigon hen i ddarllen ar ein pen ein hunain. Dw i’n ei gofio’n darllen Y March Coch a Bandit yr Andes.

Yn Saesneg mi oeddwn I’n darllen llyfrau am ferlod – Jill and the Perfect Pony, Jill’s Gymkhana a phethau felly,

wp6c73663e_05_06

a’u darllen sawl gwaith. Yr unig un dw i wedi’i gadw ydi Ponies Plot gan C. Northcote Parkinson.

md20201643571Roedd o chydig yn wahanol – yn cael ei adrodd o safbwynt y merlod ac yn ddoniol. Llyfr arall dw i wedi’i gadw am fy mod yn hoff ohono ydi The Day the Guinea Pig Talked gan Paul Gallico.

guineapigtalked_us

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Mi ges i a fy ffrindiau gyfnod hir o ddarllen nofelau Agatha Christie a’u ffeirio ymysg ein gilydd. Ac mi oeddwn i, efallai am bod fy nhad yn dod a thunelli ohonynt o’r llyfrgell, yn darllen llawer iawn o sci-fi, gan gynnwys y clasur Y Dydd Olaf.

owain-owain-y-dydd-olaf

Awdur arall mae gen i atofion braf o ddarllen ei gwaith yn fy arddegau hŷn yw Oriana Fallacci – dw i’n credu mod i’n meddwl mod i’n soffistigedig yn darllen llyfrau am wleidyddiaeth a rhyfel a hawliau merched a ballu a rheini wedi eu cyfieithu o’r Eidaleg!

51ccj48zywl-_sx372_bo1204203200_

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Yndw siŵr! Dw i wedi bod yn darllen nofelau mewn cerddi fatha One gan Sarah Crossan gan fy mod i’n trio gwneud rhywbeth tebyg;

ac mi wnes i fwynhau Gwalia gan Llyr Titus yn arw.

getimg

Y llyfr plant diweddaraf i mi ei brynu oedd Mog y Gath Anghofus gan Judith Kerr (awdur Y Teigr a ddaeth i De). Mi oeddwn i a Cira, fy wyres 5 oed, wedi mynd i Gaerdydd ar y trên ac wedi anghofio rhoi llyfr stori yn y bag! Felly roedd rhaid prynu rhywbeth, ac mi wnaethon ni ei fwynhau’n arw.

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Shirley Hughes (llyfrau Alfie a llyfrau eraill)

91blt7IRZkL.jpgac Angharad Tomos – y ddwy ohonynt yn sgwennwyr sy’n creu lluniau, neu’n artistiaid sy’n sgwennu eu straeon eu hunain.

0862430658

Efallai mai cenfigenus ydw i! Ac mi ydw i’n hoff o lyfrau fel pethau ac yn credu bod pob rhan o’r dylunio yn bwysig – dewis ffont, pwysau papur, siap a maint y llyfr, popeth…

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dw i ddim yn cofio dechrau, mae o mhell bell yn ôl erbyn hyn. Mi wnes i beidio sgwennu am gyfnod hir iawn, tua 15 mlynedd, a dw i ddim hyd yn oed yn cofio pam nes i ailddechrau. Ond fuoedd yna ddim cyfnod pan nad oeddwn i’n darllen.

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dau beth – ar y pryd, y diflannu i mewn i stori. Mae o fatha darllen ond yn well. Ac wedyn, os ydi rhywbeth yn cael ei gyhoeddi, dw i’n mwynhau ymateb pobl, yn enwedig rhywun na fyswn i wedi’i ddisgwyl iddyn nhw ddarllen un o fy llyfrau i.

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

y_gwaith_powdr_mawr

Y Gwaith Powdr. Hen ffatri ffrwydron sydd bellach yn warchodfa natur ydi’r gwaith powdr. Mae o wrth ymyl fy nhŷ a phan wnes i symyd i Benrhyndeudraeth a mynd a’r ci am dro yna mi oeddwn i’n gwbod yn syth mod i isio sgwennu amdano. Ac mi oedd fy nhad yn wael yn yr ysbyty pan oeddwn I’n ysgrifennu’r llyfr felly efallai mai dyna pam fod yna hen ddyn, taid y prif gymeriad, yn wael yn y llyfr. Gyda llaw, Cira ydi enw’r prif gymeriad, fel fy wyres. Felly fe ddylwn greu cymeriadau o’r enw Jac a Cerys a Joey a Casi hefyd – dyna enwau fy wyrion eraill.

7. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dw i wedi cael cais i sgwennu stori fer i blant ac mae gen i syniad da. Mi fydd hi wedi’i gosod yn y dyfodol ac yn sôn am symud o un wlad i’r llall ac am groesi ffiniau. Ond dw i’n amau mai pennod gyntaf nofel fydd hi go iawn. Ac mae hynna wedi fy atgoffa am lyfr gwych arall nes i ei ddarllen pan yn blentyn – I am David gan Anne Holm. A rŵan dw i isio darllen hwnnw eto!

515gdiohsvl

Diolch Sian!

Gwobrau Tir Na N-og 2016

Published Mehefin 2, 2016 by gwanas

Ddeudis i yndo! ‘Gwalia’ gan Llyr Titus enillodd y categori uwchradd yng Ngwobrau Tir Na N-og eleni. Llongyfarchiadau!

getimg

Dwi’n dal ddim wedi darllen y ddau arall oedd ar y rhestr fer uwchradd, ond roedd ‘na raglen ddifyr am bob llyfr ar y rhestr  ar ‘Heno’ nos Lun.

Dyma’r linc os na welsoch chi hi:

http://www.bbc.co.uk/programmes/p03vjj9y

Roedd hi’n gystadleuaeth dda, yn sicr. A llongyfarchiadau i Sian Lewis a Valériane Leblond, enillwyr y categori cynradd, am eu cyfrol ‘Pedair Cainc y Mabinogi’.

_89866838_tirnanog

Mi wnaethon nhw guro fy llyfr i a Janet Samuel: ‘Coeden Cadi’, ond roedden ni, y rhai na enillodd, â syniad golew nad oedden ni wedi ennill ers tro…os nad ydech chi wedi clywed dim erbyn rhyw wythnos cyn Steddfod yr Urdd, dyna ni, dach chi’n gwybod eich bod chi wedi colli – eto! Na, dwi’m yn ddig o gwbl – ro’n i’n amau’n gryf mai’r gyfrol hon fyddai’n mynd â hi. Mae’n un dda, yn dangos ôl gwaith mawr.

Unknown

Roedd safon y lluniau eleni yn ardderchog, ac os fyddwch chi’n prynu Golwg heddiw, mae ‘na erthygl am y 4 darlunydd oedd ar y rhestr fer:

FullSizeRender

Ac wythnos nesa, mi fydd ‘na erthygl am Gordon. Dwi’n deud dim mwy, ond mae Gordon yn dipyn o foi.

Cofiwch roi gwybod am unrhyw lyfrau Cymraeg ( gwreiddiol!) sy’n eich plesio – neu beidio.

Rhywbeth da allan ar gyfer Steddfod yr Urdd? Dwi’m wedi gallu mynd. Bw hw. Poen/arthritis/nerf femoral/dim mynedd egluro’r stori dragwyddol… mi wnai sgwennu nofel am arthritis a methu cerdded rhyw dro!

 

 

 

 

Gwalia, Llŷr Titus

Published Ebrill 15, 2016 by gwanas

getimg

Dwi ddim yn gallu canmol digon ar hon! Un newydd yn y gyfres Strach gan Wasg Gomer, cyfres ar gyfer plant 9-11 oed yn fras (ac oedolion fel fi). A stori ffuglen-wyddonol (sci-fi) am unwaith! Ieeee!

Mae’r awdur, Llŷr Titus o Frynmawr, Llŷn, wedi profi ei fod yn un o’r bobol brin yna sy’n gallu sgwennu llyfrau yn ogystal â dramau ( mae o’n cael hwyl ar rheiny hefyd). Mae hon yn llifo fel triog melyn dros ddarn o dôst poeth; mae’r dawn deud yn hyfryd ond ddim yn tynnu gormod o sylw at ei hun. Y stori a’r cymeriadau sy’n bwysig, ac mae o wir yn dallt be sy’n bwysig mewn stori ffuglen-wyddonol.

A merch ydi’r prif gymeriad! Mae o wedi ei dallt hi… ( gweler The Hunger Games, Divergent…) Oes, mae ‘na fechgyn ynddi hefyd wrth reswm, ond Elan, sydd wedi byw ar long ofod erioed (wel, fwy neu lai), ydi’r seren.

Dyma’r broliant: “Cawn ddilyn taith Elan a’i ffrindiau ar long ofod wrth iddynt deithio o blaned i blaned. Ond tybed beth fydd yn digwydd wrth i’r llong gyrraedd planed newydd sbon? Mewn byd lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylent daw Elan ar draws cymeriadau rhyfedd iawn ar hyd y daith.”

Mae ‘na fanylion bach hyfryd yma a dychymyg wnaeth i mi chwerthin yn uchel. Mi fyddwch chi hefyd. O ddifri, rwan. Does dim rhaid i chi fod yn ffan o straeon am y gofod i hoffi hon.

Dyna pam ei bod hi ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2016 yn y categori uwchradd.

Mae Stori Cymru  gan Myrddin ap Dafydd  (Carreg Gwalch) getimg.php

a Paent!  gan Angharad Tomos (Carreg Gwalch eto)

getimg-1.php    ar yr un rhestr, a dwi’m wedi darllen rheiny eto ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw fod yn wych i guro hon – yn fy marn i.

Tipyn o gamp ydi sgwennu nofel gyntaf cystal â hon, ac mae o’n ifanc – mae o’n dal yn  fyfyriwr (ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor, felly mae ‘na obaith am lwyth o nofelau tebyg.

O, ac mae o’n gyn-aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd, felly mae hynna’n egluro lot tydi?

Diolch i Lleucu a’i mam, Nia Peris, am dynnu fy sylw at Gwalia gyda llaw – gwneud sylw ar y blog ma wnaethon nhw – a dwi’n dal i ddisgwyl dy sylwadau di amdani, Lleucu!