Bandana

All posts tagged Bandana

Zonia Bowen a Rhaglen Tudur Owen

Published Ionawr 28, 2015 by gwanas

Dim sylw i lyfrau plant ers sbel, dwi’n gwybod – ond dwi’n aros i glywed pa lyfrau sydd wedi eich plesio chi, tydw! Cofiwch ddeud. Mae’n bwysig gadael i bobl eraill wybod am lyfrau da, difyr, dach chi methu eu rhoi i lawr.

Felly llyfrau oedolion sy’n cael sylw gen i y tro yma.

Os ydi eich mam neu eich nain chi yn debyg i fy mam i, a ddim yn darllen yn aml iawn, ond â diddordeb mawr mewn bywydau bobl eraill, be am dynnu eu sylw at hwn?

51IaGEwoyPL._AA160_

Dy Bobl di fydd fy mhobl i, Hunangofiant dynes o’r enw Zonia Bowen ( sy’n nain i fand y Plu a’r rhan fwya o Bandana)
Unknown-2

images
ydi o, a Saesnes wedi dysgu Cymraeg ydi hi, ond mi ddysgodd yr iaith cyn bod gwersi Cymraeg ar gyfer oedolion yn bod. Pan ddarllenais i’r llyfr, ro’n i wedi gwirioni; mae hi mor onest am bob dim, mae’n chwa o awyr iach! Ac mae Mam wedi deud wrtha i heddiw ei bod hi methu rhoi’r llyfr i lawr, ac mai dyma’r llyfr Cymraeg gorau erioed iddi hi ei ddarllen.

Mae Zonia’n sôn am ei magwraeth yn Lloegr ( hollol wahanol i ni yng Nghymru) a sut daeth hi i Gymru a sut a pham ddysgodd hi’r Gymraeg – a Llydaweg – a beth mae hi’n ei gredu ynddo fo o ran crefydd ( dydi hi ddim yn ddynes capel!) a sut nath hi a merched eraill o bentref y Parc sefydlu Merched y Wawr a pham wnaeth hi adael wedyn – a llawer, llawer mwy – difyr, difyr, difyr. Soniwch wrth eich mam/nain/modryb/athrawon. Ond mi fyddai unrhyw ddyn gwerth ei halen yn mwynhau stori hynod Zonia Bowen hefyd.

Llyfr sy’n bendant ar gyfer oedolion ydi hwn hefyd:

Unknown-1

Sais gan Alun Cob, a dyma’r llyfr fyddwn ni’n ei drafod ar raglen Tudur Owen ar Radio Cymru bnawn Gwener Chwefror 20fed.
Unknown

Mi fyddan nhw wedi cael digon o amser i’w ddarllen o erbyn hynny, siawns!
Ro’n i’n ei ddarllen o ar yr awyren i ac o Amsterdam ganol Ionawr – dyma fi yn y maes awyr:
photo

Felly beryg y bydda i wedi anghofio’r stori erbyn Chwefror yr 20fed! Ond na, dwi’m yn meddwl… mae’n stori sy’n drysu’ch pen chi ond mewn ffordd dda. Gawn ni weld be fydd barn y lleill ynde?