Wrth fy modd efo hwnna.
Awdures ( a bardd, actores, cantores a dawnswraig) oedd Maya Angelou, fu farw llynedd.
Mi sgwennodd hi doreth o lyfrau, a’r mwya enwog: “I know why the caged bird sings.”
Mae’n gywilydd gen i gyfadde, ond dwi’m yn meddwl mod i wedi ei ddarllen. Mi wnai rwan! Wel, yn fuan. Mae’r pentwr wrth fy ngwely fel mynydd, ond dwi’n benderfynol o ddarllen hwn.
A wyddwn i rioed mai hi oedd nain Kunta Kinte yn ‘Roots’, cyfres deledu fu’n gwneud i mi grio bob dydd Sul ar ddiwedd y 1970au. Dyma hi: