Aled Hughes

All posts tagged Aled Hughes

Dychryn plant

Published Mawrth 13, 2018 by gwanas

Mi fydda i’n trafod llyfrau brawychus, arswydus i blant efo Al Hughes, Radio Cymru fore Iau yma, Mawrth y 15fed. Ddylen ni osgoi dychryn plant efo’n llyfrau? Neu ydi o’n gwneud lles iddyn nhw?

kids--how-to-help-your-scared-child-1

Doedd awduron a storiwyr y gorffennol yn poeni dim am y peth nag oedden?

Oes ‘na stori fwy brawychus na Hansel a Gretel? Rhieni sy’n trio cael gwared o’u plant? Gwrach sy’n bwyta plant – ac yn rhoi Hansel mewn caets i drio ei besgi?

A hon gododd ofn arna i:

dancing_red_shoes__1466790191_112.196.175.14

Ia, The Red shoes gan Hans Christian Andersen. Mae manylion y stori yn erchyll.

A dyna i chi Hugan Fach Goch sy’n achosi i’w nain gael ei bwyta gan flaidd.

Y fersiwn Ladybird oedd gen i ers talwm. Ond sbiwch sut mae’r stori wedi ei gwneud gymaint yn llai brawychus heddiw:

Fairy-Tales-Little-Red-Riding-Hood-13439-3-456x516

Ydan ni’n poeni gormod am ddychryn ein plant dwch? Dwi’n cofio gweld sioe bypedau wirioneddol wych i blant flwyddyn neu ddwy yn ôl – pawb wrth eu boddau, heblaw am un hogan fach griodd drwyddo fo. Roedd y fam yn gandryll, yn mynnu nad oedd honna’n sioe i blant. Ond a ddylai plant eraill gael eu hamddifadu o’r hwyl – a’r addysg – o gael eu dychryn oherwydd bod rhai yn fwy sensitif? Neu ddim wedi arfer efo cael eu dychryn?

Gwrandewch ar y drafodaeth fore Iau.

O, ac yn sicr, mae ‘na brinder llyfrau gwreiddiol Cymraeg i godi ofn ar blant. Digon o addasiadau, wrth gwrs…

Oes ‘na rywun yn mynd i fedru llenwi sgidiau Gareth F Williams, oedd yn wych am sgwennu llyfrau sy’n codi gwallt eich pen?

51j5AQmatqL._SX324_BO1,204,203,200_

Advertisements

Straeon Nadolig Rhaglen Aled Hughes 2017

Published Rhagfyr 14, 2017 by gwanas

p02md0mv

Os wnaethoch chi golli rhaglen Aled Hughes bore ’ma, roedd Casia Wiliam (Bardd Plant Cymru)
Bardd_Plant_ir_Wefan

a fi yn cyhoeddi 5 enillydd cystadleuaeth Straeon Nadolig 2017. Roedd ’na gannoedd wedi gyrru eu straeon i mewn, a iechyd, roedd ’na rai da yno, o hanes coeden Nadolig unig yn ysu am gael ei hanrheg Nadolig ei hun, i Donald Trump yn cael swydd Sion Corn, i dad yn dod adre o’r rhyfel, i raglen deledu ‘realaeth’ yn dewis Sion Corn newydd, i fachgen yn helpu Sion Corn allan o’r simdde efo cymorth JCB digar bach 8018

67

ac yn cael Massey Ferguson 135 a digar mawr Dossan 340 yn anrheg! Ia, dwi’n meddwl mai plentyn ffarm/contractor oedd hwnna…

Roedd Casia a finna yn rhyfeddol o gytun, diolch byth. Dim cega na ffraeo y tro yma, ond roedden ni isio canmol pawb a rhoi sylw arbennig i’r rhain: ‘Y Bocs Esgidiau’ gan Lemonêd o Ysgol Bro Cinmeirch – ddest ti’n agos iawn Lemonêd! Hanes bocs sgidiau oedd hwn, o safbwynt plentyn sy’n ei lenwi, y ddoli glwt sy’n cael ei rhoi ynddo fo a’r plentyn sy’n derbyn y bocs. Hyfryd.

A stori ‘Y Sion Corn Newydd’, sef Donald Trump o bawb gan y Corach Drwg – sgwennu a hiwmor arbennig!
IKD9VWjDuhj49cdhvDShwvP2ptIEDcAEIMQYnlkIB9vJ_c2rToXmyatlWeRVdnR3RYm0aA=s128

Y Welsh Whisperer sydd â chwpwrdd sy’n mynd a’r awdur i wlad y Nadolig. Sgwennu disgrifiadol hyfryd.

Ro’n i hefyd yn hoff iawn o ‘Y Mwclis Hud’ gan Enfys a ‘Nadolig am Byth’ gan Bob Sgwîc, ‘Y Robin Goch tew’ gan Casi Wasi, ‘Lili yn dysgu gwers’ gan Rwdolff, ‘Sat Nav’ gan Rhys Webb, ‘Yr addurniadau amryliw’ gan ‘Y Diwedd’ – doedd na ddim ffug enw, felly mae’n rhaid mai ‘Y Diwedd’ oedd o?!
A ‘Y corach bach direidus’ gan Martha Plu Chwithig. Ac roedd Casia’n canmol rhain i’r cymylau hefyd (a finna o ran hynny!): ‘Y Nadolig’ gan Twmi Twrci,
‘Llond Bol!’ gan Jeff, a ‘Nadolig o Chwith’ – Erin Thomas.

Ond dyma’r pump a ddaeth i’r brig, ac mi gewch chi glywed enwau go iawn yr awduron a chlywed actorion yn darllen y straeon wythnos nesa ar Radio Cymru. Bydd Aled yn cael sgwrs efo enillydd gwhanol bob dydd am tua 8.50, ac wedyn bydd y stori yn cael ei darlledu am 9.30am. A dwi’n meddwl mai yn y drefn yma y bydd hynny’n digwydd.

Tanta-ra-ra:

‘Sebona ni!’ gan Jac Junior
Sgwennwr hyderus, cry sy’n defnyddio cymariaethau gwych fel “yn crynu fel peiriant golchi ar sbin clou.” Ac mae’n gallu gneud acenion y de a’r gogledd, neu o leia ‘gog’ Yws Gwynedd, sydd, fel mae’r teitl yn awgrymu, â rhan go fawr yn y stori! Mae geiriau ei ganeuon o yn y ddeialog, yn cynnwys y ‘sebon’. Syniad gwreiddiol, gwahanol, wedi ei ddeud yn arbennig o glyfar a gwreiddiol ac mi fydd Yws Gwynedd wrth ei fodd. A ffans Yws Gwynedd.
Yws-Gwynedd-WP

‘Bicini mamgu’ gan Carol.
Hanes digri dyn eira aniolchgar wedi laru gwisgo hen gôt a het ddu ddiflas. Mae o isio bod yn yr haul a chael het wellt a hufen iâ ayyb. Mae’r plant yn y stori yn gall a chlyfar iawn – fel yr awdur – ac mae’r diweddglo yn hyfryd. Ysgrifennu bywiog, byrlymus, gwych.
109328

‘Santa Bond – Opereshyn Nadolig’ gan Gareth Bale.
james-bond-santa1

Y syniad mwya gwreiddiol o’r cwbl? Mae pob gwlad yn y byd, heblaw Cymru wrth gwrs, yn ceisio dal ‘dybl jingl 7’ sef Santa Bond, wrth iddo fo drio rhannu anrhegion i blant y byd, ac mae’n mynd o wlad i wlad yn defnyddio ei chwistrell anweladwy a’i sgiliau karate i ddianc rhag crafangau’r bobl ddrwg ’ma, a llwyddo i rannu anrhegion er gwaetha bob dim. Mae’r deud yn wych, yr hiwmor yn arbennig a’r diweddglo yn glincar.

‘Diwrnod i’r defaid’ gan Myfanwwwwwa.
Mae Sian Corn wedi rhoi sgewyll yn frecwast i’r ceirw. O na! Mae’r disgrifiad o’r canlyniad yn hynod ddigri. Ac ‘erchyllolrwydd y sefyllfa’ ! Waw! Defaid Wiliam Morgan sydd yn achub y dydd. Ysgrifennu cryf, naturiol fel ‘trafod a stachu a llwytho’ – blas y pridd ar hwn. Ardderchog.

CW_Ea3tWwAAHt1T

‘Mabon’ gan Wil Cwac Cwac.
unknown-6

Mae hon yn wahanol iawn i’r lleill. Stori deimladwy, hyfryd sy’n teimlo mor wir. Ymson chwaer neu frawd plentyn o’r enw Mabon ydi hi, a wna i ddim difetha’r stori drwy ddeud be’n union sy’n digwydd ynddi, ond mae hi wedi ei sgwennu mor dda, mor gynnil, yn datgelu be sy wedi digwydd yn raddol, ac efo ‘pluen’ o hiwmor. Ardderchog. Deunydd nofelydd fan hyn yn bendant.

Llongyfarchiadau i bawb, a sori sori sori i’r gweddill – roeddech chi i gyd yn dda iawn. Edrych mlaen yn arw i glywed y straeon rŵan – a chlywed pwy yw’r awduron!

Sgwennu – Blwyddyn 5 a 6

Published Hydref 18, 2017 by gwanas

Unwaith eto eleni, mae rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd Cymru.

Mae “Stori Fer Aled Hughes” yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair ar thema “Y Nadolig”.

Bydd y bump stori fuddugol yn cael eu perfformio gan un o enwogion Cymru a’u darlledu ar BBC Radio Cymru rhwng y 18fed a’r 22ain o Ragfyr (gyda chaniatâd y disgybl, rhieni/gwarchodwyr a’r ysgol).

Bydd dau o awduron plant Cymru – sef Casia Wiliam ( Bardd Plant Cymru) a fi:

 

( sori am y llun gwrach- ond mae hi bron yn Galan Gaeaf)

– yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y pump stori orau. Cofiwch – gall fod ar unrhyw bwnc o fewn thema “Y Nadolig” ond mae’n rhaid i’r stori fod yn ffuglen ac mae pump elfen sy’n holl bwysig i’r straeon:

• Gwreiddioldeb
• Plot
• Cymeriadu
• Iaith
• Mwynhad

Os am gystadlu, rhaid i’r ysgol anfon eu straeon byrion (ynghyd â ffurflen gais) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Tachwedd y 24ain 2017. Felly brysiwch!

Y cyfeiriad yw:

Stori Fer Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl a’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda.

Bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd a’r ffugenwau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

Iawn? Dwi’n gwybod bod enillwyr y gorffennol ( a’u hathrawon – a’u hysgolion – a’u teuluoedd – a’u ffrindiau) i gyd yn hapus iawn eu bod wedi mynd i’r drafferth i sgwennu – ac mi gafodd rhai eu cyhoeddi mewn llyfr hyd yn oed!

9781845275013_1024x1024

POB LWC!

Trwy’r Darlun

Published Mai 17, 2017 by gwanas

Dw i newydd orffen hon, ac yn methu credu nad o’n i wedi ei darllen cyn hyn, na chwaith bod neb WEDI DEUD WRTHA I Y BYDDWN I’N EI MWYNHAU HI GYMAINT! Felly dw i’n deud wrthach chi, rwan, iawn?

image

Os ydach chi, fel fi, yn hoffi straeon ffantasi am fydoedd eraill od, llawn hud a lledrith a chreaduriaid annisgwyl (fel y Cnorc – caru fo!) sy’n dangos chwip o ddychymyg ar ran yr awdur, mae hon yn WYCH!

image

Nofel gyntaf erioed Manon Steffan Ros oedd hon, nôl yn 2008. Sbiwch ifanc ydi hi yn y llun! Nid ei bod hi’n edrych yn hen rwan, wrth gwrs…

Mae’r nofel wedi ei hanelu at blant 9-13 oed fel rhan o Gyfres yr Onnen. Bachgen ydi’r prif gymeriad – Cledwyn, sydd ar fin mynd i Ysgol Uwchradd Tywyn, ond mae ei chwaer fawr o, Siân yn bwysig iawn i’r stori hefyd. Be wnes i ei fwynhau ydi’r ffaith nad oes yr un o’r ddau gymeriad yn berffaith, ond rydan ni’n dal i’w hoffi nhw – efallai oherwydd hynny. Dan ni’n gallu credu eu bod nhw’n wir, ac o’r herwydd, mae’r byd trwy’r darlun yn teimlo’n wir hefyd.

Mi wnes i hefyd fwynhau’r ffaith ei bod wedi ei gosod yn gadarn yn ardal Tywyn ac Aberdyfi. Mae ‘Clychau Aberdyfi’ yn bwysig ynddi er enghraifft – cân ro’n i wedi credu oedd yn un draddodiadol Gymreig, ond na, mae’n debyg mai ymddangos yn Saesneg wnaeth hi gynta, yn 1785! Hm…be nesa?

Ta waeth, mi wnes i syrthio mewn cariad efo cymeriad Gili Dŵ, sy’n methu deud ‘r’, ac mi wnewch chithau hefyd. Mi fydd y Marach a’r Abarimon yn aros yn y cof hefyd, a’r hen Gnorc bach druan. O, a gesiwch ble mae Gili Dŵ yn byw? Yn ‘Pendramwnwgl’! Sef enw fy hoff gân erioed gan dad Manon, Steve Eaves.

Dyma i chi dudalen yn agos at ddechrau’r stori i roi blas i chi:

image

Ia, eich gadael ar ymyl y dibyn yn fanna – neu ar ‘glo crog’ fel y cafodd ei benderfynu gan Elgan o Ysgol Cerrig-y-drudion ar raglen radio Aled Hughes bore ma – dyna fydd y term swyddogol am ‘cliffhanger’ o hyn ymlaen. Diolch am siarad cystal am lyfrau a dy lyfrgell, Elgan! Hen bryd cael barn plant am lyfrau plant, yn hytrach nac oedolion dragwyddol!

Gyda llaw, dyma ddarn gafodd ei gyhoeddi ar gwales.com pan gafodd Trwy’r Darlun ei gyhoeddi gyntaf:

Cafodd Manon y syniad am y stori ar ôl genedigaeth ei mab, Efan, yn 2005. Teimlodd dristwch na fyddai ei mab byth yn dod i adnabod ei Nain, oherwydd collodd Manon ei mam i gancr yn 2003. Yn hytrach na gweld ei Nain mewn hen luniau’n unig, penderfynodd Manon lunio stori’n cynnwys ei mam fel un o’r prif gymeriadau, gan obeithio y byddai Efan yn adnabod ychydig mwy arni drwy’r stori yn y dyfodol.
Mae sawl elfen arall o fywyd yr awdures ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y nofel. Gwlad hudol Crug yn y stori yw ardal enedigol ei mam ym Mryncrug; mae cymeriad Cledwyn yn y nofel wedi deillio o lun o hen berthynas iddi; ac mae Manon bellach yn byw yn ardal Aberdyfi, lle mae’r prif gymeriadau’n byw.

Meddai Meinir Edwards, Golygydd Y Lolfa, “Dyma nofel ffres, llawn dychymyg. Mae Manon Steffan Ros yn awdures ifanc, newydd, gyffrous. Rwy’n siwr y clywn ni dipyn mwy amdani hi, a’i nofelau, yn y dyfodol.”

Roeddet ti’n iawn, Meinir! Mi enillodd y dilyniant, Trwy’r Tonnau, wobr Tir naN-og a dwi’n ysu i ddarllen honno rwan.