Cysgod y Cryman

All posts tagged Cysgod y Cryman

Holi awdur – Gwenno Hughes

Published Gorffennaf 7, 2017 by gwanas

Hwrê! Mae ‘na awdur llyfrau plant arall wedi ateb fy nghwestiynau! Dyma i chi luniau o Gwenno Hughes:

Gwenno

936095_10154469963540430_5285236437076999296_n

Ers iddi ddechrau cyhoeddi yn 1999, mae Gwenno wedi sgwennu naw o lyfrau ac wedi cyfrannu i nifer o gyfrolau, a dyma rai ohonyn nhw:

51B5GjilFGL._SY346_51EQkOoD5kL51lV03lGQvL._UY250_519Rpa3OL1L._UY250_getimg

 

Yn 2000, enillodd Wobr Tir na n-Og am ‘Ta-ta Tryweryn!’

Cyfres_Corryn_Ta-Ta_Tryweryn!_(llyfr)

Adolygiad Gwales
Syniad da yw cydio mewn digwyddiadau hanesyddol a’u cyflwyno ar ffurf stori neu nofel fer i blant. Dyna a wneir yma, a helynt boddi Cwm Celyn yw’r digwyddiad. Mae Iolo a rhai o’i ffrindiau yn clywed am y bygythiad ac yn mynd ati i chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i geisio achub y cwm. Mae’r ymdrech hon yn cynnwys y daith enwog i Lerpwl pan gafodd Gwynfor Evans gyfle i annerch y Cyngor.

Ofer oedd y cyfan wrth gwrs, a cheir darlun o’r tristwch a ddaeth ar ddiwedd yr ymgyrch, a’r mudo o’r tai a’r ffermydd, cau yr ysgol a dymchwel y capel. Na, ni ystumiwyd dim ar ffeithiau pwysig yr hanes hwn.

Mae’r stori wedi ei hadrodd o safbwynt un teulu’n arbennig – teulu Iolo – ond yn dwyn i mewn lawer o gymeriadau eraill gan gynnwys y nain nad yw byth am adael. Ond gadael sy raid, hyd yn oed iddi hi.

Mynegwyd mŵd y lle a’r awyrgylch oedd yn bodoli yn y pentre a’r cyffiniau yn ardderchog gan yr awdur, ac y mae’r nofelig fechan hon yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei wneud, a hynny heb fynd dros ben llestri, gyda digwyddiadau yn hanes Cymru ddylai fod yn rhan o wybodaeth ac etifeddiaeth pob plentyn o Gymro.

Elfyn Pritchard

A dyma fwy o’i llyfrau hi:

getimggetimg-2getimg-3getimg-1

Hogan o Gaeathro ger Caernarfon ydi Gwenno, ond erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn sgwennu’n llawn amser i gyfresi fel Pobol y Cwm, Dim ond y Gwir,

Logo_Rownd_a_Rownd_HDRownd a Rownd, Tipyn o Stad ayyb.

_41276353_huws203300

O, ac mae’r awdures Emily Huws yn rhyw fath o fodryb iddi! Cyfneither i’w thad, “felly Anti Emily ydi hi wedi bod i mi rioed,” meddai Gwenno. “Mae hi’n handi iawn cael awdures yn Anti – llyfrau am ddim!”

A dyma atebion Gwenno am ei hoff lyfrau:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Cymraeg – unrhyw beth gan T Llew Jones, Dafydd Parry, Emily Huws. Ro’n i’n hoffi’r cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Asterix hefyd.

yfforddberyglus_mawr1000000000205getimg-2asterix-gorchest-prydain

Saesneg – hoffi llyfrau Enid Blyton yn fawr.

enidblyton-10classicbookdustcovers_edited-1

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Cymraeg – Cysgod y Cryman.

cysgod_y_cryman_mawr

Saesneg – The Secret Diary of Adrian Mole.

9780141010830-uk

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Ydw, dwi’n dal i ddarllen llyfrau plant. Dwi’n hoffi gweld beth sydd ar y farchnad. Dwi wedi joio holl gyfres Harry Potter a dwi’n hoffi stwff David Walliams. Doniol! Joio llyfrau Bethan Gwanas hefyd!   ( diolch, Gwenno! – 🙂  )

latest

David Walliams Book Signing - London

bethan_gwanas

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Quentin Blake – lluniau prysur, hudolus.

quentin-blake-hosp_1000078c

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi’n sgwennu ers pan dwi’n ddim o beth, yn bennaf achos mod i’n cael pleser mawr o wneud hynny.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dechrau gyda thudalen wag ac yna gorffen gyda stori gyflawn. (Er gwaetha’r chwys, gwaed a chrafu pen!)stressed-girl-full-vector-cartoon-58813052.jpg

 

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Yr Haf Gorau Erioed oedd y nofel olaf i mi ei hysgrifennu. Stori antur wedi’i lleoli yn ardal Tregaron ydi hi. Mae yna ddirgelwch, dihirod a drwgweithredu ynddi hi. Ond hefyd mae yna dipyn o sbort!

getimg

Adolygiad Gwales
Mae’r ysgol wedi cau am wyliau’r haf. Mae chwe wythnos hir i’w llenwi. Mae angen chwilio am antur. A dyma’n union sydd yma. Yn un o lyfrau cyfres Strach, mae Yr Haf Gorau Erioed gan Gwenno Hughes yn ein cyffroi ninnau.

O’r dechrau un mae Lefi Daniels yn benderfynol o gael gwyliau gwerth chweil, gan wibio ar ei BMX ar drywydd ambell antur. Ond a ydi’r ffeit bomiau dŵr yn ddigon i gadw ei ffrind gorau Sbaner a’i chwaer fach Meg ac yntau rhag diflasu? Yn fuan iawn, mae pethau wedi poethi. Mae’r tri yn dod ar draws antur annisgwyliedig o gyfrinachau, o gyffuriau ac o drysor cudd ac maen nhw’n treulio eu haf yn mynnu dod at wraidd dirgelwch Keira a Tal, y ddau ddieithryn. Mae hon yn nofel sydd yn siŵr o’ch difyrru wrth i’r dirgelwch ddwysáu, gan gyrraedd uchafbwynt gyda’r ddamwain ddramatig ar y diwedd. Ydi Gang Gelli Aur yn dod yn arwyr, neu a yw hi’n ormod o gymhlethdod i dri mor ifanc?

Yn hynod o debyg i gyfres y Pump Prysur (addasiadau o waith Enid Blyton), stori yw hon sydd yn ddigon i’n difyrru ninnau hefyd. Bron nad yw’r darllenydd yn teimlo ei fod yntau wedi bod trwy’r antur law yn llaw â Lefi. O na byddai’n haf o hyd!

Llinos Griffin

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Does gen i ddim byd pendant ar y ffordd ar y funud – ond mae na gwpwl o syniadau’n cynniwair. Watch this space!

Diolch, Gwenno – pob lwc efo’r syniadau!

stock-vector-a-vector-illustration-of-cartoon-woman-writing-on-paper-127511033.jpg

 

Advertisements

Hoff lyfrau Gwen Redvers Jones

Published Chwefror 19, 2017 by gwanas

Gwen Redvers Jones ydi’r awdures ddiweddara i ateb fy nghwestiynau i. Dyma rai o’i llyfrau hi:

A dyma lun a gwybodaeth amdani – ychydig iawn o luniau o Gwen sydd ar y we – dyma’r unig ddau ddois i o hyd iddyn nhw!  Fel y gwelwch chi, mi gafodd ei geni ym Mlaenau Ffestiniog a byw yn Y Friog, Dolgellau, Penmynydd a Llangefni ond mae’n byw yng Nghaerfyrddin ers blynyddoedd bellach – mae’n defnyddio ‘e’ nid ‘o’ yn ei sgwrs erbyn hyn, fel y gwelwch yn nes ymlaen… Mae wedi bod yn gyfieithydd ac yn athrawes yn ogystal ag awdures llyfrau plant, ac mae’n amlwg wrth ei bodd efo plant – a chwerthin!
img_3862
img_3863
Os nad ydach chi’n gyfarwydd â’i llyfrau, chwiliwch amdanyn nhw, maen nhw’n werth eu darllen, ac mi enillodd wobr Tir naNog deirgwaith – yn 1984 am Herio’r Cestyll, yn 1992 efo Broc Môr ac yn 1998 am Dyddiau Cŵn, nofel ar gyfer yr arddegau yn adrodd hanes merch ddeunaw oed sy’n syrthio mewn cariad â hipi golygus ac yn cael ei denu gan ryddid ei ffordd o fyw.
getimg
Gyda llaw, yn 2010, mi gyhoeddodd hithau nofel i blant am hanes brwydr pobl Llangyndeyrn i beidio  chael eu boddi – sef pwnc nofel ddiweddar Myrddin ap Dafydd, Yr Argae Haearn. Achub y Cwm ydi teitl nofel Gwen:
getimg-4
A dyma adolygiad ohoni:
Adolygiad Gwales

Nofel i blant ar ffurf dyddiadur yw Achub y Cwm sy’n adrodd hanes y bygythiad i bentref a chymuned Llangyndeyrn yn 1963. Yn y cyfnod hwnnw, roedd Cwm y Gwendraeth Fach mewn perygl o gael ei foddi i gyflenwi dŵr i Abertawe. Ysbrydolwyd yr awdures i ysgrifennu’r llyfr am frwydr y pentref gan iddi fyw yno am nifer o flynyddoedd. Cyn mynd ati i ysgrifennu’r llyfr, anfonodd holiadur at nifer o bobl yn y cwm a defnyddio’r wybodaeth a dderbyniodd fel sail ar gyfer y nofel.

Mae’n cyflwyno’r hanes ar ffurf dyddiadur merch fferm 10 oed o’r enw Rebeca Gwenllian Jones. Yn raddol, daw Rebeca i ddeall beth sy’n poeni ei rhieni ac oedolion eraill Llangyndeyrn, a’r bygythiad o Abertawe. Mae hi a’i ffrindiau’n awyddus iawn i helpu’r pentrefwyr yn eu brwydr i achub y fro a’u cartrefi. Dan arweiniad Rebeca a’i ffrind Buddug, mae plant y pentref yn mynd ati i sefydlu Cymdeithas Cyndeyrn gan gyfarfod yn y sied wair i feddwl am syniadau er mwyn atal Abertawe rhag boddi’r cwm. Maen nhw’n mynd ati i batrolio’r pentref, protestio, codi arian a cholli’r ysgol i fynd i orymdeithio, ymhlith pethau eraill.

Mae’r cyfan wedi’i ysgrifennu’n dda ar gyfer plant, a’r anturiaethau’n atgoffa rhywun o lyfrau Secret Seven a Famous Five Enid Blyton erstalwm. Cawn ddarlun o fywyd y cyfnod lle roedd plant yn gorfod sefyll yr arholiad 11+, a’r gymdeithas i gyd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r pentref a’r capel. Mae’n ffordd dda o gyflwyno’r cyfnod i blant a chyflwyno hanes go iawn a ddylai fod ar gof a chadw. Mae’r awdures wedi llwyddo i wneud hyn yn dda mewn arddull addas ar gyfer plant, a byddai’n dda gweld mwy o hyn yn digwydd yn y dyfodol fel bod plant Cymru heddiw yn dysgu am ddigwyddiadau pwysig yn hanes eu gwlad.

Nest Gwilym

A dyma ei hatebion i fy nghwestiynau arferol:
  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
  2. a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg:Luned Bengoch,  Wind  in  the  Willows,  Alice  in  Wonderland,  Llyfrau  Enid  Blyton,  Black  Beauty  a  Children  of  The  New  Forest.

    the_children_of_the_new_forest_-_1911_book_cover

  3. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a SaesnegCyfres  Anne  of  Green  Gables,  Llyfrau  What  Katie  Did  ac  yn  y  blaen,  Little  Women  ac  yn  y blaen,  Llyfrau  T. Rowland Huws  a  Cysgod  y  Cryman,  Wuthering  Heights,  Tess of the d’Urburvilles,  Jane  Eyre,  Llyfrau  Ernest  Hemingway,  Graeme  Greene  a  John  Steinbeck.

9780863833991-uk-300

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Cywilydd mawr. Wedi  i’r  wyresau  a’r  ŵyr  dyfu i fyny  rhois  y  gorau  iddi.

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Cywilydd  arall,  dydw  i  ddim  yn  cofio  ei  henw,  Saesnes  yw  hi  ac  mae’n  byw  yn  y  gogledd.  Ar  hyn  o bryd  dydw  i  ddim  wedi  dechrau  cerdded  i  fyny’r  grisiau  a  dydw  i  ddim  yn  gallu  cael  gafael  ar  “Psst!  Ti’n  Grêt”. Hi  wnaeth  y  dylunio  yn  hwnnw.  Mae’r  darluniau  mor  fyw.  *Nodyn gan Bethan – yn ôl y wybodaeth ar gwales.com, Eric Heyman ydi’r arlunydd, ond nid yn edrych fel arddull Eric i mi… unrhyw un yn gwybod pwy ydi hi?   **Wedi cael nodyn gan Wasg Gomer – Helen Flook ydi hi! Byw yn Abergwyngregyn ac wedi darlunio cannoedd o lyfrau, yn cynnwys Cyfres Lolipop i gyd.

helen

Clawr Psst! Ti’n grêt
getimg
Adolygiad Gwales o Psst! Ti’n grêt!

Symud tŷ, gadael ffrindiau, cynefino â chartref newydd … na, dydi hi ddim yn hawdd ar Siôn. Mae’r llyfr hwn, sydd yn un o’r gyfres boblogaidd Lolipop, yn mynd i’r afael â’r holl helbul hwnnw o godi pac, er mwyn i dad Siôn brynu fferm fwy o faint, ond ydi pethau mor ddychrynllyd â hynny? Mae gan Siôn ffrind arbennig iawn sy’n llechu yn y cefndir ac yn cynnig help llaw pan fo angen.

Hanes Siôn a’r ffrind anghyffredin hwn sydd yn y gyfrol, ac mae’r cyfrinachau y mae’r ddau yn eu rhannu yn fendigedig o ddoniol ar adegau. Pan mae Anti Agi – y fodryb gas – yn dod i aros, mae’r triciau yn ddiddiwedd. Druan ohoni! Mae’r ffaith mai Siôn yw’r unig berson yn y byd sy’n gallu gweld a chlywed Pst yn siŵr o chwarae ar ddychymyg unrhyw ddarllenydd ifanc.

Dyma lyfr hawdd dros ben i’w ddarllen ac mae’n llawn o ddarluniau lliwgar. Mae’n un addas iawn ar gyfer plant i’w ddarllen neu fel stori i’w rhannu cyn cysgu.

Peidiwch â phoeni, tydi Pst, y ffrind unigryw, ddim mor arswydus â hynny.

Llinos Griffin

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?         Darllen  a  chwarae  oedd  fy  hobiau’n  blentyn  a  phan  oedd  yn  bwrw  glaw a  finnau  ddim  yn  gallu  myynd  allan  i  chwarae  roeddwn  i’n  ysgrifennu  fy  storiau  fy  hun,  Mae  fy  “llyfr”  cyntaf  dal  yn  dal  ‘da  fi.  Ro’n  i’n  saith  oed  ac  roedd  e’n  Saesneg!
  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?         Hoffi  creu  cymeriadau  a  synnu  wrth  eu  gweld  yn datblygu.  Hoffi  creu  sefyllfaoedd  a  llefydd  gwahanol.  Hoffi  gweld  sut  mae  llyfr  yn   dod  i  ben  gan  nad  oes  ‘da  fi’r  syniad  lleia’  cyn  dechrau.
  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.“Merlyn  y  Nos”  sef  nofel  am  Handel,  ebol  bach  sy’n  gweithio  dan  ddaear  a’r  berthynas  arbennig  sydd  rhyngddo  fe  a Mathew  Morgan,  y  bachgen  ifanc  sy’n  gweithio  gyda  fe  dan  ddaear.  Gobeithio  ei  fod  yn  rhoi  darlun  o  fywyd  y  cyfnod  mewn  cwm  glofaol  ar  ôl  y  Rhyfel  Mawr.   “Mathew  Mowth  Organ  A  Fi”  oedd  y  teitl  gwreiddiol  ond  fe’i  newidiwyd  gan  y  panel! *Nodyn gan Bethan – llawer gwell gen i’r teitl gwreiddiol!getimg-1

Diolch am hynna, Gwen.

Mae llawer o’r llyfrau uchod allan o brint bellach ond tybed ydi hi’n bryd ail-gyhoeddi rhai ohonyn nhw? Ac mi wnes i adolygu Merlyn y Nos ar y blog hwn ar Fehefin 27 2014 (rhowch y teitl yn y bocs chwilio ar y dde) a rhoi 4 seren allan o 5 iddi ar wefan gwales.com!