Dyn Bach y Cloc a Deiniol y Dylwythen Deg Drwsgl

All posts tagged Dyn Bach y Cloc a Deiniol y Dylwythen Deg Drwsgl

Llyfrau i blant 5-8 oed

Published Tachwedd 3, 2017 by gwanas

image

Hwre! Mi ges i ddau becyn hyfryd o lyfrau plant yn y post heddiw, digon o ddeunydd darllen a blogio am wythnosau! Lle i gychwyn?! Wel, dwi wedi penderfynu mai’r ddau lyfr yma fydd yn cael fy sylw i gynta, dau arall sy’n perthyn i ‘Cyfres Clec’, cyfres wreiddiol o ‘straeon denu darllen’:
Dyn Bach y Cloc a Deiniol y Dylwythen Deg Drwsgl gan Leusa Fflur Llewelyn a Ar Goll ac Alwena Breichia Tena gan Anni Llŷn.
Oes, mae ‘na ddwy stori ym mhob llyfr, ac maen nhw wedi eu hanelu at blant 6+ ond mi fydd plant 5 oed yn mwynhau clywed oedolyn neu chwaer/brawd hŷn yn eu darllen yn uchel iddyn nhw hefyd.
Maen nhw am blant y gall plant heddiw uniaethu â nhw, ac mae pob stori yn llawn hwyl a dychymyg hyfryd.

Dyma dudalen gyntaf Dyn Bach y Cloc:

image

Ia, stori ydi hon am ddyn bach od sy’n byw yn y Cloc Taid yng nghartref hogyn bach o’r enw Guto Alun. Stori hyfryd sy’n dangos dychymyg gwych a boncyrs Leusa Fflur

n7bIRU48_400x400

(sy’n ferch i’r awdures Haf Llewelyn ac sy’n gweithio yng nghanol beirdd ac awduron o bob man yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, felly be dach chi’n ddisgwyl?)

Mae’r syniad yn un digri a’r deud yn hyfryd:

“Siŵr iawn mai Taid ydi fy enw! Pam goblyn arall fyddech chi’n galw cloc yn Cloc Taid?’

Mae’r ddau yn gallu teithio’n ôl a mlaen drwy amser drwy droi bysedd y cloc – wrth gwrs, sy’n syniad mor amlwg (rŵan!) a gwych, mae’n bechod mewn ffordd na chawson ni fwy o anturiaethau Guto Alun a’r dyn bach od o’r enw Taid. Deunydd cyfres ddeudwn i.

A dyma ddechrau’r ail stori:

image

Na, nid tylwyth teg bach ciwt mewn ffrils pinc fan hyn, ond dyn bach bler efo barf mor hir, mae’n mynd yn sownd yn ei adenydd! Ac mae o’n gallu rhoi dymuniadau i Sandra – unrhyw beth mae hi ei isio yn y byd i gyd. Be fyddech chi wedi ei ddymuno tybed? Syniadau gwreiddiol, gwahanol yn hon eto a dawn deud bendigedig:

image

Mae’r diweddglo yn un annisgwyl (ond efallai mai fi sy’n farus…) ac yn siŵr o fod yn destun trafod amser gwely: pa ddymuniad fyddech chi wedi mynd amdano ar y diwedd tybed? Da iawn – llyfr gwreiddiol arall i’r silffoedd o lyfrau Cymraeg gan awduron o Gymru.

Gyda llaw, Hannah Doyle, merch yr awdur gwych Malachy Doyle sydd wedi gwneud y lluniau ar gyfer y gyfres i gyd ( 6 llyfr rŵan).

IMG_20131024_133528

Mae hi’n byw yn Ysbyty Ystwyth ger Aberystwyth. Does ‘na lwyth o arlunwyr lluniau plant yn byw yn yr ardal yna? Jest lle creadigol sy’n ysbrydoli, mae’n rhaid.

Iawn, yr ail gyfrol rŵan, gan Anni Llŷn:

annillyn01

Dyma dudalen gyntaf y stori gyntaf:

image

Stori Gymreig iawn! A hyfryd os gai ddeud, am wahanol bethau sydd wedi mynd ar goll ar y maes dros wythnos yr Eisteddfod ac yn hel llwch mewn bocs yn y swyddfa am fod staff y Steddfod i gyd yn mynd ar eu gwyliau yn syth ar ôl y lladdfa eisteddfodol. Syniad gwych de?

image

Llyfr llofnodion ydi seren y stori, ac mae llofnod Elin Fflur a George North ynddo fo! Cymreig a pherthnasol iawn eto. Mae’r ddau yn siŵr o fod yn sêr am sbel eto felly ddylen nhw ddim dyddio’r llyfr yn arw, chwarae teg. Mi ges i fy nghynghori i dynnu enw band Eden allan o un o fy llyfrau i oherwydd y byddai’n dyddio’r llyfr – oedd yn wir. Ond maen nhw wedi gneud ‘cymbac’ yndo!

eden-llun-cwmni-sain

Mae ‘na ddiwedd hapus i’r stori, diolch byth. Iawn, be am yr ail stori am Alwena Breichia Tena, sy’n ysu i chwarae rygbi? Mae hi’n eiddil a gwan a phawb yn meddwl ei bod hi’n rhy wan i chwarae gêm mor ryff – ond o, nacdi, dydi hi ddim! Fel un sydd wedi chwarae rygbi fy hun, ro’n i wrth fy modd efo’r stori hon ond mae gen i un gwyn fach yn ymwneud â’r dudalen yma:

image

Yn hytrach na llun o Mam yn chwerthin, ro’n i isio gweld pam roedd hi’n chwerthin! Roedd y darn yma’n sgrechian am lun o Alwena’n edrych yn hurt mewn dillad a sgidiau rygbi rhy fawr! Mi fyddai lluniau ‘cyn’ ac ‘wedyn’ wedi bod yn grêt. O wel. Ond dwi ddim yn cwyno go iawn. A bosib mai jest fi ydi o.

Dau lyfr hyfryd, llawn hiwmor gan ddwy awdures arbennig. Diolch yn fawr Gwasg Carreg Gwalch! £4.99 yr un – anrhegion Nadolig ardderchog.