Dafydd Parri

All posts tagged Dafydd Parri

CYFRES Y LLEWOD

Published Mawrth 16, 2018 by gwanas

Diolch o galon i Angharad Elen Blythe am hyn.

Angharad-Elen

Mi wnaeth hi sôn ar Facebook bod ei phlant wedi gwirioni efo Cyfres Y Llewod, llyfrau Cymraeg i blant a gafodd eu hysgrifennu gan y diweddar Dafydd Parri (1926–2001)(tad yr ap Dafydd-iaid – Myrddin, Deiniol ayyb. Cyhoeddwyd 23 stori gan wasg Y Lolfa yn ystod ail hanner y 1970au. Cafodd pump o’r llyfrau eu hail argraffu yn y 1990au.

Roedd y gyfres yn dilyn helyntion pum ffrind o’r enw Llinos, Einion, Wyn, Orig a Delyth. Erbyn deall, roedd llythyren gyntaf enwau’r cymeriadau yn creu teitl y gyfres – ‘Ll-e-w-o-d’. Clyfar de! Roedd y gyfres yn boblogaidd iawn am flynyddoedd, gwerthwyd miloedd o gopïau a chreuwyd clwb llyfrau ar gyfer darllenwyr y gyfres.

Ond roedden nhw’n rhy hwyr i mi! Ro’n i’n rhy hen iddyn nhw pan gawson nhw eu cyhoeddi yn anffodus, felly mi gollais i’r wefr o ddarllen llyfrau Cymraeg felna yn blentyn. Bw hw.

Ond maen nhw wedi cael bywyd newydd, ac ar ôl darllen adolygiad Cain (6) a Syfi (4), dwi jest â marw isio’u darllen nhw rŵan!

29243982_10160176950825013_2614077801136914432_n

CYFRES Y LLEWOD
Adolygiad Cain a Syfi (efo help Mam).

Ers dod o hyd i gopïau gwreiddiol, heb eu cyffwrdd, o rai o lyfrau ‘Cyfres y Llewod’ yn siop Palas Print yng Nghaernarfon ychydig wythnosau yn ôl, mae Cain a Syfi wedi mwynhau tri ohonyn nhw, drwy gael pennod bob nos gan Mam. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fwynhau nofel, a phrofi stori dros gyfnod o amser yn hytrach na mwynhau’r sicrwydd o ddiweddglo a datrysiad bob nos.

Ar ddiwedd pob pennod mae yna cliffhanger ac mae’r straeon yn rhai cyffrous, llawn antur a dirgelion, sy’n plesio Cain a Syfi yn arw. Dwi’n meddwl eu bod yn hoffi’r syniad fod y plant yn y straeon – Llinos, Einion, Wyn, Orig a Del – yn cael crwydro a mynd ar anturiaethau fel fynnon nhw; eu bod yn cael eu hunain mewn dyfroedd dyfnion a’u bod yn datrys pob math o ddirgelion – a hynny heb help gan unrhyw oedolyn.

Mae Wyn wrth ei fodd yn dweud posau – mae un ymhob pennod, ac mae Cain yn edrych ymlaen yn eiddgar at y pôs bob tro. Yn arbennig, hoffodd hwn: ‘Beth sydd ar ddiwedd popeth?’ ‘Y llythyren ‘th’’ wrth gwrs! Dotiodd at yr ateb, a mae o wedi bod yn dweud y pôs wrth bawb a’i nain byth ers hynny. A hoffodd Syfi hwn: ‘Beth sydd â gwddf a bol ond nad oes ganddo freichiau na choesau?’ Yr ateb? ‘Potel!’
Caiff y plant eu rhyfeddu gan yr atebion i bob pôs, ac wrth iddyn nhw geisio gwneud pen a chynffon ohonynt, maent yn cael eu hannog i feddwl am y byd o ogwydd gwahanol (lateral thinking). Ond yn bwysicach na hynny – mae’n lot fawr o hwyl.

29261911_10160176958865013_8764024051891961856_n

Mae’r tri ohonan ni yn dotio at yr iaith, ac at ymadroddion sy’n anghyfarwydd inni. Er enghraifft, ‘cicio gwellt efo trwyn ei sgidiau’, ‘yr awyr fel gwin’ neu ‘yr awyr fel uwd’, ‘gweld fel cath’, ‘mor hawdd â bwyta brechdan jam’ a rydan ni wedi dechrau arddel ‘sgidiau dŵr’ yn lle ‘welintons’ yn barod.

Wrth gwrs, mae yma enwau ac ymadroddion sy’n ddieithr i’r plant, e.e. ‘teledydd’, ‘lamp baraffîn’, ‘bananau’, sef y luosog am fanana (cawsom ffit o gigls wrth ddarllen am ‘gnau a bananau’ mewn un bennod!), ‘modurfa’, a ‘cyn wired â phader’. Ond ychwanegu at yr hwyl a’r difyrrwch mae hyn, gan eu bod yn sbarduno trafodaeth ddifyr rhyngom ein tri.

Rydw innau hefyd yn ymelwa o ddarllen y straeon hyn i ’mhlant bob nos – ar sawl lefel. Bu’n rhaid imi ddarllen y dyfyniad canlynol yn uchel sawl tro, a rydw i wedi tynghedu i’w gadw cadw mewn cof wrth imi fy hun geisio ymbalfalu drwy gyfnodau astrus a thywyll bywyd:

‘Does yna fawr o ddim byd sy’n gwneud synnwyr yn y byd yma. Dydi daeargryn sy’n lladd miloedd o bobol ddim yn gwneud synnwyr; a phan fydd yr haul yn machlud ac yn peintio’r awyr mewn lliwiau bendigedig, dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr chwaith. Ond does dim isio i neb fod yn drist ac anfodlon am ein bod yn methu a gweld rheswm ym mhopeth sy’n digwydd o’n cwmpas ni. Rhyfeddu at bopeth sy’n digwydd o’n cwmpas ni, fydda i.’

Diolch yn fawr, Cain a Syfi! A chofiwch, os oes ‘na rywun arall isio sôn am eu hoff lyfrau Cymraeg (gwreiddiol os yn bosib…) dwi’n fwy na hapus i’w cyhoeddi ar y blog yma. Fy ebost i ydi: gwanas@btinternet.com

DJBjVnrUQAAvyqG

O, a diolch hefyd i blant Blwyddyn 2 Ysgol Bro Dyfrdwy am yr hwyl ges i efo nhw bore ma yn sôn am fy mhrofiadau yn Nigeria!

IMG_4302

Myrddin ap Dafydd

Published Mehefin 19, 2017 by gwanas

Myrddin ap Dafydd yw perchennog Gwasg Carreg Gwalch, cwmni sy’n cyhoeddi rhyw 50 o lyfrau y flwyddyn.

myrddin01p

Ond mae o hefyd yn fardd – yn brifardd hyd yn oed: fo enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.

_40810355_myrddin203

9781845273798_1024x1024

getimg-4

Ac os dach chi isio dysgu cynganeddu:

514G4iXPHmL._UY250_

Ac mae o wedi cyhoeddi llwythi o lyfrau o gerddi i blant, nifer ohonyn nhw yn ddarnau gosod mewn steddfodau:

51bnsKxMggL._SX371_BO1,204,203,200_

getimg-5.jpg

getimg-1getimg-10getimg-9.jpg51YKbro8iYL._SX324_BO1,204,203,200_ copy

Ond mae o hefyd yn awdur rhyddiaith. Mae o wedi sgwennu nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, a ffuglen i blant yn Gymraeg a Saesneg.

getimg-6.jpggetimg-7.jpggetimg-8.jpggetimg-3

51FE39Oc7KL._SX258_BO1,204,203,200_9781845275785.jpg

9781845276232_1024x1024

Mae o’n mynd o amgylch ysgolion yn gyson i siarad am ei gerddi a’i lyfrau.

C_8zqbuVYAAkM9T

A does dim syndod ei fod yn hoff iawn o lyfrau gan iddo gael ei fagu mewn siop lyfrau yn Llanrwst, a’i dad oedd yr awdur Dafydd Parri. Fo sgwennodd y gyfres hynod lwyddiannus am Y Llewod.

Felly Myrddin ydi’r nesa i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau pan oedd o’n blentyn:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
  2. a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Nofelau T Llew Jones a Thwm Siôn Cati yn arbennig, Ein Hen Hen Hanes, Jac Jamaica a nofelau Famous Five, Enid Blyton

51VKT1HC6CL._SX345_BO1,204,203,200_s-l225

9780863817779fgtdr

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Islwyn Ffowc Elis, cyfres yr ‘Hardy Boys’ a chyfres Pocomonto – nofelau am ddau dditecif ifanc a chowboi ifanc oedd y rheiny

POCA01hb011c

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n hoff iawn o nofelau Michael Morpurgo – ac rydan ni wedi cyhoeddi fersiynau Cymraeg o nifer ohonyn nhw fel Ceffyl Rhyfel, Gwrando ar y Lloer a Llygaid Mistar Neb.

Dwi’n hoff o feirdd plant fel Charles Causley, Michael Rosen a Benjamin Zephaniah.

cover

Gan fy mod i’n gweithio yn y maes, mi fydda i’n darllen llawer o lyfrau plant Cymraeg hefyd – mae Gareth F. Williams ac Angharad Tomos yn ffefrynnau, Manon Steffan Ros a Caryl Lewis hefyd.

image9

angharadtomos3540-16182-file-eng-manon-steffan-ros-281-400_90579567_llyfr_y_flwyddyn_hir_res-6_28461454775_o

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dorry Spikes – dwi wedi cael pleser mawr o gydweithio efo hi ar sawl cyfrol. Mae’n wych mewn lliw ac mewn du a gwyn, yn gweld onglau a gorwelion gwahanol, ac mae ei phobol hi’n bobol ddiddorol iawn.

b222643b641ce0ff598a35548b0564e7large_Amelias_magazine_TWWDNU_Dorry_Spikes_press_weba529bc532f5924ee0ec4e5d278d2c1dd

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Cael gwahoddiad i fynd i siarad mewn ysgol wnes i, ar ôl ennill cadair genedlaethol am gerdd oedd yn sôn am enedigaeth plentyn. Mi sylweddolais nad oedd gen i ddim i’w rannu efo nhw a dyma drio sgwennu am brofiadau roeddwn i wedi’u cael pan oeddwn i eu hoed nhw.Myrddin_ap_Dafydd

 

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Mewn rhyw ffordd, dwi’n cael ail-fyw fy mhlentyndod wrth sgwennu i blant – ac mae’n syndod be sy’n dod yn ôl i’r cof! Rhannu ydi sgwennu, ac felly mae cael ymateb yr un sy’n derbyn yn bwysig iawn. Mae’n braf iawn dal i fynd o gwmpas ysgolion a chael clywed barn y plant.

11118376933_56a2a4fe33

 

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Mae’r Lleuad yn Goch sydd newydd ei chyhoeddi. Mae hon yn rhan o gyfres sydd ganddon ni i bobol ifanc yn creu straeon gyda chefndir darnau o hanes y ganrif ddiwethaf iddyn nhw. Yn y cefndir mae hanes y Tân yn Llŷn a thref Gernika yng Ngwlad y Basg yn llosgi ar ôl cael ei bomio gan y Ffasgwyr yn 1937. Ond stori am deulu o Lŷn ydi hi – mi gawsant eu troi allan o’u fferm i wneud lle i’r Ysgol Fomio, mae’r ferch yn dod yn agos at y rhai a losgodd yr Ysgol Fomio ac mae’r mab yn llongwr ac yn cael ei hun yng nghanol peryglon helpu ffoaduriaid o Wlad y Basg.

9781845276232_1024x1024

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Mae gen i focs ar lawr y swyddfa sgwennu. Dwi wrthi’n hel pytiau am hanes y Welsh Not ar hyn o bryd a dyna fydd cefndir y nesaf.

(does a wnelo’r llun isod dim byd â’r ateb roddodd Myrddin, ond dwi’n licio’r llun – Geraint Lovgreen ydi hwnna wrth ei ochr o)

p02lbm97

Diolch, Myrddin!