Asiant A

All posts tagged Asiant A

Straeon am ferched dewr

Published Ionawr 7, 2018 by gwanas

DL3BEV-W0AAhGzZ

Ydw, dwi’n torri fy rheol eto – addasiad ydi hwn, nid llyfr gwreiddiol o Gymru, ond mae’n un diddorol. Mae’r fersiwn gwreiddiol wedi gwerthu fel slecs yn yr Unol Daleithiau ac eto wedyn pan gafodd ei gyhoeddi ym Mhrydain mae’n debyg: ‘The publishing sensation of the year’ yn ôl yr Evening Standard.
Felly mi ddylai’r fersiwn yma, Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch gan Angharad Elen

Angharad-Elen

werthu’n dda hefyd. Mae’n siŵr bod sawl merch wedi cael copi yn anrheg Nadolig, ac wedi ei fwynhau.

Fy marn i? Mae’n addasiad da, a Margaret Thatcher wedi cael ffling er mwyn gwneud lle i Lowri Morgan, diolch byth. Mae’r syniad yn un da hefyd: tudalen o ysgrif (nid stori yn fy marn i) byr, syml am ferched amrywiol o bedwar ban byd (er bod ‘na ormod o bwyslais ar yr Unol Daleithiau) a llun gwreiddiol, da, lliwgar gan amrywiol artistiaid benwyaidd gyferbyn. Mae’n arddull sy’n siwtio merched ifanc yn ogystal â rhai hŷn. Do’n i ddim wedi clywed am sawl un, felly mae’n addysgiadol, ac mae’n profi y gall merched fod yn unrhywbeth maen nhw’n dymuno bod – ieee! – ond efo cryn dipyn o benderfyniad, ac yn aml iawn, pres hefyd. Mae’n rhoi sylw i ferched dewr sydd wedi cicio yn erbyn y tresi, fel Rosa Parks:

image

Matilde Montoya y meddyg benywaidd cyntaf ym Mecsico:

image

a rhai sy’n arwresau go iawn:

image

image

Ha! Newydd sylwi bod Sali Mali wedi mynnu ffotobomio fanna!

Mae rhai yn fwy diddorol na’i gilydd, wrth reswm, ac er ei bod yn ferch hynod lwyddiannus ym myd pensaerniaeth, ac yn haeddu ei lle, dwi ddim yn siŵr a fyddwn i wedi dewis y stori am Zaha Hadid yn cael stranc ar awyren i roi esiampl dda i ferched ifanc. Pam canmol y ffaith iddi gael stranc oherwydd bod y peilot wedi deud y byddai’n rhaid oedi chydig? Mi fynnodd gael ei ffordd ei hun a gorfodi’r staff i chwilota am ei bagiau yng nghrombil yr awyren a’i symud i awyren arall. Ia, canmol rhywun am beidio ag ildio pan mae’n fater o bwys, iawn, ond fyddwn i yn bersonol ddim wedi dewis y stori yna fel enghraifft o arwres. Dwi’n siŵr bod straeon gwell i’w cael amdani.

Un arall wnaeth i mi grafu mhen oedd hanes Coy Mathis, plentyn gafodd ei eni’n fachgen ond a oedd yn teimlo’n gryf mai merch oedd hi. Iawn, dallt ei bod hi’n stori deg a PC iawn i’w chynnwys, dim byd yn erbyn hynny, ond pam sôn bod Coy yn “dotio at ffrogiau, esgidiau sgleiniog a’r lliw pinc”? Ro’n i’n meddwl mai ymgais i ddileu rhyw hen stereoteipio hurt felna oedd y llyfr? Grrr. Dwi’n siŵr y byddai Angharad yr addasydd wedi hoffi newid hynna, ond yn aml, chewch chi ddim newid cynnwys y llyfr rydach chi’n ei addasu. Bechod.

O, ac oherwydd y lliw/gosod mi ges i drafferth darllen y sgrifen ar y tudalennau o luniau weithiau:

Anodd tydi? Dwi’m yn gwybod os oedd yr un peth wedi digwydd yn y fersiwn Saesneg. Ond efallai mai fi sydd angen cofio gwisgo fy sbectol.

Ond wedi cwyno fel’na, mae’n llyfr hardd, difyr ac mi wnes i ei fwynhau 90% ohono. Ond roedd y marchnata yn glyfar doedd: mae ‘na lyfrau gwell i ysbrydoli merched ar gael yn fy marn i! Ond dim llawer ar gyfer merched iau, mae’n wir.

I ddarllenwyr hŷn, be am hanes merched o Gymru yn Merched Gwyllt o Gymru?

519JeBshvVL

Neu Mamwlad?

9781845275358_1024x1024

neu nofelau gyda merched dewr, cryf yn brif gymeriadau?

image9781847718402


getimg

Allwch chi feddwl am engreifftiau (cyfoes) eraill o ferched cryf/dewr/rebel o ferch mewn nofelau gwreiddiol i blant?

Ion 15 – Diolch Awel Mai Jones am dynnu fy sylw at hwn:
Amelia to Zora – 26 women who changed the World – wedi bod yn ffefryn ei merch, Magi. Swnio’n dda!

51I32mc6CbL

Cystadleuaeth Llyfrau Ysgolion Cymru

Published Ebrill 29, 2017 by gwanas

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol hon wedi bod, neu ar fin mynd drwy’r rowndiau sirol bellach. Mae’n gystadleuaeth wych a hynod bwysig ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.

2744.14801.file.eng.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-3-a-4-2011.542.400

Ysgol Dyffryn Banw (Powys) – Enillwyr Blynyddoedd 3 a 4. 2011

Nid yn unig mae’n annog plant i drafod a pherfformio darnau o’r llyfrau ond mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael llyfr am ddim!

2743.14799.file.cym.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-5-a-6-2011.600.400

Ysgol Gymraeg Treganna a Than yr Eos (Caerdydd) – Enillwyr Blynyddoedd 5 a 6. 2011

A gwobrau ariannol i’r ysgolion. Gwych.

Ond mae gen i gwyn: mae’r ysgolion yn gorfod dewis o restr llyfrau sy’n cael eu dewis gan bwyllgor y Cyngor Llyfrau. Dyma i chi’r rhai sirol ar gyfer 2017:

darllen dros gymru 56

Llwyth o lyfrau da. Ond mae David Walliams a Roald Dahl yn eu canol nhw. Rwan ta, gan fod athrawon yn bobl brysur tu hwnt, efo hen ddigon ar eu platiau fel mae hi, faint ohonyn nhw sy’n mynd i drafferthu darllen pob un er mwyn dewis pa rai i’w perfformio a’u trafod? Onid yw’r demtasiwn i fynd am y rhai enwog, y rhai y bydd y plant yn gwybod amdanyn nhw yn barod, yn ormod? Felly oni fydd y rhai gwreiddiol Cymraeg, sef y rhai SYDD ANGEN y sylw a’r gwerthiant, yn cael eu hanwybyddu? Pam na fedr y rhestr gael ei chyfyngu i rai gwreiddiol yn unig?

Os oes ‘na brinder rhai gwreiddiol Cymraeg, wel mae angen buddsoddi, ‘does? Ar y linc isod mae rhestr o’r 10 llyfr i blant werthodd orau yn ystod Mawrth 2017. Pob un wan jac yn addasiad:

http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1133&interest=0&available=0&tsid=2

Sori i swnio fel tiwn gron, ond mae hynna, i mi, yn sefyllfa hynod drist.

Yn ôl at y gystadleuaeth. Dyma ddewis rownd sirol y criw Bl 3 a 4:

3 a4

Mwy o rai Cymraeg fan hyn, diolch byth (a Coeden Cadi – ieee!). Difyr fyddai cael gwybod faint o ysgolion ddewisodd drafod a pherfformio addasiadau yn y ddau gategori. Efallai bod fy ofnau’n gwbl anghywir, wrth gwrs. Ond dwi’n amau…

Wedyn dyma’r dewis ar gyfer y rowndiau cenedlaethol:

cen 56

Tri addasiad – a dau yn hynod adnabyddus eto… hm.

A’r dewis i Bl 3 a 4:

cen 34

Dau addasiad eto. Sgwn i pa rai gaiff eu dewis? Pa rai fyddech chi’n eu dewis i’w trafod a’u perfformio?

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu beth bynnag. Mae’r trafod a’r perfformio wastad mor dda yn y rowndiau cenedlaethol, mae’n bechod nad oes modd i mwy o bobl eu gweld a’u clywed wrthi. Mae ‘na ambell berfformiad ar gael ar youtube, ond dydi safon y ffilmio ddim yn wych, gyda phob parch! Bechod na fyddai’r cyfryngau yn ymddiddori mwy yn y gystadleuaeth ynde?

Ond dyna fo, nid pawb sy’n credu bod llyfrau yn bwysig. Ond sbiwch ar y llun yma o Irac:C-Y4Dv_XUAUeN9L

Ydyn, mae gwerthwyr llyfrau yn eu cadw allan ar y stryd. Does dim angen poeni am law yn eu difetha, ond yn bwysicach, does dim angen poeni am bobl yn eu dwyn chwaith! Pam? Oherwydd, yn ôl y llyfrwerthwyr:

“The reader does not steal and the thief does not read.”

Da ‘de!

 

 

 

 

 

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!

Llyfrau i wneud i chi chwerthin

Published Mawrth 12, 2015 by gwanas

Dyna’r dasg ro’n i wedi ei gosod i ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 Ysgol Bro Cinmeirch, lle dwi’n Gyfaill Darllen: dod o hyd i, darllen a rhannu llyfrau oedd yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Roedd ‘na lawer o rai Saesneg wrth gwrs, a nifer fawr o Henri Helynts, Tudur Budurs ac ati, ond addasiadau ydi’r rheiny, drapia!
Doedd neb wedi dod o hyd i lyfr Cymraeg, wedi ei sgwennu gan awdur Cymraeg, oedd wedi gwneud iddyn nhw chwerthin?
Oedd, diolch byth!
photo1

Hwre am Yr Wmp o Blwmp! A Llongyfarchiadau i’r awdures, Dwynwen Lloyd Llywelyn! Dyma i chi’r adolygiad ar wefan gwales.com :

Adolygiad Gwales
Ond dyw hi’n braf cael llyfrau gwreiddiol Cymraeg? Mae yna groeso mawr, felly, i gyfres Lolipop gan Gomer. Dyma stori gan awdures newydd – Dwynwen Lloyd Llywelyn – ond un sydd â phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr ac y mae dawn Dwynwen i ysgrfennu deialog yn amlwg yn y gyfrol hon.

Hanes efeilliaid a geir yn y stori hon, efeilliaid tawel iawn ar ddechrau’r gyfrol ond os oes rhywun yn achosi iddynt siarad – wel, yr Wmp o Blwmp yw hwnnw. Dyma greadur glas, blewog a chrwn a ddarganfuwyd yn ystafell wely Defi a Dewi. Ers iddo gyrraedd, mae popeth rywsut yn llwyddo. Mae’r efeilliaid yn siarad, ac yn fwy na hynny mae’r ddau yn llwyddo i roi taw ar fwli mawr Blwyddyn 6 a’i antics. Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, a phob canmoliaeth hefyd i Helen Flook am y lluniau.

Dyma lyfr addas i’w ddarllen i unrhyw blentyn ond fe fydden ni’n tybio ei fod yn bennaf addas ar gyfer oed darllen Blynyddoedd 2 a 3. Edrychwn ymlaen at straeon eraill yn y gyfres Lolipop.

Sarah Down-Roberts

Iawn, felly prynwch o (£4.99) neu ei fenthyg o’r llyfrgell. Wedyn bydd yr awdures yn cael rhywfaint o £ fydd yn ei galluogi a’i hysbrydoli i sgwennu mwy o lyfrau gwreiddiol, Cymraeg i wneud i chi chwerthin. Dydi David Walliams ddim yn brin o bres, felly mi allwch chi fenthyca llyfrau hwnnw i’ch gilydd heb deimlo’n euog. A fydd Gruffudd Antur, sydd wedi addasu un o’i lyfrau i’r Gymraeg ddim yn cael ceiniog yn sgîl gwerthiant y llyfr. Yr awdur gwreiddiol sy’n cael y breindal dach chi’n gweld.

Chwarae teg, roedd un disgybl wedi dewis hwn hefyd, llyfr am neiniau oedd wedi ei sgwennu ymhell cyn y llyfr Saesneg am nain, ac sy’n llawer gwell hefyd, yn fy marn i! Nain! Nain! Nain! gan Sian Eirian Rees Davies – darllenwch o i weld os ydach chi’n cytuno.

image

Roedd un o Bl 6 wedi dewis Pen Dafad hefyd, diolch byth!

Unknown-1

Be amdanoch chi? Oes ‘na lyfrau Cymraeg wedi gwneud i chi/eich brodyr/chwiorydd/rhieni/ffrindiau chwerthin?
Mi wnes i ofyn y cwestiwn ar Facebook, a dyna sut ges i wybod am hwn, Straeon Bobli Blaidd gan Catherine Jones:
getimg

A hei, ydi, mae o’n ddigri! 4 stori am deulu o fleiddiaid sy’n llawn cymeriad a dawn deud. Mae o allan ers 2010, ond chafodd o fawr o sylw felly does neb yn gwybod amdano. Grrrr… wel, dach chi’n gwybod rwan!
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 yn ôl Gwales. A dwi wedi ychwanegu adolygiad cwsmer a 5 seren:
“Gwych! Straeon wirioneddol ddoniol. Iaith eitha gogleddol ond ddylai hynny ddim cadw’r deheuwyr draw. Dawn dweud a straeon wnaeth i mi chwerthin. Lluniau gwych hefyd.”

Be am i chi wneud yr un peth? Neu rhowch wybod i mi ar hwn, ac mi wnai roi sylw i’r llyfrau hynny.
A dyma i chi fwy o lyfrau digri:
Unknowngetimg.phpimage

A hwn:
getimg.php
Llyfr llawn hwyl sy’n cynnwys posau, jôcs, gêmau a storïau am gymeriadau fel Capten Clonc a’r Prif Cop. Oriau o chwerthin i blant o bob oed.

Roedd yr awdur, Huw Aaron yn un o’r criw oedd yn cymryd rhan yn Sioe Lyfrau Fwya’r Byd yng Nghaernarfon wythnos yma. Sbiwch ciw oedd ar ei gyfer o wedyn:
ciw

A dim ond un neu ddau oedd i fi a Gruffudd:
photo2 Hoffi’r ffoto-bomiwr?!
A dydi hwn ddim yn lun gwych, ond mae’n dangos y gwahaniaeth mewn maint ciwiau…
photo ciw
Does dim pwynt trio cystadlu efo cartwnydd…

Gyda llaw, yn Ysgol Cinmeirch, rydan ni’n rhoi bathodynnau arbennig i’r sêr darllen, a dyma i chi lun neu ddau:
gwobrauphoto3
Da iawn pawb! Daliwch ati.

O, a dyma fy hoff lun o Ddiwrnod y Llyfr: Awen o Ysgol Treganna efo’i hoff lyfr! Ieee! Gwylliaid!
Awen
Diolch Awen… ti’n grêt. xx

Asiant A, Cyfres Pen Dafad

Published Ebrill 15, 2014 by gwanas

Grrr – mae WordPress yn chwarae i fyny eto! Gorfod ail neud tri chwarter y blogiad yma!

Image

Dwi wedi deud ers tro bod angen llyfrau tebyg i rai Anthony Horowitz a Cherub, Robert Muchamore yn Gymraeg. image
A dyma ni, mae Anni Llyn Image

wedi cyhoeddi un!
Mae Alys (Asiant A) yn 14 oed, ac yn debyg i griw Cherub, wedi cael ei hyfforddi i fod yn ysbiwr ers yn ifanc iawn. A rwan, mae’n cael ei swydd gyntaf un. Dyma’r dudalen gynta i chi:
asiant

Ia, ei mam hi sy’n ei hyfforddi hi. Merched ydi’r rhai pwerus yn y llyfr yma! Dwi’n falch iawn mai sgwennu am ferch wnaeth Anni – llyfr arall ar gyfer y rhestr o gymeriadau benywaidd cryf, sydd ddim yn crynu a gwichian yn y gornel dragwyddol. Dwi’n sgrechian bob tro dwi’n gweld rhyw gadach o hogan yn ymddwyn fel’na mewn ffilmiau.

Mae’r llyfr yma, a’r cymeriadau yn cydio o’r cychwyn; allwch chi ddim peidio a hoffi Alys. Hen hogan iawn, efo hiwmor digon od. Mae yma jôcs wnaeth i mi chwerthin, ond oes, mae gen i hiwmor eitha od hefyd. Ro’n i fod yn sgwennu fy hun, ond roedd hi’n braf, ac ro’n i’n mwynhau darllen hwn yn yr haul.

Ond: gan fod y llyfr yma yn ran o gyfres Pen Dafad, dwi wedi fy nrysu eto ynglyn â pha oedran mae’r wasg yn anelu ato. Mae’r llyfrau i gyd mor wahanol – sy’n beth da – ond yn drysu’r darllenwyr, heb sôn am rieni ac athrawon! Dyna i chi Ceri Grafu ( gen i) – mae hwnnw ar gyfer plant tua 9+, ond mae Pen Dafad
Unknown-1
ar gyfer criw tipyn hÿn, 11-14 ( yn fras). Mae llawer yn dibynnu ar lefel darllen wrth gwrs, nid oedran yn unig. mi fyswn i’n deud bod Sbinia a Jibia gan Bedwyr Rees
Unknown-2 ar gyfer yr oedran yna hefyd.

Ond Asiant A? Anodd. Er mai 14 ydi oed Alys, mae ‘na elfen o’r plot sy’n gwneud i mi feddwl mai criw iau fyddai’n hoffi hon fwya. Mae’r iaith a’r dawn deud yn mynd i apelio at y criw hÿn, ydi, ond y dirgelwch…? Dwi’n gorfod bod yn ofalus rwan rhag ofn i mi ddeud gormod a gadael y gath o’r cwd. Hm. Darllenwch o drosoch chi’ch hun i weld os ydach chi’n cytuno efo fi ai peidio, a rhowch wybod.

Ond dwi’n meddwl mai plant 9+ fyddai’n hoffi hon, yn enwedig merched sydd wedi cael llond bol o bethau pinc… ond mi fydd pobl efo himwor od hyd at 13 oed yn ei hoffi hefyd – ond nid pawb – nid y rhai sy’n disgwyl Cherub Cymraeg. Mae’n llawer iawn ysgafnach na llyfrau Cherub, yn llawer mwy comic, ond dyna fo, os ydach chi’n gyfarwydd â Anni fel cyflwynydd, mi fyddech chi’n disgwyl hynny.

Nofel gynta dda iawn – er bod ambell beth bach, bach yn y plot oedd yn gneud i mi fynd “Hmm…mi fyddan nhw ( y darllenwyr) yn sylwi ar hwnna…” jest rhyw dyllau bychain, dyna’i gyd, dim byd mawr.
Mi wnes i hedfan drwy hon, mi wnewch chithau hefyd, a dwi’n edrych ymlaen at y nesa. Mae Alys yn gymeriad dwi am weld mwy ohoni yn bendant.

Gwefan ar gyfer y genod

Published Ebrill 8, 2014 by gwanas

Dwi newydd ddarganfod hwn – gwefan sy’n rhoi sylw i lyfrau am, ac ar gyfer merched ifanc. Llyfrau am ferched llawn gyts a bywyd.

Image

Dyma’r linc i’r wefan- 

http://www.amightygirl.com/blog?p=5362

Mi fyswn i wedi bod wrth fy modd efo gwybodaeth fel hyn pan ro’n i’n 8-12 oed. Mae angen rhestr debyg o lyfrau Cymraeg am ferched bywiog sydd ddim yn gwichian a chrynu yn y gornel rwan yndoes! Unrhyw un yn gallu cynnig teitlau?

Dwi’n gwybod am un amlwg…Unknown

A hwn, ond dwi’m wedi cael cyfle i’w ddarllen o eto:
image

Ond os ydach chi wedi ei ddarllen o, rhowch wybod!