Mae Twitter yn handi weithiau. Gweld hwn wnes i:
#DiwrnodEmpathi Bl.5 yn pleidleisio dros y cymeriad o lyfr sy’n dangos yr empathi fwyaf tuag at y cymeriadau eraill. 1af = Sam o ‘Diffodd y Golau‘ gan Manon Steffan Ros
Dow. Do’n i rioed wedi clywed am y llyfr hwnnw. Yn ôl gwales.com mae o allan o brint, ond mae’r llyfrgelloedd yn lefydd hudol a ges i gopi bron yn syth.


Yn ôl gwales.com eto: “Dyma nofel ar gyfer plant 9-11 oed sy’n cefnogi addysg ariannol yn unol â gofynion penodol y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Mae’r nofel yn rhan o Gyfres y Geiniog, sy’n cynnwys 4 nofel, ac maent i gyd ar gael yn y Saesneg o fewn y gyfres Money Matters.”
Dwi’n cofio Manon yn sôn ei bod wedi sgwennu llwyth o lyfrau yn delio gyda syms, ac fel rhywun sy’n tueddu i fynd i banig pan dwi’n clywed y gair ‘syms’ neu ‘mathemateg’, do’n i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael fy machu. Ond wyddoch chi be – ro’n i’n anghywir!
Fel hyn mae’n dechrau:

Dan ni’n symud yn ôl a mlaen o leisiau Sam a Mai, dau efaill efo cymeriadau gwahanol iawn. Dyma fwy o Mai (a’r stori) i chi:

A dyma beth o lais Sam – sy’n darganfod ei fod yn un da am weithio pethau allan wedi’r cwbl:

A dwi’n cytuno efo Ysgol Rhydypennau, mae o’n dangos llawer iawn o empathi. Mae o’n foi hyfryd o annwyl a chlên. Mae Mali chydig yn fwy styfnig ac yn ei chael hi’n fwy anodd i faddau…

Maen nhw’n deud 9-11 oed, ond dwi’n gweld hon yn gweithio i blant hŷn hefyd, ac oedolion. O ran themàu, mae gynnoch chi rifyddeg – oes, yn amlwg, ond hefyd ceisio byw heb bres, a’r pwysau sy’n cael ei roi ar bobl i brynu a gwario ar stwff yn ddi-angen (prynwriaeth/consumerism), empathi, maddau, priodas a theulu yn chwalu, perthynas rhieni a’u plant, tlodi, tyfu i fyny, mwynhau byd natur o’ch cwmpas chi – bob dim! Chwip o nofel – benthyciwch gopi o’r llyfrgell os ydi o wir allan o brint. Am ddim i chi ac mi geith Manon 11.29c am bob benthyciad.
A sôn am fwynhau byd natur o’ch cwmpas chi a’r pwysau sy’n cael ei roi ar bobl i brynu a gwario ar stwff yn ddi-angen, dyna rai o themàu llyfr newydd sbon – sydd ddim allan o brint: Sedna a’i Neges o’r Arctig wedi’i sgwennu a’i ddarlunio gan Jess Grimsdale.

Y Mari Huws sydd wedi ei addasu ydi’r Mari sydd ar Ynys Enlli ar hyn o bryd, y Mari ffilmiodd raglen wych ar gyfer S4C nôl yn 2018: ‘Arctig: Môr o Blastig?’, oedd yn cynnwys sgyrsiau efo Jess Grimsdale, gan fod y ddwy ar yr un llong ac yn ran o’r un tîm oedd yn chwilio am feicro-blastigau i drio dangos i bobl yr effaith mae’r rheiny’n ei gael ar yr Arctig (dwi’n siŵr mai Mari ydi’r hogan gwallt melyn efo camera sydd i’w gweld ar y llong yn y darluniau!).
Mae’r darluniau’n wirioneddol drawiadol, a dyma fy ffefryn:

Ond fel hyn mae’r stori’n dechrau:

Mae na bethau rhyfedd, lliwgar yn dod i’r lan o hyd a neb yn siŵr be yden nhw.

Ia, y meicro blastigau neu’r nurdles, ac maen nhw’n gneud anifeiliaid – a phobl – yn sal.

Felly mae na griw yn mynd ar long (fel y gwnaeth Mari a Jess) i weld o ble maen nhw’n dod a pham.

Ond mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr i gael gwybod pam fod Sedna’n gegagored!
Felly os dach chi angen llyfr ar gyfer prosiect ar yr amgylchedd neu effaith plastig ar ein planed ni, mae hwn yr union beth (a Cadi dan y Dŵr hefyd wrth gwrs….) Stori sy’n bwysig i’w rhannu a lluniau sy’n hynod o effeithiol. Mae’r stori’n cyfuno hud a lledrith chwedlau hefyd.
O ran ystod oedran, maen nhw’n deud 5-8 ond yn fy marn i, dach chi byth yn rhy hen i lyfr lluniau.
Dau lyfr gwerth chweil felly, efo negeseuon pwysig IAWN.