Diwrnod Ofnadwy!

All posts tagged Diwrnod Ofnadwy!

Nofel newydd gan Siân Lewis

Published Mai 9, 2018 by gwanas

image

Os ydach chi’n blentyn tua 8-12 oed sy’n mwynhau darllen llyfrau hanesyddol neu straeon sy’n llawn cyffro ac antur, neu straeon am oes y Rhufeiniaid, dyma’r llyfr i chi! Dilyn Caradog, £5.99 gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae’r awdur, Siân Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu nofel hynod ddifyr, ac mae plant o Aberystwyth i Gaernarfon yn cytuno. Ro’n i wrth fy modd efo’r erthygl Tri ar y Tro yn Golwg wythnos diwetha, gan mai barn 3 phlentyn oedd yno:

image

Ac er fod Hopcyn (8 oed) yn deud bod yr iaith yn anodd ar adegau, roedd o wedi mwynhau’n arw. Ac roedd Fflur (9 oed) a Martha (10 oed) wedi gwirioni!

image

Doedd Hopcyn na Fflur eriod wedi darllen un o lyfrau Siân o’r blaen felly mae ‘na wledd o lyfrau o’u blaenau nhw! A golygyddion cylchgrawn Golwg – gawn ni fwy o adolygiadau fel hyn gan blant os gwelwch yn dda? Maen nhw’n bwysig, yn effeithiol (mi wnes i ddarllen y llyfr yn syth ar ôl darllen barn y plant) ac yn fwy na dim, yn ddifyr i’w darllen. Mae plant yn aml yn fwy gonest nag oedolion…

Dyma i chi flas o ddechrau’r nofel:

image

Cymeriad dychmygol ydi Morcant, hogyn bach dewr y byddwch chi’n ei hoffi yn arw, ond roedd Caradog yn berson go iawn, Brython dewr iawn fu’n brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid am wyth mlynedd o tua OC43 ymlaen. Dyma hen lun ohono (wedi ei baentio ym mhell ar ôl Oes y Rhufeiniaid wrth gwrs!):

caradog

Roedd y frenhines Cartimandwa yn berson go iawn hefyd, ond dwi ddim am ddeud mwy rhag ofn i mi ddifetha’r stori i chi. Dyma’r broliant ar y cefn:

image

Da iawn, Siân Lewis!

Ac os ydach chi isio mwy o lyfrau am yr un cyfnod, mae Diwrnod Ofnadwy gan Haf Llewelyn yn addas i blant 7-9 oed,

getimg
(adolygiad ar y blog hwn – rhowch yr enw yn y blwch chwilio)

ac Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards yn addas i blant 8-12 oed. Dwi’m wedi darllen hwnnw – ydach chi? Rhowch wybod be oeddech chi’n ei feddwl.

220px-Cyfres_'Slawer_Dydd_Llo_Gwyn,_Y_(llyfr)

Advertisements

Hoff Lyfrau Haf Llewelyn

Published Rhagfyr 9, 2016 by gwanas

Mae Haf Llewelyn o Lanuwchllyn yn awdures ac yn fardd sydd â blynyddoedd o brofiad fel athrawes gynradd – a mam, felly mae hi’n gwybod yn iawn sut i fachu dychymyg plant.

Dyma rai o’i llyfrau hi:

Gyda llaw, mae hi’n cyfadde bod Stwffia Dy Ffon Hoci yn cynnwys cryn dipyn o’i theimladau hi pan oedd hi’n ferch ysgol yn Ysgol Ardudwy, Harlech!

A dyma hi’n ennill Gwobr Tir na n-Og 2014 am Diffodd y Sêr i ddisgyblion uwchradd:

5032-18370-file-eng-haf-llewelyn-300-247

9781847716972

Hi ydi’r diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am y llyfrau sydd wedi ei hysbrydoli hi dros y blynyddoedd.

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Pan yn fach iawn dwi’n cofio eistedd ar fraich y gadair yn cael stori Sion Blewyn Coch gan fy nhad, a mwynhau yn ofnadwy.

c0bba1591a9a2f87b152e391cfe57294bed19fd1

Roedd yna greigiau tu ôl i’n tŷ ni, ac yno roedd Sion Blewyn Coch yn byw yn fy nychymyg i. Felly roedd Llyfr Mawr y Plant yn ffefryn.

225px-llyfr_mawr_y_plant

Roeddwn i hefyd yn hoffi unrhyw beth oedd yn ymwneud efo tylwyth teg a chorrachod, a dwi’n cofio darllen llyfr o’r enw Pwt a Moi, gan Elizabeth Watkin Jones, storiau am ddau gorrach bach direidus.

elizabeth_watkin-jones

Wedyn pan oeddwn i’n saith oed mi ges i lyfr o straeon tylwyth teg gan Sion Corn, mi wnes i ddarllen hwn am flwyddyn gron! Mae o’n dal gen i – un o fy nhrysorau. Dyma fo – The Giant All Colour Book of Fairy Tales – OMB am fwynhad.

61ycvan-hql-_sy344_bo1204203200_

Wedi i mi gael llond bol ar dylwyth teg, mi wnes i ddod o hyd i awduron rhamantaidd dechrau’r ugeinfed ganrif. Clasuron mae’n debyg, ond redden nhw’n llyfrau rhyfedd i rhywun o gefn gwlad Cymru i’w darllen rhywsut, a does gen i ddim syniad sut y ces i fy nghyflwyno iddyn nhw. Awduron o America a Chanada oedd nifer ohonyn nhw– pethau fel – Anne of Green Gables gan L. Montgomery,

annegreengables24

Little Women gan L. M. Alcott, The Adventures of Tom Sawyer gan Mark Twain a Heidi gan yr awdures o’r Swistir, Johanna Spyri. Roedd Black Beauty, gan Anna Sewell hefyd yn ffefryn.

005889

Hefyd wrth gwrs llyfrau Enid Blyton, ac er fod y cymeriadau o fydysawd hollol ddieithr i mi, roeddwn i wrth fy modd yn dianc i’w anturiaethau nhw.

Yna dwi’n cofio hefyd gwirioni ar nofelau fel Luned Bengoch a Lois gan Elizabeth Watkin Jones,

c09999636887293596f79706741434f414f4141

ond doedd yna ddim digon ohonyn nhw i ddiwallu rhywun oedd yn bwyta llyfrau, fel Ceridwen y wrach!

Erbyn cyrraedd yr ysgol uwchradd roedd cylchgronau fel Jackie

latest

yn haws eu darllen rhywsut, ond yna dechrau mwynhau nofelau epic fel Far From The Madding Crowd, Hardy, a dwi yn cofio dechrau Lord of The Rings, ond wnes i ddim ei orffen nes i mi gyrraedd y Coleg!

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Ydw, dydw i ddim yn teimlo mod i wedi stopio darllen llyfrau plant rhywsut, oherwydd mi wnes i gael y plant yn ifanc. Roeddwn i’n darllen llyfrau iddyn nhw – dwi’n dal i gofio Rhigymau Jac y Jwc (Mary Vaughan Jones) air am air.

51vg-02nsul-_sx370_bo1204203200_

Mae Rwdlan yr un oed â fy merch hynaf ac mae’r plant wedi eu magu ar lyfrau Angharad Tomos – gan gynnwys y clasur, Sothach a Sglyfath.

0862432960

Dwi’n gwneud llawer o waith efo athrawon ac yn argymell nifer o lyfrau dwi’n teimlo sy’n rhai gwych am sawl rheswm – rhai o’r goreuon yn bendant ydi Cerwyn y Corrach, Gerallt Lloyd Owen,

getimg

Y Dywysoges Sach Datws (addasiad Iwan Llwyd) a Y Goeden Gofio, Britta Teckentrup (addasiad Ceri Wyn Jones).

Ar gyfer yr arddegau dwi wrth fy modd efo’r nofel/cerdd hir The Weight of Water, gan Sarah Crossan

9781408823002 – nofel sy’n adrodd hanes merch ifanc o wlad Pwyl yn gorfod symud i Loegr efo’i mam i chwilio am ei thad. Mae’n trafod y syniad o wreiddiau, perthyn a hiraeth.

Hefyd nofel ddifyr ac annisgwyl arall i’r arddegau ydi The Lie Tree gan Francis Hardinge.

9781447264101the-lie-tree

Yn Gymraeg, does dim curo ar y nofel ddychrynllyd Anji, gan Gareth F. Williams, mi ddylai hon fod ar silff pob oedolyn ifanc, neu’n hytrach o dan ei drwyn/thrwyn.

41s52hsimil-_ac_us160_

 

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wrth fy modd efo dyluniadau bach syml Jac Jones yn llyfrau Mary Lloyd Jones,

51idwplzsrl-_sx371_bo1204203200_

sali-mali

mae Jac y Jwc a Jini yn glasuron. Hefyd darluniau Angharad Tomos, sydd hefyd yn syml ond annwyl iawn.

0862431158

Dwi hefyd yn hoff o ddarluniau Valeriane Leblond, a hi sydd wedi darlunio cyfres Ned y Morwr, mae’r cymeriadau yn gesys go iawn ganddi.

9781784612214

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dim syniad! Dwi ddim yn cofio dechrau, na chyfnod nad oeddwn i’n sgwennu rhywbeth, mi rydw i wedi bod yn sgwennu o hyd, boed hynny yn gerddi, straeon bychan ar gyfer fy ngwaith pan oeddwn yn athrawes, dramau, sgetshys, neu dim ond rhestrau o bethau i’w cofio.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n ffendio’r broses yn un od ond difyr iawn – un munud mae yna gymeriad yn fy mhen i, ac yna unwaith dwi’n dechrau sgwennu mae’r cymeriad yn dod yn fyw, ac mae o’n gwneud pethau, yn dweud pethau, yn mwynhau weithiau, yn brifo dro arall, ond mae o yno go iawn, fel rhywun o gig a gwaed. Wel, mae o i mi beth bynnag. Y gamp ydi perswadio’r darllenydd ei fod o’n gymeriad go iawn fel rwyt ti’n ei weld o.

Y peth gorau un ydi pan mae pobl yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau dy waith di, ac yn trafod y cymeriadau efo ti, ac yn holi beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ar ol i’r stori ddod i ben. Mae hynny yn rhoi ‘wmff’ go iawn i rhywun!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Breuddwyd Sion ap Rhys ydi’r nofel ddiwethaf i mi ei sgwennu ar gyfer plant.

51btwfpfmxl-_sy344_bo1204203200_

Mae hi wedi ei gosod yn Oes y Tuduriaid, pan roedd pobl yn credu fod gwrachod yn gallu rheibio, a phan oedd môr ladron yn cael rhwydd hynt i ddwyn oddi ar longau Sbaen. Mae Sion ac Wmffra yn ddau frawd ac yn gorfod byw efo eu ewyrth wedi i’w mam cael ei charcharu ar gyhuddiad o fod yn wrach. Mi wnes i sgwennu hon ar gyfer plant Ysgol Ffridd y Llyn, pan oeddwn i’n dysgu yno am gyfnod. Roedd yn rhaid i mi gael pennod newydd pob wythnos – roedd yn ffordd wych o sgwennu, oherwydd roedd yn rhaid gorffen pob pennod ar chydig o ‘cliff hanger’, ac mi fyddai’r plant yn gofyn bob bore Iau pan oeddwn i yno – ‘Wel, oes ganddoch chi bennod arall?’

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dwi wrthi’n addasu Diffodd Y Sêr i’r Saesneg ar hyn o bryd, sef hanes Hedd Wyn. Hefyd mae gen i stori fechan am ddreigiau yn dod allan cyn bo hir fel rhan o gyfres Roli Poli, Gomer. Wedyn mae gen i gyfres o lyfrau ffeithiol angen eu paratoi – rhai ar gyfer plant 3-5 oed – dipyn o waith crafu pen, oherwydd dwi angen cyflwyno ffeithiau difyr ond mewn ffordd syml iawn. Hwyl a sbri!

Diolch, Haf – a dyma lu ohoni efo Mai, un o’i chwiorydd.

mai

Ac efo fi!

12308832_1045041728889732_7283874342608752868_n_2

 

Nofel o’r Ffindir a Diwrnod Ofnadwy Haf Llewelyn

Published Mai 22, 2015 by gwanas

Unknown

Dwi ddim yn cofio ble wnes i glywed am hwn, ond dwi’n falch iawn mod i wedi ei brynu. Diolch i bwy bynnag wnaeth ei argymell i mi! Dyma’r nofel gyntaf i mi ei darllen gan awdur o’r Findir, a’r un gyntaf sy’n sôn am sgwarnog ( ar wahân i fy llyfr fy hun…).
Unknown-2

Mae’n siwr mai’r sgwarnog ddenodd fi. Dwi’n hoff iawn o sgwarnogod. Weles i un ddoe fel mae’n digwydd!
Unknown-1
Naci, nid honna. Do’n i’m digon sydyn.

Ond nid nofel am sgwarnog ydi hon, ond hanes newyddiadurwr canol oed sydd wedi diflasu ar ei fywyd (a’i wraig) sy’n taro sgwarnog efo’r car un noson, a mwya sydyn, yn penderfynu edrych ar ôl y sgwarnog a dilyn ei drwyn drwy fywyd efo hi yn hytrach na mynd yn ôl at ei fywyd diflas.

Mae’n glasur o nofel fach hyfryd gafodd ei chyhoeddi yn 1975 ac mae wedi ei chyfieithu i o leia 18 iaith bellach. Mae’n wahanol iawn, yn llawn realaeth hudol, os mai dyna ydi magic realism, efo llwyth o eira, milwyr, meddwi, pobl wallgo, brain ac arth fawr beryglus.

Mi wnes i ei mwynhau hi’n arw. O, ac nid nofel ar gyfer plant mohoni, ond fe ddylai apelio at yr arddegau h^yn.

Nofel i blant ydi hon yn bendant:
Unknown-3

Diwrnod Ofnadwy! gan Haf Llewelyn.
Y diweddara yng Nghyfres (ardderchog) Lolipop gan Wasg Gomer, sydd ar gyfer plant 7-9 oed. Nofel hanesyddol ydi hon ( mae Haf yn un dda am ddod â hanes yn fyw) wedi’i gosod yn oes y Rhufeiniaid. Jest y peth ar gyfer ysgolion sy’n astudio’r cyfnod hwnnw!
Mae Buddug yn ferch ifanc o un o lwythau’r Celtiaid sy’n ofni mynd i nôl dŵr o’r ffynnon rhag ofn iddi gyfarfod Antoniws Ffyrnigws, y milwr Rhufeinig gwaethaf un ar y ffordd. Ond mae’n rhaid bod yn ddewr, ac mae Buddug yn mentro tuag at y ffynnon ( sydd braidd yn bell) yng nghwmni ei ffrind, gafr o’r enw Gwen.
Mae’n stori fach syml, annwyl, ond addysgiadol hefyd, yn dod â’r cyfnod cythryblus hwn yn fyw, efo help lluniau hyfryd gan Helen Flook.

Dyma i chi’r dudalen gyntaf ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):
photo

Mae angen mwy o nofelau GWREIDDIOL am y cyfnod yma yn ei hanes.