golygu

All posts tagged golygu

Tips ar gyfer awduron

Published Medi 12, 2017 by gwanas

11608942-ziggy-celebrates-40-years

 

Blogio am rywbeth cwbl wahanol y tro yma. Dwi am fod mor hy â chynnig tips i wella eich sgiliau ysgrifennu.

Dyma bethau i’w gwneud ar ôl gorffen eich drafft cyntaf a phan yn mynd drwyddo CYN ei yrru at y wasg/i gystadleuaeth/i’r athro. Os allwch chi roi’r polish ar eich gwaith cyn ei yrru, mi fydd yn haws i’r golygyddion roi’r sglein ychwanegol.  Ac i blesio beirniaid/athrawon.

best-writing-tips

Chwiliwch am eich ‘darlings’, y geiriau a’r ymadroddion rydach chi’n tueddu i’w gor-ddefnyddio. Wedyn chwynnwch nhw. Maen nhw gynnon ni i gyd. Mae fy nghymeriadau i’n gwenu gormod, ee: “Ydw,” gwenodd Wil. “Do,” gwenodd Nia. Mae ambell un yn iawn, ond nid dwsinau ohonyn nhw! Yn fy nofel ddiwethaf, mi wnes i sylwi bod pawb yn “codi eu haeliau” dragwyddol hefyd. Ar ôl golygu a chwynnu, doedden nhw ddim.

'It was a last-minute change, but a good one.'

Mae’n siŵr y bydd darllenwyr wedi dod o hyd i ffefrynnau eraill gen i, ond eich bod wedi bod yn rhy glen i ddeud. Neu efallai bod y golygyddion wedi eu chwynnu ar fy rhan cyn cyhoeddi. O, arhoswch funud, dwi newydd gofio bod R Maldwyn Thomas (dwi’n meddwl – bron yn siŵr mai fo oedd o) wedi adolygu Dyddiadur Gbara

51FQOIIATYL._SY344_BO1,204,203,200_

nôl ar ddiwedd y 90au a chyfeirio at y ffaith fod popeth yn “grêt” a “ffantastic” gen i. Roedd o’n iawn. Ro’n i wedi sylwi – ond wedi penderfynu eu cadw oherwydd mai dyna oedd yn fy nyddiadur go iawn i o nghyfnod gyda VSO yn Nigeria a minnau’n ferch ifanc 22-24 oed yn llawn brwdfrydedd am bob dim. Ro’n i ddeng mlynedd yn hŷn yn cyhoeddi’r gyfrol, ac yn sicr ddim yn defnyddio’r geiriau i’r un graddau erbyn hynny, ond fyddai o ddim yn onest wedyn, na fyddai? Dyna fy esgus i, o leia.

Fel arfer, mae modd newid y gair neu’r ymadrodd treuliedig heb ormod o drafferth. Ac weithiau, mae modd ei ddileu. Mae angen rhai ohonyn nhw wrth gwrs – ond oes gynnoch chi ormod? Felly hefyd ebychnodau. Oes angen bob un? Go brin. Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio ellipsis hefyd… (ia, y tri dot yna ydi ellipsis) ond mi fydda i’n eu dileu hynny fedra i erbyn hyn.

ellipsis

Mae nifer o awduron yn mynnu bod eu cymeriadau yn cnoi eu hewinedd, yn rhedeg eu dwylo drwy eu gwallt, yn pendroni, yn brathu eu gwefusau, yn wyllt gacwn, yn ymguddio neu’n codi ar eu traed dragwyddol. Efallai nad yw awduron yn sylwi arnyn nhw ond mae’n gallu mynd ar nerfau’r darllenydd a gwneud iddyn nhw golli amynedd gyda’r stori. Rhaid cyfadde bod darllen ‘ne’ yn lle ‘neu’ dragwyddol yn gwneud i mi gorddi. Ia, dwi’n gwybod. Ffyslyd mae’n siŵr. Ond dwi jest yn tynnu sylw at y peth, dyna’i gyd. O, a phobl yn defnyddio ‘otj’ yn lle ‘ots’ a ‘sdamp’ yn lle ‘stamp.’ Ac awduron sy’n defnyddio geiriau hir, hurt does neb yn eu deall – fel Will Self.

Book is titled 'Apperceive the Foreboding and Undertake in Nonetheless'. Woman says: 'It's a Will Self-help book.'

Ydi, mae ailadrodd yn gallu bod yn arf effeithiol o ran creu awyrgylch, cyffro, dangos cymeriad ac yn y blaen, ond nid bob tro.

Dydi ailadrodd yr un geiriau o fewn yr un frawddeg ddim yn ymarfer da chwaith gan amlaf, ac mae golygydd da yn siŵr o dynnu’ch sylw atyn nhw. Ond be am eu hosgoi o’r dechrau un?

Hefyd, a dwi’n euog o hyn: dechrau pob brawddeg gyda ‘Roedd.’ Mae’n gallu bod yn anodd ei osgoi yn Gymraeg heb fynd i ddefnyddio berfau all fod yn gymhleth, ond rhowch gynnig arni.

Cymeriadau sy’n meddwl neu sylweddoli rhywbeth ac yna’n ailadrodd y sylweddoliad hwnnw ychydig linellau yn ddiweddarach. Peidiwch! Dydi’r darllenydd ddim yn dwp ac mae wedi deall y tro cyntaf. Mae’n gallu gweithio’n dda i greu doniolwch weithiau, ond ai ceisio bod yn ddigri oeddech chi? Bydd raid i chi benderfynu pa un yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyfleu’r wybodaeth – drwy ddeialog neu drwy’r naratif.

Rhywbeth arall i’w osgoi yw clywed y cymeriadau’n ailadrodd yr un wybodaeth drosodd a throsodd drwy’r nofel. Dwi’n euog o hyn fy hun. Yn y nofel dwi newydd ei chwblhau ar gyfer yr arddegau, roedd clywed nad oedd Efa eisiau lladd ei mam yn y bennod gyntaf yn iawn, ond a oedd angen ei ddweud eto ym mhennod 3, 5 ac 8? I mi, roedd o’n dangos bod y peth ar ei meddwl yn gyson a’i bod hi’n mynd ar ei nerfau ei hun, ond doedd dim angen ei ailadrodd gymaint ac mi wnes i ddileu ambell gyfeiriad at y peth yn y fersiwn terfynol.

Pan yn chwilio am achosion o ailadrodd fel hyn, mae pwyso botwm ‘find’ ar Word o gymorth mawr.

The-Joy-of-Weeding

Cofiwch, os ydi’r enghreifftiau o ailadrodd yn ychwanegu rhywbeth at eich gwaith, iawn, cadwch nhw, ond os ydyn nhw fel chwyn, chwynnwch.

To monk showing book entitled 'Brand Spanking New Testament': "I think we may have to shorten the title."

Pob lwc!