Mi fydda i’n gweithio yn Nant Gwrtheyrn drwy’r wythnos nesaf,
ar Gwrs Awduron, sef cwrs am wahanol awduron cyfredol Cymru ar gyfer dysgwyr da. Dyma’r drydedd flwyddyn a dwi’n edrych ymlaen yn arw!
Mae’n gyfnod prysur: es i lawr i Ysgol Tirdeunaw, Abertawe ddydd Iau, i siarad efo plant Blwyddyn 1 a 2 am Cadi dan y Dŵr fel rhan o ŵyl Pop-up. Edrychwch croeso ges i!
Nefi, gawson ni hwyl!
Dyma ni ar ôl bod yn chwarae gêm y sbwriel.
A dyma ni yn dynwared pysgod pwff!
Mi wnaethon nhw fidio hyfryd wedi i mi adael ond dwi’n rhy dwp i ddeall sut i gynnwys hwnnw fan hyn. Edrychwch ar wefan/llif Twitter Ysgol Tirdeunaw, ac mae o yno. Diolch i chi i gyd am y croeso – a’r lluniau!
A diolch o galon hefyd i gylchgrawn Lysh, cylchgrawn ar gyfer merched 11-14 oed Cymru.
Cylchgrawn digidol newydd a chyfoes yw Lysh, arbennig i ferched ifanc Cymru! Mae Lysh yn rhoi llais i ferched rhwng 11 a 14 oed, ac yn llawn dop o gynnwys gwreiddiol, ffres a slic.
Ac mae’n wir! Ewch i weld drosoch chi eich hun: https://www.lysh.cymru/
Edrychwch ar y fidio yma wnaethon nhw gyda phlant Ysgol Penweddig, Aberystwyth (cliciwch ar y linc isod). Dwi wedi GWIRIONI! Dim ond oedolion sydd wedi rhoi eu barn am drioleg Cyfres y Melanai hyd yma (a doedd pawb ddim yn canmol…) felly mae hyn wir wedi codi fy nghalon i. Swsus mawr diolchgar i ferched Ysgol Penweddig a’u hathrawon, a phob lwc i Lysh!
https://www.lysh.cymru/edenia