cyngor llyfrau Cymru

All posts tagged cyngor llyfrau Cymru

Cyfle i ennill llyfrau a newyddion am lyfr lliwio Cadi

Published Mehefin 16, 2020 by gwanas

Eai5h7wXQAEXiDd-1

Mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth newydd gyffrous!
£100 i’w wario ar lyfrau?! Waw!

Dyma’r manylion:

📢 CYSTADLEUAETH – Galw Adolygwyr Ifanc!📢

📚 ENILLWCH BENTWR O LYFRAU i chi a’ch ysgol!📚

😎 Dewiswch eich ffefryn o’r templedi cŵl yma:
http://ow.ly/YND950A7Gsl

✏️ Ysgrifennwch adolygiad o lyfr o’ch dewis chi!

💻 Anfonwch eich adolygiad at cllc.plant@llyfrau.cymru

neu

✉️ drwy’r post at
Adran Llyfrau Plant
Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan,
Aberystwyth,
SY23 2JB

📆 Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2020.

📚 Bydd y goreuon yn derbyn gwerth £100, £75 neu £50 o lyfrau gwych ynghyd â phentwr o lyfrau i ysgol y buddugol.

Amdani!

Tip i chi gen i – peidiwch â sgwennu traethawd 6 tudalen. A byddwch yn onest. Ond peidiwch â bod yn gas.

Pob lwc.

LLYFR LLIWIO

A sbiwch! Dwi wedi cyffroi’n rhacs. Dyma glawr Llyfr Lliwio Cadi (wel, rhan ohono fo, dydi’r wefan ‘ma ddim yn rhy hoff o PDFs), fydd, gobeithio, yn cael ei argraffu wythnos nesa:

104373155_1503502643145038_2656064775374545145_n

Bechod na fyddai o wedi gallu ymddangos ar ddechrau cyfnod Covid, ond dyna fo – mae hwnnw wedi drysu pob dim tydi?

A chofiwch roi gwybod pa lyfrau sydd wedi’ch plesio chi dros y misoedd diwethaf yma. Gewch chi yrru brawddeg ata i, a thudalen at y Cyngor Llyfrau…

Gwylio pobl yn trafod llyfrau

Dyma i chi wefan ddifyr. Llwyth o bobl yn trafod llyfrau neu eu hoff lyfrau, a fidios gan bob un sydd wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Tir na n-Og eleni. Neu Tir Na Nog neu Tir na-nog, pa bynnag ffurf sy’n gywir. Dwi byth yn cofio, ydach chi?

https://www.amam.cymru/carudarllen

Mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi fis nesa dwi’n meddwl. Pob lwc i bawb!

Dyfodol llyfrau OI

Published Chwefror 25, 2020 by gwanas

Ro’n i a Manon Steffan Ros (neu Manon Siop Fferins fel dwi am ei galw o hyn allan – mae hi’n symud i hen siop fferins)

D9mYH2lWsAUViWG

yn tiwtora yn Nhŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu yn Llanystumdwy wythnos dwytha.

Roedden nhw’n griw gwych: 12 o awduron (rhai’n weddol brofiadol, rhai ddim) fu’n ddigon lwcus i gael eu dewis i dreulio 5 diwrnod hyfryd yn cael eu hysbrydoli gynnon ni, y lleoliad, bisgedi cartref Tony, ac yn fwy na dim, gan ei gilydd.

ty-newydd-2

Dwi’n falch o ddeud bod ‘na ddawn dweud a syniadau gwych ganddyn nhw, a photensial am nofelau difyr tu hwnt ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Rhai yn wahanol iawn, gwahanol i’r llyfrau arferol ar gyfer yr arddegau yn sicr!

Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau a Llên Cymru am noddi’r wythnos hon, a’r wythnos ar gyfer plant iau y llynedd. Defnydd da o’ch harian yn fy marn i.

Doedd pawb (wel, y rhai oedd wedi bod yn sgwennu ffantasi) ddim yn hapus o glywed gan y cyhoeddwyr bod ‘na ormod/llawer o nofelau ffantasi ar y ffordd eisoes, ond duwcs, os fydd pobl ifanc yn galw am lyfrau ffantasi, mae ‘na le i fwy does? Felly mae o i fyny i chi i brynu’r llyfrau fel fyddan nhw’n cyrraedd y siopau.

Dwi’n ysu am fedru ateb cwestiwn pobl sydd wedi mwynhau Cyfres y Melanai: ‘Be gai ddarllen nesa?’ efo rhestr o lyfrau Cymraeg cyffrous. Ia, llyfrau fel hyn (er, mae’r term ‘ffantasi’ yn llac iawn gen i):

A rhai Manon wrth gwrs

A fi!

Gyda llaw, mae Gwylliaid wedi bod allan o brint am sbel, ond na phoener, mae ‘na fwy yn cael eu hargraffu rŵan.

Wel? Ydach chi’n meddwl bod ‘na ormod o lyfrau ffantasi ar gael yn Gymraeg rŵan?

LLYFRAU AM CHWARAEON
Dwi am dorri fy rheol ‘dim llyfrau Saesneg’ eto fyth, gan mod i wir wedi mwynhau hon gan Jason Reynolds:

3FDBCEAD-24F3-4A7F-87A1-48948020DE2D

Nid ffantasi o gwbl, ond stori am ferch sy’n wych am redeg a’i helyntion efo’r thîm ras gyfnewid. Erbyn deall, mae’n un o gyfres – Track:

22902132412_3

pob un am athletwyr. A phob un yn ddu – chwa o awyr iach mewn byd sy’n brin o arwyr croenddu mewn llyfrau plant/OI. Ac mae’n debyg bod Ghost hyd yn oed yn well na Patina.

Fel un sydd wedi gwirioni efo athletau erioed, mi faswn i wrth fy modd yn sgwennu am sbrintwyr a neidwyr – athletau’n gyffredinol. Dwi eisoes wedi sgwennu stori fer am nofiwr yng nghyfrol ‘Darllena, Datblyga’ gyhoeddwyd gan gronfa Achub y Plant.

20200225_180244

Ond athletau a gymnasteg yw fy ffefrynnau. Rhyw ddydd… ond allwn i wneud rhai o’r cymeriadau’n ddu? Oes gen i hawl sgwennu o safbwynt rhywun du a minnau’n wyn? Do, mi fuon ni’n trafod y busnes ‘cultural appropriation’ ‘ma ar y cwrs yn Nhŷ Newydd, ac mae’n gymhleth. Oes gynnoch chi farn? Ac a oes angen nofelau am chwaraeon? Oes, siwr!

2016-09-23-bolt-thumbnail

GALW DARLLENWYR IFANC CYMRU!

Published Ionawr 24, 2020 by gwanas

GALW DARLLENWYR IFANC CYMRU! Ffansi bod yn feirniad answyddogol? Dyma’r cyfle i chi! Dewis y Darllenydd #gwobrautirnanogawards
#carudarllen #lovereading

83568500_584600045422531_2190103510421340160_n

Dyma’r hyn mae’r Cyngor Llyfrau newydd ei gyhoeddi:

“Ar y panel beirniaid (Gwobr Tir na n-Og) mae nifer o unigolion sydd ag arbenigedd ym maes llenyddiaeth plant, ac er eu bod nhw’n hyfryd ac yn glyfar iawn, oedolion yw pob un ohonynt; dyma pam ein bod ni eich angen chi – rydym ni am glywed eich barn chi, y darllenwyr.”

Mae’n golygu llyfrau am ddim a chyfle i gyfarfod awduron y rhestr fer! Mwy o fanylion fan hyn:

http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=13330&fbclid=IwAR3iMmbdsY778FkKXB3XNQ0-AuI19VQ_9jmqDjHSDP-iPsjHQgFBcHUPYlM

Pob lwc!

Gyda llaw, be dach chi’n feddwl o hyn? Fyddech chi’n torri llyfr yn ei hanner er mwyn ei wneud yn haws i’w gario o gwmpas? Ro’n i mewn sioc wrth sbio ar y llun yma i ddechrau, ond wedi ystyried y peth a meddwl am gario bag trwm i draeth, neu drwy’r dydd, neu i ffitio bob dim i mewn i gês bychan efo rhywun fel Ryan Air, mae’n dechrau gwneud synnwyr. Ond eto! Rhwygo llyfr?!

20200121_115235

Dwi wedi bod yn darllen tipyn o nofelau YA/ OI Saesneg yn ddiweddar, ac os wnaethoch chi fwynhau Efa a Chyfres y Melanai, triwch hwn gan David Baldacci:

shopping

Ges i fraw pa mor debyg oedd o i Efa, ond arwres ydi arwres am wn i, ac mae’n siŵr bod The Hunger Games wedi ei ysbrydoli yntau. Mi wnes i fwynhau’n arw, beth bynnag!

Un arall sydd wir yn werth ei ddarllen, am ferch 16 oed yn cael ei herwgipio neu ei dwyn ydi hwn:

shopping-1

Angen mwy o rai fel’na yn Gymraeg does!

Isio sgwennu ar gyfer bobl ifanc?

Published Tachwedd 6, 2019 by gwanas

_83370468_img_3369

Fory (dydd Gwener) ydi’r diwrnod cau ar gyfer gwneud cais am gwrs wythnos am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

tn-300x200

Mae hwn wir yn gyfle arbennig gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
Chwilio am bobl sydd eisiau ysgrifennu ar gyfer bobl ifanc ydan ni, a nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

Dowch ‘laen – crafwch am amser i ffwrdd o’r gwaith; perswadiwch rywun i gymryd y plant am chydig ddyddiau. Manon Steffan Ros

D9mYH2lWsAUViWG

a fi yw’r tiwtoriaid a dan ni’n ysu am gael trafod eich syniadau, eich helpu i feddwl am syniadau, eich rhoi ar ben ffordd ym mhob ffordd, er mwyn cael mwy o lyfrau gwych, difyr, cynhyrfus, hardd, hapus, trist, emosiynol, amhosib eu rhoi i lawr i fachu dychymyg pobl ifanc Cymru (a thu hwnt).

Gyrrwch eich cais heddiw https://bit.ly/2kSTgZb

Os nad ydach chi wedi bod yn Nhŷ Newydd eto, mae’n le hudolus, ac mae’r bwyd yn wych! Ac yno, fel mae’n digwydd, ar gwrs tebyg i hwn, flynyddoedd yn ôl, y ces i’r syniad am fy ‘best-seller’, sef trioleg ‘Bywyd Blodwen Jones’ ar gyfer dysgwyr (fydd yn cael ei ail-gyhoeddi’n fuan efo cloriau newydd)

BlodwenJ_finalA-W_600Flat

Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy

Published Awst 14, 2019 by gwanas

Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst:

20190807_093802

Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis:

9781784617158

a Mudferwi gan Rebecca Roberts:

Mudferwi-clawr

Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae’r rheina i gyd – heblaw Horwth efallai? Ond dydi hwnnw ddim yn edrych fel un ar gyfer plant, chwaith. Mi wnai adael i chi wybod wedi i mi eu darllen i gyd, a chan mod i angen gorffen sgwennu fy nofel fy hun yn y cyfamser, mi allai fod yn sbel go lew, iawn?

Roedd hi’n Steddfod hyfryd, er ei bod hi wedi bod yn amhosib gweld a chlywed bob dim. Doedd darllen stori Sali Mali ynghanol y sŵn a’r miri yn y Pentre Plant ddim yn hawdd (diolch i bawb wnaeth aros!) ac mi ges i fodd i fyw yn cyfarfod ffans Cyfres y Melanai ar stondin y Cyngor Llyfrau:


Diolch arbennig i Courtney o Lundain am ddod i chwilio amdana i ar ol y sesiwn arwyddo (roedd ei nain yn canu ar y llwyfan yr un pryd â’r sesiwn arwyddo swyddogol…).

Gyda llaw, mi fues i’n sbecian rownd y cefnau a dyma sut mae staff y CLLC yn llwyddo i lenwi’r silffoedd drwy’r wythnos:
20190805_144234

Sgwrs ro’n i wir am fod yn ran ohoni oedd yr un am amrywiaeth mewn llyfrau plant, ond ro’n i’n brysur yn cynnal gweithdy sgwennu ar y pryd…

20190806_112329

Ond mae ‘na erthygl am y drafodaeth ar BBC Cymry Fyw fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49255371?fbclid=IwAR3OHkG5mH2NqdCVRLUerNntqFvT2hjZLCGtj-gjCJabW6rPywno2ehQP4E

A dwi’n cytuno 100% efo Elin Haf Gruffudd Jones y dylai cyhoeddwyr llyfrau o Gymru edrych ar gyfresi o dramor er mwyn cael gwell amrywiaeth. Pam troi at lyfrau Saesneg o hyd? A deud y gwir, dwi newydd gytuno i gyfieithu llyfr plant oedd yn Almaeneg yn wreiddiol… mwy am hynny eto – ond DWI WRTH FY MODD!

A newyddion gwych o lawenydd mawr: mae Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wedi lansio cystadleuaeth er mwyn cael mwy o nofelau ar gyfer oedolion ifanc. Gwobr o £1,000 ar gyfer y penodau cyntaf & synopsis! Mae gynnoch chi tan Chwefror 20fed 2020, a dyma fwy o fanylion:

Cystadlaeuaeth llunio Nofel 2019

Brysiwch i feddwl am syniad – a SGWENNWCH!

Tlws Mary Vaughan Jones 2018

Published Hydref 20, 2018 by gwanas

Dyma i chi golofn sgwennais i ar gyfer Yr Herald Gymraeg wythnos dwytha:

Drinking pint in The Inklings pub, The Eagle & Child

Bob tair blynedd, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyflwyno tlws er cof am yr awdures Mary Vaughan Jones, ‘mam’ Sali Mali a Jaci Soch a chymaint o gymeriadau eraill helpodd genedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen.
250px-SaliMali
Hogan o ardal Llanrwst oedd hi, aeth yn athrawes ac yna’n ddarlithydd yn Y Coleg Normal, Bangor.
Bu farw yn 1983, ac yn 1985, dechreuwyd cyflwyno’r tlws i unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Dp207_dWwAAHphn
Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi’i chyflwyno i’r mawrion, fel Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones a Siân Lewis.
Ac eleni, y diweddar Gareth F Williams sydd wedi ei hennill a bydd yn cael ei chyflwyno i deulu Gareth mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion nos fory, sef nos Iau, 18 Hydref.
Dwi mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn. Cyn iddo fo’n gadael ni mor greulon o fuan, llwyddodd Gareth i ysgrifennu ugeiniau o gyfrolau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae pob un wan jac ohonyn nhw yn werth eu darllen. Enillodd o Wobr Tir na n-Og chwe gwaith (dwi’m yn meddwl bod neb arall wedi dod yn agos), ac yn 2015, pinacl ei yrfa, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel epig ar gyfer oedolion, Awst yn Anogia.
A rŵan, ac yntau ddim yma i roi’r wên annwyl ’na, mae o’n ennill gwobr arall. A deud y gwir, dwi bron yn siŵr mai hon ydi’r wobr fyddai wedi golygu fwya iddo fo; roedd o wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer plant a phobl ifainc, a dyma’r clod uchaf posib yn y maes. Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am ei anrhydeddu fel hyn.
Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Eifionydd yn darllen a pherfformio eu hoff ddarnau o’u hoff lyfrau ganddo ar y noson, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywed nhw na fu’r ratsiwn beth.

9780862432287

Pan fydda i’n meddwl am Gareth, mi fydda i’n meddwl am dŷ yn llawn llyfrau – ar silffoedd, ar lawr, ar ddesg a byrddau – bob man. Rhywbeth tebyg i fy nhŷ i a bod yn onest, a’r math o dŷ sy’n gwneud i mi wenu. Efallai bod tai taclus â dim llyfrau yn y golwg yn plesio cylchgronau sgleiniog fel Ideal Home a Hello ac ati, ond dydyn nhw’n gwneud dim lles i ddyfodol eich plant chi!

Reading Rupert - Christmas 15

Mae’n ffaith: mae astudiaeth ar y cyd rhwng prifysgolion yn Awstralia a Nevada wedi darganfod bod cael eich magu mewn tŷ llawn llyfrau, hyd yn oed os nad ydech chi’n eu darllen nhw, yn gwella eich canlyniadau addysg – a chyfoeth – ac IQ. Nid dim ond o ran eich sgiliau iaith ond o ran mathemateg a thechnoleg gwybodaeth hefyd.
Nid y darllen fel y cyfryw oedd yn gwneud y gwahaniaeth, mae’n debyg. ‘Mae’n anodd iawn rhoi eich bys arno,’ meddai Dr Sikora, prif awdur yr astudiaeth, ‘mae ’na fwy iddi na deud “jest darllena lwyth o lyfrau.” Mae’n ymwneud â bod o gwmpas llyfrau a phobl sy’n darllen. Mae’n bwysig i blant ifanc weld eu rhieni a phobl eraill yn amgylchynu eu hunain â llyfrau.’
house-full-of-books-21-portfolio
Pobl o wledydd fel Estonia, Norwy a Gwlad Tsiec oedd â’r nifer fwya o lyfrau yn eu tai pan oedden nhw’n 16. Cyfartaledd o 218 llyfr yn Estonia, dim ond 143 ym Mhrydain (dim clem faint o Gymru gafodd eu holi), 125 yn Nghanada a 114 yn yr Unol Daleithiau. Twrci oedd â’r nifer lleiaf o’r astudiaeth – 27 llyfr. Ond Norwy oedd â’r nifer fwya o bobl gyda thros 500 llyfr yn eu tai.
A dyma i chi ganlyniad diddorol: roedd gan oedolion gyda graddau prifysgol, ond oedd wedi eu magu gyda llai o lyfrau, yr un lefel llythrennedd â phobl oedd wedi gadael yr ysgol yn 15 oed, ond oedd wedi byw mewn tai llawn llyfrau.

Roedd y gwahaniaeth mwya ymysg pobl oedd wedi eu magu â llai o bres a manteision, felly gallai teuluoedd tlawd heddiw leihau’r gagendor addysg drwy ‘addurno’ eu cartrefi â llyfrau. Syml!

Felly faint o lyfrau oedd o’ch cwmpas chi yn 16 oed? Doedd gynnon ni ddim gymaint â hynny gan fod Mam yn mynnu rhoi ein hen lyfrau plant i aelodau eraill y teulu estynedig dragwyddol, ond wedi deud hynny, roedd hynny’n gweithio ddwy ffordd: roedden ni’n cael llyfrau ail law gan amrywiol fodrybedd yn weddol gyson. Mi fyddwn i’n cael llyfrau fel anrhegion pen-blwydd a Nadolig yn rheolaidd, ac yn eu trysori. Ond y fan llyfrgell oedd gwir ffynhonell ein deunydd darllen ni, a byddai’n rhaid rhoi’r rheiny yn ôl, wrth gwrs.

Mi fydda i’n dal i ddefnyddio ein llyfrgell leol yn aml, a diolch byth fod y lle yn dal yn agored, achos dwi wedi prynu a derbyn cannoedd ar gannoedd o lyfrau dros y blynyddoedd. Gormod a bod yn onest, gan mod i’n dechrau rhedeg allan o le i’w cadw, ac yn mynd â bocseidiau i siopau elusen pan fydd yr awydd i ddystio neu hŵfro yn codi (na, dydi hynny ddim yn digwydd yn aml…)

Mae rhai’n deud nad oes y fath beth â gormod o lyfrau, ond mae’n dibynnu ar faint eich tŷ chi tydi!
lessmore-screenshot

Dyma i chi ambell ddyfyniad am ddarllen sydd wedi fy nifyrru dros y blynyddoedd:
‘“Clasur” – llyfr y bydd pobl yn ei ganmol ond ddim yn ei ddarllen.’ Mark Twain.
‘Dylai llyfr gwych eich gadael â llawer o brofiadau, ac wedi ymlâdd fymryn ar y diwedd. Rydach chi’n byw sawl bywyd wrth ddarllen.’ William Styron
Ac un yn y Saesneg gwreiddiol am fod cyfieithu ‘daunting’ yn fachog yn anodd:
(wrth drafod llyfrau plant) ‘Books shouldn’t be daunting, they should be funny, exciting and wonderful…’ Roald Dahl.

Byddai Gareth F wedi cytuno.


Roedd y noson yn un hyfryd, gynnes, emosiynol a diolch i bawb gyfrannodd iddi.
Wrth gerdded yn ôl drwy bentre Portmeirion, roedd y lleuad yn disgleirio ar yr afon roedd Gareth wedi ei fagu wrth ei hymyl, a dyma lun dynnais i efo fy ffôn.

Dp0RaaHWkAAi4EY

Creu Rhestr o’r Clasuron Cymreig

Published Mawrth 29, 2015 by gwanas

Mae hwn yn syniad difyr arall gan bobl glyfar y byd llyfrau – a dwi’n eitha siwr mai syniad llyfrgellydd oedd o!

Creu Rhestr o’r Clasuron Cymreig – ia, gwych, a hen bryd. Mae gynnon ni tan y 30ain o Fai i enwebu ein hoff glasuron.
Unknown-8

Sut mae gwneud hynny?
Trwy gasglu ffurflen o’ch llyfrgell neu siop lyfrau lleol. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’r ffurflen enwebu o safleoedd gwe Llyfrgelloedd Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru neu Llenyddiaeth Cymru. Ac os ydw i wedi llwyddo’n dechnegol, mi ddylech chi fedru gweld ffurflen drwy glicio fan hyn:
Ffurflen_C
Neu mi allwch chi enwebu llyfrau ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #ClasurCymreig, neu drwy ebostio eich enwebiadau a’r rheswm dros eu henwebu at tynewydd@llenyddiaethcymru.org.

Hawdd.

A be gewch chi am fynd i’r drafferth? Wel, i’r enwebiadau sy’n cynnwys yr esboniadau gorau am eu dewis, pob math o wobrau, yn cynnwys pryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru a £50.

Neis iawn.

Ond be ydi clasur? Bydd barn pawb yn wahanol mae’n siwr, a nifer yn dewis hen ffefrynnau o’u dyddiau ysgol. Un o’r rhain efallai? ( **AAA! NEWYDD WELD MAI LLYFRAU OEDOLION SYDD I FOD I GAEL EU HENWEBU, FELLY ANGHOFIWCH AM Y RHAI PLANT!)
Unknown-1Unknown-2Unknown-3Unknown-4Unknown-5Unknown-6Unknown-7images-2Unknown-10

Os ydach chi’n gweld bylchau amlwg yn fan’na, wel rhowch wybod be ddylai fod yno drwy gymryd rhan fel uchod!
Peidiwch a gadael i bobl eraill wneud y gwaith pleidleisio a chwyno wedyn, fel y digwyddodd efo The Voice neithiwr. Ble roedd Karis?! Unknown-9

Ond yn ôl at y llyfrau:
Wedi cael rhestr sy’n plesio’r rhan fwya (mi fydd yn amhosib plesio pawb…) bydd y rhestr honno’n cael ei dosbarthu i lyfrgelloedd, siopau llyfrau a cholegau i annog pobl eraill i roi cynnig ar eu darllen nhw a’u mwynhau. Mae llawer gormod o lyfrau wedi cael eu anghofio ac yn haeddu bywyd newydd, dach chi’n gweld, a dyma’ch cyfle chi i roi’r bywyd newydd hwnnw iddyn nhw.
images-1

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Hywel James, Prif Lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd ar 01286 679463 / HywelJames@gwynedd.gov.uk

Taflenni Adnabod Awdur

Published Ionawr 30, 2015 by gwanas

Dwi’n meddwl bod un o’r rhain wedi ei wneud am bawb sy’n sgwennu llyfrau Cymraeg ar gyfer plant y dyddiau yma. Os oes gynnoch chi hoff awdur yr hoffech chi wybod mwy amdanyn nhw, cysylltwch efo Cyngor Llyfrau Cymru.

Dyma un amdana i sydd braidd yn hen bellach – 2001.
photo fi

Yn y cwestiwn olaf – ‘Beth sy’n gwneud i chi chwerthin?’ mi soniais i am fy nai oedd bron yn bedair oed.

IMG_0217

Mae hwnnw’n 17 oed rwan, wedi gadael yr ysgol ac yn slaff o hogyn mawr sy’n chwarae pêl-droed i Academi Wrecsam!Image 22
Fo ydi’r un ar y dde…
Ac er mod i wedi trio ngorau efo fo, dydi o ddim yn darllen llawer yn anffodus.

Ond yn ôl at y taflenni a gwybodaeth am awduron: ydach chi’n meddwl ei fod o’n bwysig? Ydi gwybod mwy am awdur yn bwysig er mwyn gallu mwynhau llyfr?
Dwi’n meddwl bod unrhyw fath o sylw i awduron yn bwysig, ond mi fyswn i’n deud hynny wrth gwrs! Mae angen mwy o luniau, mwy o holiaduron, mwy o adolygiadau, mwy o flogiau fel hyn – bob dim. Felly dyma lun da, dwi’n ei hoffi ohona i efo plant ysgol:

BETHAN-GWANAS-YN-Y-BALA

Ond fel darllenydd, mi fydda i wrth fy modd yn gwybod mwy am fy hoff awduron ac yn eu clywed yn siarad. Dyma fi efo un o fy hoff awduresau Saesneg ( oedolion), Kate Atkinson.
KIF_2739

Mae hi’n casau cael cymryd ei llun, ond sbiwch hapus ac wedi cynhyrfu ydw i!

Trafod llyfrau plant ar y radio

Published Mehefin 17, 2014 by gwanas

Fues i’n siarad ar raglen Dylan Iorwerth,
image
‘Dan yr Wyneb’ ar Radio Cymru ddoe.
Trafod a oes gormod o addasiadau ar draul llyfrau gwreiddiol oedden ni. Dyna oedd barn Lefi Gruffudd o Wasg y Lolfa a finnau,
image
ac Elwyn Jones o’r Cyngor Llyfrau
image
yn deud bod addasiadau yn denu plant i ddarllen yn Gymraeg.
Dyma’r linc i’r rhaglen os oes gynnoch chi ddiddordeb:
http://www.bbc.co.uk/programmes/b046xxzs
Os nad ydi o’n gweithio, ewch ar iplayer Radio Cymru. Roedd y rhaglen yn cael ei darlledu am 6.15 nos Wener, Mehefin 16.

Mae’n cynnwys vox pops gyda phlant 8-11 oed o un o ysgolion Môn, yn enwi eu hoff lyfrau ac awduron, a camp i chi glywed enw unrhyw awdur Cymraeg ac unrhyw lyfr gwreiddiol Cymraeg. Yn fy marn i, byddai’r rhan fwya o ysgolion Cymru wedi dweud pethau tebyg, felly mae’n hen bryd gwneud rhywbeth am y peth.
imageimage
image

Neu ydach chi’n meddwl mod i’n gweld problem lle nad oes un? Gwrandewch ar y rhaglen a lleisiau’r plant a rhowch wybod.

O, ac i chi’r darllenwyr aeddfed, cofiwch mai ddydd Gwener yma y byddwn ni’n trafod Lladd Duw yng Nghlwb Darllen Tudur Owen, tua 3-3.30. Mi fydda i’n gyrru lawr i Wyl Dinefwr wedyn, gan mod i’n gwneud sesiynau i Ddysgwyr yno ar y dydd Sadwrn. Edrych ymlaen!