Caerdydd

All posts tagged Caerdydd

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019

Published Ebrill 13, 2019 by gwanas

Dzh5S6dWkAE2knk

Wel? Fuoch chi yno? Wnaethoch chi fwynhau? Mi ges i fodd i fyw, unwaith i mi lwyddo i ddod allan o faes parcio’r castell (rhy dwp i weld y botwm gwyrdd…dyyyh).

Ro’n i yn y groglofft, fy man arferol, ar y pnawn Sadwrn, a dyma fi efo’r criw:

IMG_20190406_164041

Yn sgwrsio am a darllen darnau o Cadi a’r Deinosoriaid

9781784616403

Gawson ni andros o hwyl, ac roedd gwybodaeth ambell un am ddeinosoriaid yn syfrdanol! Ro’n i’n gegrwth pan wnaeth un hogan fach 3 oed nabod Triseratops. Waw. Roedd ei thad mewn sioc hefyd. Roedd y lluniau wnaethon nhw ar y diwedd yn arbennig:

20190406_161851

Ac ro’n i wrth fy modd pan roddodd Cerys ei llun hi yn anrheg i mi:

Diolch o galon i bawb am ddod, ac i griw yr ŵyl am y croeso a’r baned a’r bisgedi hyfryd.

Y bore wedyn, es i draw i’r Amgueddfa Genedlaethol

th-1

i weld y blodau hyfryd tu allan

20190413_164903

a’r rhyfeddodau tu mewn:

th-2

Ond mi ges i siom yn y siop! Llond gwlad o lyfrau plant am ddeinosoriaid, yn cynnwys rhai Cymraeg, ond addasiadau o lyfrau Saesneg oedd pob un! Dim un gan awduron Cymraeg o Gymru! Yn Amgueddfa CYMRU!

th-1

Felly mi fues i’n ddigon hy heddiw i yrru ebost atyn nhw yn deud pa mor siomedig o’n i, a thynnu eu sylw at hwn:

9781784616403

Teimlad chwithig, dwi’n cyfadde, ond os na wna i ddeud wrthyn nhw, pwy wnaiff? Felly os welwch chi gopi o Cadi yn y siop yno ryw ben, rhowch wybod. Gwell fyth, ewch yno i holi am y llyfr!