Golwg

All posts tagged Golwg

Nofel newydd gan Siân Lewis

Published Mai 9, 2018 by gwanas

image

Os ydach chi’n blentyn tua 8-12 oed sy’n mwynhau darllen llyfrau hanesyddol neu straeon sy’n llawn cyffro ac antur, neu straeon am oes y Rhufeiniaid, dyma’r llyfr i chi! Dilyn Caradog, £5.99 gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae’r awdur, Siân Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu nofel hynod ddifyr, ac mae plant o Aberystwyth i Gaernarfon yn cytuno. Ro’n i wrth fy modd efo’r erthygl Tri ar y Tro yn Golwg wythnos diwetha, gan mai barn 3 phlentyn oedd yno:

image

Ac er fod Hopcyn (8 oed) yn deud bod yr iaith yn anodd ar adegau, roedd o wedi mwynhau’n arw. Ac roedd Fflur (9 oed) a Martha (10 oed) wedi gwirioni!

image

Doedd Hopcyn na Fflur eriod wedi darllen un o lyfrau Siân o’r blaen felly mae ‘na wledd o lyfrau o’u blaenau nhw! A golygyddion cylchgrawn Golwg – gawn ni fwy o adolygiadau fel hyn gan blant os gwelwch yn dda? Maen nhw’n bwysig, yn effeithiol (mi wnes i ddarllen y llyfr yn syth ar ôl darllen barn y plant) ac yn fwy na dim, yn ddifyr i’w darllen. Mae plant yn aml yn fwy gonest nag oedolion…

Dyma i chi flas o ddechrau’r nofel:

image

Cymeriad dychmygol ydi Morcant, hogyn bach dewr y byddwch chi’n ei hoffi yn arw, ond roedd Caradog yn berson go iawn, Brython dewr iawn fu’n brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid am wyth mlynedd o tua OC43 ymlaen. Dyma hen lun ohono (wedi ei baentio ym mhell ar ôl Oes y Rhufeiniaid wrth gwrs!):

caradog

Roedd y frenhines Cartimandwa yn berson go iawn hefyd, ond dwi ddim am ddeud mwy rhag ofn i mi ddifetha’r stori i chi. Dyma’r broliant ar y cefn:

image

Da iawn, Siân Lewis!

Ac os ydach chi isio mwy o lyfrau am yr un cyfnod, mae Diwrnod Ofnadwy gan Haf Llewelyn yn addas i blant 7-9 oed,

getimg
(adolygiad ar y blog hwn – rhowch yr enw yn y blwch chwilio)

ac Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards yn addas i blant 8-12 oed. Dwi’m wedi darllen hwnnw – ydach chi? Rhowch wybod be oeddech chi’n ei feddwl.

220px-Cyfres_'Slawer_Dydd_Llo_Gwyn,_Y_(llyfr)

Gethin Nyth Brân

Published Tachwedd 15, 2017 by gwanas

Addasiad o fy ngholofn yn yr Herald Gymraeg (y darn Cymraeg sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ydi hwn:

colofn

Ond ro’n i am i bawb arall ei weld hefyd, felly dyma fo:

clawr

Dwi newydd orffen darllen nofel ar gyfer yr arddegau a dwi wedi gwirioni. A chan fod llyfrau plant yn cael cyn lleied o sylw ar y cyfryngau (rhai gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg o leia) dwi’n mynd i neud yn blwmin siŵr bod hon yn cael sylw!

Gareth Evans ydi enw’r awdur – a dyma ei nofel gyntaf erioed. Un o Benparcau, Aberystwyth ydi Gareth, ac os cofia i’n iawn, mi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd pan roedd o tua 16 oed. Dwi’n digwydd cofio am ei fod o’r un oed â mi, ac mi fues i ar gwrs drama efo fo yn Harlech ryw dro yn y 1970au. Digwydd cofio hefyd ei fod o, fel fi, wedi gwirioni efo ieithoedd ond mai Almaeneg oedd ei hoff iaith dramor o. Aeth o i Fanceinion i astudio’r iaith honno (a drama) yn y Brifysgol, ac ar ôl cyfnod efo Radio Cymru ac yn sgwennu cyfres ‘Dinas’ aeth i fyw dramor am ddegawd, i Sbaen a’r Almaen.

Dyma fwy o’i hanes mewn taflen Adnabod Awdur:

DMgj83EXUAEvzI8

Doedd gen i ddim syniad mai fo oedd awdur y nofel hon nes i mi weld ei lun yn Golwg. Mae o’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac wedi bod yn sgwennu’n dawel bach i Bobol y Cwm ers ugain mlynedd. Ond tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd ei blant yn eu harddegau, dechreuodd feddwl am sgwennu nofel ar gyfer eu hoedran nhw. Roedd o wedi sylwi nad oedd llawer o lyfrau Cymraeg ar eu cyfer nhw – a bechgyn yn enwedig, a dyna sut y dechreuodd chwarae efo’r syniad o sgwennu am Guto Byth Brân.

A dyma’r canlyniad. Chwip o nofel antur/hanes/ffantasi/chwaraeon! Yr hyn sydd wedi fy mhlesio i fwya ydi bod cymaint o waith wedi mynd i mewn iddi. Mae ’na lawer gormod o nofelau Cymraeg i blant (ac i bawb o ran hynny) yn brin o ôl chwys. Mae hon yn llawn dop o ymchwil i hanes ardal Pontypridd a Chwm Rhondda, Cwm Taf ac ati. Roedd ganddo ddau fap o gyfnod Guto Nyth Brân (y 1700au cynnar) ar y wal wrth ei gyfrifiadur tra’n sgwennu hon – un o blwy Llanwynno a’r llall o ddwyrain Morgannwg, felly mae enwau’r ffermydd a’r bryniau a hyd yn oed y caeau yn berffaith gywir ynddi.

32678792521_094d1ba774_b

Mae’r traddodiadau fel hel calennig, diwrnod aredig ac ati yn neidio’n fyw oddi ar y dudalen; mae o’n amlwg wedi gwneud ymchwil i mewn i’r hyn fyddai pobl yn ei fwyta a’i wisgo, heb sôn am y ffordd fydden nhw’n siarad.

Dewr iawn oedd dod â’r Wenhwyseg i mewn i nofel ar gyfer pobl ifanc heddiw, ond iechyd, mae o wedi llwyddo! Dach chi’n gweld, stori am Gethin, hogyn 13 oed o’n hoes ni heddiw ydi hi, bachgen cyffredin sy’n ceisio delio efo ysgol, bwlis, y ferch mae’n ei ffansïo, ei fam a’i ‘Gransha’ sef ei daid/dad-cu sydd ddim yn siarad Cymraeg. Ond un noson Calan Gaeaf, ac yntau wedi ei wisgo fel Hobbit, mae’n rhedeg am ei fywyd rhag y bwlis pan mae’n syrthio yn anymwybodol – ac yn deffro yn 1713. Mae pawb o’i gwmpas yn uniaith Gymraeg rŵan, ac yn siarad yn od. Yn lle ‘tad’ maen nhw’n deud ‘têd’, ‘tên’ ydi tân, ‘acor’ ydi agor ac maen nhw’n deud pethau fel ‘hi gerddws’ ac ‘fe ddringws’ yn lle ‘cerddodd’ neu ‘ddringodd’. Mae’n gweithio’n berffaith, ac ro’n i fel darllenydd yn syrthio mewn cariad efo’r iaith, yn union fel Gethin – ac fel Gareth yr awdur, yn amlwg.
Doedd Gareth ddim yn siŵr am ddefnyddio’r Wenhwyseg fel hyn, ac yn ôl yr erthygl yn Golwg ‘dwi’n dal ddim yn siŵr.’ Oedd o’n ormod i ddisgwyl i ddarllenwyr 13-15 oed ymdopi efo darllen y Wenhwyseg? Wel, yn fy marn i, nag oedd. Mae’r ddarllenwraig 55 oed yma (sydd, dwi’n cyfadde, yn dipyn o nerd ieithyddol fel Gareth) wedi mopio, o leia! Ond dwi’n 100% siŵr y bydd pobl ifanc Morgannwg yn mopio hefyd, ac mae o wedi ei wneud o mor glyfar, fydd o’n amharu dim ar fwynhad pobl ifanc (a phobl hŷn o ran hynny) o ardaloedd eraill chwaith. A phun bynnag, mae’n rhoi lliw ychwanegol i’r darnau hanesyddol.

Mae ’na elfen gref o falchder bro yn treiddio drwy’r tudalennau, a synnwn i daten na fydd yn ysgogi rhai o blant Morgannwg i ailafael yn y Wenhwyseg. Iawn, falle mod i’n ormod o ramantydd yn fanna, ond wyddoch chi byth.

Ond mae ’na fwy, llawer iawn mwy yn y nofel hon: cymeriadau cofiadwy, byw; digonedd o ddigwyddiadau cyffrous ac anturus yn y ddau gyfnod a digon o redeg a rasys (neu redegfeydd fel roedden nhw ers talwm). Difyr oedd deall bod yr awdur wedi rhedeg sawl hanner marathon ei hun, ac yn dioddef o asthma – fel Paula Radcliffe. Mae’r cyfan yn y nofel, a’r cyfan yn taro deuddeg.

1200px-Gutonythbran

Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel fel hon am ardal Pontypridd a Morgannwg. Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel am Guto Nyth Brân a’i gyfnod hefyd. Ac roedd hi’n amlwg yn hen bryd i Gareth Evans droi at ryddiaith!
Dim ond gobeithio na fydd hi’n cymryd deng mlynedd arall i Gareth sgwennu nofel arall ar gyfer pobl ifanc. Un efo rhywfaint o Almaeng neu Sbaeneg ynddi efallai – pam lai? Mae angen hybu diddordeb mewn ieithoedd tramor ymysg Cymry ifanc hefyd.

Gobeithio y caiff ‘Gethin Nyth Brân’ y derbyniad a’r clod mae hi’n ei haeddu ac y bydd pob ysgol ym Morgannwg yn prynu stoc da ohoni. A phob ysgol arall yng Nghymru o ran hynny.

Ond mi fyddai’n well gen i tasech chi’n prynu’ch copi eich hun. Dach chi’n mwynhau rhedeg? Neu nofelau ffantasi? Neu jest nofelau da yn gyffredinol – efo ôl chwys arnyn nhw? Dyma’r anrheg Nadolig perffaith felly: £5.99 Gwasg Carreg Gwalch.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

tud 1

Adolygu

Published Mai 9, 2017 by gwanas

Difyr oedd darllen adolygiad Bethan Bryn o Ymbelydredd yn Y Wawr, cylchgrawn Mudiad Merched y Wawr.

IMG_3931

Roedd hi’n dweud nad oedd ganddi gymhwyster i adolygu llyfr; nad oedd yn llenor, bardd, beirniad llenyddol nac yn gweithio o fewn y maes llenyddol. Wel diolch byth am hynny ddyweda i! Mae ei hadolygiad yn un campus ac yn llawer mwy perthnasol a diddorol oherwydd nad oes ganddi ‘gymhwyster.’

Yn fy marn i, mae bod yn ddarllenydd yn hen ddigon o gymhwyster. Pam fod raid cyfyngu adolygiadau o lyfrau i’r un hen leisiau dragwyddol? Mae angen amrywiaeth barn, yn union fel mae angen amrywiaeth o ddeunydd darllen yn y Gymraeg. Ac mae barn Bethan Bryn cyn bwysiced bob tamed â barn unrhyw un arall.

Mae llyfrau Cymraeg angen sylw; mae angen mwy  o adolygu, ac mae hi’n syrffedus o anodd dod o hyd i bobl sy’n fodlon cyhoeddi eu barn. Maen nhw’n gwrthod gan amlaf oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu barn yn cyfrif, nad ydyn nhw’n ddigon pwysig, neu ddim yn ‘llais’ yn y byd llyfrau.

Lol botes! Dyna be sy’n gwneud adolygiadau ‘Tri ar y Tro’ yn Golwg mor ddifyr: mae gynnoch chi 3 llais o gefndir cwbl wahanol sy’n aml yn anghytuno am y llyfr/drama dan sylw, wedyn mae hynny’n gallu gwneud i chi fod eisiau darllen y llyfr neu fynd i weld y ddrama eich hunan, i weld drosoch chi eich hun.

Mae llyfrau ar gael i bawb. ‘Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar.’

Pam fod raid i gerddor fel Bethan Bryn gyfyngu ei hun i drafod y byd cerddorol? Mi sgwennodd chwip o adolygiad ac mi hoffwn i weld mwy o adolygiadau fel hyn os gwelwch yn dda.

maxresdefault

Braf fyddai gweld plant, yn hytrach nac oedolion yn adolygu llyfrau plant hefyd.

Mae angen platfform i farn plant Cymru – ond yn y cyfamser, mae croeso i chi yrru eich adolygiadau ata i i’w cynnwys ar y blog yma.

O, gyda llaw, dyma be fues i’n ei neud bore ma:

C_YPfBkXsAA7GpK

Darllen straeon i blant bach Meithrinfa Seren Fach, y Brithdir – a phawb yn ein pyjamas!

 

 

Pigion o newyddion da a Sgragan

Published Rhagfyr 19, 2016 by gwanas

Newyddion da o lawenydd mawr!

Mae Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F Williams – bellach yn ôl mewn print ac ar gael ar-lein neu yn eich siop lyfrau! (link: http://bit.ly/2hixgzP) bit.ly/2hixgzP

Chwip o bresant Dolig i unrhyw un fethodd gael copi cyn i’r nofel wych hon fynd allan o brint wedi iddi ennill Llyfr y Flwyddyn. A dwi’n meddwl bod rhestr y cymeriadau yn y fersiwn yma – ond dwi’m yn siwr. Prynwch gopi i gael gweld!

A dyma dudalen allan o gylchgrawn Golwg yr wythnos yma am Carys Lake:

15578868_1353471191342383_6232809926641853236_n

Dynes hynod ddawnus sydd wedi dysgu Cymraeg i gantamil o blant sy’n symud mewn i Wynedd heb air o’r iaith, ac yn gadael y Ganolfan Iaith ym Mhorthmadog 8 wythnos yn ddiweddarach yn barod i ymdopi mewn ysgol uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

A rwan mae hi wedi cyhoeddi cyfres o lyfrau am Sgragan sy’n addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu’r iaith a dysgu mwy am ein hanes  a gwahanol rannau difyr o Gymru. Ond mae’n deud eu bod nhw’n addas ar gyfer Cymry iaith gyntaf hefyd! Dwi’m wedi gweld unrhyw gopi eto, ond os ydi Carys yn deud, wel dyna fo.

 

Unrhyw lyfrau Cymraeg eraill y dylwn i roi sylw iddyn nhw cyn y Nadolig? A na, dydi addasiadau o lyfrau David Walliams ddim angen mwy o sylw!

Gwobrau Tir Na N-og 2016

Published Mehefin 2, 2016 by gwanas

Ddeudis i yndo! ‘Gwalia’ gan Llyr Titus enillodd y categori uwchradd yng Ngwobrau Tir Na N-og eleni. Llongyfarchiadau!

getimg

Dwi’n dal ddim wedi darllen y ddau arall oedd ar y rhestr fer uwchradd, ond roedd ‘na raglen ddifyr am bob llyfr ar y rhestr  ar ‘Heno’ nos Lun.

Dyma’r linc os na welsoch chi hi:

http://www.bbc.co.uk/programmes/p03vjj9y

Roedd hi’n gystadleuaeth dda, yn sicr. A llongyfarchiadau i Sian Lewis a Valériane Leblond, enillwyr y categori cynradd, am eu cyfrol ‘Pedair Cainc y Mabinogi’.

_89866838_tirnanog

Mi wnaethon nhw guro fy llyfr i a Janet Samuel: ‘Coeden Cadi’, ond roedden ni, y rhai na enillodd, â syniad golew nad oedden ni wedi ennill ers tro…os nad ydech chi wedi clywed dim erbyn rhyw wythnos cyn Steddfod yr Urdd, dyna ni, dach chi’n gwybod eich bod chi wedi colli – eto! Na, dwi’m yn ddig o gwbl – ro’n i’n amau’n gryf mai’r gyfrol hon fyddai’n mynd â hi. Mae’n un dda, yn dangos ôl gwaith mawr.

Unknown

Roedd safon y lluniau eleni yn ardderchog, ac os fyddwch chi’n prynu Golwg heddiw, mae ‘na erthygl am y 4 darlunydd oedd ar y rhestr fer:

FullSizeRender

Ac wythnos nesa, mi fydd ‘na erthygl am Gordon. Dwi’n deud dim mwy, ond mae Gordon yn dipyn o foi.

Cofiwch roi gwybod am unrhyw lyfrau Cymraeg ( gwreiddiol!) sy’n eich plesio – neu beidio.

Rhywbeth da allan ar gyfer Steddfod yr Urdd? Dwi’m wedi gallu mynd. Bw hw. Poen/arthritis/nerf femoral/dim mynedd egluro’r stori dragwyddol… mi wnai sgwennu nofel am arthritis a methu cerdded rhyw dro!