Do, daeth Sali Mali a Cyw a Rhys Meirion a phawb i Saith Seren, Wrecsam i’r Wyl Fedwen. Wel, pawb oedd ddim yn yr ŵyl fwyd yng Nghaernarfon neu’r brotest fawr yng Nghaerdydd.
Roedd y lle’n llawn ar gyfer y sesiwn hyfryd efo Aled Lewis Evans, un o’r bobl neisia yn y byd (a mwya dawnus – mae’n eitha posib eich bod chi wedi llefaru neu glywed un o’i gerddi mewn steddfod)
A dyma fo’n derbyn ei wobr am gyfraniad oes i’r byd llyfrau:
A dyma fo’n cael ei longyfarch gan Rhys ac Anni a fi:
A dyma Anni Llŷn yn sgwrsio efo a darllen i’r plant ddaeth draw:
Gawson ni andros o hwyl a chroeso arferol pobl Wrecsam – a diolch i Siop Cwlwm am ddod â chymaint o lyfrau da…
A sôn (eto) am Sali Mali, ges i lyfr wirioneddol hyfryd wythnos dwytha: Dathlu gyda Sali Mali.
Mae o’n llawn lluniau hyfryd, lliwgar a syniadau am beth i’w gwneud ar wahanol adegau o’r flwyddyn.e.e: dyma sut i wneud hetiau clustiau cwningod ar gyfer y Pasg!
A dyma sut i wneud teisen Dwmplen Malwoden:
Ar gyfer pa adeg o’r flwyddyn mae hynna? Wel, mi fydd raid i chi brynu’r llyfr i gael gwybod. £6.99 gyda llaw – a bargen yn fy marn i. Dyma’r math o lyfr y byddwn i wedi troi’n ôl ato droeon pan ro’n i’n blentyn oedd yn hoffi gwneud pethau – a rwan dwi’n fodryb sydd angen syniadau be i wneud efo plant y teulu ‘ma weithiau. Handi iawn.
Elfen arall wnes i ei hoffi oedd y rhigymau a’r penillion dwi’n eu cofio o fy ieuenctid ac sydd angen i blant heddiw eu dysgu:
Mae ‘na lyfr Cymraeg arall i blant newydd wneud hynna – mwy am hwnnw tro nesa.
Dwi jest isio gorffen efo sylw am ddau lyfr Saesneg dwi newydd eu darllen, dau sy’n debyg iawn o ran yr arddull ‘comic’ neu graffig, sef Invisible Emmie, am blentyn swil:
Ac El Deafo, ia, am blentyn byddar:
Roedd/mae y ddwy awdures yn swil a byddar eu hunain felly mae pob gair a sefyllfa yn taro deuddeg. Ac ro’n i wrth fy modd efo hiwmor Invisible Emmie:
Roedd El Deafo yn hynod onest a digri hefyd.
Fel oedolyn, dwi wedi dysgu be i beidio ei neud, a be i’w neud yng nghwmni pobl hynod swil neu fyddar. Hynod addysgiadol a hynod ddifyr. Rwan, dwi ddim isio i rywun gyfieithu’r rhain, ond does na’m byd o’i le efo ‘benthyg’ y syniad a chreu rhai cwbl wreiddiol o brofiad plant sydd wedi mynd drwy’r un profiadau, nagoes?