Hwrê! Mae ‘na awdur llyfrau plant arall wedi ateb fy nghwestiynau! Dyma i chi luniau o Gwenno Hughes:
Ers iddi ddechrau cyhoeddi yn 1999, mae Gwenno wedi sgwennu naw o lyfrau ac wedi cyfrannu i nifer o gyfrolau, a dyma rai ohonyn nhw:
Yn 2000, enillodd Wobr Tir na n-Og am ‘Ta-ta Tryweryn!’
Syniad da yw cydio mewn digwyddiadau hanesyddol a’u cyflwyno ar ffurf stori neu nofel fer i blant. Dyna a wneir yma, a helynt boddi Cwm Celyn yw’r digwyddiad. Mae Iolo a rhai o’i ffrindiau yn clywed am y bygythiad ac yn mynd ati i chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i geisio achub y cwm. Mae’r ymdrech hon yn cynnwys y daith enwog i Lerpwl pan gafodd Gwynfor Evans gyfle i annerch y Cyngor.Ofer oedd y cyfan wrth gwrs, a cheir darlun o’r tristwch a ddaeth ar ddiwedd yr ymgyrch, a’r mudo o’r tai a’r ffermydd, cau yr ysgol a dymchwel y capel. Na, ni ystumiwyd dim ar ffeithiau pwysig yr hanes hwn.
Mae’r stori wedi ei hadrodd o safbwynt un teulu’n arbennig – teulu Iolo – ond yn dwyn i mewn lawer o gymeriadau eraill gan gynnwys y nain nad yw byth am adael. Ond gadael sy raid, hyd yn oed iddi hi.
Mynegwyd mŵd y lle a’r awyrgylch oedd yn bodoli yn y pentre a’r cyffiniau yn ardderchog gan yr awdur, ac y mae’r nofelig fechan hon yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei wneud, a hynny heb fynd dros ben llestri, gyda digwyddiadau yn hanes Cymru ddylai fod yn rhan o wybodaeth ac etifeddiaeth pob plentyn o Gymro.
Elfyn Pritchard
A dyma fwy o’i llyfrau hi:
Hogan o Gaeathro ger Caernarfon ydi Gwenno, ond erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn sgwennu’n llawn amser i gyfresi fel Pobol y Cwm, Dim ond y Gwir,
Rownd a Rownd, Tipyn o Stad ayyb.
O, ac mae’r awdures Emily Huws yn rhyw fath o fodryb iddi! Cyfneither i’w thad, “felly Anti Emily ydi hi wedi bod i mi rioed,” meddai Gwenno. “Mae hi’n handi iawn cael awdures yn Anti – llyfrau am ddim!”
A dyma atebion Gwenno am ei hoff lyfrau:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Cymraeg – unrhyw beth gan T Llew Jones, Dafydd Parry, Emily Huws. Ro’n i’n hoffi’r cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Asterix hefyd.
Saesneg – hoffi llyfrau Enid Blyton yn fawr.
b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Cymraeg – Cysgod y Cryman.
Saesneg – The Secret Diary of Adrian Mole.
- Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Ydw, dwi’n dal i ddarllen llyfrau plant. Dwi’n hoffi gweld beth sydd ar y farchnad. Dwi wedi joio holl gyfres Harry Potter a dwi’n hoffi stwff David Walliams. Doniol! Joio llyfrau Bethan Gwanas hefyd! ( diolch, Gwenno! – 🙂 )
- Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Quentin Blake – lluniau prysur, hudolus.
- Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Dwi’n sgwennu ers pan dwi’n ddim o beth, yn bennaf achos mod i’n cael pleser mawr o wneud hynny.
- Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Dechrau gyda thudalen wag ac yna gorffen gyda stori gyflawn. (Er gwaetha’r chwys, gwaed a chrafu pen!)
- Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Yr Haf Gorau Erioed oedd y nofel olaf i mi ei hysgrifennu. Stori antur wedi’i lleoli yn ardal Tregaron ydi hi. Mae yna ddirgelwch, dihirod a drwgweithredu ynddi hi. Ond hefyd mae yna dipyn o sbort!
Mae’r ysgol wedi cau am wyliau’r haf. Mae chwe wythnos hir i’w llenwi. Mae angen chwilio am antur. A dyma’n union sydd yma. Yn un o lyfrau cyfres Strach, mae Yr Haf Gorau Erioed gan Gwenno Hughes yn ein cyffroi ninnau.O’r dechrau un mae Lefi Daniels yn benderfynol o gael gwyliau gwerth chweil, gan wibio ar ei BMX ar drywydd ambell antur. Ond a ydi’r ffeit bomiau dŵr yn ddigon i gadw ei ffrind gorau Sbaner a’i chwaer fach Meg ac yntau rhag diflasu? Yn fuan iawn, mae pethau wedi poethi. Mae’r tri yn dod ar draws antur annisgwyliedig o gyfrinachau, o gyffuriau ac o drysor cudd ac maen nhw’n treulio eu haf yn mynnu dod at wraidd dirgelwch Keira a Tal, y ddau ddieithryn. Mae hon yn nofel sydd yn siŵr o’ch difyrru wrth i’r dirgelwch ddwysáu, gan gyrraedd uchafbwynt gyda’r ddamwain ddramatig ar y diwedd. Ydi Gang Gelli Aur yn dod yn arwyr, neu a yw hi’n ormod o gymhlethdod i dri mor ifanc?
Yn hynod o debyg i gyfres y Pump Prysur (addasiadau o waith Enid Blyton), stori yw hon sydd yn ddigon i’n difyrru ninnau hefyd. Bron nad yw’r darllenydd yn teimlo ei fod yntau wedi bod trwy’r antur law yn llaw â Lefi. O na byddai’n haf o hyd!
Llinos Griffin
- Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Does gen i ddim byd pendant ar y ffordd ar y funud – ond mae na gwpwl o syniadau’n cynniwair. Watch this space!
Diolch, Gwenno – pob lwc efo’r syniadau!