Mi fydda i’n sgwennu am #Helynt cyn bo hir, ond yn y cyfamser, dyma adolygiad gwych o #Helynt gan Rebecca Roberts: https://www.sonamlyfra.cymru/post/helynt-rebecca-roberts

Mae ‘na lwythi o adolygiadau ar y wefan hon, AND THEY’RE BILINGUAL! Defnyddiol tu hwnt, ac wedi ei chreu gan rywun llawer mwy dawnus o ran technoleg na fi. Mae o dipyn iau na fi…
A chofiwch logio mewn er mwyn gallu gadael sylw. Mae eich sylwadau chi’n bwysig. Mae’r un peth yn wir am fy mlog innau; dwi’n gwirioni bob tro y bydd rhywun yn gadael sylw. Er gwybodaeth…

A rhag ofn eich bod yn chwilio am lyfr lliwio i’w roi fel anrheg Nadolig, cofiwch am hwn. Tydi o’n lun hyfryd?
Dwi wedi gofyn am lun o’r canlyniad…
Diolch o galon am y sylw Bethan!! A dwi’n cytuno 100% gyda be ti’n ddeud – fasa’n wych cael mwy o sylwadau/trafodaeth ar y blogs…
Maisho mwy o ‘sgwrs’ am lyfrau Cymraeg plant a phobl ifanc…
Dwi’n teimlo mod i’n ‘sgwennu gormod weithia, ddim wedi dysgu’r grefft o fod yn gynil fel chdi eto!!
Ha! Diffyg amser i sgwennu mwy na sy raid!