Cyfres y Melanai

All posts tagged Cyfres y Melanai

Llyfrau i daclo hiliaeth

Published Mehefin 4, 2020 by gwanas

Yn bendant, mae angen mwy o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion sy’n delio efo hiliaeth. Maen nhw’n brin yn Gymraeg, ond dyma restru ambell un sy’n delio efo bod yn wahanol mewn rhyw ffordd:

Ar gyfer plant iau, Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros:

EHeOqcAWsAAbUAI
20191128_085602

Stori hyfryd, syml, sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb. Ar restr Tir naNog eleni – ac yn haeddu bod arni…

Addasiad ydi hwn, gan y bardd, Mari George, a dwi ddim wedi gweld copi fy hun, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Y llyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel, gyda darluniau llawen, mae’r stori hon yn dathlu amrywiaeth a chynhwysedd, tra’n tanlinellu pa mor bwysig yw undod yn ein byd.

9781849670982

Addasiad arall, wedi ei gyfeithu gan fardd arall, Mererid Hopwood,

getimg

a dwi ddim wedi gweld hwn chwaith, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Dewch i hedfan i bedwar ban byd gyda Mam-gu, a helpwch hi i gyfrif o un i ddeg ar ei thaith siopa fythgofiadwy. Stori ddifyr mewn mydr ac odl, gyda llun hudolus ar bob tudalen. Cyfieithiad o My Granny went to Market – A Round-the-World Counting Rhyme.

A dyma mae Sian Melangell yn ei ddeud amdano:

Dwi ar fin cael hwn i Ewen, yn un peth… am sawl rheswm (Mererid yn ffab, hoffi’r ffaith ei fod yn cyflwyno’r byd mewn stori, ac hefyd wrth gwrs, yr amrywiaeth bobl). Un peth dwi’n ymwybodol ohono ydi fod llyfr hefo bobl mewn gwledydd tramor hefo lliw croen gwahanol i’r Cymro bach yma yn un peth, ond mae llyfrau hefo bobl lliw gwahanol eu croen yn siarad Cymraeg ac yn gwneud pethau fel fo yn arbennig o bwysig hefyd.

Os am lyfr i blant 4-6 oed yn Saesneg, ac wedi ei sgwennu gan awdur du, ac am deithio drwy’r gofod, be am hwn gan Ken Wilson-Max?

astro-girl

Mae Astrid wrth ei bodd efo’r gofod ac isio bod yn astronot! Mae’n cael andros o hwyl efo’i thad yn darganfod be sydd ei angen i gyflawni ei breuddwyd, o wneud arbrofion i fwyta bwyd sych, i ddod i arfer efo “near-zero gravity”. Dim clem be ydi hwnnw yn Gymraeg, sori!

Mae o hefyd yn cynnwys ffeithiau am ferched go iawn sydd wedi bod yn y gofod. Felly llyfr sy’n ticio sawl bocs!

Mae angen cefnogi a darllen a phrynu llyfrau gan awduron sy’n gwybod am be maen nhw’n sôn, ac mae ‘na fwy o syniadau fan hyn:

https://www.booktrust.org.uk/booklists/r/represents-picture-books/

Saesneg eto, a dwi wedi sôn am rhain eisoes, ac maen nhw wir yn werth eu darllen:

22902132412_3

Dwi wedi cyfeirio at lyfrau eraill Jason Reynolds o’r Unol Daleithiau hefyd, awdur croenddu wirioneddol gyffrous. Teipwich ei enw yn y bocs chwilio.

513yussx5tl._sx309_bo1204203200_

Dwi newydd sylweddoli na wnes i ddeud ar y pryd mai awdur croenddu ydi Jason Reynolds. Ro’n i jest yn meddwl amdano fo fel awdur, nid awdur du. Sy’n beth da, gobeithio. Ond er mwyn y blog yma, dwi’n tynnu sylw at y ffaith, iawn!

Awdures dwi wedi ei chanmol droeon ar y blog yma ydi Catherine Johnson, ac mae ei llyfrau hi i gyd yn werth eu darllen, ac yn sôn am gymeriadau du eu croen:

Os am wybod mwy amdani a’i chysylltiadau Cymreig, teipiwch ei henw yn y bocs chwilio ar y dde.

Cymraeg – arddegau

Yn ôl i’r Gymraeg, ar gyfer yr arddegau, mi sgwennodd Gwyneth Glyn ‘Aminah a Minna’ nôl yn 2005, fel rhan o gyfres Pen Dafad:

getimg

Mae’n stori hyfryd, ffraeth sy’n sôn am dreialon bachgen sy’n dechrau mynd allan gyda merch o dras Asiaidd – er gwaetha’r problemau mae hynny’n ei greu efo pobl eraill.

Ar gyfer yr arddegau eto (tua 11+), mi wnes i drio delio gyda’r anhegwch o gael eich trin yn wahanol oherwydd eich bod yn edrych yn wahanol yn 2il a 3ydd llyfrau Cyfres y Melanai, Y Diffeithwch Du ac Edenia.

20180926_175004
4133j-opo9L

Wedyn, be am Tom gan Cynan Llwyd? Dydi o ddim yn gwneud sioe fawr o’r ffaith fod cymeriad Ananya o dras Bangladeshi, mae hi jest yno, yn ran naturiol o’r stori.

tom-cynan-llwyd-500x743

Mae angen mwy o luniau o bobl amrywiol yn gwneud pethau normal mewn cyhoeddiadau ac ar y we yn Gymraeg yn gyffredinol, felly dyma un fan hyn:

CH6xCTMb1Cv9Qsok-ilzysaGszLgE9gc7imp1IMDqFIwLeKMjYIKkB033oqwHZ9H6EFuX-5Y_aqvR9f-BowBRG7hQ94q5VWuZUSrYQnpooPEMqYemth2q8ED6urf6FHE5WpYqwTtobJnB5TLNf2fUEa2jnj5Vv-Al0c

Gyda llaw, mi wnes i gyhoeddi llyfr am fy mhrofiadau yn Nigeria yn yr 80au, lle ro’n i’n dysgu plant uwchradd (a chynradd o ran hynny), a dwi’n gobeithio’n arw nad o’n i’n hiliol ynddo fo, neu’n tanlinellu pethau fyddai’n gwylltio pobl groenddu, ond cofnod go iawn am fyw mewn pentre bach diarffordd ydi o, ac un o gyfnodau gorau, hapusaf fy mywyd. Doedd profiadau a bywydau plant Gbara ddim byd tebyg i blant duon Prydain, Ffrainc neu’r Unol Daleiethiau, ond dwi’n gobeithio bod y cariad deimlais i at fy nisgyblion a RHAI o fy nghyd-weithwyr yn dod drwadd ynddo fo.

51fqoiiatyl-_sy344_bo1204203200_

LLYFRAU OEDOLION:

Fel mae’n digwydd, dwi wedi bod yn darllen llyfrau gwych gan awduron croenddu yn ddiweddar. Dwi ar ganol Becoming, hunangofiant Michelle Obama, ac yn mwynhau’n arw.

81dDwAzxtrL

Dwi ddim yn disgwyl y bydd hunangofiant Mrs Trump cweit cystal.

A llyfr wnes i syrthio mewn cariad yn llwyr efo fo ydi hwn, Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo:

51ahH0NU6BL._SX324_BO1,204,203,200_

Enillydd y wobr Booker 2019. Fel arfer, dydi ennill y wobr honno ddim yn golygu y bydda i’n mwynhau, a chan nad oes unrhyw atalnod llawn yn y nofel hon, mae rhywun yn teimlo ar y dechrau: “O dyma ni, stwff arti-ffarti…” ond na, gyfeillion! Er ei fod wedi bod yn chydig o waith dal ati ar y dechrau, nefi, mi ges fy hudo! Mae’n delio gyda nifer o gymeriadau gwahanol, a phob un yn agoriad llygad i ddarllenydd croenwyn fel fi. Dwi wedi perswadio ein grŵp darllen i ddewis hon fel ein nofel Saesneg y tro yma a dwi wir yn edrych ymlaen at weld be fydd eu barn nhw. A diaw, dwi am gynnig Becoming ar gyfer y cyfarfod ar ôl hwnnw, hefyd.

Mae hi wir yn drueni bod George Floyd wedi gorfod marw er mwyn i’r byd sylweddoli o ddifri be mae pobl sydd ddim yn wyn eu croen yn gorfod delio ag o, ond er mwyn osgoi magu cenhedlaeth arall o bobl hiliol, mae’n rhaid i ni ehangu gorwelion a gwybodaeth PAWB. Cam bach ydi cyflwyno llyfrau efo cymeriadau amrywiol i blant, ond mae’n gam i’r cyfeiriad iawn.

Ac i gloi, dyma fidio ar youtube drawodd fi fel gordd:

Gwefan am lyfrau Cymraeg: sonamlyfra.cymru

Published Mawrth 29, 2020 by gwanas

O’r diwedd! Mae ‘na ddau berson sy’n caru llyfrau wedi sefydlu gwefan fywiog, liwgar sy’n llawn o adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.

Dyma nhw’r ddau:

Morgan Dafydd a Dr Llio Mai Hughes, ac mae ‘na fwy amdanyn nhw ar y wefan.

Dwi wedi tynnu’r lluniau oddi ar fy ffôn lôn, felly mae’r fformat fymryn yn wahanol i be gwch chi ar eich cyfrifiadur.

Cliciwch ar y linc isod i weld y wefan gyfan:

https://www.sonamlyfra.cymru/

Dwi wedi cyfri 74 o adolygiadau (ond fues i rioed yn dda efo syms, cofiwch), o lyfrau i blant bach i Llyfr Glas Nebo.

A dyma rai o’r tudalennau:

IMG_0619

Dyma lyfr nad ydw i wedi ei weld eto (sut wnes i ei fethu o? Mae o ar restr fer Gwobr Tir naN-og rŵan!) -Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron:

IMG_0620

A dwi wrth fy modd efo’r rhestr glir, hawdd yma ar ddechrau pob adolygiad:

IMG_0621

Dydyn nhw ddim yn adolygiadau siwgrllyd chwaith – maen nhw’n onest iawn. Dyna i chi hwn am Edenia, y drydedd yn fy nhrioleg Cyfres y Melanai.

Adolygiadau Sonamlyfra

Cytuno’n llwyr! Ro’n i’n gwybod yn iawn fod y diwedd yn digwydd ar ras, ond mae gen i esgus: ro’n i’n trio cadw at y nifer geiriau ofynwyd amdano, ac ro’n i angen sgwennu pethau eraill er mwyn talu biliau! Dyna broblem oesol yr awdur Cymraeg (yn enwedig efo llyfrau plant/OI ar y pryd): onibai eich bod wedi ymddeol neu â swydd arall sy’n talu’n dda, dim ond hyn a hyn o amser sydd gynnoch chi i’w roi i bob llyfr. Ac yn anffodus, dwi’n cymryd OES i sgwennu nofelau.

Ond dwi’n derbyn y feirniadaeth yn llwyr. Teg iawn, a chwa o awyr iach!

Mae ‘na amrywiaeth o bobl wedi sgwennu’r adolygiadau, ond be fyddai’n braf fyddai i chi, ddarllenwyr Cymru, yn blant, yn rieni – unrhyw un, nodi eich sylwadau chitha. Gewch chi hyd yn oed yrru fidios!

Jest y peth tra dach chi’n sownd adre. Dwi am neud un neu ddau sylw fy hun rŵan – ond gorau po fwya fydd yn rhoi eu barn.

Da iawn Morgan a Llio – diolch o galon am wefan oedd wir ei hangen!

images

GALW DARLLENWYR IFANC CYMRU!

Published Ionawr 24, 2020 by gwanas

GALW DARLLENWYR IFANC CYMRU! Ffansi bod yn feirniad answyddogol? Dyma’r cyfle i chi! Dewis y Darllenydd #gwobrautirnanogawards
#carudarllen #lovereading

83568500_584600045422531_2190103510421340160_n

Dyma’r hyn mae’r Cyngor Llyfrau newydd ei gyhoeddi:

“Ar y panel beirniaid (Gwobr Tir na n-Og) mae nifer o unigolion sydd ag arbenigedd ym maes llenyddiaeth plant, ac er eu bod nhw’n hyfryd ac yn glyfar iawn, oedolion yw pob un ohonynt; dyma pam ein bod ni eich angen chi – rydym ni am glywed eich barn chi, y darllenwyr.”

Mae’n golygu llyfrau am ddim a chyfle i gyfarfod awduron y rhestr fer! Mwy o fanylion fan hyn:

http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=13330&fbclid=IwAR3iMmbdsY778FkKXB3XNQ0-AuI19VQ_9jmqDjHSDP-iPsjHQgFBcHUPYlM

Pob lwc!

Gyda llaw, be dach chi’n feddwl o hyn? Fyddech chi’n torri llyfr yn ei hanner er mwyn ei wneud yn haws i’w gario o gwmpas? Ro’n i mewn sioc wrth sbio ar y llun yma i ddechrau, ond wedi ystyried y peth a meddwl am gario bag trwm i draeth, neu drwy’r dydd, neu i ffitio bob dim i mewn i gês bychan efo rhywun fel Ryan Air, mae’n dechrau gwneud synnwyr. Ond eto! Rhwygo llyfr?!

20200121_115235

Dwi wedi bod yn darllen tipyn o nofelau YA/ OI Saesneg yn ddiweddar, ac os wnaethoch chi fwynhau Efa a Chyfres y Melanai, triwch hwn gan David Baldacci:

shopping

Ges i fraw pa mor debyg oedd o i Efa, ond arwres ydi arwres am wn i, ac mae’n siŵr bod The Hunger Games wedi ei ysbrydoli yntau. Mi wnes i fwynhau’n arw, beth bynnag!

Un arall sydd wir yn werth ei ddarllen, am ferch 16 oed yn cael ei herwgipio neu ei dwyn ydi hwn:

shopping-1

Angen mwy o rai fel’na yn Gymraeg does!

Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy

Published Awst 14, 2019 by gwanas

Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst:

20190807_093802

Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis:

9781784617158

a Mudferwi gan Rebecca Roberts:

Mudferwi-clawr

Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae’r rheina i gyd – heblaw Horwth efallai? Ond dydi hwnnw ddim yn edrych fel un ar gyfer plant, chwaith. Mi wnai adael i chi wybod wedi i mi eu darllen i gyd, a chan mod i angen gorffen sgwennu fy nofel fy hun yn y cyfamser, mi allai fod yn sbel go lew, iawn?

Roedd hi’n Steddfod hyfryd, er ei bod hi wedi bod yn amhosib gweld a chlywed bob dim. Doedd darllen stori Sali Mali ynghanol y sŵn a’r miri yn y Pentre Plant ddim yn hawdd (diolch i bawb wnaeth aros!) ac mi ges i fodd i fyw yn cyfarfod ffans Cyfres y Melanai ar stondin y Cyngor Llyfrau:


Diolch arbennig i Courtney o Lundain am ddod i chwilio amdana i ar ol y sesiwn arwyddo (roedd ei nain yn canu ar y llwyfan yr un pryd â’r sesiwn arwyddo swyddogol…).

Gyda llaw, mi fues i’n sbecian rownd y cefnau a dyma sut mae staff y CLLC yn llwyddo i lenwi’r silffoedd drwy’r wythnos:
20190805_144234

Sgwrs ro’n i wir am fod yn ran ohoni oedd yr un am amrywiaeth mewn llyfrau plant, ond ro’n i’n brysur yn cynnal gweithdy sgwennu ar y pryd…

20190806_112329

Ond mae ‘na erthygl am y drafodaeth ar BBC Cymry Fyw fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49255371?fbclid=IwAR3OHkG5mH2NqdCVRLUerNntqFvT2hjZLCGtj-gjCJabW6rPywno2ehQP4E

A dwi’n cytuno 100% efo Elin Haf Gruffudd Jones y dylai cyhoeddwyr llyfrau o Gymru edrych ar gyfresi o dramor er mwyn cael gwell amrywiaeth. Pam troi at lyfrau Saesneg o hyd? A deud y gwir, dwi newydd gytuno i gyfieithu llyfr plant oedd yn Almaeneg yn wreiddiol… mwy am hynny eto – ond DWI WRTH FY MODD!

A newyddion gwych o lawenydd mawr: mae Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wedi lansio cystadleuaeth er mwyn cael mwy o nofelau ar gyfer oedolion ifanc. Gwobr o £1,000 ar gyfer y penodau cyntaf & synopsis! Mae gynnoch chi tan Chwefror 20fed 2020, a dyma fwy o fanylion:

Cystadlaeuaeth llunio Nofel 2019

Brysiwch i feddwl am syniad – a SGWENNWCH!

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat

Abertawe ac Aberystwyth

Published Mehefin 15, 2019 by gwanas

Mi fydda i’n gweithio yn Nant Gwrtheyrn drwy’r wythnos nesaf,

news_from_the_nant
ar Gwrs Awduron, sef cwrs am wahanol awduron cyfredol Cymru ar gyfer dysgwyr da. Dyma’r drydedd flwyddyn a dwi’n edrych ymlaen yn arw!

Mae’n gyfnod prysur: es i lawr i Ysgol Tirdeunaw, Abertawe ddydd Iau, i siarad efo plant Blwyddyn 1 a 2 am Cadi dan y Dŵr fel rhan o ŵyl Pop-up. Edrychwch croeso ges i!

D88aXeUWkAMaqZC-1

Nefi, gawson ni hwyl!

20190613_102418

Dyma ni ar ôl bod yn chwarae gêm y sbwriel.

A dyma ni yn dynwared pysgod pwff!

20190613_102514

Mi wnaethon nhw fidio hyfryd wedi i mi adael ond dwi’n rhy dwp i ddeall sut i gynnwys hwnnw fan hyn. Edrychwch ar wefan/llif Twitter Ysgol Tirdeunaw, ac mae o yno. Diolch i chi i gyd am y croeso – a’r lluniau!

20190613_12024120190613_120323

A diolch o galon hefyd i gylchgrawn Lysh, cylchgrawn ar gyfer merched 11-14 oed Cymru.
file

Cylchgrawn digidol newydd a chyfoes yw Lysh, arbennig i ferched ifanc Cymru! Mae Lysh yn rhoi llais i ferched rhwng 11 a 14 oed, ac yn llawn dop o gynnwys gwreiddiol, ffres a slic.

Ac mae’n wir! Ewch i weld drosoch chi eich hun: https://www.lysh.cymru/

Edrychwch ar y fidio yma wnaethon nhw gyda phlant Ysgol Penweddig, Aberystwyth (cliciwch ar y linc isod). Dwi wedi GWIRIONI! Dim ond oedolion sydd wedi rhoi eu barn am drioleg Cyfres y Melanai hyd yma (a doedd pawb ddim yn canmol…) felly mae hyn wir wedi codi fy nghalon i. Swsus mawr diolchgar i ferched Ysgol Penweddig a’u hathrawon, a phob lwc i Lysh!
https://www.lysh.cymru/edenia

Straeon Nos Da Sali Mali

Published Mai 3, 2019 by gwanas

Dwi wedi bod yn rhy brysur yn darllen nofelau oedolion ar gyfer cwrs dysgwyr yn Nant Gwrtheyrn fis nesaf i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg i blant, mae arna i ofn.

Ond dyma newyddion da i chi:

Bydd cyfrol o’r enw Straeon Nos Da Sali Mali yn cael ei chyhoeddi gan Gomer fis nesaf i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 mlwydd oed. Pen-blwydd hapus Sali Mali!

th

Bydd y gyfrol yn cynnwys deuddeg stori gan yr awduron canlynol:-

Heledd Cynwal, Tudur Dylan, Bethan Gwanas (ia, dyna sut dwi’n gwybod am y gyfrol…), Mererid Hopwood, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Gruffudd Owen, Elen Pencwm, Eigra Lewis Roberts, Ifana Savill.

image001

Roedd rhwydd hynt i’r awduron sgwennu am unrhyw gymeriad o blith ffrindiau Sali Mali, a dewis sgwennu am y Pry Bach Tew wnes i.

th

Ond bydd yr arlunydd Simon Bradbury wedi gwneud lluniau newydd sbon i fynd efo pob stori, yn ogystal â’r clawr hyfryd ‘na a dwi’n eitha siŵr mai un arall o’i luniau o ydi hwn:

th

Del ynde? Edrych ymlaen!

O, ac mae’n rhaid i mi sôn am y blog sgwennais i fis Mawrth am ‘Sut i hybu darllen.’ Dwi wedi darllen 4 o’r llyfrau oedd ar y silff hon bellach, ac wedi mwynhau pob un yn arw!

D19kY0iW0AEoGqs

Mae Splash, Boy in the Tower, Survivors a The Wizards of Once yn arbennig. A faswn i ddim yn gwybod hynny onibai am y silff o lyfrau gafodd ei dewis gan ferch ysgol Blwyddyn 6. Oes gan rywun arall silff debyg i’w dangos i ni?

Un peth arall:
Bu Lleucu Roberts a minnau yn Ysgol Penweddig ddydd Mercher i ddathlu bod ein triolegau ar gyfer yr arddegau wedi eu cyhoeddi – yn swyddogol!

D5etayHW4AEtxDH

Gawson ni dipyn o hwyl efo’r criwiau – Blwyddyn 7 a 9. Croesi bysedd y byddan nhw’n mwynhau darllen y tair – neu’r chwech – nofel rŵan. A tydi clawr Afallon yn wych? Mi wnes i fachu un o’r posteri… peidiwch â deud.

D5Tph07WkAEOXHw

D2qFnVSX0AESyGE

Awydd sgwennu ar gyfer pobl ifanc?

Published Ionawr 29, 2019 by gwanas

71a83a70-33b2-4e9c-89be-b9a98cf8220e

Wps, bosib mod i’n rhy hwyr yn deud hyn ond roedd Tŷ Newydd yn cynnig Sêl Santes Dwynwen am dridiau. Dwi’n siŵr y bydden nhw’n ystyried chydig o lastig o ddiwrnod os wnewch chi gysylltu rŵan neu bore fory, ond mae/roedden nhw’n cynnig gostyngiad o 15% o bris holl gyrsiau Tŷ Newydd yn 2019, yn cynnwys cwrs efo fi, Mawrth 9fed – bargen! Manylion ar y linc isod:

https://www.tynewydd.cymru/cwrs/ysgrifennu-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc/
https://www.tynewydd.cymru/blog/cynnig-arbennig-15-i-ffwrdd/

quote-when-i-turned-to-writing-fantasy-and-writing-for-young-people-it-was-joyous-it-was-like-laini-taylor-101-25-68

A sbiwch da ydi’r Tweet yma hefyd. Deud y cwbwl yn fy marn i!

screenshot_20190129-195616_facebook

Gyda llaw, mae ‘Edenia’, y gyfrol olaf yng Nghyfres Y Melanai (i bobl fanc 12+ yn fras) wedi cael ei golygu (diolch, Meinir a Nia Peris) ac mi fydda i’n cael y proflenni cyn bo hir!
Mae hynny’n golygu y dylai hi fod yn y siopau ymhen rhyw ddeufis, dri. Does dim clawr eto, cofiwch, ond mae’n bosib y bydd rhywbeth tebyg i hwn ynddo fo:

d5d8cbbd1a86f021d7bdd6b5d28861f3

Edrych mlaen yn arw i weld y drioleg yn orffenedig!

Trio – cyfres i blant 7-11 oed

Published Hydref 16, 2018 by gwanas

DpKSrzaW4AEYTfA

Mae’n anodd credu, ond mae Manon Steffan Ros wedi cyhoeddi dau lyfr ARALL! Pryd mae’r hogan yn cysgu? Ydi hi’n cysgu o gwbl? Neu ai cysgu’n arbennig o dda mae hi, fel ei bod hi’n llawn egni a syniadau?

Beth bynnag, y ddau lyfr cynta mewn cyfres i blant 7-11 oed ydi’r rhain. Mae’n deud “i’r arddegau” ar Google, ond na, yn bendant ddim. Llyfrau plant cynradd ydi’r rhain. Neu blant hŷn (oedolion, hyd yn oed) sy’n hoffi hiwmor rhyfedd Manon a chymeriadau cwbl nyts, wrth gwrs…

Mae Manon wedi llwyddo unwaith eto i greu cymeriadau gwych, ac mi fydd y gyfres hon yn sicr o apelio.

Tri ffrind ydi Derec Dynamo, Dilys Ddyfeisgar a Clem Clyfar- “Maen nhw’n benderfynol o fod yn griw anturus a llwyddiannus fel clybiau mewn llyfrau hen ffasiwn.”

20181013_132753

A dwi’n rhyw amau mai llyfrau hen ffasiwn fel rhain sy ganddi mewn golwg:

Ond dydi’r trio yma ddim yn glyfar iawn a does ‘na ddim llawer o ‘ddynamo’ yn Derec druan. “Trio, ond byth yn llwyddo!” mae plant eraill yn yr ysgol yn ei ddeud amdanyn nhw, bechod.

Ond: mae pethau od a rhyfedd yn gallu digwydd, ac wrth gwrs, maen nhw. Fel Dilys yn meddwl y byddai’n gallu gweld yn well drwy wneud sbectol allan o foron…

20181013_132835

Haaa!

Mi wnes i wir fwynhau’r ddwy stori, yn bennaf oherwydd y pethau mae’r cymeriadau yn eu gwneud a’u deud (dwi’n siŵr bod o leia un o feibion Manon wedi cyfrannu at y jôcs) ond hefyd, mae hi wedi gosod y straeon yng Nghastell Caernarfon a Chanolfan y Mileniwm, llefydd go iawn.

20181013_132925

Syniad clyfar – sut i wneud y mannau hyn hyd yn oed yn fwy diddorol i blant Cymru. A lluniau gwych gan Huw Aaron ynde!

Diolch i gwmni Atebol am yrru’r copiau ata i, ac os oes ‘na weisg eraill isio i mi flogio am eu llyfrau nhw – dach chi’n gwybod lle dwi’n byw…

Mwynhewch y darllen!

Ac o ia, mae gen inna lyfr allan yr wythnos yma (ia, dim ond un, ac nid ar gyfer plant 7-11 ond rhai fymryn yn hŷn: 12-15 oed). Mae Y Diffeithwch Du wedi cyrraedd y siopau.

9781784616526

Sef dilyniant i Efa:

EFA6

A bydd y 3ydd llyfr yn y siopau yn 2019. Ydw, dwi’n cymryd chydig mwy o amser na Manon. Bydd raid i mi fynd i ngwely yn gynt…

Clawr y Diffeithwch Du

Published Medi 26, 2018 by gwanas

Dyma fo – y clawr terfynol, wedi ei ddylunio gan Tanwen Haf, diolch Tanwen!

20180926_175004

Ydi, mae’r llun bach ohona i yn hen, ond tyff, dwi’n ei licio fo! Iolo Penri dynnodd hwnna – a diolch Iolo. xx

Yn ôl Meinir, y golygydd, mae’r testun ar fin mynd i brint. Weihei! O ia, hon ydi’r ail nofel yng nghyfres y Melanai, rhag ofn eich bod chi wedi drysu.

Efa oedd y nofel gyntaf:

EFA6

A do, dwi wedi hen orffen sgwennu Llyfr 3 ond bydd raid aros am ymateb y PWYLLGOR PWYSIG cyn i honno ddechrau cael ei golygu. Rhywfaint o ail-sgwennu efallai – gawn ni weld. A gawn ni weld be fydd clawr honno yn 2019.

Do, dwi wedi ecseitio’n lân/cynhyrfu’n rhacs!

Gyda llaw – ydach chi’n meddwl y dylid cynnwys brawddeg yn Saesneg am lyfrau gwreiddiol Cymraeg? Rhywbeth ar gyfer rhieni di-Gymraeg, fel “This is a fantasy novel for young people”? Oes angen nodi oedran?