O’r diwedd! Mae ‘na ddau berson sy’n caru llyfrau wedi sefydlu gwefan fywiog, liwgar sy’n llawn o adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Dyma nhw’r ddau:
Morgan Dafydd a Dr Llio Mai Hughes, ac mae ‘na fwy amdanyn nhw ar y wefan.
Dwi wedi tynnu’r lluniau oddi ar fy ffôn lôn, felly mae’r fformat fymryn yn wahanol i be gwch chi ar eich cyfrifiadur.
Cliciwch ar y linc isod i weld y wefan gyfan:
Dwi wedi cyfri 74 o adolygiadau (ond fues i rioed yn dda efo syms, cofiwch), o lyfrau i blant bach i Llyfr Glas Nebo.
A dyma rai o’r tudalennau:
Dyma lyfr nad ydw i wedi ei weld eto (sut wnes i ei fethu o? Mae o ar restr fer Gwobr Tir naN-og rŵan!) -Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron:
A dwi wrth fy modd efo’r rhestr glir, hawdd yma ar ddechrau pob adolygiad:
Dydyn nhw ddim yn adolygiadau siwgrllyd chwaith – maen nhw’n onest iawn. Dyna i chi hwn am Edenia, y drydedd yn fy nhrioleg Cyfres y Melanai.
Cytuno’n llwyr! Ro’n i’n gwybod yn iawn fod y diwedd yn digwydd ar ras, ond mae gen i esgus: ro’n i’n trio cadw at y nifer geiriau ofynwyd amdano, ac ro’n i angen sgwennu pethau eraill er mwyn talu biliau! Dyna broblem oesol yr awdur Cymraeg (yn enwedig efo llyfrau plant/OI ar y pryd): onibai eich bod wedi ymddeol neu â swydd arall sy’n talu’n dda, dim ond hyn a hyn o amser sydd gynnoch chi i’w roi i bob llyfr. Ac yn anffodus, dwi’n cymryd OES i sgwennu nofelau.
Ond dwi’n derbyn y feirniadaeth yn llwyr. Teg iawn, a chwa o awyr iach!
Mae ‘na amrywiaeth o bobl wedi sgwennu’r adolygiadau, ond be fyddai’n braf fyddai i chi, ddarllenwyr Cymru, yn blant, yn rieni – unrhyw un, nodi eich sylwadau chitha. Gewch chi hyd yn oed yrru fidios!
Jest y peth tra dach chi’n sownd adre. Dwi am neud un neu ddau sylw fy hun rŵan – ond gorau po fwya fydd yn rhoi eu barn.
Da iawn Morgan a Llio – diolch o galon am wefan oedd wir ei hangen!