
Dyna ydi hi heddiw mae’n debyg. Dwi’m yn siwr be ydi’r gwahaniaeth rhwng Diwrnod y Llyfr a Diwrnod Darllen Llyfr, ond mae’n anhosib cael gormod o ddyddiau i ddathlu darllen. A phun bynnag, i ni lyfr-garwyr, mae pob diwrnod yn Ddiwrnod Darllen Llyfr tydi?
Be dach chi’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Dwi ar ganol Himself, nofel gyntaf (i oedolion neu bobl ifanc 14+) awdur o Iwerddon o’r enw Jess Kidd, a dwi wrth fy modd efo hi. Hud a lledrith, hiwmor, ysbrydion, cymeriadau cofiadwy, ‘quirky’ – jest y peth!

Dwi hefyd ( pan fydda i yn y car) yn gwrando ar fersiwn CD o anturiaethau merch 13 oed glyfar iawn o’r enw Ruby Redfort. Llyfr i blant 9 + ddeudwn i, ac mae o reit Americanaidd efo stwff James Bond-aidd digon difyr. Ond ar y fersiwn CD ma, mae Ruby’n swnio’n debycach i ddynes yn ei 30au – ia, dwi’n gwbod mai dynes sy’n gneud y darllen! Ond mae hi’n hogan llawn wisecracks sy’n mynd i neud i rai ei hoffi hi ac i eraill gymryd yn ei herbyn hi. Ond duwcs, prif gymeriad sy’n ferch – sy’n glyfar – ac yn ddigri. Grêt. Mwynhau hyd yma.

Mae’n bechod bod llais neu arddull darllenydd yn gallu gwneud i chi beidio a mwynhau ambell lyfr. Ro’n i isio gwrando ar hwn…

gan mai Cymraes ydi Linda Davies ac mae’n swnio fel y math o lyfr fyddwn i’n ei fwynhau. Ond roedd arddull y darllenydd yn arteithiol! Wel, i mi beth bynnag. Wir i chi, ro’n i’n sgrechian wrth drio gwrando. Felly ar ôl pum munud, mi gafodd ffling. Mi wnai roi cynnig arall ar y fersiwn print ryw dro – pan gai amser. Ond ar hyn o bryd, dwi’n dal wedi pwdu.
Mi fydd ein grŵp darllen ni’n trafod Dadeni a Rhannu Ambarel ddiwedd y mis.
Ia, dau lyfr hollol wahanol! Dwi wedi mwynhau’r ddau ac yn edrych ymlaen i weld be fydd barn y lleill. Roedden ni fod i neud enillydd y Daniel Owen hefyd ond do’n i methu deud wrthyn nhw ddeufis yn ôl na fyddai un ar gael nago’n?
Dwi’m wedi darllen llyfr plant Cymraeg yn ddiweddar – does ‘na’m llawer o rai newydd, gwreiddiol o gwmpas nagoes? Ond rhowch wybod os oes ‘na un y dylwn i ei ddarllen.
O, a dyma ddarn bach hyfryd welais i ar Twitter i ddathlu Diwrnod Darllen Llyfr:
“I’m scared,” said Piglet.“A story will help,” said Pooh.“How?”“Oh. Don’t you know? Stories make your heart grow.”