Dolau Cothi

All posts tagged Dolau Cothi

Nofel am y Celtiaid a’r Rhufeiniaid

Published Mai 29, 2018 by gwanas

Old Books

Mae angen cofio mwy am lyfrau Cymraeg o’r gorffennol, mae ‘na drysorau yn hel llwch mewn stordai ysgolion, gweisg a llyfrgelloedd. Oes, wrth gwrs bod angen gwneud lle i lyfrau newydd, ond mae’n bechod bod cymaint yn mynd yn angof.

A dyma i chi un allai fod o ddiddordeb i ysgolion a phlant sy’n mwynhau dysgu am oes y Celtiaid a’r Rhufeiniaid yng Nghymru.

image

Mwy nag Aur gan Meinir Wyn Edwards. Cafodd ei gyhoeddi nôl yn 1995 a does gen i ddim syniad os ydi o’n dal mewn print, ond mae ‘na gopi yn eich llyfrgell leol, siŵr gen i. Dyna lle ddois i o hyd i’r copi hwn.

Mae’r cyfeiriad at Take That yn ei ddyddio, ond ar wahân i fanylyn bach felna, dydi o ddim wedi dyddio o gwbl.

image

Mae’n stori antur ddifyr wedi ei gosod yn Nolau Cothi

IMG_4649 dolaucothi gold mines roman tour

gyda chymeriadau y gwnes i glosio atyn nhw yn syth: Tracey, sy’n ymddangos yn dipyn o fwli a ‘drama queen’, ond yn raddol, cawn wybod pam ei bod hi’n ymddwyn fel mae hi; Lisa sy’n fwy ofnus ac yn crio’n hawdd, ond yn ddewrach na mae’n sylweddoli, a Sam (Sami Swot yn ôl Tracey) sy’n synnu ei hun, a’r merched yn ystod yr antur. O, a Cai, bachgen o Oes y Celtiaid. Dewr, golygus, ac mae’r ddwy ferch yn ei ffansïo, braidd!

Mae’r disgrifiadau o’r ffordd mae’r Celtiaid a’r Rhufeiniaid yn byw yn fanwl ac yn dangos ôl ymchwil trylwyr.

image

image

A doedd gan Meinir ddim ofn dychryn plant gyda’i disgrifiadau o ryfela. Ym Mlwyddyn Pump mae’r plant yn y nofel, felly mi fyddwn i’n deud ei bod yn addas i blant tua 8- 12 oed. Chwiliwch amdano, a rhowch wybod be rydach chi’n ei feddwl. Mi wnes i ei fwynhau o!

Advertisements